Rydym yn defnyddio gormod, o fwyd a diod i gynnyrch defnyddwyr a dillad. Gyda phatrymau defnydd presennol, amcangyfrifir bod angen rhwng tair a phum planed i’n cynnal. Mae’n amlwg bod arnom angen newid radical mewn ffordd o fyw ac ymddygiad i’n symud tuag at fyw ar un blaned.
Fel dinesydd byd-eang, dyma bum cam cymharol syml i gychwyn.
Prynu llai o bethau:
Rydym yn prynu gormod o bethau, ac mae 98% o’r rhain yn cael eu taflu i ffwrdd o fewn chwe mis. Pan mae angen i ni brynu pethau, gallem ddewis cynnyrch hir oes cadwrus sy’n ddiwenwyn ac wedi’u cynllunio ar gyfer cylchogrwydd (h.y. gellir eu hailddefnyddio, eu hailgynhyrchu, eu hatgyweirio, eu huwchraddio, eu hailgylchu ac ati).
Bod yn berchen ar lai o bethau:
Rydym yn berchen ar ormod o bethau, a defnyddir 80% ohonynt lai nag unwaith y mis. Gallem archwilio rhannu fel dewis amgen i berchenogaeth unigol. Wedyn gallem gael mynediad i gynnyrch hir oes cadwrus trwy fodelau rhannu, e.e. ceir, beiciau, dillad ac ati.
Atgyweirio mwy o bethau:
Rydym yn taflu cymaint o bethau i ffwrdd ond gellir eu hatgyweirio. Gallem archwilio naill ai atgyweirio pethau ein hunain ac mae llawer o gymunedau cymorth ar gael i’n cynorthwyo, neu gallem gefnogi darparwyr gwasanaethau sy’n gallu gwneud y gwaith o atgyweirio ar ein rhan, gan ymestyn oes y pethau rydym yn berchen arnynt.
Prynu dim ond y bwyd sydd ei angen arnom:
Rydym yn taflu cymaint o fwyd i ffwrdd bob wythnos. Mae’r ystadegau’n frawychus. Gallem wneud addewid i brynu’r hyn sydd ei angen arnom, a chefnogi cynhyrchwyr lleol, organig os yn bosibl, sy’n gwerthu mewn dognau addas.
Doethineb wrth ddewis pethau:
Rydym yn cefnogi gormod o gwmnïau anghyfrifol sy’n methu ag ystyried cost wirioneddol y pethau y maent yn eu cynhyrchu a’u gwerthu, e.e. llygredd, gwenwyndra, prinder adnoddau, gwastraff, iechyd a lles gweithwyr ac ati. Gallem holi cwestiynau i fusnesau ynghylch eu gwerthoedd a’u moeseg, gan ddefnyddio offer megis cyfryngau cymdeithasol, i ddatgelu’r gwir ynghylch eu gweithgareddau. Byddai hyn yn cynorthwyo o ran ein hysbysu ni (a phobl eraill) ynghylch pa fusnesau y dylem eu cefnogi a pham. Hefyd gallem ystyried prynu nwyddau ail-law a thrwy hyn ymestyn eu hoes.
Mae Frank yn gweithio’n rhyngwladol fel cynllunydd a strategydd cynaliadwy.