Ni yw’r arbenigwyr cynaliadwyedd yng Nghymru – ‘rydym yn darparu cyngor, hyfforddiant a chysylltiadau i helpu eich sefydliad wneud penderfyniadau mentrus am ddyfodol tecach a mwy diogel.
P’un yr ydych, yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, am ddiogelu eich busnes at y dyfodol, helpu diogelu ac adfer natur neu greu swyddi a fydd yn gwella bywydau a chymunedau, gallwn ni eich helpu chi gyrraedd y nod.
Byddwn yn darparu cyngor, hyfforddiant a gwasanaethau cynnal i helpu chi droi eich amcanion cynaliadwyedd yn weithredoedd. Gallwn hefyd weithredu fel cynullwyr ac hyrwyddwyr – a dod â sefydliadau at ei gilydd i wneud pethau ddigwydd.
‘Rydym yn gweithio ar draws sectorau gan ddod ag arweinyddion busnes, cyrff cyhoeddus, consortia’r sector ac arloeswyr diwydiant at ei gilydd.