Wedi’i lansio i gyd-fynd â Chynhadledd y Partïon 26 (COP26), mae’r ffeithluniau’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng yr amgylchedd naturiol ac iechyd, y grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt a rhai o effeithiau allweddol iechyd a llesiant newid yn yr hinsawdd a’r grwpiau poblogaeth hynny y gellid effeithio arnynt.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo yn ei gynllun hirdymor i weithio gyda’n partneriaid i baratoi ar gyfer effaith ddisgwyliedig ac annisgwyl newid yn yr hinsawdd yng Nghymru ac ymateb i hyn. Fel rhan o’n cyfraniad, mae’r Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd (WHIASU) wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau partner gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Adfywio Cymru a Llywodraeth Cymru, ar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru. Mae’r ffeithluniau’n rhan o’r gwaith hwn sy’n mynd rhagddo a’i nod yw sicrhau bod gan sefydliadau a Chyrff Cyhoeddus yng Nghymru y dystiolaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gynllunio ar gyfer yr effeithiau iechyd a llesiant ar bobl a chymunedau a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd ac ymateb hyn.
Gellir eu lawrlwytho yma ynghyd â’r cyfeiriadau a ddefnyddiwyd i greu’r ffeithluniau.