Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc), ar Ynys Môn, yw parc gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf Cymru. Mae’n rhan o Brifysgol Bangor, ac fe agorodd ei ddrysau yn 2019 i feithrin arloesedd ac entrepreneuriaeth drwy gynnig gofod labordy a swyddfa, cymorth i fusnesau, a chysylltiadau â phrifysgolion a sefydliadau ymchwil.
Nod M-SParc yw darparu gwaddol parhaol o dwf economaidd cynaliadwy i Ogledd Cymru, gan helpu cymunedau lleol i elwa o’r technolegau a’r seilwaith carbon isel sy’n ymddangos o’u cwmpas. Mae diwylliant a daearyddiaeth yr ardal yn rhan annatod o’r ffordd mae’r Parc yn gweithredu, ac mae’r Parc yn rhan allweddol o economi sylfaenol yr ardal.
Y weledigaeth
Yn 2021, ffurfiwyd tîm Egni M-SParc i oruchwylio datgarboneiddio. Fodd bynnag, wrth i’r ddealltwriaeth a’r diffiniad o Sero Net ehangu, felly hefyd gylch gwaith y tîm – gan symud y tu hwnt i ynni carbon isel yn unig i feddwl am ymgysylltu, dylanwad a sut i gynnwys eraill.
Fel y mae Debbie Jones, Rheolwr Arloesi Carbon Isel ac arweinydd y prosiect, yn egluro:
“Roedden ni’n rhoi llawer o gyngor ar ddatgarboneiddio i fusnesau bach a chanolig, ac roedden ni am ddilyn yr un daith ein hunain. Er bod yr adeilad yn ased enfawr, rydyn ni’n gweithredu’n annibynnol ar Brifysgol Bangor ac yn wynebu llawer o’r un heriau â busnesau bach a chanolig o ran pwysau cyllidebol a chadw pethau i fynd. Drwy fod yn agored am ein taith ni tuag at Sero Net, gallwn helpu eraill.”
Gosododd y tîm nod nid yn unig i fod y parc gwyddoniaeth cyntaf yn y DU i gyrraedd Sero Net, ond hefyd i fod yn esiampl i fusnesau bach a chanolig eraill.
Nodau’r Prosiect
Ar ôl treblu capasiti solar cychwynnol y parc o 40kW a defnyddio ynni’n fwy effeithlon drwy gamerâu delweddu thermol ac ymgyrch ‘Dim the Sbark’ i newid ymddygiad, derbyniodd M-SParc grant Ynni Cymru yn 2024 er mwyn:
- Gosod 10 pwmp gwres ffynhonnell aer ar y to (270 kW) i ddatgarboneiddio’r systemau gwresogi a dŵr poeth
- Ychwanegu 35 kW ychwanegol at yr aráe paneli solar ffotofoltäig
- Gwella System Reoli’r Adeilad (BMS) er mwyn cael data mwy tryloyw a manwl
- Bod yn esiampl i helpu eraill ar y daith Sero Net
Effaith
Erbyn mis Ebrill 2025 roedd yr holl waith gosod wedi’i gwblhau, gan gynnwys y gwaith i wella System Reoli’r Adeilad er mwyn gallu casglu a monitro data’n fwy effeithlon. O ganlyniad cafodd allyriadau Cwmpas 1 eu lleihau i sero, a chafodd allyriadau Cwmpas 2 eu lleihau hefyd.
Mae’r tîm bellach ar y trywydd iawn i gyrraedd eu targed Sero Net cyn 2030, gyda’r lefelau wedi’u lleihau 86% hyd yma.
Mae’r Parc hefyd wedi cyflawni ei genhadaeth i gydweithio ac arloesi, gyda nifer o elfennau’r prosiect yn cael eu datblygu drwy gydweithio â thenantiaid, a llafurlu a chadwyni chyflenwi lleol yn cael eu defnyddio drwy gydol y gwaith.
Cipolwg
“Po ddyfnaf ewch chi ar y daith tuag at Sero Net, y mwyaf o ddata sydd ei angen arnoch chi.”
Yn ogystal â gwneud y defnydd gorau posibl o ynni M-SParc ei hun, bydd System Reoli’r Adeilad ar ei newydd wedd hefyd yn cefnogi’r gwaith ymgysylltu ehangach y mae angen ei wneud i gyrraedd sero net – yn yr achos hwn, mesur defnydd tenantiaid o ynni o bosibl er mwyn gallu rhoi cymhelliant i arbed ynni drwy godi tâl yn uniongyrchol a gêmeiddio.
Roedd y tîm hefyd yn cydnabod yr angen am ymwybyddiaeth a chefnogaeth ar draws y sefydliad o gamau cyntaf y broses o ddatgarboneiddio. Un o’r dulliau a ddefnyddiwyd i greu cyd-ddealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd, a’r angen i ddefnyddio ynni’n gynaliadwy, oedd darparu hyfforddiant Llythrennedd Carbon i staff a thenantiaid.
Yn olaf, er maint ac uchelgais y prosiect, mae’r tîm wedi ceisio sicrhau nad yw’n tynnu oddi wrth flaenoriaethau cynaliadwyedd eraill. Mae mentrau fel plannu coed a chreu cynefinoedd hefyd wedi cael eu hintegreiddio.
Heriau
Yn anochel, bu heriau ar hyd y daith i dîm M-SParc, gan gynnwys:
- Lleoliad – oherwydd bod y safle mor agos at ardaloedd preswyl a’r A55, cafodd tyrbinau gwynt eu diystyru’n gynnar, gan arwain at y ffocws ar baneli solar ffotofoltäig a phympiau gwres
- Capasiti’r grid – bu’n rhaid gohirio’r weledigaeth wreiddiol o rannu ynni â’r pentref lleol neu’r parc diwydiannol drws nesaf oherwydd cost cysylltu â’r grid ac amseroedd aros
- Cyllid – oherwydd maint y benthyciad yr oedd ei angen ar gyfer gosod pympiau gwres, roedd y cyfnodau ad-dalu yn rhy heriol i fusnes bach a chanolig. Felly, roedd y grant yn hanfodol ac yn creu gwerth ychwanegol oherwydd bod y grŵp yn gallu canolbwyntio ar system integredig sy’n cyfuno cynhyrchu ynni adnewyddadwy â gwres wedi’i ddatgarboneiddio, storio ynni, trafnidiaeth ddi-garbon a rheolaethau clyfar, yn hytrach na thechnolegau unigol ar eu pen eu hunain.
- Amserlen – roedd yr amserlen ar gyfer cyflawni’r prosiect yn un dynn iawn. Roedd cael cynllun a oedd wedi’i gynllunio ymlaen llaw, fframweithiau caffael parod, a strwythurau rheoli darbodus – ochr yn ochr â chyfnod o dywydd braf – yn help.
- Cymhlethdod technegol – roedd y prosiect hwn yn uchelgeisiol. Roedd cefnogaeth a gwybodaeth ymarferol grŵp cyflawni – oedd yn cael ei arwain gan Rhodri Daniel, Swyddog Arloesi Carbon Isel, ac yn cynnwys llawer o denantiaid M-SParc – yn help gyda chymhlethdod y broses o ychwanegu at yr arae paneli solar blaenorol a gosod pympiau gwres.
Beth nesaf?
Fel y gobeithiwyd, mae’r daith Sero Net eisoes wedi sbarduno cydweithio â thenantiaid ac eraill yn yr economi sylfaenol, ac mae’r tîm wrthi’n chwilio am fwy o gyfleoedd i wneud hynny. Mae’r posibilrwydd o osod tyrbin ar y to, gwifrau o dan y ddaear, synwyryddion ychwanegol, cyfleoedd interniaeth, ac ymgysylltu ag ysgolion lleol i gyd yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.
Mae’r canlynol hefyd yn cael eu hystyried:
- Storfa fatri – byddai batri 1MW yn galluogi M-SParc, ac ail adeilad sydd wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, i fod yn gwbl hunangynhaliol o ran ynni
- A ninnau wedi cyflawni 86% o’r daith tuag at Sero Net, a all allyriadau anodd eu lleihau gael eu gwrthbwyso drwy fanteision o ran bioamrywiaeth?
Cyngor
Yn ogystal â chyrraedd eu targed eu hunain, mae tîm M-SParc hefyd yn awyddus i rannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu am ddatgarboneiddio a’r daith tuag at Sero Net mor eang â phosibl â busnesau a chymunedau, gan rannu’r effeithiau, y peryglon a’r llwyddiannau.
O ran cyngor i eraill sy’n ymgymryd â phrosiect tebyg, canfu’r tîm fod paratoi yn hollbwysig yn eu hachos nhw, er mwyn gallu rhoi cynlluniau ar waith cyn gynted ag y byddai cyfle am gyllid yn dod i’r amlwg.
Er ei fod yn heriol o ran adnoddau a chapasiti, cyngor Debbie fyddai:
“Mynd â’r prosiect i’r eithaf o ran yr hyn sy’n bosibl cyn y grant – ac ymrwymo i’r cynllun.”
Cysylltwch ag egni@m-sparc.com neu ewch i https://m-sparc.com/grow-with-us/egni/ i gael rhagor o wybodaeth!


