Helpu Cymru Arwain y Ffordd trwy arloesi yn y sector cyhoeddus

Derbyniodd y plattform arloesi digidol, Simply Do Ideas, gefnogaeth oddiwrth Gronfa Her yr Economi Sylfaenol yn Ionawr 2020. Defnyddiwyd yr arian i fynd i’r afael â’r rhwystrau allweddol y mae mudiadau’r sector cyhoeddus yn wynebu wrth arloesi a sydd, yn aml, yn gallu eu hatal rhag cael mynediad at y syniadau gorau i ddatrys heriau sefydliadol strategol. Dyma’r canlyniad….

Mae Simply Do Ideas yn FBaCh wedi’i leoli yn ne Cymru. Ei bwrpas yw galluogi sefydliadau mawr i gywain syniadau, drwy ddull cyfrannu torfol, er mwyn datrys heriau sefydliadol. Ei blatfform digidol, llif gwaith arloesol o’r dechrau i’r diwedd sydd wedi ennill sawl gwobr, yw un o’i arfau allweddol yn y broses o reoli arloesi yn gyflymach, yn haws ac mewn ffordd mwy effeithiol. Mae’n gwneud hyn drwy alluogi sefydliadau i ffurfio a rhannu briffiau byw, aml-gyfrwng mewn porthol diogel sydd wedi’i gynllunio i gipio datrysiadau penodol oddiwrth gyflogai neu gyflenwyr allanol. Gelwir hyn yn arloesi a ysgogir gan her. 

>> Sut y mae Simply Do yn gweithio << 

Mae’r cwmni yn cydnabod taw’r amser, y gost a’r risg sydd, fel arfer, yn gysylltiedig ag arloesi, yw’r tri rhwystr allweddol sy’n wynebu sefydliadau y sector cyhoeddus pan yn datblygu datrysiadau creadigol ac arloesol i’w problemau. Yn hyderus y byddai ei fodel yn gallu helpu, roedd y cwmni wedi gwneud cynnig i arbrofi gyda’r dull hwn yng nghyd-destun yr heriau cymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu cyrff cyhoeddus a chymunedau yng Nghymoedd De Cymru.

Dyfarnwyd grant y Gronfa Her i adeiladu ar y gwaith cynharach o blismona, uwch-weithgynhyrchu a gwasanaethau ariannol er mwyn cysylltu heriau yr economi sylfaenol gyda datrysiadau entrepreneuraidd cyfrannu torfol o 2 grŵp o randdeiliaid allweddol; y cyntaf, colegau a phrifysgolion lleol, a’r ail, BBaCh lleol.

Cyflwynwyd y prosiect mewn dau gyfnod penodol:

Roedd y cyfnod cyntaf yn anelu at fynd i’r afael â phroblem ar y cyd rhwng diwydiant, addysg a’u myfyrwyr. Mae angen ar gyflogwyr – sydd heb ddigon o amser, ac am osgoi risg – syniadau newydd i oroesi a ffynnu, tra bod angen ar fyfywrwyr fynediad at brofiadau yn y ‘byd go-iawn’ i’w paratoi ar gyfer byd gwaith. Yn y canol, mae darparwyr addysg bellach ac uwch yn wynebu targedau cyflogadwyedd trwm ac ymestyn deilliannau’r cwricwlwm.

Yn ystod y cyfnod hwn derbyniodd myfyrwyr 8 coleg a phrifysgol yn, ac o gwmpas, Cymoedd De Cymru briffiau byw, a chawsant eu cefnogi i gynhyrchu datrysiadau arloesol i heriau allweddol y farchnad. Roedd y briffiau wedi dod o sefyliadau ar draws sectorau yr economi sylfaenol, gan gynnwys lletygarwch, cludiant, tai ac adeiladu.

Roedd dros 400 o fyfyrwyr wedi ymwneud â’r heriau hyn, gan alluogi’r sefydliadau cleient i gipio syniadau cyfnod cynnar ac yna eu profi yn y farchnad. Ar yr un pryd, roedd y myfyrwyr wedi ennill y profiad hanfodol o weithio ar friff busnes amser real, rhywbeth na fyddai, fel arall, yn hawdd iddynt gael mynediad ato.

Wrth i Simply Do Ideas symud i ail gyfnod y peilot, roedd y cwmni wedi troi ei sylw at arloesi a arweinir gan y cyflenwr, dull sy’n annog sefyliadau i gydweithio gyda’r arbenigedd sydd ar gael yn eu rhwydweithiau cyflenwi i ddod â chynhyrchion a gwasanaethau newydd, a’r rhai sydd eisoes yn bodoli, i’r farchnad yn gyflymach. Yng Nghymru mae’r rhwydwaith gyflenwi yn cynnwys, yn bennaf, BBaCh ac roedd y cwmni yn hyderus y byddai modd defnyddio eu harbenigedd i helpu pontio’r bwlch i’r sector cyhoeddus.

Gan ddewis canolbwyntio ar y sector gofal iechyd, roedd y cwmni wedi paru gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n anelu at wneud Cymru y lle o ddewis ar gyfer arloesi ym meysydd iechyd, gofal a llesiant.

Tra’n cydweithio gyda nhw, roedd y galw am Gyfarpar Diogelu Personol wedi cynyddu’n enfawr o ganlyniad i’r pandemig corona feirws, ac roedd y galw ar gynhyrchwyr yn uwch nag erioed. Roedd y broses gaffael drwyadl wedi dodi pwysau ychwanegol ar dîm yr Hwb Gwyddorau Bywyd a oedd yn didoli, â llaw, nifer digynsail o gynigion am gynhyrchion a gwasanaethau oddiwrth y diwydiant er mwyn caffael y cyflenwadau hanfodol.

Hwn oedd y cyfle perffaith i Simply Do ddefnyddio ei gynnyrch, gan ganiatáu iddo gyd-greu llif gwaith wedi’i deilwra a fyddai, drwy broses awtomatiaeth yn cynyddu, yn sylweddol, cyflymdra’r dull o ddod o hyd i, cymhwyso a phrynu cynhyrchion amrywiol o amrywiol ddarparwyr, tra’n cynnal proses gaffael gadarn.

Roedd hyn nid yn unig wedi datrys rhwystr amser anferth i’r Hwb Gwyddorau Bywyd o ran dod o hyd i gynhyrchion priodol, ond wedi arbed amser i’r cyflenwyr posibl a oedd yn gallu cyfathrebu eu cynigion yn gyflymach ac yn haws drwy’r porthol arloesi, a gynlluniwyd at y pwrpas. Yn ychwanegol, roedd cyflenwyr, cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd, na fyddant fel arall wedi ymddangos, wedi dod i’r golwg o ganlyniad i’r broses lyfn hon a ysgogwyd gan her.

Roedd yr allbwn yn drawiadol, ac roedd y GIG wedi caffael gwerth dros £6 miliwn o gynhyrchion Cyfarpar Diogelu Personol oddiwrth gyflenwyr a oedd yn ymwneud â Simply Do, ac roedd hyn wedi cyfrannu tua £34 miliwn o Werth Ychwanegol Gros at economi Cymru. Roedd Cydwasanaethau’r GIG hefyd wedi gwneud cyfraniad net o Gyfarpar Diogelu Personol i’r ymdrech ehangach i gaffael Cyfarpar Diogelu Personol ar draws y DU yn ystod y pandemig.

Mewn cyfanswm, mae’r Gronfa Her wedi galluogi Simply Do Ideas i ymgysylltu â dros 1,600 BBaCh sydd wedi cynhyrchu bron 1,800 o syniadau mewn ymateb i 13 her, a gododd yn allanol, sy’n berthnasol i gyflenwyr a chomisiynwyr yn yr economi sylfaenol. Mae Joseph Murphy, Rheolwr Busnes Hŷn y sefydliad, o’r farn bod hyn yn arddangos bod gan arloesi a ysgogir gan her gyfraniad gwirioneddol i’w wneud, o ran gwella’r ffordd y mae caffael yn cael ei wneud yng Nghymru.

Dyma y mae’n dweud, “Mae yma gyfle i Gymru fod yn arweinydd byd-eang. Gan droi maint i’n mantais ni, gallwn ddefnyddio ein hagosrwydd at ein gilydd, ein hadnoddau a pholisi cyhoeddus i sicrhau ein bod ar flaen y gad pan fyddwn yn ceisio datrys rhai o heriau mwyaf ein cyfnod ni”.

Wedi gorffen ei brosiect Cronfa Her gyda thystiolaeth gref bod y model hwn yn gweithio yn y sector cyhoeddus – yn ogystal â’r sector preifat – mae Simply Do Ideas yn edrych i’r dyfodol, a thuag at gyfnod buddsoddi newydd. Ei nod yw parhau i weithio’n greadigol, rhwng ac ar draws y sectorau, i raeadru ymhellach buddion arolesi a ysgogir gan her.

The Foundational Economy Challenge Fund supported innovative, experimental approaches to community wealth-building and resilient local economies.

Cefnogodd Cronfa Her Economi Sylfaenol dulliau arloesol ac arbrofol o adeiladu cyfoeth cymunedol ac economïau lleol cadarn.

related resources

Scroll to Top
Skip to content