Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol –
Tunelli o Newid

Mae prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn dangos sut y gall caffael cyhoeddus sbarduno newid ystyrlon, o’r fferm i’r fforc. Mae’n cryfhau economïau lleol, yn cefnogi ffermio cynaliadwy ac yn helpu pobl ifanc i ddeall a gwerthfawrogi o ble daw eu bwyd. Diolch i gefnogaeth y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol, mae’r sylfaen wedi’i gosod ar gyfer llwyddiant hirdymor, y gellir ei ehangu ledled Cymru a thu hwnt.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at dyfu llysiau ar gyfer ysgolion oherwydd mae’n bwysig bod plant yn cael bwyd maethlon ac yn gwybod o ble mae’n dod. Bwyd iach, plant iach, Cymru iach.”
Geraint Evans, Tyfwr o Gymru

Cyflwyniad

Mae menter Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn brosiect arloesol sy’n ceisio cynyddu’r nifer o lysiau organig sy’n cael eu tyfu a’u bwyta yng Nghymru drwy eu cyflenwi’n uniongyrchol i ysgolion cynradd. Drwy sicrhau bod cynhyrchu bwyd yn lleol yn cyd-fynd â dulliau caffael yn y sector cyhoeddus, mae’r fenter yn cynnig enghraifft bwerus o sut gall systemau bwyd cynaliadwy gefnogi iechyd, addysg a’r amgylchedd, gan gryfhau economïau lleol ar yr un pryd.

Cafodd y prosiect ei lansio gyda chefnogaeth y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol, ac mae’n dod â ffermwyr, dosbarthwyr, llunwyr polisïau ac addysgwyr at ei gilydd i ddarparu cynnyrch organig, ffres i brydau ysgol ledled Cymru, gan greu cysylltiadau ystyrlon rhwng plant a’r bwyd maen nhw’n ei fwyta.

Cefndir a Gweledigaeth

Ar ddechrau’r prosiect hwn, roedd 94% o’r llysiau a ddefnyddiwyd mewn ysgolion cynradd yng Nghymru yn dod o’r tu allan i’r wlad, yn aml wedi’u rhewi ac yn anorganig. Nod y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion oedd newid y sefyllfa honno drwy wneud y canlynol:

  • Cynyddu faint o lysiau organig sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol.
  • Creu marchnadoedd newydd i dyfwyr yng Nghymru.
  • Hyrwyddo amaethyddiaeth a bioamrywiaeth gynaliadwy.
  • Cefnogi addysg plant am iechyd a bwyd.

Caiff y prosiect ei gydlynu gan Synnwyr Bwyd Cymru, ar y cyd â Castell Howell (dosbarthwr bwyd mwyaf Cymru) a Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei redeg gan Lantra. Mae’r partneriaid hyn yn rhan o rwydwaith ehangach o dyfwyr a rhanddeiliaid sy’n gweithio i greu system fwyd decach a mwy gwydn yng Nghymru.

Twf a Chynnydd

Mae’r hyn a ddechreuodd dair blynedd yn ôl gydag un tyfwr yn unig bellach wedi tyfu’n brosiect bywiog gyda nifer o randdeiliaid. Erbyn 2024:

  • Roedd 8 o dyfwyr wrthi’n cyflenwi ysgolion.
  • Cafodd 14 tunnell o lysiau organig o Gymru eu defnyddio mewn prydau ysgol.
  • Roedd y prosiect yn cyrraedd 219 o ysgolion ar draws 6 ardal awdurdod lleol – Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Powys, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.
  • Bu 400 o blant yn ymweld â phedair fferm gan roi cyfle iddyn nhw gysylltu’n uniongyrchol â’r tir a’r ffermwyr sy’n tyfu eu bwyd.

Erbyn 2025, mae’r fenter wedi tyfu i:

  • 15 o dyfwyr lleol yn cymryd rhan.
  • 12 awdurdod lleol wedi ymrwymo i’r cynllun.
  • 3 phartner cyfanwerthu yn dosbarthu cynnyrch ar draws rhwydweithiau arlwyo mewn ysgolion.

Mae’r ehangu hwn yn golygu y bydd tua 1 miliwn o ddognau o lysiau lleol, organig yn cael eu gweini i blant ysgol yng Nghymru.

Yr heriau a’r gwersi a ddysgwyd

Cyflwynodd 2023 heriau sylweddol:

  • Oedi o ran cyllid yn amharu ar gylchoedd cynllunio, diffyg trefn o ran sicrhau bod cynhyrchu cnydau yn cyd-fynd â gofynion prydau ysgol.
  • Tywydd garw yn golygu bod y cnydau’n llai, gan effeithio ar y cyflenwad.

Fodd bynnag, arweiniodd yr heriau hyn at ddysgu gwerthfawr:

  • Dechreuwyd cydlynu’n gynharach ag awdurdodau lleol ddiwedd 2023, gan roi cyfle i dyfwyr cynllunio cnydau’n well.
  • Ymunodd mwy o dyfwyr yn y fenter i feithrin gwydnwch a lleihau risg.
  • Roedd cadwyni cyflenwi presennol Castell Howell yn amsugno unrhyw gynnyrch dros ben, gan osgoi gwastraff.

Bu’r Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o alluogi arbrofi, datblygu systemau a ffurfio rhwydweithiau newydd. Agorodd ddrysau hefyd i gydweithio â phrosiectau bwyd eraill ledled Cymru.

Y Dylanwad ac Edrych i’r Dyfodol

Mae’r prosiect wedi profi bod cadwyn gyflenwi organig leol ar gyfer bwyd ysgol yn bosibl a hefyd yn ddymunol. Mae diddordeb wedi cynyddu ledled Cymru a thu hwnt, gyda rhanddeiliaid o bob cwr o’r DU yn cysylltu â’r tîm i ddysgu sut mae atgynhyrchu’r model yn eu rhanbarthau eu hunain.

Dyma rai o’r uchafbwyntiau hyd yma:

  • Symud oddi wrth lysiau sy’n cael eu mewnforio tuag at lysiau organig lleol mewn prydau ysgol.
  • Creu ffrydiau incwm amgen ar gyfer tyfwyr yng Nghymru.
  • Profiadau dysgu ymarferol i blant, sy’n cysylltu bwyd, ffermio ac iechyd.
  • Sefydlu grŵp tyfwyr newydd yng Ngogledd Cymru, fel bod y prosiect yn cyrraedd ledled y wlad.

Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Synnwyr Bwyd Cymru gyfres o adroddiadau yn nodi cyflawniadau’r prosiect. Gallwch ddarllen yr adroddiadau amrywiol drwy glicio’r dolenni isod:

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion: Adroddiad Cryno

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion: Adroddiad Llawn

Stori Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

Gan edrych tua’r dyfodol, mae Synnwyr Bwyd Cymru wrthi’n edrych ar gyfleoedd cyllido newydd i ddatblygu’r prosiect ymhellach. Mae’r uchelgais yn glir: dod â mwy o gynnyrch organig o Gymru i fwy o ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys mwy o awdurdodau lleol, mwy o dyfwyr, a mwy o blant ar y daith tuag at system fwyd gynaliadwy ac iach.

Casgliad

Mae prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn dangos sut y gall caffael cyhoeddus sbarduno newid ystyrlon, o’r fferm i’r fforc. Mae’n cryfhau economïau lleol, yn cefnogi ffermio cynaliadwy ac yn helpu pobl ifanc i ddeall a gwerthfawrogi o ble daw eu bwyd. Diolch i gefnogaeth y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol, mae’r sylfaen wedi’i gosod ar gyfer llwyddiant hirdymor, y gellir ei ehangu ledled Cymru a thu hwnt.

Growing the Foundational Economy, supporting innovation, local businesses and building a resilient economy.
 
Tyfu’r economi sylfaenol, cefnogi arloesedd a busnesau lleol, a datblygu economi gadarn.
Scroll to Top