“Mae newid yn digwydd pan fod ymddiriedaeth yn bodoli”

Y ffordd y mae perthynas o ymddiriedaeth gyda thenantiaid, cymunedau a chyflenwyr yn siapio dyfodol Cymdeithasau Tai Blaenau Gwent

United Welsh, Linc Cymru, Melin Homes a Tai Calon yw’r 4 gymdeithas dai sy’n gyfrifol am yr holl dai cymdeithasol ym Mlaenau Gwent – sef 20% o holl stoc dai y sir. Yn 2019 roeddent wedi dechrau ar brosiect i weld a allai grym cyfanswm eu gwariant fod o fudd i’r cymunedau o’u hamgylch.

Roedd cydweithio blaenorol wedi adnabod bod cadwyni cyflenwi adeiladu, a chynnal a chadw, yn feysydd allweddol lle roedd modd targedu gwariant er mwyn cefnogi’r economi leol, a chynnig cyfleoedd am hyfforddiant a datblygu sgiliau, tyfu busnes a chreu swyddi yn lleol. Serch hynny, er mwyn mapio’r cadwyni cyflenwi hyn, a chreu cysylltiadau rhwng cyllidebau a chynlluniau gwaith y 4 mudiad, roedd angen gwneud gwaith dadansoddi gofalus ac adnoddau pwrpasol, ffactorau a oedd yn anodd dod o hyd iddynt ymysgy y gofynion a’r blaenoriaethau a oedd eisoes yn bodoli.

Roedd y partneriaid wedi cyflwyno cais at Gronfa Her yr Economi Sylfaenol, Llywodraeth Cymru er mwyn helpu cyflymu’r cydweithio yma, a dyfarnwyd grant iddynt i gydnabod yr effaith y gallai hyn gael ar fusnesau economi sylfaenol yr ardal. Byddai’r prosiect a gymeradwywyd yn mapio’r cadwyni cyflenwi ar draws y pedwar mudiad, yn adnabod cyfleoedd allweddol i gryfhau gwariant a chyflenwyr lleol, adeiladu gwell perthynas gyda mentrau cymdeithasol a BBaCh, a’u cysylltu gyda’r rhwydweithiau cefnogi busnes presennol.

Un o’r camau allweddol cyntaf i’w cymryd oedd casglu a choladu data cadwyni cyflenwi y 4 partner. Er mwyn gwneud hyn, rhestrwyd a chyfunwyd cyllidebau cynnal a chadw arfaethedig y 4 gymdeithas dai, gan gynhyrchu blaengynllun gwaith 10 mlynedd o hyd, gwerth £90 miliwn. Yna, defnyddiwyd y data i gychwyn sgyrsiau gyda busnesau lleol ynghylch sut y gallai’r gwaith hyn gael ei gyflenwi’n lleol, a chadw cymaint â phosibl o’r gwariant ym Mlaenau Gwent.

Mae’r math hyn o wybodaeth, sef trafod gwerth a maint y cyfleoedd gwaith a fydd, o bosib, ar gael yn y dyfodol, o fudd enfawr i gynllunio busnes, yn arbennig i gyflenwyr llai neu mwy arbenigol. Gall gwybodaeth am gyfleoedd yn y dyfodol fod yn allweddol wrth, er enghraifft, benderfynu a dylid cyflogi aelod ychwanegol o staff neu fuddsoddi mewn hyfforddiant am fath newydd o osodiad neu gynnyrch.

Budd annusgwyl arall y prosiect yw ei botensial i newid y cylch gwaith ‘ffyniant a methiant’ roedd y partneriaeiaid yn ei greu, yn anfwriadol, o bryd i’w gilydd. Dyma un esiampl – yn hytrach na bod un gymdeithas dai yn gofyn i FBaCh amnewid eu holl ffenestri mewn un tymor (ffyniant), a bod gwaith tebyg yn dod i ben am fisoedd lawer nes bod cymdeithas dai arall yn gwneud yr un peth (methiant), erbyn hyn gall y cymdeithasau tai gyfunu eu rhaglenni gwaith er mwyn sicrhau bod gwaith parhaus ar gael.

Yn ogystal â choladu data y gadwyn cynnal a chadw a chyflenwi, roedd y partneriaid hefyd wedi rhannu syniadau a’u rhaglenni presennol er mwyn cefnogi mudiadau cymunedol. Arweiniodd hyn at gyfuno adnoddau’r partneriaid ymhellach – y tro hyn er mwyn cefnogi mannau a mentrau cymunedol yn well drwy’r trafferth y mae COVID-19 wedi’i achosi. Gan gydweithio gyda CLES, Canolfan Gydweithredol Cymru a’r Ffederasiwn Busnesau Bach, mae’r prosiect hefyd wedi gweithio i sefydlu Rhwydwaith Menter Gymdeithasol ym Mlaenau Gwent, a’r gobaith yw y bydd yn parhau ymhell ar ȏl i’r cyfnod grant ddod i ben.

Yn ogystal â chyflawni nodau gwreiddiol y cais a wnaethpwyd i’r Gronfa Her, mae’r cydweithio agosach a hyrwyddwyd gan y grant hefyd wedi dylanwadu ar y gwaith ehangach.
Yn debyg i lawer o gymdeithasau tai, mae’r cymdeithasau tai ym Mlaenau Gwent yn gweithio ar gynlluniau i ddatgarnboneiddio tai drwy waith ȏl-osod. Er fod hyn yn heriol, ac yn golygu y bydd rhaid newid y cynlluniau cynnal a chadw sydd eisoes yn bodoli, mae hefyd yn cynnig cyfle arwyddocaol i gefnogi swyddi newydd, gwyrdd, sy’n talu’n dda, yn yr ardal.

Mae’r bartneriaeth o’r farn bod y ffyrdd cydweithredol o weithio a sefydlwyd yn ystod prosiect y Gronfa Her yn ei galluogi i gynllunio a chyflenwi ȏl-osod mewn ffyrdd sydd, oherwydd eu maint, yn gallu cyflwyno buddion sy’n fwy na’r rhai a welwyd yn ystod y prosiect gwreiddiol. Byddai’n bosibl i’r broses o gyfuno cyllidebau a rhaglenni gwaith fynd mor bell â helpu sbarduno creu diwydiant ȏl-osod lleol newydd drwy allu gwarantu gwaith cyson, sydd wedi’i anelu at gyflenwyr llai a lleol.

Bydd hyn yn cynnwys defnyddio’r perthnasau a ffurfiwyd yn ystod y prosiect gyda’r colegau lleol, BBaCh a’r byd academaidd i archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â hyfforddiant a’r bylchau sgiliau sy’n berthnasol i’r gwaith arfaethedig, fel bod modd gwneud y gwaith yn lleol. Gallai hyn fod yn gyfraniad pwysig i gronfa sgiliau y sir sydd, fel llawer o ardaoedd ȏl-ddiwydiannol eraill, yn dioddef lefelau o ddiweithdra sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae’r partneriaid yn cychwyn drwy ȏl-osod 200 o gartrefi; bydd y gwaith yn cael ei ariannu gan grant arall o Lywodraeth Cymru, cynllun a fydd yn ffynhonnell ddysgu sut mae ȏl-osod mewn ffordd sy’n gweithio i’r bobl sy’n byw yn y cartrefi hyny, ac yn cyflenwi’r gwaith gan ddefnyddio BBaCh lleol.

Un o sgil-effeithiau pwysig y gwaith hwn yw Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent – y cyntaf o’i fath yg Nghymru. Bydd y cynulliad dinasyddion hwn yn caniatâu i breswylwyr lleol lunio cynlluniau datgarboneddio nid yn unig y bedair gymdeithas dai, ond hefyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a phenderfynwyr lleol eraill, gan sicrhau eu bod yn cydfynd â dyheadau bobl lleol. Mae’n ffurfio un rhan o’r dull ymgysylltu cymunedol newydd y mae’r 4 gymdeithas dai wedi’i ddatblygu yn ystod y prosiect.

Mae Steve Cranston, Arweinydd yr Economi Sylfaenol ar ran United Welsh, o’r farn bod y prosiect cychwynnol felly wedi lledu i fod yn rhywbeth llawer ehangach, a fydd yn cael effaith hirdymor ar y ffordd y mae’r partneriaid yn cydweithio, a’u galluogi i wasanaethu eu preswylwyr a’r cymunedau lleol o’u cwmpas yn well .

Mae gan Steve ddau syniad i eraill sy’n gwneud y math yma o waith. Wrth fynd ati i ddatblygu cydweithrediad rhwng mudiadau, mae’n dweud taw ymddiriedaeth yw’r prif ffactor, ac yn esbonio bod “newid yn digwydd pan fod ymddiriedaeth yn bodoli”. Ym mha ffordd mae datblygu ymddiriedaeth? Trwy fod yn agored, yn dryloyw a gwrando.

Syniad arall yw parhau i ffocysu ar yr hyn sy’n greiddiol i’r economi sylfaenol, sef pobl. Darparu gwasanaethau da i bobl, gwasanaethau a gefnogir gan swyddi da. Mae Steve yn dweud bod cynnal sgyrsiau cyson gyda phobl leol a chymunedau, a chanolbwyntio ar wrando ar eu barn, yn hanfodol er mwy sicrhau bod yr adnoddau yn cyrraedd y mannau hynny lle y mae eu hangen.

Yn ȏl Steve, y peth gorau am fod yn rhan o Grofa Her yr Economi Sylfaenol yw “cael yr amser i ffurfio partneriaethau ymddiriedol gyda sefydliadau partner. Ymddiriedaeth yw’r peth mwyaf pwysig, ac ‘rydym wedi darganfod cyfleoedd i greu manteision cyd-fuddiannol hirdymor”.

The Foundational Economy Challenge Fund supported innovative, experimental approaches to community wealth-building and resilient local economies.

Cefnogodd Cronfa Her Economi Sylfaenol dulliau arloesol ac arbrofol o adeiladu cyfoeth cymunedol ac economïau lleol cadarn.

related resources

Scroll to Top
Skip to content