Gweithredu tuag at ddyfodol gwell

 

O achredu’r Cyflog Byw, creu strategaeth amgylcheddol neu gydweithio i rannu dysgu, gallwn eich cefnogi chi i weithredu mewn ffordd a fydd yn creu effaith bositif i’ch mudiad, cymdeithas a’r amgylchedd.

Achredu

‘Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â mudiadau blaenllaw er mwyn cefnogi’ch mudiad chi i wneud gwahaniaeth positif.

LW 600x400

Cyflog Byw i Gymru

Mae Cynnal Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Cyflog Byw i ddarparu cymorth achredu, a dathlu’r cyflogwyr hynny ledled Cymru sy’n talu cyflog a seiliwyd ar gost byw, yn hytrach na lleiafswm y llywodraeth.

Carbon Literacy

Grymuswch eich mudiad i feddwl, mewn ffordd wahanol, am y camau ymarferol nesaf y gallwch chi a’ch tîm gymryd i weithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd.

Nabod Natur

Dysgwch am y cysylltiadau rhwng gweithgaredd dynol a tharfu ar ecosystemau, a datblygwch eich gwybodaeth i’ch galluogi chi, a’ch sefydliad, i gymryd y camau hynny a fydd yn adfer natur.

Gwaith Ymgynghori

‘Rydym yn helpu mudiadau i ddeall ac ymateb i heriau cynaladwyedd byd-eang mewn ffyrdd a fydd yn llesol i’w staff, eu modelau busnes a’r cymunedau o’u cwmpas.

‘Rydym yn cydweithio gydag arweinyddion busnes, cyrff cyhoeddus, consortia y sector ac arloeswyr diwydiannol i ddatblygu strategaethau integredig sy’n gosod nodau, mesur effaith ac yn darparu’r fframwaith adrodd yn ȏl.

Adrodd yn ȏl ymghylch Cynaladwyedd

Mesur effaith

Rheolaeth amgylcheddol

Hyfforddiant ac hwyluso pwrpasol

‘Rydm yn darparu cyrsiau pwrpasol i helpu ywreiddio cynaladwyedd yn eich agwedd a’ch gweithrediadau, gan gynnwys Llythrennedd Carbon a NabodNatur – llythrennedd eco, gwaith teg a chyfrifoldeb cymdeithasol. ‘Rydym hefyd yn hyrwyddo sesiynau i’ch helpu chi fyfyrio ar gynnydd, llunio gweledigaeth a diffinio strategaethau.

Scroll to Top
Skip to content