Eco lythrennedd i bawb
Fel rhan o’n hymrwymiad i amgylchedd naturiol ffyniannus yng Nghymru, fe wnaethom ni greu Eco Lythrennedd Nabod Natur.
Mae’r cwrs yn cael ei gynnal dan arweiniad arbenigwyr, i’ch helpu chi i ddeall sut mae eich gweithredoedd yn tarfu ar ein hecosystemau, a beth allwch chi ei wneud i wella’r cysylltiad sydd gennych rhwng pobl a byd natur.
Gall pob un ohonom weld y newidiadau sydd wedi bod yn ein hamgylchedd naturiol dros y degawdau diwethaf. Ledled Cymru, mae tywydd eithafol wedi dod yn fwy cyffredin, mae mwy o rywogaethau mewn perygl, ac mae ein mannau’n llai bioamrywiol yn sgil meysydd parcio concrid ac ungnydau.
Ond mae cymaint mwy na allwn ei weld nes ein bod yn talu sylw. Drwy ddeall sut mae ein hecosystemau’n gweithio, gallwn ni ddarganfod pa effaith rydyn ni’n ei chael arnynt a dysgu sut mae helpu byd natur i adfer.
