Ni yw’r prif sefydliad ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru, gan gefnogi newid ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Ein bwriad yw sbarduno cynnydd tuag at economi carbon isel, cymdeithas deg a chyfiawn ac amgylchedd naturiol ffyniannus.
Fel elusen nid-er-elw, mae gennym dîm bach, creadigol ac ymroddedig sy’n ehangu, a bwrdd cefnogol o ymddiriedolwyr gwirfoddol.
Wrth i nifer o’n hymddiriedolwyr ddod i ddiwedd eu cyfnod yn y swydd, rydyn ni’n chwilio am ymddiriedolwyr newydd.
Am beth rydyn ni’n chwilio gan ymddiriedolwyr newydd?
Rydyn ni’n chwilio am gymysgedd o ymddiriedolwyr profiadol a newydd o bob math o gefndir, yng Nghymru a thu hwnt. Fel ymddiriedolwr, byddwch yn cefnogi’r tîm drwy ddarparu arweiniad, her ac arweinyddiaeth yn ein cyfarfodydd bwrdd chwarterol yn ogystal â chael eich annog i arwain ar agendâu penodol.
Er mwyn ymestyn ein sgiliau a’n harbenigedd, yn ddelfrydol rydyn ni’n chwilio am gefnogaeth yn unrhyw un o’r meysydd canlynol:
- Arbenigedd ariannol
- Adnoddau dynol a rheoli pobl, diwylliant, gwerthoedd
- Arbenigedd cyfreithiol
- Marchnata, defnyddio Deallusrwydd Artiffisial neu adnoddau eraill
- Y Gymraeg a’i Diwylliant
- Cynhyrchu incwm o weithgareddau masnachol neu sefydliadau ac ymddiriedolaethau
- Rhwydweithiau daearyddol neu sector – gwella ein cysylltiadau yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, y sector cymorth i fusnesau a’r sector iechyd
Os oes gennych brofiad o fod yn ymddiriedolwr neu os ydych chi’n awyddus i ymgymryd â’ch rôl gyntaf fel ymddiriedolwr a’ch bod eisiau cyfrannu at ein tîm, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi ymuno â ni i hyrwyddo dyfodol mwy cynaliadwy yng Nghymru, ewch i Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr.
Os ydych chi’n cael trafferth cael gafael ar y Pecyn Recriwtio, cysylltwch â Simon@cynnalcymru.com a byddwn yn darparu’r dogfennau perthnasol yn uniongyrchol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, nos Lun 15 Medi 2025
