Rydym yn Recriwtio – Cynghorwr Cynaliadwyedd

Ai chi yw ein Cynghorwr Cynaliadwyedd nesaf?

Ydych chi’n frwd dros gynaliadwyedd a chreu effaith go iawn? Ymunwch â’n tîm fel Cynghorwr Cynaliadwyedd a helpu i sbarduno newid drwy gyngor arbenigol a hyfforddiant diddorol.

Yn y swydd hon, byddwch yn cefnogi ein Pennaeth Hyfforddiant a Chynghori i ddatblygu ac i ddarparu cynnyrch hyfforddi a chynghori a gwasanaethau cynaliadwyedd yr elusen. Bydd hyn yn golygu:

  • Darparu a datblygu gwasanaethau a chynnyrch hyfforddi a chynghori mewn cyd-destun dwyieithog (70%)
  • Datblygu busnes a chynnyrch, gan gynnwys cymorth gyda gwerthuso, allgymorth a marchnata (20%)
  • Cyfrannu at Cynnal Cymru a’r tîm ehangach (10%)

Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu unigolion a sefydliadau i elwa o’n harbenigedd—ar yr un pryd â chynyddu ein cyrhaeddiad, ein hincwm a’n heffaith fel elusen flaengar.

Rydym ni’n elusen fywiog a blaengar ac rydym ni mewn cyfnod pwysig yn ein datblygiad. Os yw ein cenhadaeth yn taro tant a’ch bod chi’n rhannu’r un nodau â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Teitl y Swydd:Cynghorwr Cynaliadwyedd
Diweddarwyd Ddiwethaf27.07.26
Cyflog:Band 3 (26/27) – £30,901-36,050 pro rata. (Rydym yn gobeithio penodi ar £30,901-32,188)
Hyd:12 mis i ddechrau, gyda chyfnod prawf o 3 mis, adolygiad ar ôl 6 mis, a’r posibilrwydd o’i gwneud yn barhaol.
Oriau:30- 37.5 awr yr wythnos (4-5diwrnod) / gweithio’n hyblyg
Lleoliad:Hybrid – Swyddfa Caerdydd / gartref a safleoedd cleientiaid. Disgwylir y bydd o leiaf 25% o’r wythnos (1 diwrnod) yn digwydd yn y swyddfa yn ystod diwrnodau craidd.

Gair am Cynnal Cymru

Yr ydym yn elusen datblygu cynaliadwy flaenllaw a leolir yng Nghaerdydd, yn gweithio ar draws Cymru a’r DU. Ers 2002 yr ydym wedi bod yn cefnogi sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i droi eu hamcanion cynaliadwyedd yn weithredoedd.

Drwy ddarparu cyngor, hyfforddiant ac hyrwyddo cysylltiadau, mae ein tîm o arbenigwyr cynaliadwyedd yn gweithio i gyflymu’r cynnydd tuag at economi carbon isel, amgylchedd naturiol ffynnianus a chymdeithas deg.

Ni yw partner swyddogol y Carbon Literacy Project yng Nghymru, sylfaenydd hyfforddiant llythrennedd eco Nabod Natur a phartner achrededig y Cyflog Byw go iawn yng Nghymru.


Gwneud Cais

Llenwch eich Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth erbyn 9:00am ddydd Llun 28 Medi 2026 .

Sylwch nad ydym yn derbyn CVs.

Cyfweliadau

Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal ddydd Iau 8 Hydref yng Nghaerdydd er mwyn rhoi cyfle i ymgeiswyr ymweld â’n swyddfa.

Scroll to Top