Yn Cynnal Cymru yr ydym, ar hyd yr amser, wedi eirioli dros unigolion a sefydliadau sy’n gweithredu yn enw datblygu cynaliadwy. ‘Rydym yn gwybod nad oes un ymateb pendodol, un datrysiad perffaith, i sicrhau dyfodol mwy hafal, toreithiog a chynaliadwy; dyna paham y mae’r ystod o weithredoedd gwahanol, o wahanol ffynonellau a sectorau, yr ydym yn dod ar eu traws yn ein cyffroi ac yn tawelu’n meddyliau.
Y ffydd yma yng ngallu pobl i adnabod datrysiadau sy’n ffitio i gyd-destun eu bywydau eu hunain sydd wedi ysbrydoli ein cwrs hyfforddiant diweddaraf – Nabod Natur: Nature Wise – a gafodd ei beilota’n ddiweddar gan ystod o sefydliadau gan gynnwys Cyngor Abertawe, Mind Cymru a Llywodraeth Cymru.
Wedi’i anelu at esbonio’r argyfwng natur byd-eang sydd yn ein wynebu, a gwneud hynny mewn ffordd hygyrch, mae’r cwrs yn rhoi trosolwg o’r ffordd gymhleth y mae ecosystemau yn gweithredu er mwyn cynnal bywyd. Yna, mae’n symud ymlaen i archwilio’r cysylltiadau rhwng gweithgareddau dynol a’r amhariadau ar gylchredau naturiol sydd i’w gweld o’n cwmpas – gyda newid yn yr hinsawdd a lleihad yn niferoedd bywyd gwyllt yn ganlyniadau sy’n dod yn fwyfwy amlwg.
Mae’r cwrs hefyd yn trafod fframweithiau adfer natur cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd â thrafod y camau ymarferol sy’n cael eu hannog neu eu harloesi. Yn bwysicaf oll i ni, mae’r cwrs yn creu’r gofod hwnnw a fydd yn galluogi’r cyfranogwyr i ddefnyddio’r wybodaeth a’r cysyniadau sy’n deillio o’r cwrs yn eu bywydau eu hunain, ac adnabod y dulliau mwyaf defnyddiol a buddiol o weithredu, fel eu bod yn gallu mynd ati i adfer natur yn eu sefydliadau, yn y cartref ac yn y gymuned.
Nid peth hawdd mo lansio cwrs o’r math, gyda chymaint o sefydliadau arbenigol eisoes yn bodoli ym meysydd ecoleg, addysg, newid ymddygiad a chynllunio gweithredu – mewn gwirionedd, popeth y mae Nabod Natur yn cynnig. Ein nod oedd casglu’r holl agweddau yma at ei gilydd, ac ‘rydym wrth ein boddau gydag ymatebion ein mynychwyr peilot. Fel y dywedodd un cyfranogwr cynnar: “Yr ydych wedi grymuso pobl i newid ac, yn y byd sydd ohonom, mae hynny’n ganlyniad gwych”.
Bydd Nabod Natur: Nature Wise yn cael ei lansio ar Fehefin 5: Diwrnod Amgylchedd y Byd
Cwrs Agored Cyntaf: Gorffennaf 20 a 22: 2 x sesiynau arlein gyda’r opsiwn dewisol o astudio hunangyfeiriedig rhynddynt. Cyfanswm amser ymrwymiad 5 – 6 awr. Cost: £85 y dysgwr, a chynygir gostyngiadau i grwpiau.
I drafod hyfforddiant pwrpasol i’ch sefydliad neu archebu lle ar y cwrs agored cyntaf, cysylltwch â training@cynnalcymru.com os gwelwch yn dda.