Eleni, ar Ddydd Gŵyl Dewi, ‘rydym yn gofyn i sefydliadau ar draws Cymru ystyried y pethau bychain y gallant wneud i sicrhau nad oes rhaid i unrhywun yng Nghymru weithio am lai na’r Cyflog Byw go iawn, boed hynny’n cynnwys deall sut mae bod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, ceisio annog sefydliadau eraill i ystyried y Cyflog Byw go iawn neu ein helpu ni i rannu negeseuon cadarnhaol am y gwahaniaeth y mae talu’r Cyflog Byw go iawn yn gallu’i wneud.
Y Cyflog Byw go iawn yw’r unig raddfa gyflog yn y DU a delir, yn wirfoddol, gan 7,000 o fusnesau sy’n credu bod eu staff yn haeddu ennill cyflog sy’n cwrdd â’u hanghenion beunyddiol – megis y siopa wythnosol, neu ymweliad annisgwyl at y deintydd. Yng Nghymru, mae 278 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig, a dros 11,428 o gyflogai Cymru wedi derbyn codiad cyflog oherwydd bod eu cyflogwyr wedi’u hachredu. Ar lefel y DU, mae’r Cyflog Byw go iawn yn cael cefnogaeth trawsbleidiol.
Er gwaetha’r heriau aruthrol a welwyd yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, ‘rydym yn dal i weld momentwm parhaus o gwmpas y Cyflog Byw Go Iawn yng Nghymru. Yn 2020, roedd 55 cyflogwr ar draws holl sectorau a diwydiannau Cymru wedi cymryd y cam o achredu fel cyflogwyr Cyflog Byw, (o gymharu â 56 yn 2019). Drwy weithredu yn unigol, roedd y cyflogwyr hyn wedi codi cyfanswm o 4,300 o weithwyr i lefel Cyflog Byw go iawn.
Yn ȏl y TUC, mae bron chwarter o holl weithwyr Cymru yn derbyn tâl sy’n is na’r Cyflog Byw go iawn. Mewn ambell i etholaeth yng Nghymru mae’r ffigwr yn 1 o bob 3.
Yn ȏl y ddogfen ganlynol ddiweddar, sef y Joseph Rowntree Foundation Briefing, darganfuwyd bod 4 o bob 10 aelwyd sy’n wynebu tlodi yng Nghymru yn cynnwys gweithiwr llawn-amser ac, yn aml, mae dros hanner o’r aelwydydd yma yn cynnwys aelod sy’n gweithio; mae hyn yn dangos yn glir tra bod cyflogaeth yn lleihau’r risg o dlodi, yn aml nid yw’n ddigonol i alluogi’r unigolyn i ddianc rhagddo.
Mae talu’r Cyflog Byw go iawn yn cynnig llwybr i bobl ddianc o dlodi, ac yn golygu bod ganddynt mwy o arian i’w wario yn eu heconomïau lleol, ac ar y pethau hynny sydd o bwys iddynt.
Felly, wrth i ni ddechrau cynllunio’n ffordd allan o COVID, a sicrhau ein bod yn fwy gwydn yn y dyfodol, ‘rydym yn annog pob cyflogwr i ystyried pa bethau bychain y gallant wneud er mwyn gwella’r sefyllfa. Pa gam cadarnhaol gallwch chi gymryd heddiw? Mae dod yn gyflogwr Cyflog Byw go iawn yn gam bach sy’n gallu golygu newidiadau mawr i’ch gweithwyr, eich sefydliad a’ch cymuned.
Cynnal Cymru yw corff achredu’r Cyflog Byw go iawn yng Nghymru ac ‘rydym yma i’ch helpu chi drwy’r broses achredu. Cysylltwch â ni, ymunwch â’r mudiad, gwnewch y pethau bychain.
Dymunwn Ddydd Gŵyl Dewi hapus i bawb. Diolch yn fawr!
Mae’r holl ffigyrau yn seiliedig ar y data a oedd ar gael ar Chwefror 1 2021.