Bwydydd Castell Howell
Sut gall y gadwyn gyflenwi gydweithio i sbarduno newid sy’n gadael gwaddol cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
Fel cwmni bwyd cynhenid o Gymru, mae Castell Howell wrth galon yr economi sylfaenol hon.
Mae’n gwasanaethu darparwyr gwasanaethau lletygarwch a bwyd y sector preifat a chyhoeddus yng Nghymru a’r tu hwnt, ac mae’n cydnabod ei gyfrifoldeb i fod yn gyfrwng i newid pethau, gan weithio tuag at nodau’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.
‘I wneud y gorau o system fwyd Cymru mae angen canolbwyntio ar hyrwyddo dulliau cynhyrchu yn nes at gartref er mwyn cael mwy o werth cymdeithasol a chynnwys maethol. Mae hyn yn golygu cysoni bwydlenni â chynaeafu tymhorol, gwella data am y cynnyrch a chadwyni cyflenwi, ac ymestyn oes silff cynnyrch. Bydd ymdrechion cydweithredol yn meithrin system fwy gwydn sy’n grymuso ein ffermwyr, yn darparu prydau maethlon i’r sector cyhoeddus, ac yn lleihau risg. Er bod heriau o ran cost ac effeithlonrwydd, gall dull pragmataidd sy’n canolbwyntio ar amcanion hirdymor arwain at fanteision sylweddol. Rhaid cael arferion caffael tryloyw sy’n blaenoriaethu nid yn unig y pwynt pris, ond hefyd gwerth cymdeithasol, effaith amgylcheddol, ac ymgysylltu â’r gymuned.’ – Edward Morgan – Rheolwr Hyfforddiant a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol y Grŵp, Bwydydd Castell Howell
Mae’r astudiaeth achos hon yn tynnu sylw at bedwar prosiect annibynnol ond cysylltiedig sy’n dangos sut gall y gadwyn gyflenwi gydweithio i sbarduno newid sy’n gadael gwaddol cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn yr economi sylfaenol a’r tu hwnt.
1. Llysiau sy’n cael eu Tyfu’n Lleol i Fwyd a Hwyl Caerdydd – ‘Y Peilot Courgettes’
Yn ystod haf 2022, bu Castell Howell yn cydweithio â thyfwyr Blas Gwent, Synnwyr Bwyd Cymru a Chyngor Caerdydd i ddarparu llysiau lleol i raglen Bwyd a Hwyl yr Haf a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan CLlLC.
Cafodd courgettes a dyfwyd ger Caerdydd eu danfon i 22 o ysgolion lleol, a bu’r cogydd datblygu yn Castell Howell yn gweithio gyda thîm maeth y Cyngor i greu prydau a oedd yn gytbwys o ran maeth, yn flasus ac yn ddeniadol i’r plant. Roedd rhaglen yr haf yn cynnwys gweithgareddau fel arddangosiadau coginio a chelf llysiau.

Cyhoeddwyd adroddiad gan Synnwyr Bwyd Cymru, yn tynnu sylw at ba mor effeithiol fu’r cynllun peilot a sut mae cynnwys llysiau lleol mewn prydau ysgol yn gallu lleihau effeithiau amgylcheddol a bod o fudd i’r tyfwr ac i’r plant fel ei gilydd.
Llun o Adroddiad Synnwyr Bwyd Cymru – Cynllun Peilot Courgettes
Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am Synnwyr Bwyd Cymru: Yn cyd-greu system fwyd i Gymru sydd o les i bobl ac i’r blaned – synnwyrbwydcymru.org.uk
Y Prosiect Courgettes – Cam 2
Cafodd Cam 2 ei ymestyn y tu hwnt i Gyngor Caerdydd, sef i Sir Fynwy a Sir Gaerfyrddin, ac roedd yn cynnwys tri chwmni sy’n tyfu llysiau ar raddfa fach: Blas Gwent (Gwynllŵg), Langtons Farm (Crucywel), a Bonvilston Edge (Tresimwn). Defnyddiwyd eu llysiau ar gyfer prosiect Bwyd a Hwyl yr Haf gan y tri awdurdod lleol, gyda phrosiect tymor hir yn Sir Fynwy yn ymestyn i’w bwydlenni ar gyfer yr hydref a’r gaeaf. Er mwyn gofalu am ddiogelwch bwyd, darparwyd hyfforddiant ar ddiogelwch a phrosesau gan Tyfu Cymru/Cyswllt Ffermio.
Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
Roedd rhaid cysoni’r holl ragolygon, bwydlenni a chynaeafu, a chaniatáu hyblygrwydd ar gyfer amrywiadau tymhorol. Cafodd Authentic Foods (Hirwaun) gontract i dyfu llysiau i’w cynaeafu, eu paratoi, ac, ar ôl rhaglen o waith datblygu cynnyrch newydd, cawsant eu cynnwys mewn prydau aml-ddogn wedi’u paratoi yn y gegin i’r sector cyhoeddus. Er mwyn i’r prosiect lwyddo, roedd rhaid cael sgyrsiau gyda thimau arlwyo awdurdodau lleol ar faterion cydymffurfio maeth, pa mor dderbyniol, pa mor flasus, beth yw eu pris ac pha mor ymarferol yw defnyddio ceginau ysgol, ac ym mis Mai 2023 cyfarfu’r partneriaid yn Fferm Langtons, lle ymrwymwyd i blannu 1,000 o flodfresych i’w cynaeafu ddechrau 2024, i’w defnyddio mewn prydau aml-ddogn sy’n addas i ysgolion o fis Mawrth 2024 ymlaen.
O ddiddordeb arbennig roedd canlyniadau labordy ar y microfaethynnau ar gyfer y prydau a ddatblygwyd yn Authentic. Ac eithrio’r saws Pizza Tomatos Cymreig safonol, mae’r canlyniadau’n ymddangos yn unol â’r disgwyliadau. Arbennig o dda oedd weld y sbigoglys ac ysgallddail a dyfir yng Nghymru yn cael eu hychwanegu, gan roi hwb i faint o haearn a sinc sydd yn y pryd Blodfresych a Chaws. Nid yw’n glir beth fyddai maint y ddogn y byddai plentyn ysgol gynradd yn ei fwyta, ond y gobaith yw y byddai’r 20% a ychwanegir yn fwy na’r 3g o ficrofaethynnau sy’n waelodlin gyffredinol.
Mae Bolognaise Cig Eidion Cymru (gyda’r sail sbigoglys/ysgallddail ychwanegol) i’w weld yn perfformio’n dda hefyd.
Ar yr amod bod y plant yn fodlon gyda phryd o flodfresych â chaws sydd ag 20% yn ychwanegol (ddim yn edrych yn rhy wyrdd ac ati), gallai hyn fod yn newyddion gwych i’n carfan o dyfwyr, gan ein helpu i leihau’r hyn y gellir ei dyfu’n dda a phroffidiol yng Nghymru ar gyfer cwsmer targed h.y. ysgolion.
Topin Pizza Tomatos Cymreig | Gyda 10% o sbigoglys | Gyda 20% o sbigoglys | Gyda 10% o ysgall-ddail | Saws Tomato a Basil Knorr | Maggi (Nestle) Rich & Rustic | Tun Tomatos wedi’u torri/ Tomatos Eirin | Cig Eidion Cymreig a Bolognese Cymreig | Blodfresych â Chaws Cymreig | Gyda 10% o ddail cymysg | Gyda 20% o ddail cymysg | Gyda 10% o sbigog-lys | ||
Egni | KJ/100g | 168 | 155 | 161 | 150 | 213 | 257 | 80 | 354 | 359 | 337 | 329 | 337 |
Protein | g/100g | 1.8 | 1.8 | 2.1 | 1.8 | 1.2 | 1.4 | 1.1 | 5.5 | 3.4 | 3.5 | 3.5 | 3.4 |
Braster | g/100g | 0.3 | 0.2 | 0.3 | 0.3 | 1.1 | 2.8 | 0.1 | 4.6 | 5.3 | 4.9 | 4.5 | 4.8 |
Siwgrau | g/100g | 5.2 | 4.5 | 4.4 | 4 | 6.9 | 5.7 | 3.8 | 2.7 | 2.7 | 2.4 | 2.3 | 2.3 |
Ffeibr | g/100g | 2.6 | 2.5 | 2.4 | 2.7 | 0.7 | 1.1 | 0.8 | 2.8 | 1.6 | 2 | 2.33 | 1.7 |
Sodiwm | mg/100g | 204 | 202 | 183 | 169 | Amh. | Amh. | Amh. | 292 | 220 | 213 | 231 | 198 |
Sinc | mg/100g | <2.00 | 2.23 | 3.37 | 3.78 | Amh. | Amh. | Amh. | 11.6 | 5.56 | 8.65 | 11.3 | 5.62 |
Haearn | mg/100g | 7.17 | 5.41 | 6.22 | 6.13 | Amh. | Amh. | Amh. | 7.84 | 1.81 | 3.54 | 5.53 | 2.74 |
Llysiau wedi’u tyfu ym Mhenrhyn Gŵyr, O’r Pridd i’r Plât
Ar y cyd ag Awdurdod Lleol Abertawe, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt a 4theregion, datblygodd Castell Howell gadwyn gyflenwi leol beilot ar gyfer llysiau a dyfir ym Mhenrhyn Gŵyr i ymddangos ar y fwydlen yn ysgol Llandeilo Ferwallt. Cynhaliodd yr ysgol bythefnos o weithgareddau bwyd mewn gwersi, ymwelodd yr ysgol â’r tyfwyr, a helpu i ddatblygu prydau bwyd i ymddangos ar fwydlen ysgol gyda ‘Llysiau wedi’u tyfu ym Mhenrhyn Gŵyr’.
Helpodd y prosiect hwn i godi ymwybyddiaeth o faeth, yr effaith ar yr amgylchedd, tegwch ariannol ar draws y gadwyn gyflenwi a gwytnwch bwyd lleol.
Gwyliwch y fideo O Gaeau Gwyr i Blatiau Lleol – Diwrnod Blasu
3. Cadwyni cyflenwi cynaliadwy, a ‘Chwmpas 3’ ar fwydlenni
Mae cyswllt anorfod rhwng milltiroedd bwyd ac allyriadau cadwyn gyflenwi Cwmpas 3. Drwy weithio gyda darparwyr lletygarwch i benderfynu ar opsiynau bwydlenni, ac yna gyda chyflenwyr, gellir lleihau cyfanswm yr effaith y mae cynnyrch yn ei chael ar yr amgylchedd.
Dangoswyd enghraifft o’r economi gylchol ar waith drwy’r cydweithio sy’n digwydd rhwng Celtic Pride, cyflenwr cig eidion Cymreig premiwm Castell Howell sy’n cael ei redeg gan deulu Rees o Fferm Bryn, ym Mhendeulwyn, Bro Morgannwg, ac NFU Energy. Cafodd Fferm Bryn fiosolidau gan Dŵr Cymru, sef sgil-gynnyrch sy’n ffynhonnell doreithiog o faethynnau ac sydd wedi galluogi’r fferm i leihau’r angen am wrteithiau synthetig, sef un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r sector amaethyddol.
Cyfleu’r Manteision Cadarnhaol i Randdeiliaid
Mae Castell Howell yn defnyddio negeseuon cadarnhaol ar fwydlenni, ynghyd â rhagor o wybodaeth y gellir cael gafael arni drwy godau QR, i ddweud wrth randdeiliaid beth yw’r manteision amgylcheddol a chymdeithasol a ddaw drwy gael cadwyn gyflenwi gynaliadwy.
Bwydlen o Darddiad Cynaliadwy ar gyfer Cynhadledd Ffermio
Ar y cyd ag Arlwyo Caerdydd, datblygodd Castell Howell fwydlen o ffynonellau cynaliadwy ar gyfer gwledd Cynhadledd Nuffield 2022. Mabwysiadwyd amrywiaeth o amcanion amgylcheddol gan y cyflenwyr allweddol, gan gynnwys Archwiliad Carbon Fferm gyda’r ffermwr cig eidion, tatws sero net, llysiau wedi’u tyfu ym Mhenrhyn Gŵyr a chaws o ffermydd atgynhyrchiol. Mae’r ffilm hon yn dangos sut cafodd y fwydlen ei chreu gyda chynaliadwyedd yn ganolog iddi, ac mae’n dangos taith cynaliadwyedd y cynhyrchwyr bwyd, yn ogystal â thynnu sylw at sut cafodd hyn ei gyfleu i’r rhai sy’n bwyta’r bwyd.
4. Prosiect Treuliadwyedd a Dwysedd Maethynnau
Mae mwy a mwy yn derbyn y ffaith fod bwydydd sydd wedi’u prosesu’n helaeth yn achosi risgiau i iechyd. Bu Castell Howell yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth ar brosiect a arianwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu prydau parod ar gyfer GIG Cymru sy’n dangos nad oes angen i nodau maeth, amgylcheddol, cymdeithasol a masnachol fod ar wahân.
Cafwyd y canlyniadau gydag amrywiaeth o brydau aml-ddogn yn dilyn gwaith datblygu cynnyrch newydd ac arloesol, a oedd yn cynnwys mesur gwir ansawdd maethol y prydau newydd, drwy ddadansoddi cyfansoddiad asidau amino a sgoriau treulio protein gastroberfeddol in-vitro. Llwyddwyd i roi protein yn deillio o godlysiau a dyfwyd yn y DU yn lle cig coch, gan sicrhau bod y prydau’n dal i fodloni’r safonau maeth gofynnol.
Canfu’r prosiect mai’r rhai mwyaf ymarferol o ran bodloni’r gofynion oedd amrywiaeth o brydau hyblyg neu “hybrid”, yn seiliedig ar brydau sydd wedi’u hen sefydlu ac sy’n cael eu cydnabod ond sy’n cynnwys protein o blanhigion yn lle cig os oes modd. Pan ddefnyddiwyd cig, cig eidion Cymreig wedi’i bori ar borfa oedd hwn yn bennaf, ac roedd hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth ‘Ffordd Gymreig’ Hybu Cig Cymru o brotein is o ran carbon sy’n dod o dda byw Cymru. Fodd bynnag, roedd y cynnydd ym mhris cig ers dechrau’r prosiect yn tanlinellu’r agweddau masnachol pwysig ar fwydydd “hybrid” sy’n cynnwys elfen o gig Cymru ochr yn ochr â chodlysiau a dyfir yn y DU.
——————————————————————————————————
Ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd y prosiectau yma, o ran datblygu’r gadwyn gyflenwi, datblygu cynnyrch a darparu mwy o gynnyrch Cymreig i ysgolion Cymru. – Edward Morgan, Rheolwr Hyfforddiant a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol y Grŵp, Bwydydd Castell Howell
Rydym ni yn Cynnal Cymru yn edrych ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt y gwaith hwn.