Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol

Cyngor Sir Gâr – Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol

O dan arweiniad Cyngor Sir Gâr, deilliodd prosiect Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol o awydd i fynd i’r afael â goblygiadau economaidd ac amgylcheddol dibynnu ar fwyd wedi’i fewnforio mewn ysgolion yng Nghymru. Gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, aeth y tîm ati i greu fframwaith bwydlenni ffynhonnell agored y gellir ei atgynhyrchu y gallai awdurdodau lleol ei fabwysiadu y tu hwnt i Sir Gâr, ar draws Cymru. Byddai’r fwydlen hon yn cyd-fynd â fframwaith cynaliadwyedd a ddatblygwyd gan y tîm, gan ymgorffori cynnyrch tymhorol o Gymru a chynnyrch sy’n cael ei dyfu ar eu ffermydd eu hunain.

“Ein nod gwreiddiol oedd lleihau effaith economaidd bwydydd sy’n cael eu mewnforio a dod â’r gwerth hwnnw i economi Cymru.” – Alex Cook, Rheolwr Prosiect Datblygu Systemau Bwyd, Cyngor Sir Gâr

Ffordd o weithio

Cymerodd y prosiect ddull cydweithredol ac aml-haenog. I ail-gynllunio’r fwydlen, cafodd cogyddion eu comisiynu i weithio’n uniongyrchol gydag ysgolion, gan ymgysylltu â rhieni, staff arlwyo, ac athrawon mewn proses gynllunio ar y cyd. Drwy ddefnyddio fframwaith cynaliadwyedd, sicrhawyd bod y bwydlenni’n cyd-fynd â chynnyrch tymhorol Cymru a chynnyrch ffermydd lleol. Gosodwyd systemau monitro gwastraff ar waith gyda chaledwedd i gasglu data sylfaenol o’r hyn a oedd yn cael ei wastraffu, er mwyn gallu cymharu yn y dyfodol ar ôl i’r fwydlen newydd gael ei chyflwyno. Addaswyd y fferm ei hun hefyd er mwyn i’r cynllun cnydau gyd-fynd â chalendr yr ysgol, dull newydd a sicrhaodd fod argaeledd cynnyrch yn cyd-fynd ag anghenion addysgol. Chwaraeodd cyfathrebu rôl allweddol, gydag asedau digidol a ffisegol yn cael eu creu i godi ymwybyddiaeth ac i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd o bob rhan o’r sectorau bwyd a ffermio.

Canlyniadau cynnar ac effaith

Er bod y broses weithredu wedi’i gohirio, mae dadansoddiad cynnar yn awgrymu y bydd y prosiect yn cael effaith sylweddol. Rhagwelir y bydd y prosiect yn gweld gostyngiad o 80% yn ôl-troed carbon prydau ysgol, yn bennaf oherwydd y bydd bwydydd sy’n cael eu mewnforio yn cael eu disodli gan ddewisiadau eraill o ffynonellau lleol a lleihau cynnwys cig 30%. Disgwylir i’r newid hwn ailgyfeirio gwariant cyhoeddus yn uniongyrchol i gynhyrchwyr lleol Cymru.

Y tu hwnt i’r canlyniadau meintiol, mae timau arlwyo wedi dod yn fwy cysylltiedig ag egwyddorion bwyd cynaliadwy ac wedi dechrau deall eu rôl wrth gyflawni amcanion strategol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r newid diwylliannol hwn wedi bod yn un o’r arwyddion mwyaf calonogol o ran cynnydd.

“Mae’r effaith feddalach yn ymwneud ag ymgysylltu â thimau arlwyo… eu helpu i ddeall pwysigrwydd bwyd cynaliadwy.” – Alex Cook, Rheolwr Prosiect Datblygu Systemau Bwyd, Cyngor Sir Gâr

Gwerthuso

Erbyn hyn, mae’r prosiect ar ddechrau’r cyfnod prawf o gysyniad, gyda’r fwydlen newydd yn cael ei lansio mewn tair ysgol o fis Medi 2025. Bydd yr elfen werthuso’n canolbwyntio ar yr effaith garbon ac economaidd, lleihau gwastraff bwyd, a faint o brydau bwyd sy’n cael eu bwyta, drwy ddefnyddio data o systemau fel ParentPay. Mae’r tîm hefyd yn bwriadu cyhoeddi’r fwydlen a’r cynllun cnydau i gefnogi’r broses o gyfnewid gwybodaeth ac ysbrydoli awdurdodau lleol eraill i brynu wrth eu tyfwyr lleol. Un o’r arwyddion mwyaf addawol yw bod y timau arlwyo yn parhau gyda’r prosiect y tu hwnt i’r cyfnod cyllido cychwynnol.

“Un o’r effeithiau mawr yw bod y tîm arlwyo am fwrw ati a pharhau â’r fenter ar ôl y cyfnod cyllido,” – Alex Cook, Rheolwr Prosiect Datblygu Systemau Bwyd, Cyngor Sir Gâr

Heriau a gwersi

Un o’r heriau mwyaf arwyddocaol oedd y bwlch gweithredu rhwng delfrydau cynaliadwyedd a’r ddarpariaeth ymarferol. Roedd gan dimau arlwyo ac athrawon ganfyddiadau gwrthgyferbyniol yn aml iawn o ran faint o brydau bwyd oedd yn cael eu bwyta a faint o fwyd oedd yn cael ei wastraffu, a chafwyd diffyg data dibynadwy i gefnogi’r naill farn neu’r llall. Roedd cyfathrebu rhwng rhanddeiliaid hefyd yn rhwystr mawr, gan olygu bod angen cymorth allanol i wella’r broses o ymgysylltu â rhieni a staff.

Roedd materion gweithredol, fel plant yn dewis bwyta rhannau o’u prydau bwyd neu’n dewis pa ddiwrnodau i gymryd rhan, hefyd yn effeithio ar gydbwysedd maeth a gwastraff. Mae’r tîm bellach yn archwilio modelau arlwyo newydd, gan gynnwys gwasanaeth prydau bwyd cyson a chofrestriadau wythnosol, i fynd i’r afael â’r problemau hyn.

Effaith ar economi sylfaenol Cymru

Mae prosiect Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol yn cefnogi’r economi sylfaenol yn uniongyrchol drwy gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, cadw swyddi, a chynyddu gwytnwch systemau bwyd Cymru. Drwy sicrhau bod cynhyrchu cnydau ac anghenion ysgolion yn cyd-fynd â’i gilydd, ac annog modelau cydweithredol ymhlith tyfwyr, mae’r prosiect yn creu seilwaith bwyd mwy cynaliadwy a lleol. Mae’r tîm hefyd yn gweithio i ailsefydlu platfform bwyd ar-lein ar gyfer cynhyrchwyr lleol, gyda’r nod o greu menter gymdeithasol, sydd mewn perchnogaeth gydweithredol, sy’n cefnogi dosbarthu a mynediad.

Edrych ymlaen

Gan adeiladu ar yr holl wybodaeth a gafwyd a’r data a gasglwyd o’r prosiect, mae’r camau nesaf yn dechrau gyda chyflwyno Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol yn llawn o fis Medi 2025. Yna mae’r prosiect yn anelu at barhau i ehangu’n raddol i ysgolion cynradd eraill dros gyfnod o dair blynedd. Ar ôl hynny, bydd datblygu bwydlen ar gyfer ysgolion uwchradd a chyhoeddi Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â chynllun cnydau, yn cael eu dosbarthu ar gyfer defnydd ehangach. Y nod yw rhannu gwybodaeth ac adnoddau’n eang ledled Cymru i wahanol awdurdodau lleol er mwyn annog cydweithio parhaus rhwng adrannau caffael awdurdodau lleol a thyfwyr lleol o Gymru.

Casgliadau

Mae prosiect Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol yn enghraifft bwerus o sut gall cynaliadwyedd, addysg, a datblygu economaidd lleol, gael eu hintegreiddio i ddarpariaeth bwyd y sector cyhoeddus. Gyda chanlyniadau cynnar cryf a map trywydd clir ar gyfer ehangu, mae’n cynnig model y gellir ei efelychu mewn rhanbarthau eraill yng Nghymru a thu hwnt. Daw llwyddiant y prosiect nid yn unig o’r ffordd arloesol o weithio, ond hefyd yn ei allu i feithrin cydweithio, newid normau diwylliannol, a darparu buddion gweladwy i’r economi sylfaenol.

Cyngor Sir Gâr – Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol Read More »

Rhaglen Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (Rhaglen CEIC) – Sut gall egwyddorion yr Economi Gylchol helpu Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru weithio tuag at Gynaliadwyedd

Cyflwyniad i’r cyd-destun

Mae Economi Sylfaenol Cymru, sy’n cwmpasu gwasanaethau hanfodol bob dydd fel gofal, tai, bwyd, trafnidiaeth ac ynni, wedi profi heriau strwythurol ers tro, yn enwedig ymhlith sefydliadau llai sy’n wynebu cyfyngiadau capasiti, seilwaith arloesi prin, a rhwystrau i fabwysiadu arferion cylchol a gwaith teg.

Mae’r heriau hyn yn arbennig o ddifrifol ymhlith busnesau bach a chanolig, sy’n aml yn brin o fynediad at rwydweithiau dysgu a chydweithio sydd wedi’u strwythuro. Cafodd FEIN ei greu i fynd i’r afael â’r rhwystrau systemig hyn drwy ddarparu fframwaith ymarferol, sydd wedi’i wreiddio’n rhanbarthol, ac yn cyd-fynd â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Sero Net a thirlun economaidd tecach.

Y dull

Mae’r rhaglen Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (Rhaglen CEIC) yn rhaglen 6 mis sy’n cyflwyno egwyddorion meddylfryd dylunio a’r economi gylchol. Ymgysylltodd FEIN â 34 o sefydliadau o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Ardal Bae Abertawe drwy raglen strwythuredig o’r canlynol:  

  • Gweithdai dysgu drwy brofiad
  • Mentora a Chymorth Arbenigol
  • Meithrin Rhwydweithiau
  • Gweithgareddau dysgu gan gymheiriaid gydag Offer Cynllunio ac Arloesi Ymarferol

Cyfoethogwyd y rhaglen drwy gydweithio â phartneriaid fel WRAP Cymru a Cwmpas, a ddarparodd arweiniad technegol ar gaffael, marchnata, effeithlonrwydd adnoddau, a gweithredu gwaith teg. Datblygodd y cyfranogwyr gynlluniau gweithredu ar gyfer arloesi, adnoddau dynol a Sero Net wedi’u teilwra i’w cyd-destun sefydliadol, gan sefydlu rhwydwaith rhanbarthol ar draws de Cymru, yn cynnwys Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Rhanbarth Bae Abertawe, i gefnogi cydweithio parhaus. Dywedodd y cyfranogwyr yn gyson fod y fformat rhyngweithiol wedi dyfnhau eu dealltwriaeth a’i drosi’n effeithiol i arferion yn y gweithle.

Gweithgaredd dysgu drwy brofiad

Effaith

Rhwng 2023 a 2024, ymunodd 34 o sefydliadau â’r rhaglen; gan gynnwys 21 o sefydliadau bach, 7 sefydliad canolig a 6 sefydliad mawr. Yn ystod eu cyfranogiad yn y rhaglen hon, roedd y cyfranogwyr – 17 o sefydliadau yn rhanbarth Caerdydd a 7 yn rhanbarth Abertawe – wedi datblygu:

  • Gynlluniau Twf Glân/Sero Net
  • Gynlluniau datblygu Gwaith Teg/Adnoddau Dynol
  • Gynlluniau Arloesi

Llun grŵp o garfan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Cynhyrchodd y rhaglen welliannau ystyrlon o ran hyder mewn arloesi, arferion cynaliadwyedd, a diwylliant y gweithle.

  • Soniodd 80% o gyfranogwyr am fwy o sgiliau arloesi a dealltwriaeth o egwyddorion yr economi gylchol a’r economi sylfaenol
  • Soniodd 77% am wybodaeth well am yr economi gylchol; a 72% am wybodaeth well am arloesi.
  • Roedd 94% o gyfranogwyr yn argymell y rhaglen
  • Mabwysiadodd 55% o sefydliadau’r Cyflog Byw Gwirioneddol, gyda 30% pellach yn bwriadu gwneud hynny, gan ddangos symudiad mawr tuag at arferion gwaith tecach

Mae datblygu nifer o ddulliau arloesol, Sero Net, a chynlluniau gwaith teg wedi rhoi mapiau trywydd ymarferol i sefydliadau ar gyfer gweithredu yn y dyfodol. Mae’r camau hyn wedi cyfrannu at gynnydd o ran mabwysiadu Gwaith Teg, cynnydd mewn busnesau bach a chanolig sy’n weithgar ym maes arloesedd, a gostyngiad mewn ôl troed carbon ar draws y busnesau bach a chanolig sy’n cymryd rhan. Cryfhaodd FEIN y berthynas hefyd rhwng busnesau bach a chanolig a phartneriaid y sector cyhoeddus, gan gyfrannu at ecosystem ranbarthol fwy cysylltiedig a gwydn.

Gallwch chi wylio’r astudiaethau achos fideo a’r tystebau gan gyfranogwyr yma.

Mae rhai o’r sefydliadau sy’n rhoi clod i CEIC am eu llwyddiant yn yr economi gylchol, diolch i gymryd rhan yn y rhaglen FEIN, yn cynnwys:

  • Balmoral Tanks, oedd wedi ateb her i sicrhau bod 25% yn llai o stoc yn cael ei gadw ar lawr y siop er mwyn lleihau costau, ac wedi gallu aildrefnu ffatrïoedd a chyflwyno peiriannau newydd o ganlyniad i arbedion cost. Dolen i fideo’r astudiaeth achos yma.
  • Roedd D&G Office Interiors Ltd wedi gweithio ar bontio’r bwlch rhwng hwyluso a darparu gwasanaeth ailddefnyddio dodrefn i’w cleientiaid. Diolch i’r rhaglen, roedd modd iddynt greu cysylltiadau â chwmnïau ac elusennau eraill sy’n gweithio ym maes ailddefnyddio dodrefn swyddfa i ddod o hyd i synergedd a chwmpasu cyfleoedd posib i gydweithio. Dechreuodd D&G Office Interiors Ltd brosiect peilot i holi barn cwsmeriaid ar sut i leihau eu hôl troed carbon a rhoi egwyddorion yr economi gylchol ar waith. Dolen i fideo’r astudiaeth achos yma.
  • Ymunodd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen â’r rhaglen CEIC gyda’r weledigaeth o dyfu mwy o gynnyrch yn ei chyfleusterau, yn hytrach na dibynnu ar gaffael allanol. Ar ôl 18 mis o waith, mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen bellach yn cynhyrchu’r ffrwythau a’r llysiau sy’n cael eu defnyddio ar fwydlenni Tŷ Bryngarw yn uniongyrchol ar y safle. Darllenwch y stori lawn yma.

Heriau

Roedd rhai busnesau bach a chanolig yn wynebu capasiti cyfyngedig i ymgysylltu’n llawn ag arferion yr economi gylchol neu gynnal gweithgaredd arloesi y tu hwnt i’r gweithdai. Yn gyffredinol, mae’r rhaglen wedi cael canmoliaeth am ei harddull ysbrydoledig, gyda dim ond un sylw ynghylch tôn academaidd rhannau o’r cynnwys (Ffynhonnell: gwerthusiad allanol annibynnol). Roedd anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol hefyd yn siapio parodrwydd sefydliadau i fabwysiadu arferion newydd. Serch hynny, helpodd strwythur y rhaglen, yn enwedig yr elfennau mentora a dysgu gan gymheiriaid, sefydliadau i oresgyn nifer o’r rhwystrau hyn.

Edrych ymlaen

Mae canfyddiadau’r gwerthusiad yn awgrymu potensial cryf ar gyfer ehangu model FEIN. Mynegodd nifer o gyfranogwyr ddiddordeb mewn cefnogaeth barhaus, cyfleoedd ariannu pellach, a chydweithio ychwanegol. Mae model FEIN wedi dangos ei werth amlwg fel sbardun datblygiad economaidd cynhwysol a chynaliadwy, sy’n cyd-fynd yn sylweddol â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ac uchelgais ehangach Cymru am economi sylfaenol wydn.

Ers cyflwyno FEIN, mae tîm CEIC wedi sicrhau cyllid ar gyfer fersiynau o’r rhaglen yn y dyfodol drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, gan helpu cyfranogwyr o 40 o sefydliadau yn y sector preifat a’r trydydd sector i ddod o hyd i ffyrdd o arbed 1,150,639.33t o allyriadau CO2e dros y pum mlynedd nesaf.

Dyfyniadau gan gyfranogwyr

Beth oedd y cyfranogwyr yn ei werthfawrogi fwyaf am y rhaglen?

“Dyle pawb ddeall y broses o ddylunio a meddwl yn arloesol er mwyn gallu gwneud y newidiadau maen nhw eisiau eu gweld yn eu busnes yn effeithlon ac yn effeithiol.”

“Ffynhonnell wych o wybodaeth. Falle eich bod chi’n meddwl eich bod chi’n gwybod popeth sydd i’w wybod – ond dydych chi ddim!”

“Roeddwn i’n gwerthfawrogi’n fawr y perthnasoedd gwaith gafodd eu meithrin yn ein cymuned, a’r wybodaeth a’r syniadau gafodd eu rhannu, sydd wir wedi helpu i ddatblygu ein cynlluniau arloesi ein hunain a meddwl am y darlun mawr o bryd i’w gilydd.”

“Mor dda. Ffordd wych o ddeall eich lle chi yn yr economi gylchol ac o fireinio sgiliau a llunio cynllun arloesi. Diolch i bawb!”

“Teimlo fy mod yn gallu cysylltu gyda rhanddeiliaid a cheisio dylanwadu arnyn nhw. Teimlo nerth newydd i fynd ati i roi fy nghynllun arloesi ar waith.”

Rhaglen Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (Rhaglen CEIC) – Sut gall egwyddorion yr Economi Gylchol helpu Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru weithio tuag at Gynaliadwyedd Read More »

Castell Howell – Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol: Lleoleiddio System Fwyd y sector cyhoeddus yng Nghymru

Mae’r ddwy raglen, Authentic Foods (Hirwaun) a Celtica Foods, yn gweithio gyda’i gilydd i gynyddu faint o fwyd iach o Gymru sydd mewn prydau bwyd sy’n cael eu gweini yn y sector cyhoeddus. Y nod yw:

  • Adeiladu rhwydwaith cryf a dibynadwy sy’n rhoi bwydydd o ffermydd ar blatiau yn y sector cyhoeddus.
  • Creu prydau ar gyfer ysgolion ac ysbytai sy’n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd ac sy’n fasnachol hyfyw.

Background and vision

Mae Castell Howell Foods (CHF) yn gyfanwerthwr sydd wedi ymrwymo i wreiddio cynaliadwyedd a ffynonellau lleol yn y cyflenwad bwyd ledled Cymru. Gan gydnabod y risgiau o ddibynnu’n drwm ar gynnyrch wedi’i fewnforio, aeth CHF ati i ail-lunio cadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus. Drwy flaenoriaethu llysiau a chynhyrchion cig o Gymru, nod y ddwy raglen newydd oedd darparu prydau iach i ysgolion ac ysbytai sydd:

  • Yn gallu gwrthsefyll newid hinsawdd
  • Yn cefnogi tyfwyr lleol
  • Yn helpu i leihau allyriadau carbon
  • Yn cael effaith gadarnhaol ar y system fwyd, y tu hwnt i elw ariannol

“Mae’n rhaid i’r gadwyn gyflenwi gydweithio, yn enwedig o ganlyniad i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae angen dull cydweithredol cyfannol arnom i symud oddi wrth y ddibyniaeth ar y system fwyd fyd-eang sy’n cynnwys mwy a mwy o risgiau.” – Edward Morgan – Rheolwr ESG, Castell Howell Foods

The approach

O’r cychwyn cyntaf, roedd Castell Howell yn gwybod y byddai angen i unrhyw ymdrech i ddatgysylltu oddi wrth y system fwyd fyd-eang gynnwys y rheini ar bob cam o’r broses fwyd – tyfu, golchi, pacio a dosbarthu, prosesu, blasu, prynu, arlwyo a bwyta. Roedd angen buddsoddiad ar y Cyfanwerthwr i newid y gadwyn gyflenwi. Drwy Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, roedd yn bosib lansio dau brosiect ategol:

  • Mae Authentic Foods yn canolbwyntio ar esblygu cadwyn gyflenwi llysiau’r sector cyhoeddus drwy weithio gyda thyfwyr, arlwywyr awdurdodau lleol, a chaffaelwyr i ddatblygu prydau maethlon carbon isel gan ddefnyddio cynnyrch o Gymru.
  • Mae Celtica Foods yn brosiect sy’n gweithio i ddatblygu cynnyrch newydd gwerth ychwanegol o Gymru sy’n cynnwys cig ar gyfer ysgolion a’r sector cyhoeddus yn ehangach, gan gynnwys ryseitiau hybrid sy’n cynnwys llysiau a phrotein pys.

Growth, progress and early outcomes

Authentic Foods

Rhwng 2024 a 2025, roedd CHF wedi prynu a chludo 32 tunnell o lysiau a gafodd eu tyfu yng Nghymru i ysgolion lleol drwy weithio’n uniongyrchol gydag 8 Tyfwr. Mae’r prosiect Authentic Foods wedi galluogi CHF i weithio’n agos gyda Synnwyr Bwyd Cymru drwy’r Rhaglen Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, ochr yn ochr â chwmnïau fel Fferm Bwlchwernen Holden, Awens Organics, Bonvilston Edge, a Langton’s Farm Cyf. Mae cysylltiadau cryf wedi cael eu datblygu ar draws y gadwyn gyflenwi, gan wneud bwyd o Gymru yn flaenoriaeth sydd wrth galon arlwyo yn y sector cyhoeddus. Mae hyn wedi helpu i leihau’r gadwyn gyflenwi ar gyfer llysiau ac wedi cefnogi busnesau lleol yng Nghymru.

Diolch i gefnogaeth y prosiect hwn, mae CHF wedi gallu helpu ffermwyr i gyrraedd safonau Cyswllt Ffermio a gwella prosesau effeithlonrwydd ar y fferm. Yn y gorffennol, roedd llysiau a oedd yn cael eu tyfu yng Nghymru yn gorfod cael eu hanfon allan o Gymru i gael eu golchi a’u pacio, ac yna eu hanfon yn ôl i gael eu bwyta. Darparodd y prosiect hwn gyllid i olchi a phacio’r llysiau. Nawr, gydag offer newydd, mae modd tyfu, prosesu a bwyta llysiau fel moron yng Nghymru, gan arbed amser ac arian a chael llai o effaith ar yr amgylchedd.

Mae’r fenter hon yn enghraifft ddefnyddiol ar gyfer caffael llysiau lleol o Gymru yn ehangach. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd arferion caffael tryloyw sy’n ystyried nid yn unig y pris ond hefyd y manteision cymdeithasol, yr effeithiau amgylcheddol, a chyfranogiad y gymuned. Mae deall gwir werth cymdeithasol y pryniannau hyn yn helpu Awdurdodau Lleol i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch dewis cynnyrch lleol o Gymru, y tu hwnt i ystyried y gost yn unig.

“Un o’r prif allbynnau yw ein cyd-ddealltwriaeth o’r hyn y mae modd ei dyfu’n broffidiol yng Nghymru, yr hyn y mae ysgolion ei eisiau, a chysoni cynaeafau â bwydlenni, a bwydlenni â chynaeafau. Mae sbigoglys, gorfetys, ciwcymbrau, tomatos a courgettes ar gael yn ystod misoedd yr haf, ond nid oes llawer o gyfle i’w gwerthu i’r sector cyhoeddus pan maen nhw’n cael eu cynaeafu ym mis Gorffennaf/Awst.” – Edward Morgan – Rheolwr ESG, Castell Howell Foods

Celtica Foods ac Authentic Foods

Ers 2023, mae CHF, drwy Celtica Foods ac Authentic Foods, wedi creu cyfres o brydau ysgol sy’n iachach, yn well i’r blaned, ac yn fwy cost-effeithiol i’w cynhyrchu. Bydd bwydydd fel Bolognese Cig Eidion Cymreig, Blodfresych a Chaws, a sawsiau tomato gyda sbigoglys a gorfetys yn gwella maeth prydau bwyd ac yn lleihau effeithiau carbon. Bydd creu peli cig ‘hybrid’ sy’n cynnwys cig eidion/cig oen Cymreig gyda sbigoglys a gorfetys yn gwella dwysedd maeth ac effeithlonrwydd costau drwy ddefnyddio cynnyrch lleol.

Gan ddeall pa mor bwysig yw adborth defnyddwyr, trefnodd y prosiect sesiynau blasu gyda dros 500 o ddisgyblion a’u teuluoedd yng Nghaerffili, Torfaen, Abertawe a Chaerfyrddin. Roedd hyn yn caniatáu i’r plant rannu eu barn yn onest am brydau bwyd a oedd wedi’u paratoi gyda chynnyrch o Gymru. Mae eu hadborth yn helpu i fireinio a gwella ryseitiau a sicrhau bod plant yn mwynhau’r prydau. Ar ben hynny, mae’r broses hon yn rhoi barn werthfawr y plant sy’n bwyta’r bwyd i’r ffermwyr a’r tyfwyr lleol, gan helpu i gryfhau’r cysylltiad yn y gadwyn cyflenwi bwyd.

Challenges and lessons learned

Roedd deall y rhwystrau i greu cadwyn cyflenwi bwyd lleol yn ddefnyddiol i’r ddau brosiect, a bydd yn llywio ymdrechion yn y dyfodol. Dyma rai o’r prif wersi a ddysgwyd:

  • Gwerthfawrogi bod angen ffyrdd teg ar dyfwyr i rannu risgiau ar draws y gadwyn gyflenwi a bod angen cynllunio cydweithredol hirdymor i gynnal eu diddordeb.
  • Cydnabod y buddsoddiad sydd ei angen mewn costau seilwaith a chyfalaf i gynyddu niferoedd, e.e. offer cynaeafu, storio, prosesu a bagio ac ymestyn oes.
  • Gall gwneud yn siŵr bod tymhorau tyfu’n cyd-fynd â thymor yr ysgol ar gyfer prydau bwyd fod yn anodd, yn enwedig wrth i batrymau’r tywydd newid a chreu amodau mwy eithafol. Mae’r prosiect wedi canfod, os yw bwyd yn cael ei gynaeafu’n rhy gynnar, mae’n creu bylchau yn y system – fel prinder lle storio a chyfleusterau ar gyfer ymestyn hyd bywyd y bwyd (fel rhewi), sy’n ei gwneud yn anoddach ehangu’r broses gynhyrchu.
  • Mae pris cig oen Cymreig yn gallu amrywio cryn dipyn, sy’n ei gwneud yn anodd cynllunio costau’n gyson.
  • Wrth greu prydau bwyd i blant sy’n cynnwys cig oen a llysiau gwyrdd deiliog, roedd barn yn amrywio yn dibynnu ar y rhanbarth; felly, bydd angen marchnata wedi’i deilwra i annog mwy o blant i roi cynnig ar brydau penodol.

Looking ahead

Yn 2026, nod CHF yw prynu 40 tunnell o lysiau wedi’u tyfu yng Nghymru, gan weithio’n agos gyda thyfwyr i fuddsoddi yn y lleoedd iawn i gynyddu effeithlonrwydd a lleihau prisiau bylchau. Y nod yw cyflenwi 12 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gan barhau i fesur allyriadau carbon a chanolbwyntio ymdrechion marchnata ar gig oen a llysiau gwyrdd deiliog. Mae’r cwmni hefyd yn bwriadu datblygu cynnyrch hybrid newydd, gan gynnwys opsiynau ‘flexitarian’.

Bydd angen buddsoddiad ar gyfer:

  • Seilwaith: Peiriannau golchi a phacio mwy i wneud prosesau’n rhatach ac yn fwy effeithlon.
  • Effeithlonrwydd: Mae angen buddsoddiad hefyd i wella effeithlonrwydd ar ffermydd, i sicrhau iechyd a diogelwch tyfwyr, ac i dalu costau awtomeiddio.
  • Argaeledd: Mae’n bwysig lleihau’r gwahaniaeth yn y gost rhwng llysiau organig a llysiau nad ydynt yn organig.
  • Hyblygrwydd: Mae angen teilwra’r holl gyfrifiadau i dyfu tymhorol, ac mae angen rhoi cyfrif am risg i gefnogi llwyddiant masnachol. Er enghraifft, mae tyfu llysiau ar raddfa fach (fel erw) yn cynnwys costau y mae angen i ni eu deall a’u rheoli, yn enwedig wrth uwchraddio i gnydau ar raddfa caeau. Gall cymorth ariannol, fel benthyciadau i helpu gyda llif arian, wneud y cynllun yn fwy cynaliadwy. Er mwyn lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â thyfu llysiau, gall pennu prisiau a rhannu risgiau gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi fod yn llwybr sefydlog.

Mae rhaglenni Authentic Foods a Celtica Foods yn dangos bod cael gafael ar gynnyrch lleol ar raddfa fawr yn bosibl, yn cael ei groesawu, ac yn dod â manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Mae’r cydweithio parhaus rhwng Castell Howell a phartneriaid cyflenwi bwyd lleol yn gweithio i adeiladu system fwyd gydnerth sy’n canolbwyntio ar iechyd ac sy’n cefnogi pobl ac economi sylfaenol Cymru.

Castell Howell – Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol: Lleoleiddio System Fwyd y sector cyhoeddus yng Nghymru Read More »

Ffermydd & Gerddi Cymdeithasol – Datgloi tir Cymru ar gyfer tyfu bwyd sy’n gyfeillgar i natur

Er mwyn datblygu Uchelgais Cymru ar gyfer sector garddwriaeth mwy gwydn, lleol sy’n ystyriol o natur, mae partneriaeth Ffermydd y Dyfodol wedi cefnogi’r caniatâd cynllunio a’r seilwaith ar gyfer 3 menter garddwriaeth newydd ar raddfa fach gydag Anheddau Mentrau Gwledig ym Mhowys. Drwy osod y sylfeini, creu canllawiau caniatâd cynllunio ar gyfer tyfwyr ar raddfa fach ac adeiladu seilwaith i dreialu’r canllawiau, mae prosiect Ffermydd y Dyfodol wedi cymryd camau mawr at gynyddu mynediad at dir ar gyfer garddwriaeth agroecolegol ar raddfa fach ledled Cymru.

Cefndir a Gweledigaeth

Mae Cymru’n wynebu her: cyflenwad cyfyngedig o fwyd lleol. Mae lefelau cynhyrchu ffrwythau a llysiau domestig yn isel, ac yn annigonol i fodloni ein hanghenion maeth. Mae tyfwyr newydd yn cael trafferth dechrau ymuno â’r diwydiant garddwriaeth ac mae dehongliad rheolau cynllunio yn aml yn atal ffermwyr ar raddfa fach rhag byw ar eu tir. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae angen system fwyd fwy lleol ar Gymru sy’n defnyddio dulliau agroecolegol – ffermio sy’n cefnogi bioamrywiaeth, iechyd ecosystemau, gwaith teg, a chymunedau lleol cryf.

Cafodd Partneriaeth Ffermydd y Dyfodol ei ddod ynghyd i fynd i’r afael â’r problemau hyn. Ei gweledigaeth yw tyfu busnesau garddwriaeth mwy agroecolegol ledled Cymru drwy egwyddorion yr economi sylfaenol:

  • Datgloi tir addas i gynhyrchu ffrwythau a llysiau mewn ffordd agroecolegol
  • Cefnogi bywoliaeth deg i dyfwyr
  • Adeiladu economi wledig yn seiliedig ar gyflenwad lleol a llesiant cymunedol

Drwy roi hwb i arddwriaeth ar raddfa fach ar dir cyhoeddus i gynhyrchu ffrwythau a llysiau’n lleol, bydd y bartneriaeth yn helpu cyrff cyhoeddus i brynu cynnyrch o Gymru yn lleol, yn dymhorol ac yn gynaliadwy.

Mae’r prosiect wedi treialu 3 menter garddwriaeth newydd ar Fferm Wern ger y Drenewydd, Powys, i ddangos beth sy’n bosibl pan fydd polisi cynllunio yn rhoi cefnogaeth gadarnhaol i ffermydd bach.

Y Dull Gweithredu

Creodd prosiect Ffermydd y Dyfodol dri busnes garddwriaeth bach gyda chartrefi i dyfwyr drwy bedwar cam allweddol rhwng 2024 a 2025:

Cam 1 – Caniatâd Cynllunio

Sicrhaodd y prosiect gymeradwyaeth ar gyfer tair menter ficro-garddwriaeth ar fferm Cyngor Sir Powys, gan gynnwys Anheddau Mentrau Gwledig dros dro.

Cam 2 – Polisi a Chanllawiau

Bu’r prosiect yn gweithio gydag ymgynghorwyr arbenigol (TerraPermaGeo), cynllunwyr SFG, Cyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ddatblygu canllawiau cynllunio newydd ar gyfer Anheddau Mentrau Gwledig mewn garddwriaeth ar raddfa fach.

Ar y cyd â Shared Assets, cyd-gynhyrchodd Cynghrair Gweithwyr y Tir “Ganllaw” ymarferol i dyfwyr wneud cais am Anheddau Mentrau Gwledig mewn garddwriaeth ar raddfa fach.

Cam 3 – Seilwaith a Phrofion

Comisiynodd y prosiect arolygon hanfodol (SDCau, llifogydd, ecoleg, asesiadau coed) a chyflwynodd gais cynllunio llawn— gan greu templed ar gyfer tyfwyr yn y dyfodol.

Cam 4 – Cefnogi Tyfwyr

Ar ôl cael caniatâd cynllunio, cafodd tri thyfwr eu recriwtio i fyw yn Fferm Wern a chychwyn mentrau garddwriaeth, gyda chymorth sefydliadau partner a’r rhwydwaith garddwriaeth ehangach.

Roedd y dull hwn yn cyfuno arloesedd polisi, profion ymarferol, gweithio mewn partneriaeth, ac ymgysylltu â’r gymuned.

Cynnydd Fferm yn y Dyfodol hyd yma

Treialu Fferm Wern

  • Treialodd y prosiect y canllawiau newydd yn Fferm Wern, gan sicrhau tair annedd newydd a sefydlu tair menter arddwriaethol ar safle 15 hectar.
  • Plannwyd dros 2,400 o goed ac mae arferion agroecolegol adfywiol yn gwella iechyd pridd a bioamrywiaeth.
  • Mae cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi helpu i wneud rhagor o welliannau i seilwaith ac i gyflwyno ynni adnewyddadwy.

Newid Polisïau a Systemau

  • Mabwysiadwyd y canllawiau cynllunio wedi’u haddasu ar gyfer Anheddau Mentrau Gwledig gan Gyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gyda chefnogaeth gadarn gan dimau cynllunio.
  • Mae grŵp gorchwyl cynllunio garddwriaeth cenedlaethol wedi cael ei sefydlu.
  • Mae’r canllawiau bellach yn cael eu hystyried i’w cynnwys mewn diweddariadau Polisi Cynllunio Cymru yn y dyfodol.

Meithrin Gallu a Rhannu Gwybodaeth

  • · Roedd cyfarfodydd partneriaeth wythnosol yn meithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth ar y cyd.
  • Dyma’r adnoddau sy’n cael eu rhannu a’u creu:
    • “Meini Prawf Tir ar gyfer Ffermydd Bach”
    • “Nodiadau ar gyfer Datblygu Lesoedd”
    • Rhestrau arolwg ar gyfer ceisiadau cynllunio garddwriaeth
    • Offer cynllunio ar gyfer tyfwyr
  • Cyfrannodd dros 35 o dyfwyr eu gwybodaeth a’u profiad i’r Canllaw.
  • Cafodd dros 60 o swyddogion cynllunio eu hyfforddi yn y canllawiau cynllunio newydd o fis Ionawr 2025 ymlaen
  • Mae cefnogaeth barhaus yn parhau drwy aelodau’r grŵp llywio a phartneriaethau newydd.

Yr heriau a’r gwersi a ddysgwyd

Mae gwersi allweddol a ddysgwyd o’r prosiect hwn wedi bod yn amhrisiadwy o ran llywio cynnydd a llywio prosiectau yn y dyfodol:

Cynllunio polisïau

Er ei bod hi’n gallu bod yn heriol dylanwadu ar bolisi, roedd hi’n hanfodol dechrau trafod yn gynnar â swyddogion polisi cynllunio a gweithio o sylfaen polisi presennol, gan ei ddehongli a’i gysoni â nod penodol.

I ddechrau, cymerodd cam cynllunio’r prosiect hwn fwy o amser na’r disgwyl oherwydd pwysau llwyth gwaith mewn awdurdodau cynllunio lleol, yr angen am arolygon a data ychwanegol, a’r oedi nodweddiadol sy’n gysylltiedig â cheisiadau gwledig cymhleth. Fodd bynnag, canfu’r prosiect, drwy weithio gyda chyrff cyhoeddus gydag agwedd ragweithiol “rydyn ni’n gallu gwneud hyn”, gall y broses redeg yn esmwyth.

Llywodraethu a Chapasiti

Creodd y grŵp llywio mawr, aml-bartner heriau yn ymwneud â rheoli amser ac eglurder wrth wneud penderfyniadau. Fodd bynnag, mae bod yn weithgorau hyblyg a llai, a strwythurau adrodd cliriach, er eu bod dan bwysau o ran gallu staff, yn arwain yn y pen draw at well effeithlonrwydd.

Roedd canfod sgiliau partneriaid yn gynnar a dyrannu rolau yn amlwg yn hanfodol. Roedd cydweithio effeithiol rhwng cynllunwyr, tyfwyr a swyddogion tir yn hollbwysig.

Edrych ymlaen at ffermydd y dyfodol

Mae gan brosiectau o’r math hwn y potensial i wella’r Economi Sylfaenol yn sylweddol drwy gryfhau systemau bwyd lleol a hwyluso datblygu cyfoeth cymunedol. Drwy gynyddu faint o lysiau tymhorol ffres sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol mewn ffordd sy’n cefnogi amcanion adfer natur, gallwn gefnogi bywoliaeth wledig gynaliadwy. Mae’r prosiect wedi dangos ffordd arall o ddefnyddio asedau cyhoeddus (ffermydd sirol) i greu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach a phwysig i Gymru.

Mae llwyddiant cynllun peilot Ffermydd y Dyfodol wedi creu llawer o fomentwm i ehangu’r dull hwn o weithredu ledled Cymru. Mae’r cynlluniau ar gyfer y prosiect hwn yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Cydweithio â mwy o Awdurdodau Lleol i addasu a chyflwyno’r canllawiau.
  • Gweithio gyda chymdeithasau tai i fynd i’r afael ag anghenion llety ffermwyr newydd.
  • Nodi rhagor o safleoedd ffermydd sirol ym Mhowys sy’n addas ar gyfer mentrau garddwriaeth.
  • Hyfforddiant parhaus i dyfwyr sy’n defnyddio’r system gynllunio.
  • Cefnogi datblygiad polisi cenedlaethol ar anheddau garddwriaeth a mentrau gwledig.

Mae Ffermydd y Dyfodol wedi dangos, drwy gynllunio, cydweithio a phrofi ymarferol gofalus, y gall Cymru wneud gwell defnydd o dir ar gyfer prosiectau ffermio cynaliadwy a datblygu sector garddwriaeth fwytadwy cryf. Mae’r prosiect eisoes wedi gwneud gwahaniaeth go iawn ym Mhowys ac mae’n dylanwadu ar bolisi cenedlaethol. Mae’n cynnig model y gall eraill ei ddilyn, gan ddangos sut y gellir defnyddio cynlluniau i gryfhau systemau bwyd lleol a chefnogi llesiant cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru yn y tymor hir.

Ffermydd & Gerddi Cymdeithasol – Datgloi tir Cymru ar gyfer tyfu bwyd sy’n gyfeillgar i natur Read More »

Menter Môn – Larder Cymru: Bwyd Cymreig ar gyfer Ysgolion

“Yn wreiddiol, nod rhaglen Larder Cymru – Bwyd Cymreig ar gyfer Ysgolion – oedd cynyddu faint o gynnyrch Cymreig oedd yn cael ei brynu gan y sector cyhoeddus yng Nghymru.” – David Wylie, Menter Môn

Cefndir a gweledigaeth

Cafodd y prosiect ei gynllunio’n wreiddiol i gefnogi pum awdurdod lleol: Caerdydd, Caerffili, Wrecsam, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn, i ymgorffori mwy o gynnyrch Cymreig i fwydlenni ysgolion. Dros amser, cafodd ei ehangu i gynnwys tri awdurdod arall: Powys, Sir Ddinbych a Chonwy. Roedd y weledigaeth yn glir: i greu system fwyd a oedd yn fwy gwydn, cynaliadwy, ac wedi’i gwreiddio’n lleol i ysgolion.

Wedi’i ariannu gan Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, mae Larder Cymru yn amlygu sut mae newid systematig mewn sectorau sylfaen fel bwyd yn helpu i hybu Economi Sylfaenol Cymru. Mae gwneud arferion caffael ar lefel leol yn hyrwyddo datblygiad economaidd i fusnesau Cymru, yn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol drwy leihau allyriadau’r gadwyn gyflenwi, ac yn ymgorffori hunaniaeth ddiwylliannol drwy ddathlu bwyd Cymreig.

“Drwy greu’r dull economi gylchol lle rydych chi’n rhoi arian cyhoeddus yn ôl i’r economi yng Nghymru, rydych chi’n helpu i ehangu busnesau bwyd lleol, sydd yn ei dro, yn creu swyddi da a theg i bobl yn y gymuned leol.” – David Wylie, Menter Môn

Twf a chynnydd

Roedd ffordd y prosiect o weithio wedi’i theilwra ac yn gydweithredol. Derbyniodd bob awdurdod lleol gymorth pwrpasol, gan gynnwys:

  • · Adolygiadau o fframweithiau caffaelReviews of procurement frameworks,
  • · Dadansoddi bwydlenniMenu analysis
  • · Cynnal prosesau ymgysylltu â chyflenwyr Hosting supplier engagement

Un o’r strategaethau amlycaf oedd hwyluso sesiynau caffael yng Ngogledd Cymru, lle archwiliodd awdurdodau lleol gyfleoedd prynu ar y cyd i gyflawni arbedion maint. Arweiniodd hyn at ganlyniadau pendant, fel Wrecsam yn symud o gyflenwr yn Lloegr i gwmni o Harlech yng Nghymru ar gyfer bwydydd wedi’u rhewi.

Roedd ymgysylltu wyneb yn wyneb yn rhan annatod o lwyddiant y prosiect. Tynnodd Larder Cymru sylw at bwysigrwydd cysylltu’r gadwyn gyflenwi gyfan drwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda thimau caffael, cogyddion a chyflenwyr, gan feithrin dealltwriaeth ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr.

Heriau a gwersi a ddysgwyd

Er gwaethaf ei lwyddiannau, roedd y prosiect yn wynebu sawl her. Roedd cyfyngiadau amser ac oedi ym mhrosesau awdurdodau lleol, fel cyflwyno arolygon ac ail-gynllunio bwydlenni, yn aml yn arafu cynnydd. Er enghraifft, wynebodd arolwg i rieni yng Nghaerdydd drafferthion technegol ac fe’i gohiriwyd am bron i flwyddyn, gan effeithio ar amseriad adroddiad terfynol y prosiect.

Her arall oedd gweithio gyda rhanddeiliaid a chyflenwyr allanol, a oedd yn rhwystro’r gallu i adolygu bwydlenni mewn rhai achosion. Fodd bynnag, addasodd y tîm drwy gefnogi ysgolion drwy grantiau ar gyfer offer coginio ac offer garddio, gan ddangos hyblygrwydd y prosiect.

Effaith ac edrych ymlaen

Mae’r prosiect wedi cael effaith fawr ar arferion caffael ac ymgysylltu â’r gymuned yn ogystal ag ar faint o fwyd o Gymru sy’n cael ei gyflenwi. Er enghraifft, roedd Cyngor Caerffili wedi dyblu ei wariant ar gynnyrch o Gymru ar ôl ymgysylltu â Larder Cymru i ganfod cyflenwyr ychwanegol o Gymru. Ar ben hynny, mae ail-ddylunio bwydlen yr ysgol gynradd i dynnu sylw at gyflenwyr lleol, a darparu lluniau wedi cynyddu nifer y disgyblion sy’n manteisio ar hyn ymhellach ac felly’r gwariant gyda chyflenwyr. Mae’r fwydlen newydd ar gyfer ysgolion cynradd yn cynnwys eiconau o’r ddraig goch a lluniau bwyd proffesiynol i ddangos sut olwg sydd ar y prydau bwyd. Ysbrydolodd y model hwn fentrau tebyg yn Wrecsam, lle ychwanegwyd y ddraig goch wrth ymyl y bwyd, a chafodd map o gyflenwyr ei gynnwys ar fwydlenni i ddangos tarddiad y bwyd yn glir.

Fe wnaeth y fenter hefyd ennyn diddordeb ehangach ar draws nifer o awdurdodau lleol, gyda chyflenwyr fel Castle Howell a Harlech yn weledol mewn digwyddiadau cenedlaethol fel LACA. Fe wnaeth dylanwad y prosiect ymestyn y tu hwnt i ysgolion, gyda busnesau annibynnol o Gymru yn rhoi cynnig ar archwilio cyfleoedd caffael newydd.

Wrth edrych ymlaen, mae’r tîm yn bwriadu treialu syniadau arloesol fel bariau salad a ysbrydolwyd gan ysgolion yn Sweden ac ehangu’r gefnogaeth i’r gadwyn gyflenwi ffrwythau a llysiau. Bydd aelod newydd o staff â chefndir mewn marchnata yn helpu i ddatblygu bwydlenni’n fewnol, gan gynyddu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.

Casgliadau

Mae Larder Cymru wedi profi i fod yn brosiect trawsnewidiol, nid yn unig wrth gynyddu presenoldeb cynnyrch Cymreig mewn ysgolion ond hefyd drwy feithrin cydweithio, arloesedd a balchder cymunedol. Mae’r model y gellir ei addasu, sydd wedi’i wreiddio mewn ymgysylltiad lleol a phartneriaethau strategol, yn cynnig glasbrint ar gyfer mentrau systemau bwyd yn y dyfodol yng Nghymru a thu hwnt.

Gyda chefnogaeth barhaus a chyllid hirdymor, mae gan y prosiect y potensial i ehangu ymhellach, gan ymgorffori diwylliant bwyd Cymreig i fywydau bob dydd plant ysgol, ac i gryfhau’r economi sylfaenol ar draws y wlad.

Menter Môn – Larder Cymru: Bwyd Cymreig ar gyfer Ysgolion Read More »

Synnwyr Bwyd Cymru: Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at dyfu llysiau ar gyfer ysgolion oherwydd mae’n bwysig bod plant yn cael bwyd maethlon ac yn gwybod o ble mae’n dod. Bwyd iach, plant iach, Cymru iach.”
— Geraint Evans, Tyfwr o Gymru

Cyflwyniad

Mae menter Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn brosiect arloesol sy’n ceisio cynyddu’r nifer o lysiau organig sy’n cael eu tyfu a’u bwyta yng Nghymru drwy eu cyflenwi’n uniongyrchol i ysgolion cynradd. Drwy sicrhau bod cynhyrchu bwyd yn lleol yn cyd-fynd â dulliau caffael yn y sector cyhoeddus, mae’r fenter yn cynnig enghraifft bwerus o sut gall systemau bwyd cynaliadwy gefnogi iechyd, addysg a’r amgylchedd, gan gryfhau economïau lleol ar yr un pryd.

Cafodd y prosiect ei lansio gyda chefnogaeth y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol, ac mae’n dod â ffermwyr, dosbarthwyr, llunwyr polisïau ac addysgwyr at ei gilydd i ddarparu cynnyrch organig, ffres i brydau ysgol ledled Cymru, gan greu cysylltiadau ystyrlon rhwng plant a’r bwyd maen nhw’n ei fwyta.

Cefndir a Gweledigaeth

Ar ddechrau’r prosiect hwn, roedd 94% o’r llysiau a ddefnyddiwyd mewn ysgolion cynradd yng Nghymru yn dod o’r tu allan i’r wlad, yn aml wedi’u rhewi ac yn anorganig. Nod y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion oedd newid y sefyllfa honno drwy wneud y canlynol:

  • Cynyddu faint o lysiau organig sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol.
  • Creu marchnadoedd newydd i dyfwyr yng Nghymru.
  • Hyrwyddo amaethyddiaeth a bioamrywiaeth gynaliadwy.
  • Cefnogi addysg plant am iechyd a bwyd.

Caiff y prosiect ei gydlynu gan Synnwyr Bwyd Cymru, ar y cyd â Castell Howell (dosbarthwr bwyd mwyaf Cymru) a Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei redeg gan Lantra. Mae’r partneriaid hyn yn rhan o rwydwaith ehangach o dyfwyr a rhanddeiliaid sy’n gweithio i greu system fwyd decach a mwy gwydn yng Nghymru.

Twf a Chynnydd

Mae’r hyn a ddechreuodd dair blynedd yn ôl gydag un tyfwr yn unig bellach wedi tyfu’n brosiect bywiog gyda nifer o randdeiliaid. Erbyn 2024:

  • Roedd 8 o dyfwyr wrthi’n cyflenwi ysgolion.
  • Cafodd 14 tunnell o lysiau organig o Gymru eu defnyddio mewn prydau ysgol.
  • Roedd y prosiect yn cyrraedd 219 o ysgolion ar draws 6 ardal awdurdod lleol – Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Powys, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.
  • Bu 400 o blant yn ymweld â phedair fferm gan roi cyfle iddyn nhw gysylltu’n uniongyrchol â’r tir a’r ffermwyr sy’n tyfu eu bwyd.

Erbyn 2025, mae’r fenter wedi tyfu i:

  • 15 o dyfwyr lleol yn cymryd rhan.
  • 12 awdurdod lleol wedi ymrwymo i’r cynllun.
  • 3 phartner cyfanwerthu yn dosbarthu cynnyrch ar draws rhwydweithiau arlwyo mewn ysgolion.

Mae’r ehangu hwn yn golygu y bydd tua 1 miliwn o ddognau o lysiau lleol, organig yn cael eu gweini i blant ysgol yng Nghymru.

Yr heriau a’r gwersi a ddysgwyd

Cyflwynodd 2023 heriau sylweddol:

  • Oedi o ran cyllid yn amharu ar gylchoedd cynllunio, diffyg trefn o ran sicrhau bod cynhyrchu cnydau yn cyd-fynd â gofynion prydau ysgol.
  • Tywydd garw yn golygu bod y cnydau’n llai, gan effeithio ar y cyflenwad.

Fodd bynnag, arweiniodd yr heriau hyn at ddysgu gwerthfawr:

  • Dechreuwyd cydlynu’n gynharach ag awdurdodau lleol ddiwedd 2023, gan roi cyfle i dyfwyr cynllunio cnydau’n well.
  • Ymunodd mwy o dyfwyr yn y fenter i feithrin gwydnwch a lleihau risg.
  • Roedd cadwyni cyflenwi presennol Castell Howell yn amsugno unrhyw gynnyrch dros ben, gan osgoi gwastraff.

Bu’r Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o alluogi arbrofi, datblygu systemau a ffurfio rhwydweithiau newydd. Agorodd ddrysau hefyd i gydweithio â phrosiectau bwyd eraill ledled Cymru.

Y Dylanwad ac Edrych i’r Dyfodol

Mae’r prosiect wedi profi bod cadwyn gyflenwi organig leol ar gyfer bwyd ysgol yn bosibl a hefyd yn ddymunol. Mae diddordeb wedi cynyddu ledled Cymru a thu hwnt, gyda rhanddeiliaid o bob cwr o’r DU yn cysylltu â’r tîm i ddysgu sut mae atgynhyrchu’r model yn eu rhanbarthau eu hunain.

Dyma rai o’r uchafbwyntiau hyd yma:

  • Symud oddi wrth lysiau sy’n cael eu mewnforio tuag at lysiau organig lleol mewn prydau ysgol.
  • Creu ffrydiau incwm amgen ar gyfer tyfwyr yng Nghymru.
  • Profiadau dysgu ymarferol i blant, sy’n cysylltu bwyd, ffermio ac iechyd.
  • Sefydlu grŵp tyfwyr newydd yng Ngogledd Cymru, fel bod y prosiect yn cyrraedd ledled y wlad.

Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Synnwyr Bwyd Cymru gyfres o adroddiadau yn nodi cyflawniadau’r prosiect. Gallwch ddarllen yr adroddiadau amrywiol drwy glicio’r dolenni isod:

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion: Adroddiad Cryno

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion: Adroddiad Llawn

Stori Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

Gan edrych tua’r dyfodol, mae Synnwyr Bwyd Cymru wrthi’n edrych ar gyfleoedd cyllido newydd i ddatblygu’r prosiect ymhellach. Mae’r uchelgais yn glir: dod â mwy o gynnyrch organig o Gymru i fwy o ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys mwy o awdurdodau lleol, mwy o dyfwyr, a mwy o blant ar y daith tuag at system fwyd gynaliadwy ac iach.

Casgliad

Mae prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn dangos sut y gall caffael cyhoeddus sbarduno newid ystyrlon, o’r fferm i’r fforc. Mae’n cryfhau economïau lleol, yn cefnogi ffermio cynaliadwy ac yn helpu pobl ifanc i ddeall a gwerthfawrogi o ble daw eu bwyd. Diolch i gefnogaeth y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol, mae’r sylfaen wedi’i gosod ar gyfer llwyddiant hirdymor, y gellir ei ehangu ledled Cymru a thu hwnt.

Synnwyr Bwyd Cymru: Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Read More »

Menter Môn – Y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol – Ehangu Ffermio Fertigol ar gyfer y Sector Cyhoeddus yng Nghymru

Dechreuodd Tech Tyfu yn wreiddiol fel prosiect peilot yn Ynys Môn a Gwynedd, gan dreialu ffermydd fertigol bach gyda thyfwyr lleol. Roedd yr adborth cynnar yn galonogol, gan ysgogi’r broses o ehangu’r prosiect i’r rhaglen Tech Tyfu Scale‑Up. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu Hwb Arloesi, a ariannwyd yn wreiddiol gan yr UE a chefnogodd 13 o dyfwyr gydag unedau ffermio fertigol o gost isel, wedi’u teilwra, yn costio tua £1,200 yr un (o’i gymharu â dewis arall yn y farchnad gwerth £8,000).

I ddechrau, roedd nifer o dyfwyr yn canolbwyntio ar microwyrddion, yr oedd galw mawr amdanyn nhw o fewn y sector lletygarwch yn ystod COVID‑19. Serch hynny, daeth cyfle newydd drwy raglen Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, i archwilio sut gallai’r ffermydd hyn gyflenwi cynnyrch ffres i sector cyhoeddus Cymru, lle mai dim ond tua 6% o ffrwythau a llysiau sy’n cael eu bwyta yng Nghymru a dyfir yn ddomestig.

Creodd hyn achos pwerus dros ehangu atebion ffermio hydroponig a fertigol lleol i feithrin gwydnwch, gwella cynaliadwyedd a chryfhau cadwyni cyflenwi lleol yng Nghymru.

Y Dull Gweithredu

Canolbwyntiodd dull y prosiect ar ddatblygu rhwydwaith o dyfwyr, eu cefnogi gydag offer, a’u cysylltu â llwybrau perthnasol yn y farchnad. Dewiswyd pum fferm i gymryd rhan yn y rhwydwaith o dyfwyr ledled Cymru:

  • Micro Acres Cymru (Llantrisant)
  • Fungi Foods (Gwynedd)
  • Microwyrddion Ffres a Blasus (Sir Ddinbych)
  • Valleys Veg (Aberdâr)
  • Fferm Green Up (Sir Gaerfyrddin), mewn rôl gynghorol.

Rhoddwyd offer ffermio fertigol pwrpasol i’r tyfwyr drwy lyfrgell offer Tech Tyfu. Roedd y prosiect wedi gweithio gyda phartneriaid allanol, gan gynnwys Busnes Cymru, i dreialu technoleg halwynedd dŵr arloesol AWS i wella cynnyrch.

Yna hwylusodd Menter Môn drafodaethau gyda chyfanwerthwyr drwy gwrdd â phob tyfwr i asesu anghenion cymorth, gan eu cyflwyno i gyflenwyr ffrwythau a llysiau ledled Cymru mewn ymgais i gyflenwi i ysgolion a lleoliadau eraill yn y sector cyhoeddus.

Effaith

Nod y prosiect hwn oedd cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a lleihau milltiroedd bwyd drwy gefnogi dulliau ffermio cynaliadwy. Cynyddodd fynediad at offer ffermio fertigol, sy’n hanfodol i dyfwyr bach, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae gofod yn brin. Hefyd, fe wnaeth y fenter feithrin arloesedd drwy archwilio’r potensial am ynni glân, adnewyddadwy i bweru cynhyrchu.

Er gwaethaf wynebu heriau, mae’r prosiect wedi cael effaith sylweddol wrth greu rhwydwaith cynaliadwy a brwd o dyfwyr. Cynhaliodd yr unig rwydwaith pwrpasol yng Nghymru ar gyfer ffermwyr fertigol bach. Sicrhaodd gyllid Llywodraeth Cymru barhad y rhwydwaith; heb y cymorth hwn, mae’n debyg y byddai’r rhwydwaith a dwy swydd staff allweddol wedi’u colli.

Arweiniodd cydweithio ar brosiectau arloesol at ddatblygu dyfais halltrwydd dŵr AWS, a ddangosodd welliannau sylweddol o ran cynnyrch. Mae hyn yn dangos sut gall technolegau clyfar wella ffermio amgylchedd a reolir yng Nghymru.

Mewn rhai achosion, ail-bwrpaswyd offer i gyd-fynd â model busnes pob tyfwr. Roedd un llwyddiant masnachol nodedig yn cynnwys Fungi Foods, a ddefnyddiodd seilwaith ffermio fertigol i ehangu’r broses o gynhyrchu madarch. Galluogodd y twf hwn iddyn nhw sicrhau cytundebau cyflenwi gydag Aldi, Wagamama, a Holland & Barrett a chydnabyddiaeth drwy “The Next Big Thing” ar Channel 4. Er nad dyma oedd y cyflenwad sector cyhoeddus a fwriadwyd yn wreiddiol, mae’n tynnu sylw at hyfywedd masnachol ffermio fertigol yng Nghymru.

Heriau

Effeithiodd sawl rhwystr sylweddol ar allu’r prosiect i gyflawni ei nodau gwreiddiol. Roedd cyfyngiadau yn y gallu i ehangu’r cynhyrchu ar gyfer defnydd y sector cyhoeddus yn heriol:

  • Mae costau ynni sy’n codi’n barhaus yn arwain at dyfwyr yn tynnu’n ôl o drafodaethau ynglŷn â chyflenwi’r sector cyhoeddus wrth i gynhyrchu ddod yn anhyfyw.
  • Byddai angen cyfleusterau llawer mwy ar y rhan fwyaf o dyfwyr i gyflawni’r arbedion maint.
  • Roedd disgwyliadau prisiau cyfanwerthwyr yn llawer is na rhai’r farchnad bwytai, a fyddai’n anodd i dyfwyr gyda’r costau ynni uchel.
  • Dim ond yn ystod misoedd yr haf y gallai rhai ffermydd weithredu oherwydd costau uchel rhedeg gweithrediadau yn ystod y gaeaf.
  • Roedd rhai ffermydd yn wynebu newidiadau yn eu tenantiaeth neu darfu ar eu cyfleusterau, a oedd yn tanseilio parhad cynhyrchu.

Edrych Ymlaen

Mae Tech Tyfu bellach mewn cyfnod o bontio. Mae’r camau nesaf yn cynnwys adolygu ac ail-raddnodi’r prosiect. Mae adolygiad wedi’i strwythuro yn hanfodol i benderfynu:

  • Ble mae tyfwyr yn sefyll nawr
  • Pa gymorth sydd ei angen i weithredu’n gynaliadwy gydol y flwyddyn
  • Beth yw’r ffordd orau o sicrhau bod ffermio fertigol yn cyd-fynd â galw’r sector cyhoeddus

Bydd Menter Môn yn parhau i gefnogi’r rhwydwaith o dyfwyr i symud tuag at ehangu, a’u helpu i symud o gynhyrchu microwyrddion ar raddfa fach tuag at gadwyni cyflenwi ar lefel fasnachol, sy’n economaidd hyfyw lle bo modd. Mewn darpar gynlluniau peilot ar raddfa fwy, gallai cyfleuster ffermio fertigol sy’n cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy, a’i leoli’n strategol wneud y canlynol:

  • Lleihau costau rhedeg drwy ynni adnewyddadwy
  • Darparu cyflenwad cyson o ffrwythau a llysiau sy’n cael eu tyfu’n lleol drwy gydol y flwyddyn yng Nghymru
  • Dangos dichonoldeb caffael y sector cyhoeddus ar gyflenwadau lleol
  • Angori twf ehangach y diwydiant ledled Cymru ar gyfer garddwriaeth fertigol

Menter Môn – Y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol – Ehangu Ffermio Fertigol ar gyfer y Sector Cyhoeddus yng Nghymru Read More »

PLANED – Mynediad gwledig gwell at fwyd ffres drwy beiriannau gwerthu cymunedol

Mae cymunedau gwledig ar draws Gorllewin Cymru yn aml yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran cael mynediad at fwyd ffres, fforddiadwy, o ffynhonnell gynaliadwy. Mae opsiynau trafnidiaeth prin, pellteroedd teithio hir, a seilwaith manwerthu lleol llai yn effeithio’n anghymesur ar aelwydydd incwm isel ac aelwydydd sydd wedi’u hynysu’n ddaearyddol. Ar yr un pryd, mae cynhyrchwyr lleol bach yn ei chael hi’n anodd cyrraedd cwsmeriaid yn gyson ac yn fforddiadwy.

Nod PLANED oedd pontio’r bwlch hwn drwy ddefnyddio peiriannau gwerthu cymunedol arloesol. Gall yr atebion hyn weithredu drwy gydol y flwyddyn, gwasanaethu poblogaethau gwasgaredig, a chefnogi amcanion yr Economi Sylfaenol fel cadwyni cyflenwi lleol, lleihau milltiroedd bwyd, a gwydnwch cymunedol.

Y dull

Mewn partneriaeth â Foothold Cymru, comisiynwyd y peiriannau gwerthu cymunedol yn Sir Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru, i gynnig mynediad 24/7 at gynnyrch ffres, lleol i drigolion.  

Cafodd gwirfoddolwyr lleol eu recriwtio i gefnogi’r broses o reoli stoc a hyrwyddo cymunedol. Dangosodd arolwg ymhlith cwsmeriaid bellter teithio cyfartalog o 17 milltir, sy’n tynnu sylw at rôl y peiriant wrth wella mynediad lleol.

Derbyniodd cynhyrchwyr ganllawiau ar ddeunydd pacio cynaliadwy y gellir ei ail-ddefnyddio i leihau effaith amgylcheddol. Defnyddiodd y peiriant gwerthu cyntaf 12 o gyflenwyr lleol. Gweithiodd PLANED yn agos gyda ffermydd lleol, mudiadau cymunedol ac elusennau i sicrhau cynnyrch a oedd yn cael ei lywio gan y galw.

Effaith

Mae’r prosiect wedi creu buddion helaeth i gymunedau, cynhyrchwyr a’r amgylchedd. Drwy fabwysiadu dull sy’n cael ei arwain gan y gymuned a’i lywio gan bartneriaethau, cafodd pob peiriant gwerthu ei deilwra’n benodol i ddiwallu anghenion a blaenoriaethau lleol. Mae gwirfoddolwyr cymunedol wedi chwarae rôl frwd, sydd wedi cryfhau perchnogaeth leol. Mae ymgysylltu cynnar â’r ail beiriant yn dangos addewid ar gyfer stiwardiaeth hirdymor dan arweiniad y gymuned.

Mae gan drigolion bellach fynediad dibynadwy at gynnyrch ffres, lleol unrhyw bryd. Mae adborth positif wrth y gymuned yn tynnu sylw at sawl mantais, gan gynnwys gwybodaeth well am darddiad eu bwyd, llai o deithio i siopa bwyd, llai o filltiroedd bwyd ac effaith amgylcheddol, a llai o ddeunydd pacio, gan arwain at ostyngiad mewn plastigau untro.

Mae cyflenwyr lleol a busnesau bach hefyd wedi elwa drwy ennill ffrydiau refeniw newydd. Mae’r peiriannau gwerthu yn gwasanaethu fel micro-farchnadoedd, gan roi gwelededd a chyfleoedd gwerthu y gellir eu rhagweld i gynhyrchwyr bach.

Edrych ymlaen

Mae PLANED yn archwilio sawl cyfle i adeiladu ar lwyddiant ei beiriannau gwerthu gwreiddiol drwy ymgorffori gwelliannau cynaliadwyedd. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i beiriannau gwerthu solar i gostau gweithredu llai a lleihau ôl troed carbon ac archwilio systemau pecynnu y gellir eu hailddefnyddio i leihau gwastraff ymhellach.

Mae galw cryf yn lleol yn dangos potensial sylweddol am efelychu’r model hwn mewn cymunedau gwledig eraill yng Nghymru. Mae PLANED yn bwriadu parhau i gynnig hyfforddiant, cymorth gweithredol, ac arweiniad marchnata i gymunedau sy’n mabwysiadu modelau tebyg.

Drwy wella mynediad at fwyd, cefnogi cynhyrchwyr lleol, ac ymgorffori arferion cynaliadwy, mae PLANED yn bwriadu gwneud y peiriannau gwerthu hyn yn asedau hirdymor sy’n gwella llesiant cymunedol a’r economi sylfaenol wledig.

PLANED – Mynediad gwledig gwell at fwyd ffres drwy beiriannau gwerthu cymunedol Read More »

a group of children preparing and eating food

Grymuso Plant a Theuluoedd drwy’r Cookalong Clwb

Cefndir

Mewn partneriaeth â Maint Cymru, mae’r fenter hefyd yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy weithio gyda myfyrwyr i ddylunio bwydlenni lleol nad ydynt yn gysylltiedig â datgoedwigo, ar gyfer ysgolion Sir Fynwy. Drwy gyfuniad o wersi ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae’r prosiect yn helpu plant i ddatblygu sgiliau gydol oes o ran bwyd, coginio a chynaliadwyedd.

Nodau’r Prosiect

Nod y Cookalong Clwb yw:

  • Dysgu sgiliau coginio a chyllidebu hanfodol i blant.
  • Cynyddu gwybodaeth am fwydydd iach o ffynonellau lleol.
  • Grymuso plant i wneud dewisiadau bwyd gwybodus a lleihau gwastraff bwyd.
  • Codi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd ffynonellau cynaliadwy.

“Os bydd plant yn gadael yr ysgol gynradd yn gwybod sut i goginio, cyllidebu a gwneud dewisiadau bwyd iachach, byddan nhw’n barod am oes. Byddan nhw’n gwybod sut mae bwydo eu teuluoedd, a bydd ganddyn nhw’r hyder i wneud penderfyniadau gwell am fwyd, boed hynny’n goginio neu’n siopa.” – Angharad Underwood, y Cookalong Clwb

Mae’r prosiect hefyd yn gweithio gyda thimau anabl, gan eu dysgu sut i siopa a choginio’n annibynnol, a hybu ymreolaeth a hunanddibyniaeth.

Yr Effaith a’r Canlyniadau

Mae’r Cookalong Clwb eisoes wedi cymryd camau breision tuag at feithrin newidiadau cadarnhaol a pharhaol ym mywydau plant. Drwy sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae’r rhaglen wedi meithrin:

  • Hyder yn y Gegin: Mae’r plant wedi dysgu sut i dorri, coginio a rheoli’r gegin gyda chyllyll miniog a sosbenni poeth, gan roi sgiliau ymarferol iddynt a fydd yn para am oes.
  • Lleihau Gwastraff: Mae plant bellach yn ymwybodol o wastraff bwyd, gyda chynghorion am sut i adfywio coesynnau letys neu frocoli drwy eu rhoi mewn dŵr am ddeng munud.
  • Ymgysylltu fel Teulu: Mae’r plant yn rhannu eu sgiliau newydd gydag aelodau o’u teulu, gan newid deinameg y teulu’n gynnil a sbarduno trafodaethau am goginio iachach a lleihau gwastraff bwyd.
  • Eiriol dros Gynaliadwyedd: Mae’r cydweithio â Maint Cymru wedi ysbrydoli plant i eiriol dros brydau ysgol cynaliadwy nad ydynt yn gysylltiedig â datgoedwigo, ac mae Cyngor Sir Fynwy yn ymrwymo i fod y sir gyntaf yn y byd i beidio â darparu bwyd sy’n gysylltiedig â datgoedwigo.

Ar ben hynny, mae’r prosiect wedi ysbrydoli rhai plant i ddilyn cymwysterau galwedigaethol, gan agor drysau i yrfaoedd nad oeddent wedi’u hystyried o’r blaen.

Sylweddoliadau a Mewnwelediadau

Er bod y prosiect wedi canolbwyntio ar dlodi bwyd i ddechrau, gwelwyd nad yw statws economaidd-gymdeithasol o reidrwydd yn cyd-fynd â sgiliau coginio. Fel y dywed un cyfranogwr:

“Po fwyaf cyfoethog ydych chi, y mwyaf tebygol ydych chi o brynu prydau parod. Mae’r rhai llai cyfoethog yn dibynnu ar fanciau bwyd a bwydydd sydd wedi’u prosesu’n helaeth. Beth sylweddolon ni oedd bod plant o bob cefndir heb sgiliau coginio.”– Angharad Underwood, y Cookalong Clwb

Sylweddoliad allweddol arall yw bod ofn mawr am goginio a pharatoi bwyd, yn aml oherwydd diffyg cysylltiad neu hyder gyda hynny. Mae’r prosiect yn gweithio i chwalu’r rhwystrau hyn, yn enwedig o ran rheoli amgylchedd y gegin a deall gwerth gwirioneddol bwyd.

Yr Heriau a Wynebwyd

Y brif her fu cael cyllid cyson i sicrhau cynaliadwyedd ar gyfer y tymor hir. Heb adnoddau dibynadwy, mae ehangu’r prosiect i fwy o ysgolion a chyrraedd mwy o gynulleidfa yn parhau i fod yn rhwystr mawr. Fel y pwysleisiodd:
“Allwch chi ddim codi tâl am hyn. Does dim cyllidebau gan ysgolion, ac mae angen yr arian arnom i barhau i gyflwyno’r gwersi hyn.”

Cynlluniau a Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r prosiect yn bwriadu:

  • Ehangu: Cyrraedd mwy o ysgolion ledled Sir Fynwy a Chymru, gan ddarparu gwersi coginio i gynulleidfa ehangach.
  • Hyfforddi Athrawon: Rhoi’r offer a’r hyder i athrawon allu cyflwyno gwersi coginio o fewn y cwricwlwm.
  • Ceginau Cymunedol: Edrych ar greu ceginau cymunedol lle gall teuluoedd ymgynnull, coginio gyda’i gilydd, a rhannu prydau bwyd.
  • Ffocws ar Gynaliadwyedd: Parhau i eiriol dros fwydlenni ysgol sy’n gynaliadwy ac nad ydynt yn gysylltiedig â datgoedwigo, a chael gafael ar gynnyrch sydd wedi’i dyfu’n lleol ac yn foesegol.

Grymuso Plant a Theuluoedd drwy’r Cookalong Clwb Read More »

A group of school children holding up badges

Meithrin sgiliau byw gyda’r Awr Fwyd

“Mae’r Awr Fwyd wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn yr ysgol. Fel arfer, rydyn ni’n gorfod llusgo rhieni i mewn i ymuno â’n cyrsiau… ond roedd y cwrs hwn yn llawn o fewn awr, ac roedd pawb yn bresennol! Roedd y plant a’r athrawon wrth eu bodd yn cymryd rhan.”
— Claire Crockford, Dirprwy Bennaeth, Ysgol Gynradd Trelái

Cyflwyniad

Mae’r prosiect Yr Awr Fwyd, sy’n cael ei ariannu drwy Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, yn fenter addysgol ymarferol a gynlluniwyd i feithrin sgiliau bwyd gydol oes a chynyddu hyder bwyd ymhlith plant a theuluoedd. Mae’r prosiect wedi’i gynllunio yn unol â chwricwlwm newydd Cymru, ac mae’n integreiddio coginio, tyfu, maeth a chynaliadwyedd i ddysgu bob dydd, gan feithrin cenhedlaeth newydd o ddinasyddion bwyd sy’n wybodus ac yn hyderus.

Mae’r Awr Fwyd yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen Bwyd a Hwyl a gydnabyddir yn genedlaethol, a dyma’r dull arloesi diweddaraf a gyflwynir mewn cydweithrediad â Synnwyr Bwyd Cymru, Gwasanaethau Maeth a Deieteg Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a’r tîm addysgu arlwyo yng Nghyngor Caerdydd, sy’n bodoli diolch i dîm Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru.


Cefndir: Adeiladu ar Lwyddiant

Dechreuodd y cynllun peilot Bwyd a Hwyl yn 2015 i ymateb i bryderon ynghylch ansicrwydd bwyd a phlant yn llwgu yn ystod y gwyliau. Cafodd y cynllun peilot ei ddylunio i ddarparu prydau maethlon, gweithgarwch corfforol ac addysg bwyd yn ystod gwyliau’r ysgol, a bu’n llwyddiant mawr. Ers hynny, mae wedi cael ei fabwysiadu fel rhaglen genedlaethol ledled Cymru.

Wedi’i ysbrydoli gan y model hwnnw, datblygwyd Yr Awr Fwyd i wreiddio addysg bwyd ym mywyd yr ysgol, gan roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r brwdfrydedd i blant ymgysylltu â bwyd mewn ffyrdd iach a chynaliadwy. Hefyd, ceisiodd menter Yr Awr Fwyd annog mwy o fyfyrwyr i fanteisio ar raglen Prydau Ysgol am Ddim Cymru.


Dull Yr Awr Fwyd

Mae’r Awr Fwyd yn rhaglen ddyddiol sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm ac yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion cynradd. Mae’n canolbwyntio ar bedair thema graidd:

  1. Addysg Maeth
  2. Coginio Ymarferol
  3. Tyfu Bwyd
  4. Cynaliadwyedd

Drwy’r themâu hyn, bydd y disgyblion yn archwilio o ble daw eu bwyd, sut i’w baratoi, a sut i wneud dewisiadau gwybodus, er lles eu hiechyd a’r blaned. Mae’r sesiynau’n canolbwyntio ar ddysgu ymarferol mewn bywyd go iawn, gan gynnwys:

  • Sgiliau coginio a chyllidebu
  • Ymwybyddiaeth o fwyd tymhorol a lleol
  • Tyfu ffrwythau a llysiauGrowing fruit and vegetables
  • Systemau bwyd cynaliadwy

Er mwyn cael i’r gymuned gyfan ymgysylltu, mae’r prosiect hefyd yn cynnwys:

  • Hyfforddi staff mewn timau arlwyo ac ysgolion
  • Sesiynau ymgysylltu â theuluoedd, fel digwyddiadau “coginio a chreu”
  • Ryseitiau a chyfleoedd hyfforddi i rieni feithrin cysylltiad rhwng bwyd yn yr ysgol a’r cartref

Effaith a Chanlyniadau Cynnar

Mae’r cyfnod peilot wedi cyrraedd 210 o ddisgyblion Blwyddyn 5 mewn chwe ysgol gynradd, ac mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol dros ben gan athrawon, disgyblion a theuluoedd. Mae cynnydd hefyd yn y nifer sy’n manteisio ar brydau ysgol am ddim oherwydd eu bod yn cymryd rhan yn Yr Awr Fwyd.

Uchafbwyntiau’r Adborth:

  • 97.5% o ddisgyblion wedi mwynhau sesiynau’r Awr Fwyd
  • 90% wedi dysgu rhywbeth newydd
  • 100% wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau bwyta’n iach
  • 94% wedi mwynhau’r ryseitiau roedden nhw wedi’u coginio
  • 95% yn dweud eu bod wedi dysgu am gynaliadwyedd

“Profiad gwych i rieni ddod at ei gilydd! Roedd hyd yn oed fy mhlentyn, sy’n ffyslyd iawn gyda’i fwyd, wedi mwynhau’r profiad – er nad oedd wedi bwyta’r bwyd.”
— Rhiant mewn sesiwn Coginio a Chreu

“Roeddwn i’n nerfus am sut y byddai fy nisgyblion Blwyddyn 5 yn ymddwyn, ond roedden nhw i gyd wrth eu bodd ac yn dangos diddordeb mawr. Fe wnes i fwynhau fy hun yn fawr hefyd!”
— Year 5 Teacher, Hywel Dda Primary School

Gwerthusiad


Yr Heriau a’r Hyn a Ddysgwyd

Fel llawer o brosiectau peilot mewn ysgolion, roedd amseru’r cyfan yn her allweddol. Dechreuodd y prosiect ennill momentwm wrth i dymor yr haf ddod i ben, felly roedd angen i’r tîm yn ymgynghori, datblygu a chyflawni pethau ar yr un pryd.

Er gwaethaf hyn, dangosodd y cynllun peilot botensial y cysyniad a chreu set gadarn o adnoddau sy’n barod i gael eu cyflwyno neu eu defnyddio’n ddiweddarach os nad oes cyllid ar gael ar unwaith.

Chwaraeodd Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol ran allweddol yn y gwaith o wneud y cynllun peilot hwn yn bosibl, gan ddarparu’r cyllid a’r capasiti sydd eu hangen i ddod â’r cysyniad yn fyw mewn lleoliadau yn y byd go iawn.


Edrych i’r Dyfodol: O’r Cynllun Peilot i’r Rhaglen

Yn dilyn llwybr Bwyd a Hwyl, mae partneriaid yn gobeithio gweld Yr Awr Fwyd yn esblygu i fod yn rhaglen genedlaethol, a fydd yn cael ei chyflwyno’n ehangach ar draws ysgolion cynradd yng Nghymru.

Mae trafodaethau eisoes ar y gweill ynghylch:

  • Addasu cynnwys ar gyfer grwpiau oedran cynradd iau a hŷn
  • Cynyddu’r ddarpariaeth mewn mwy o ysgolion a rhanbarthau
  • Gwerthuso’r effaith ar y nifer sy’n manteisio ar Brydau Ysgol am Ddim a newid mewn ymddygiad yn y tymor hir

Er y bydd cyllid parhaus yn hanfodol ar gyfer y cam nesaf hwn, mae’r adnoddau, y partneriaethau a’r brwdfrydedd eisoes ar waith i fwrw ymlaen â’r Awr Fwyd.


Casgliad

Mae prosiect Yr Awr Fwyd yn fwy na chyfres o weithgareddau ar gyfer ysgolion, mae hefyd yn sylfaen ar gyfer newid hirdymor. Drwy arfogi plant â’r sgiliau i goginio, tyfu a meddwl yn feirniadol am fwyd, mae’n gosod y sylfeini ar gyfer cenhedlaeth iachach deall bwyd yn well.

Gyda chefnogaeth y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol, mae’r prosiect hwn yn dangos sut gall addysg, iechyd a’r economi sylfaenol ddod at ei gilydd i greu Cymru gryfach a mwy cydnerth — un Awr Fwyd ar y tro.

Meithrin sgiliau byw gyda’r Awr Fwyd Read More »

Scroll to Top