Dysgwch am y cysylltiadau rhwng gweithgaredd dynol a tharfu ar yr ecosystem a datblygwch y wybodaeth i’ch galluogi chi a’ch sefydliad i gymryd camau dros adferiad byd natur.
Mae Nabod Natur yn gwrs sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, sy’n canolbwyntio ar weithredu i’ch helpu i ddeall y berthynas rhwng pobl a systemau naturiol. Mae’n rhannu gwybodaeth, yn meithrin dealltwriaeth ac yn darparu’r offer i ysgogi a chataleiddio gweithredu.