Rhwydweithiau Gallu’r Economi Sylfaenol: Can Cook

Rhwydweithiau Gallu’r Economi Sylfaenol: Can Cook

Well Fed – MealLockers / Rhaglen Ddi-blastig a Sero Net 

 “Mae pob un ohonom eisiau cael system fwyd sy’n dymuno rhoi bwyd da i blant a phobl. Mae bwyd sydd heb gael ei brosesu’n helaeth yn ymwneud ag iechyd pobl. Rydym yn cyfateb i’r pris ac yn gwella’r ansawdd.” – Robbie Davison, Cyfarwyddwr Can Cook. 

Mae’r fenter gymdeithasol Can Cook yn mynd i’r afael â thlodi bwyd ac arferion bwyta sydd ddim yn iach yng Nghymru drwy ddarparu prydau ffres, maethlon, wedi’u coginio o’r dechrau, am brisiau fforddiadwy. Mae eu rhaglen “Well Fed” yn cynnwys mentrau fel blychau bwyd Coginio yn y Cartref, siopau symudol, a Phryd ar Glud.  

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, maent wedi canolbwyntio’n ddiweddar ar ddatblygu a gwella tair agwedd newydd ar gyflenwi, sef peiriannau gwerthu di-blastig (eatTAINABLE), ‘MealLockers’ a rhaglen lleihau allyriadau Sero Net sy’n integreiddio ynni solar. 

Yr Her 

Un o brif heriau iechyd cyhoeddus Cymru yw tlodi bwyd a chyfraddau gordewdra cynyddol ymhlith plant. Bydd 1 o bob 4 plentyn a aned yn 2022 yn ordew erbyn 5 oed yng Nghymru, ac ni all dros 50% o boblogaeth y DU fforddio basged o gynnyrch ffres. Mae bwydydd sydd wedi’u prosesu’n helaeth (UPF) yn gyffredin yn y fasged wythnosol arferol ac maent hefyd yn amlwg iawn mewn prydau ysgol.  

Mae Robbie yn egluro bod y prosiect wedi digwydd ar ôl canfod bod y rhan fwyaf o’r bwyd sy’n cael ei fwyta gan blant yn yr ysgol wedi cael ei brosesu’n helaeth, er ei fod yn bodloni safonau maeth. “Os yw bwydydd wedi’u prosesu’n helaeth yn helpu ysgolion i gyrraedd safonau maeth, rydym yn y lle anghywir” meddai. “Bwydo plant yn dda sydd bwysicaf i ni. Rydym yn edrych ar bopeth yn y gadwyn gyflenwi i gael gwared ar UPFs, ac i ddechrau y prif mater yn y byd coginio ar raddfa fawr yw’r stociau, y grefis a’r sawsiau.” 

Ar ôl canfod y prif gynhwysyn i’w newid yn eu prydau bwyd – sef stoc – aeth tîm Can Cook ati i ddatblygu dewis oedd heb gael ei brosesu’n helaeth. Yr ateb yw stoc wedi’i wneud o fadarch, o fferm leol, y gellir ei goginio ar raddfa fawr, sy’n aros o fewn y gyllideb, ac sydd â’r un blas a nodweddion â dewisiadau masnachol eraill.  

Dangosodd hyn i’r tîm ei bod yn bosibl dileu cynhwysion UPF. Mae’r holl brydau a ddarperir gan Can Cook bellach yn rhydd o fwydydd wedi’u prosesu’n helaeth, ac mae’r prosiect yn helpu pobl eraill i osgoi’r rhain yn eu deiet ehangach drwy ddysgu pobl sut i goginio o’r dechrau. 

Her arall i dîm Can Cook yw nad yw cymunedau ynysig yn aml yn gallu cael gafael ar fwyd ffres a maethlon. Gall dulliau arlwyo traddodiadol fod yn anymarferol i’r ardaloedd hyn.  

Mae ateb Can Cook yn cynnwys menter i ddosbarthu prydau ffres, iach wedi’u paratoi ymlaen llaw i gymunedau ynysig drwy MealLockers mewn mannau cyhoeddus. Maent hefyd yn datblygu dull gwerthu di-blastig sy’n dosbarthu prydau mewn cynwysyddion dur gwrthstaen i’w rhoi yn y popty meicrodon ac y gellir eu dychwelyd wedyn – sef dull sy’n targedu mannau gwaith ac yn gyfleus a hygyrch i gwsmeriaid, ac sydd ar yr un pryd yn lleihau gwastraff ac ynni wrth ailgynhesu.  

Er mwyn helpu i leihau eu hôl troed carbon eu hunain, mae Can Cook yn symud eu cegin gynhyrchu tuag at Sero Net drwy osod paneli solar erbyn mis Mehefin 2024 i ddibynnu 60% yn llai ar drydan anadnewyddadwy. 

Tua’r dyfodol: 

Mae Robbie yn nodi bod angen ymdrechion parhaus i ddod o hyd i gyflenwyr dibynadwy o gynhwysion di-UPH er mwyn gallu cynhyrchu ar raddfa fawr. Mae hefyd yn credu bod gan fodel MealLockers botensial enfawr i ehangu i ddarparu prydau iach yn effeithlon i fwy o leoliadau, gan gynnwys ysgolion, ysbytai ac ardaloedd gwledig, a gallai dulliau comisiynu’r sector cyhoeddus eu cefnogi. Mae’n egluro: 

“I wneud lles gwirioneddol i iechyd y cyhoedd, mae’n hanfodol bod dulliau comisiynu’r sector cyhoeddus yn symud tuag at hybu a gwarchod ansawdd a gwerth cymdeithasol. Credwn fod angen model bwyd cymdeithasol ar gyfer contractau’r sector cyhoeddus nawr, er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu bwyta’n dda, beth bynnag fo’u hincwm.” 

Mae tîm Can Cook yn credu bod potensial enfawr i fentrau fel y rhain wneud cyfraniad sylweddol at iechyd y cyhoedd yng Nghymru a’r tu hwnt. Rydym ni yn Cynnal Cymru yn edrych ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt y gwaith hwn. 

Robbie Davison – Cyfarwyddwr Can Cook 

Eat Well – Cook Easy - Can Cook

The Foundational Economy Challenge Fund supported innovative, experimental approaches to community wealth-building and resilient local economies.

Cefnogodd Cronfa Her Economi Sylfaenol dulliau arloesol ac arbrofol o adeiladu cyfoeth cymunedol ac economïau lleol cadarn.

related resources

Scroll to Top
Skip to content