Eleni, ar Ddydd Gŵyl Dewi, ‘rydym yn gofyn i sefydliadau ar draws Caerdydd ystyried y pethau bychain y gallant wneud i sicrhau nad oes rhaid i unrhywun yng Nghymru weithio am lai na’r Cyflog Byw go iawn, boed hynny’n cynnwys deall sut mae bod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, ceisio annog sefydliadau eraill i ystyried y Cyflog Byw go iawn neu ein helpu ni i rannu negeseuon cadarnhaol am y gwahaniaeth y mae talu’r Cyflog Byw go iawn yn gallu’i wneud.
Cyngor Caerdydd yw’r unig gyngor achrededig fel Cyflogwr Cyflog Byw yng Nghymru. Mae’r cyngor a phartneriaid yn hyrwyddo Caerdydd fel Dinas Gyflog Byw sy’n cael effaith cadarnhaol ar y Ddinas a’i gweithwyr. O Chwefror 1af 2021 ymlaen, mae 45% o gyflogwyr achrededig yng Nghymru yn dod o Gaerdydd ac mae cyflogwyr Caerdydd wedi cyfrannu at 69% o godiadau cyflog oherwydd achrediad. Mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Caerdydd wedi dangos bod 124 cyflogwr yn achredu yng Nghaerdydd wedi arwain at 7,735 o weithwyr yn derbyn codiad cyflog sy wedi ychwanegu dros £32m at yr economi lleol o fewn 8 mlynedd.
Er mwyn clywed mwy am fuddion achredu fel Cyflogwr Cyflog Byw gwyliwch ar y fideo.
Dyma oedd gan y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd i’w ddweud:
“Mae’r pethau hynny sy’n ymddangos yn rhai bychain wir yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr, a dw i’n deall yr effaith sylweddol y mae talu’r Cyflog Byw go iawn wedi cael ar fywydau ein staff ni. ‘Rydym yn falch i gefnogi sefydliadau ar draws y ddinas, i’w galluogi i wneud yr un peth ar ran eu cyflogai hwythau ac, ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, byddwn yn annog unrhyw fusnes sydd â diddordeb mewn talu’r Cyflog Byw go iawn i gysylltu â ni, a dysgu mwy am y cynllun”.
Mae Cyngor Caerdydd yn deall bod y buddion ehangach o’r Cyflog Byw go iawn yn gallu fod o fudd i unigolion a chyflogwyr yn ychwanegol a’r ddinas ac maen nhw wedi gwneud ymrwymiad i ad-dalu ffioedd i fusnesau bach a chanolig yng Nghaerdydd trwy’i chynllun cefnogaeth achrediad.
Am fwy o wybodaeth ar y Cyflog Byw yng Nghaerdydd ewch at y wefan.
Hefyd, mae cyngor Caerdydd yn annog cyflogwyr lleol i ddarparu cynlluniau cynilo a benthyciadau cyflogres, yn galluogi eu gweithwyr i arbed arian yn uniongyrchol o’u cyflogau ac os oes angen cynnig credyd fforddiadwy oddi wrth ddarparwr moesegol. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Cardiff and Vale Credit Union.
Cynnal Cymru yw corff achredu’r Cyflog Byw go iawn yng Nghymru ac ‘rydym yma i’ch helpu chi drwy’r broses achredu. Cysylltwch â ni, ymunwch â’r mudiad, gwnewch y pethau bychain.
Dymunwn Ddydd Gŵyl Dewi hapus i bawb. Diolch yn fawr!