Polisïau Cyflog Byw Cynnal Cymru ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026

1. Cyflog Byw yn Gyntaf: dylai sefydliadau sy’n derbyn arian cyhoeddus dalu Cyflog Byw
2. Cryfhau a diogelu’r Cyflog Byw ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol
3. Dylai pob corff cyhoeddus gael ei achredu fel Cyflogwr Cyflog Byw

Bu’r Cyflog Byw yn un o’r ymgyrchoedd dinesig mwyaf llwyddiannus a welwyd yn y DU.

Mewn llai na 15 mlynedd, mae dros 16,000 o gyflogwyr ledled y DU wedi cael eu hachredu’n Gyflogwyr Cyflog Byw – gyda thua 12% o’r gweithlu bellach yn gweithio i un ohonynt. Mae cannoedd o filoedd o bobl wedi derbyn codiad cyflog yn uniongyrchol ar adeg yr achrediad.

Yng Nghymru, mae gennym bellach dros 600 o Gyflogwyr Cyflog Byw, sy’n cwmpasu bron i 12% o’r gweithlu.

Mae’r twf hwn wedi parhau er gwaethaf yr heriau costau byw mewn blynyddoedd diweddar, gyda’r Cyflog Byw gwirioneddol wedi codi 41% ers 2020.

Dechreuodd Cynnal Cymru weithio gyda’r Living Wage Foundation yn 2016, fel partner achredu i Gymru. Rydym yn gweithio ar fodel ‘masnachfreinio’, sydd yn ei hanfod yn golygu cynnal Cyflog Byw Cymru yn fewnol. Rydym yn elusen cynaliadwyedd, sy’n gweithio er budd cenedlaethau’r dyfodol. Wythfed Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yw Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd, gyda Chyflog Byw yn elfen graidd o hyn, a nodau datblygu cynaliadwy eraill. Mae gweithio ar y Cyflog Byw felly’n cydweddu’n berffaith â’n hamcanion elusennol.

Yn y naw mlynedd y buom yn gweithio ar y Cyflog Byw, mae ein gwaith gyda’r Living Wage Foundation wedi arwain at 21,000 o bobl yn cael codiad cyflog yn uniongyrchol ar adeg achredu eu cyflogwr. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod yr effaith wirioneddol yn fwy na hyn hyd yn oed. Mae academyddion yn Ysgol Fusnes Caerdydd wedi nodi ‘Cyflog Byw cysgod’, gyda chyflog miloedd o weithwyr wedi’i gysylltu â’r Cyflog Byw heb achrediad. Mae hyn oherwydd cryfder y brand Cyflog Byw, a gwaith sefydliadau eraill fel yr undebau llafur yn galw am y Cyflog Byw fel isafswm mewn cytundebau bargeinio ar y cyd.

Rydym wedi gwneud cynnydd mawr ar y Cyflog Byw yng Nghymru. Mae ein rhwydwaith cyflogwyr yn tyfu, mae ein rhwydwaith o grwpiau llywio sy’n trefnu ar y Cyflog Byw ledled Cymru yn tyfu, ac mae nifer gynyddol o sefydliadau’n ymuno â’r ymgyrch.

Roeddem wrth ein boddau’n gynharach eleni i weld Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn i bob corff cyhoeddus yng Nghymru lunio cynllun i achredu fel Cyflogwr Cyflog Byw erbyn 2027.

Fodd bynnag, mae mwy i’w wneud o hyd.

Canfu adroddiad Llesiant Cymru blynyddol Llywodraeth Cymru eleni mai dim ond 67% o bobl yng Nghymru sy’n ennill mwy na’r Cyflog Byw. Mae hyn wedi cynyddu o 64% yn y flwyddyn flaenorol, ond byddwn ond yn sicrhau ein bod yn genedl sy’n darparu Cyflog Byw i bawb os ydym yn dyblu ein hymdrechion polisi cyhoeddus i gefnogi’r Cyflog Byw.

Credwn fod y cynigion a ganlyn yn rhai credadwy, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, y dylai pob plaid eu cynnwys yn eu maniffestos ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026, a byddent yn cynrychioli cam cryf ymlaen tuag at fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a thlodi mewn gwaith yng Nghymru.  

Polisïau Cyflog Byw Cynnal Cymru ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026

1. Cyflog Byw yn Gyntaf: dylai sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus dalu Cyflog Byw

Dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw sefydliad sector cyhoeddus sy’n derbyn grant yn arddangos ei fod yn talu o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol cyn y gall gael mynediad at y grant. Mae’r polisi hwn yn bodoli yn yr Alban, lle y mae eu polisi ‘Fair Work First’ yn ei gwneud yn ofynnol bod nifer o amodau Gwaith Teg yn cael eu bodloni cyn y gellir rhoi grant sector cyhoeddus, gan gynnwys tystiolaeth bod y Cyflog Byw gwirioneddol yn cael ei dalu.

Rydym yn cefnogi cyflwyno fersiwn o hyn yng Nghymru, gyda thair elfen na ellir eu negodi: bod Cyflog Byw gwirioneddol yn cael ei dalu, bod mynediad at undebau llafur yn cael ei ddarparu, a bod contractau gydag oriau gwaith gwarantedig yn cael eu darparu (gyda’r achrediad Oriau Byw yn darparu sail bosibl ar gyfer hyn).

Ni ddylai Llywodraeth Cymru fod yn darparu cymorth ariannol i sefydliadau nad ydynt yn talu Cyflog Byw – dylai etholiad y Senedd yn 2026 ddynodi diwedd yr arfer hwn. Rydym yn galw ar bob plaid i fabwysiadu’r polisi hwn yn benodol yn eu maniffestos.  

2. Cryfhau a gwarchod y Cyflog Byw ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Mae’r polisi o Gyflog Byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol wedi gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau nifer o weithwyr gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth glir bod craciau wedi dechrau ymddangos yn y polisi.

O dan y system bresennol, mae Llywodraeth Cymru’n trosglwyddo’r cyllid ar gyfer y Cyflog Byw gwirioneddol i awdurdodau lleol, y mae disgwyl iddynt wedyn ei drosglwyddo i ddarparwyr gofal, y mae disgwyl iddynt hwy wedyn ei drosglwyddo’n derfynol i’r gweithwyr gofal cymdeithasol eu hunain.

Rydym wedi gweld endidau gwahanol yn y gadwyn hon sy’n honni nad yw’r system yn gweithio fel y dylai. Mae ymchwil Llywodraeth Cymru ei hunan yn dangos mai dim ond 84% o weithwyr gofal sy’n derbyn Cyflog Byw. Er bod hyn yn llawer uwch na’r 44% a amcangyfrifwyd oedd yn derbyn Cyflog Byw cyn etholiad diwethaf y Senedd, mae gwaith i’w wneud o hyd i sicrhau bod pob gweithiwr gofal yn derbyn Cyflog Byw gwirioneddol fel isafswm. Mae gwaith gofal yn waith medrus, trwm ac mae pobl yn y sector yn haeddu cael Cyflog Byw fel yr isafswm cyflog

Rydym yn galw ar bob plaid i ymrwymo i warantu y bydd Llywodraeth Cymru a arweinir gan eu plaid yn sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn derbyn y Cyflog Byw gwirioneddol, gan ddefnyddio’r dull Cytundeb Cyflog Teg i sicrhau mai’r Cyflog Byw gwirioneddol yw isafswm y gyfradd gyflog ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dylid cefnogi hyn gyda chyllid digonol gan lywodraeth nesaf Cymru i wireddu’r polisi hwn, gyda’r cyllid wedi’i glustnodi os oes angen.  

3. Dylai pob corff cyhoeddus yng Nghymru fod yn Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig

Mae talu’r Cyflog Byw gwirioneddol yn uniongyrchol i’r holl staff cyflogedig yn ddechrau da, ond mae mwy i gyflogwyr ei wneud. Mae’n bosibl bod rhai cyflogwyr yn talu Cyflog Byw gwirioneddol yn uniongyrchol i’w staff cyflogedig, ond maent hefyd yn rhoi contractau allanol ar gyfer gwasanaethau glanhau a diogelwch, er enghraifft ar gyfer eu hadeiladau, i gwmnïau nad ydynt yn talu’r Cyflog Byw gwirioneddol. Mae hyn yn golygu bod man gwan lle y gall cyflogwyr osgoi talu’r Cyflog Byw i rai o’u staff sydd ar y cyflogau isaf. 

Er mwyn derbyn achrediad Cyflogwr Cyflog Byw, mae’n rhaid talu’r Cyflog Byw i’r holl aelodau hyn o staff, gan roi hyder bod pawb a ddylai dderbyn Cyflog Byw yn ei dderbyn.

Mae Mark Drakeford ac Eluned Morgan ill dau wedi ysgrifennu yn eu capasiti fel Prif Weinidog at yr holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gofyn iddynt ddod yn Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig, ac mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi argymell bod pob corff cyhoeddus yn dod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig erbyn 2027. 

Fodd bynnag, dim ond lleiafrif bach o gyrff cyhoeddus sydd wedi gwneud hyn. Rydym yn gofyn i bob plaid wleidyddol ddatgan yn eu maniffestos y bydd pob corff cyhoeddus (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol) yn cael ei fandadu i ddod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig. Gellir gwneud hyn drwy ddulliau fel llythyrau cylch gwaith, neu gyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol.   

Scroll to Top