Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Galluogi system fwyd sy’n barod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Efallai fod y cysylltiad rhwng bwyd iach a gwellhad cleifion yn ymddangos yn un amlwg, ond yn 2023 aeth staff Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (Felindre) ati i archwilio’r berthynas hon yn fanylach – ac i gael y manteision mwyaf y gall system fwyd iach eu cynnig i gleifion, staff ysbytai a’r tu hwnt. Mae Chris Moreton, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Felindre, yn esbonio mwy.
Yr Her:
Mae’r system fwyd bresennol yng Nghymru yn wynebu nifer o heriau sy’n effeithio ar bawb. Mae’r rhain yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, colli natur, economi wledig sy’n dirywio, a diogelwch bwyd.
Ar hyn o bryd, mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn gyfrifol am oddeutu 14% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru, ac mae’r symudiad tuag at brosesau ffermio mwy dwys, er mwyn diwallu’r newid yn y deiet a’r galw gan ddefnyddwyr, yn gwneud y tir yn llai ffrwythlon, yn cyfrannu at effeithiau negyddol ar yr aer a’r dyfrffyrdd cyfagos ac mae’n un o’r prif ffactorau sy’n sbarduno colli bioamrywiaeth.
Mae blynyddoedd o ddwysáu mewn amaethyddiaeth wedi gadael cymunedau gwledig yn dlotach ac yn llai sefydlog, ac wedi cael effaith negyddol ar lesiant cymunedau ffermio. Hefyd, mae gorddibyniaeth ar system fwyd fyd-eang sy’n fwyfwy bregus wedi cyfrannu at gynnydd mewn prisiau bwyd, at dlodi bwyd ac at anghydraddoldeb.
Mae hyn yn ei dro yn cael sgil-effeithiau ar y GIG, ond mae Cymru hefyd yn gweld cynnydd mewn clefydau sy’n gysylltiedig â deiet, sy’n cael ei waethygu gan brinder cynnyrch fforddiadwy, hygyrch a ffres sy’n cael ei fwyta yn y cartref a’r gweithle. Mae’r clefydau hyn yn cynnwys diabetes Math II, canserau, clefydau cardiaidd a fasgwlaidd, strôc, a phroblemau gyda’r cymalau.
Y Cyfle:
Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario £97 miliwn ar fwyd ar gyfer ysgolion, ysbytai a gofal cymdeithasol, gyda chyllideb fwyd flynyddol Felindre yn unig yn werth tua £222 miliwn.
Mae Chris yn credu bod gan y GIG yng Nghymru gyfle i arwain y gwaith o hyrwyddo dulliau sy’n gyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol o gael bwyd ar gyfer y sector cyhoeddus. Drwy gyflenwi bwyd lleol, o ansawdd da ac wedi’i gynhyrchu mewn modd cynaliadwy, gall wella iechyd a llesiant cleifion, staff a’u teuluoedd, yn ogystal â lleihau niwed ecolegol a helpu sector bwyd Cymru i fod yn decach ac yn fwy cydnerth.
Mae’r genhadaeth hon yn cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, menter ‘Prynu Bwyd Addas ar gyfer y Dyfodol’ Llywodraeth Cymru, dyletswydd Felindre i weithredu Caffael Cyhoeddus sy’n Gyfrifol yn Gymdeithasol, ac mae’n cyfrannu at yr uchelgais o gyrraedd Sero Net erbyn 2030.
Mae’r dyheadau hyn yn atgyfnerthu ei gilydd, ac maent wedi’u cynnwys yn amcanion y prosiect:
- Drwy gael gafael ar fwy o fwyd iach a fforddiadwy gellir cael canlyniadau gwell i iechyd.
- Bydd y gadwyn cyflenwi bwyd yn fyrrach, yn fwy cydnerth, a bydd yn cael cyn lleied o effaith amgylcheddol â phosibl ar yr un pryd â darparu gwerth am arian.
- Bydd gan yr Ymddiriedolaeth fwy o fannau lle gall pobl ddysgu am fwyd a mwynhau bwyd.
- Bydd llai o wastraff bwyd a bydd yr ôl troed ecolegol yn llai.
- Bydd partneriaethau’n arwain at ddatblygu economïau a chymunedau bwyd lleol bywiog.
Nod Felindre yw gwneud bwyd yn flaenoriaeth llesiant i’w gleifion a’i staff drwy gynyddu mynediad at opsiynau bwyd iach am bris rhesymol yn y gwaith a’r tu hwnt. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno “Dydd Mercher Llesiant” a chynllun blwch llysiau – a fu’n llwyddiannus yn ystod y pandemig – i hyrwyddo arferion bwyta iach.
Caiff y gwaith o ailddylunio bwydlenni ei werthuso, gan ddechrau gyda’r bwyty yng Nghanolfan Ganser Felindre, i edrych ar gyfleoedd i integreiddio cynhwysion tymhorol ac organig, gan ddefnyddio dulliau fel llai o gig a defnyddio prosiectau heb frand i helpu i gynyddu cyllidebau.
Drwy weithio’n uniongyrchol gyda chyflenwyr, nod y prosiect yw sicrhau bod ffynonellau moesegol ac opsiynau masnach deg hefyd yn cael sylw pan nad oes cynnyrch o Gymru ar gael. Bydd sgiliau, hyfforddiant ac addysg yn elfen allweddol o’r prosiect o ran swyddi sy’n gysylltiedig â bwyd – ee cogyddion a chaffael – i ymgysylltu’n ehangach â’r staff er mwyn helpu’r staff i wneud penderfyniadau gwybodus am fwyd yn y gwaith ac yn eu bywydau’n ehangach.
Heblaw hynny, drwy ddarparu arweinyddiaeth amlwg drwy ei genhadaeth fwyd, mae Chris yn gobeithio y gall Felindre arwain drwy esiampl yn y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn helpu i sbarduno cydweithio a chysondeb rhanbarthol o ran cael gafael ar fwyd, annog cynhyrchu bwyd agroecolegol a chanfod cyfleoedd i arloesi.
Y camau nesaf:
Datblygwyd y prosiect gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu sectorau sylfaenol allweddol fel bwyd.
Mae nifer uchel o staff eisoes yn ymuno â’r prosiect, gyda gweithdai i’r staff yn dangos cefnogaeth unfrydol bron i’r genhadaeth fwyd. Mae hyn yn darparu adnodd allweddol ar gyfer negeseuon cyson am fanteision y newidiadau arfaethedig.
Fel yr eglura Chris, “Bydd negeseuon clir a chyson, a chydweithio â chyflenwyr, cynhyrchwyr a phartneriaid fel Uned Prosesu Canolog Cwm Taf Morgannwg, yn hanfodol i greu’r amodau sy’n galluogi pobl i ymrwymo i newid.”
Mae Cynllun Gweithredu wrthi’n cael ei ddatblygu i helpu i roi nodau’r prosiect ar waith a’u gwreiddio yng ngweithrediadau Felindre. Er bod rhai dangosyddion perfformiad yn bodoli a bod modd eu mesur yn hawdd, ee canrannau’r bwyd sy’n dod o gyflenwyr lleol, lleihau gwastraff bwyd, staff yn cael mynediad at flychau llysiau, a nifer y diwrnodau y mae cleifion yn ei gymryd i wella ar gyfartaledd, bydd angen datblygu rhai eraill, gan gynnwys Mesur Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion ar gyfer bwyd, a’r Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi ar gyfer yr economi fwyd leol.
Mae Chris yn credu bod y dull system gyfan hwn yn angenrheidiol i fynd i’r afael â’r heriau yn y system fwyd bresennol ac i ddangos yr holl amrywiaeth o fanteision y gellir eu darparu drwy ofal iechyd sy’n seiliedig ar werthoedd. Edrychwn ymlaen at roi mwy o wybodaeth wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.