Ni yw’r prif sefydliad ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru, gan gefnogi newid ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Ein cenhadaeth yw cyflymu’r cynnydd tuag at economi carbon isel, cymdeithas deg a chyfiawn ac amgylchedd naturiol ffyniannus.
Fel elusen nid-er-elw, mae gennym dîm bychan, creadigol ac ymroddedig sy’n ehangu, a bwrdd cefnogol o ymddiriedolwyr gwirfoddol.
Rydym wrthi’n ceisio creu cronfa amrywiol o ymgeiswyr ac rydym yn fodlon ystyried unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen ar unrhyw ddarpar ymddiriedolwyr er mwyn bod yn llwyddiannus.
Beth rydym yn chwilio amdano gan ymddiriedolwyr newydd
Rydym ni eisiau i bawb sy’n gweithio i ni a gyda ni – gan gynnwys ein hymddiriedolwyr, ein haelodau a’n cleientiaid – deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u derbyn, ni waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn cydnabod bod y sector cynaliadwyedd yn dioddef o ddiffyg amrywiaeth ac felly rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli a’r rheini o gefndiroedd amrywiol.
Fel ymddiriedolwr, byddwch yn cefnogi’r tîm drwy ddarparu arweiniad, her ac arweinyddiaeth yng nghyfarfodydd chwarterol ein bwrdd, yn ogystal â chael eich annog i arwain ar agendâu penodol.
Er mwyn ehangu ein sgiliau a’n harbenigedd rydym yn ddelfrydol yn chwilio am gymorth yn unrhyw un o’r meysydd canlynol:
- Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant;
- Cyfathrebu a marchnata
- Datblygu busnes elusennol
- Datblygu busnes elusennol a chynhyrchu incwm
- Diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg
- Technolegau newydd a thechnolegau datblygol, TGCh, isadeiledd digidol
Rydym ni’n awyddus i gefnogi’r rheini sy’n newydd i fod yn ymddiriedolwr – ar hyn o bryd efallai nad oes gennych chi’r holl sgiliau a’r cymwyseddau ond os oes gennych chi’r brwdfrydedd a’r ymrwymiad i’n cefnogi ni gyda’n hagenda cynaliadwyedd, a llywodraethiant ein helusen, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Byddwn yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i’r rheini sy’n newydd i fod yn ymddiriedolwr elusen.
I ymgeisio
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi ymuno â ni i hyrwyddo dyfodol mwy cynaliadwy yng Nghymru, lawrlwythwch ragor o wybodaeth o’n gwefan:
Dyddiad cau 19 Mehefin 2023
Byddwn yn gwahodd ymgeiswyr i fynychu cyfweliad ym mis Mehefin ac rydym yn gobeithio y byddant yn gallu ymuno â ni yng nghyfarfod ein bwrdd ym mis Gorffennaf. Byddwn yn darparu cyflwyniad llawn ar gyfer ymddiriedolwyr newydd, a chyfle i gael cefnogaeth gan fentoriaid sydd eisoes yn ymddiriedolwyr.
Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn werthoedd craidd sy’n cael eu rhannu gan staff a bwrdd Cynnal Cymru. Serch hynny, nid oes cynrychiolaeth ddigon amrywiol ar ein Bwrdd. Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth gyffredinol ein Bwrdd yn y rownd recriwtio hon.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon ein gwaith i greu cymdeithas deg a chyfiawn drwy fentrau fel y Cyflog Byw go iawn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw cael effaith ar leihau anghydraddoldeb drwy ein gwaith yn ddigon. Mae creu sefydliad sy’n ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn sail i’n gallu i gyflawni ein nodau elusennol, gan gynnwys cefnogi trawsnewid cyfiawn i economi carbon isel ac amgylchedd naturiol ffyniannus.
Fodd bynnag, er bod ein bwriadau wedi bod yn dda erioed, nid ydym wedi cael y polisïau, y gweithdrefnau na’r bobl i ddangos ein bod wedi ymrwymo’n llwyr i wella Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant o fewn Cynnal Cymru a’r sector datblygu cynaliadwy. Mae eleni’n newid sylweddol o ran gweithredu ein hymrwymiad, a diben y datganiad hwn yw ein gwneud yn atebol i’r ymrwymiad hwn a nodi ein gweithredoedd hyd yma ac ar gyfer y dyfodol.