Teitl y Swydd: | Swyddog Adnoddau Dynol (AD) a Gweinyddol |
Cyflog: | £24,000 y flwyddyn pro rata |
Hyd y Swydd: | Cyfnod penodol o 6 mis (gyda’r posibilrwydd o estyniad) |
Oriau gwaith: | 15 awr yr wythnos / gweithio’n hyblyg |
Dyddiad cychwyn: | Ebrill 2022 |
Lleoliad: | Hyblyg (Gweithio o’r cartref/ ar brydiau yn swyddfa Caerdydd ar gyfer cyfarfodydd tîm |
Rheolwr Llinell: | Swyddog y Rhaglen |
Mae Cynnal Cymru ynghanol cyfnod cyffrous ac yn ehangu’n tîm, yn benodol er mwyn lledaenu neges y Cyflog Byw go iawn yng Nghymru. Yr ydym yn chwilio am weinyddwr profiadaol i hyrwyddo proses achredu’r Cyflog Byw, ac i gefnogi materion AD.
Mae Cynnal Cymru yn sefydliad dwyieithog, felly mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â Saesneg, yn ddymunol.
Bydd y Swyddog Gweinyddol yn gweithio o dan arweiniad ac oruchwyliaeth y Swyddog Rhaglen Cyflog Byw newydd a’r Cyfarwyddwr. Yr ydym yn chwilio am ymgeisydd sy’n meddu ar sgiliau trefniadol, ysgrifenedig a llythrennedd digidol ardderchog, sydd yn gallu dysgu prosesau newydd a bod yn flaengar a sydd â phrofiad o gefnogaeth AD.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Mawrth 14, a chynhelir cyfweliadau ym mis Mawrth.
Gwybodaeth am Cynnal Cymru – Sustain Wales
Mae Cynnal Cymru- Sustain Wales yn fudiad dielw sy’n darparu cyngor, hyfforddiant a chysylltiadau a fydd yn helpu sefydliadau droi eu hamcanion cynaliadwyedd yn weithredoedd.
Ni yw partner swyddogol y Prosiect Llythrennedd Carbon yng Nghymru, a phartner achrededig y Living Wage Foundation yng Nghymru. Mae ein tîm o arbenigwyr cynaliadwyedd yn gweithio i gefnogi sefydliadau ar draws tri maes rhaglen craidd: (i) yr economi carbon isel, (ii) yr amgylchedd naturiol a (iii) cymdeithas deg a chyfiawn.
Y Cyflog Byw
Mae’r Cyflog Byw Go Iawn yn gyfradd yr awr sy’n cael ei gyfrifo’n annibynnol yn unol â chostau byw, ac yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol ym mis Tachwedd yn ystod Wythnos Cyflog Byw, sef dathliad blynyddol rhwydwaith sy’n tyfu, a sy’n cynnwys bron 9,000 o Gyflogwyr Cyflog Byw yn y DU.
Mae’r Living Wage Foundation a’i bartneriaid yng Nghymru ac yn yr Alban yn dathlu cyflogwyr sy’n dewis, o’u gwirfodd, talu’r Cyflog Byw Go Iawn drwy gynllun achredu sy’n cydnabod ymrwymiad hirdymor at dalu cyflog teg, a sydd wedi sicrhau codiad cyflog i dros 300,000 o weithwyr cyflog isel.
Mae’r nifer o sefydliadau Cyflog Byw ledled Cymru yn tyfu, ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod rȏl y Cyflog Byw go iawn fel rhan o’r ymgais i sicrhau bob pawb yng Nghymru yn derbyn gwaith teg. Yn 2021, lansiwyd gwefan Cyflog Byw i Gymru.
Sut mae gwneud cais
Anfonwch eich cais i jobs@cynnalcymru.com erbyn 5 pm ddydd Llun 14 Mawrth gan gynnwys eich:
• Ebost eglurhaol
• Ffurflen gais
• Ffurflen cyfleoedd cyfartal
Nodwch, os gwelwch yn dda, nad ydym yn derbyn CVau. Dim asiantaethau o gwbl.