ELITE Paper Solutions: Adeiladu cysylltiadau rhwng y sector cyhoeddus a menter gymdeithasol

Mae ELITE Paper Solutions wedi defnyddio grant Cronfa Her yr Economi Sylfaenol nid yn unig i dyfu ei lwyddiant masnachol ond i amlygu buddion ei nodau cymdeithasol a gweithle hollol gynhwysol.

Menter gymdeithasol, wedi’i lleoli ym Merthyr Tudful a sy’n arbenigo mewn rheoli a storio dogfennau a darnio data, yw ELITE Paper Solutions.

Fel mae’r acronym yn esbonio – Equality Linked Into Training and Employment – mae ELITE yn anelu at ddarparu gweithle cwbl gynhwysol i gefnogi’r rhai hynny sydd bellaf o’r farchnad lafur oherwydd, er enghraifft, anabledd, cyflyrau iechyd neu ddiweithdra hirdymor, i ennill sgiliau a swyddi.

Derbyniodd ELITE grant y Gronfa Her i ddatblygu ei fodel ymhellach fel ei fod yn gallu cyflawni contractau ar raddfa fawr, contractau a fyddai, yn eu tro, yn cynnal rhagor o swyddi, sgiliau a chyfleoedd gwirfoddoli. Roedd rhan o’r cynllun hwn yn cynnwys dylanwadu ar randdeiliaid yn y sector cyhoeddus i newid eu harferion caffael fel eu bod yn gallu dyfarnu mwy o gontractau i fentrau cymdeithasol.

Buddsoddwyd yr arian grant mewn eitemau cyfalaf a refeniw er mwyn tyfu’r tîm ac adeiladu capasiti sefydliadol. Roedd hyn yn cynnwys penodi Ymgynghorydd Cyflogaeth i weithio gydag asiantaethau cyfeirio a chyrff cynnal eraill i helpu unigolion i gael mynediad at, a symud ymlaen drwy, gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ELITE.

Roedd y buddsoddiadau hyn nid yn unig wedi helpu ELITE i ennill 3 contract mawr o’r sector cyhoeddus ond hefyd wedi’i alluogi i ymateb yn gyflym i newidiadau yn anghenion ei gwsmeriaid oherwydd pandemig Covid, a chynyddu ei refeniw o £90,000, o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Er enghraifft, roedd un contract a oedd i fod i ddechrau ar ffin y cyfnod clo wedi cynyddu, o draean, ei archeb am gynwysyddion oherwydd newid yn ei ddull gweithio, dull a oedd yn cynhyrchu llawer mwy o bapur nag y ragwelwyd. Gyda’r capsiti ychwanegol hyn, roedd ELITE yn gallu cyflenwi’r biniau casglu ychwanegol angenrheidiol.

Ar ben arall y sbectrwmt, mae’r ffaith bod llawer o sefydliadau yn symud o amgylchedd y swyddfa wedi arwain at ymchwydd yn y galw am sicrhau bod gwybodaeth gorfforol ar gael arlein. Mae’r cynnydd cyflym yn y galw am ei wasanaeth sganio cyfrinachol wedi galluogi ELITE i gyflogi naw aelod newydd o staff i helpu yn yr adran sganio.

Mae ELITE hefyd yn falch ei fod wedi gallu tyfu contractau eraill, gan gynnwys y GIG, trwy ymateb i’r galw cynyddol am y gwasanaeth storio archifau y mae’n darparu, i storio cofnodion pwysig yn ddiogel.

Ochr yn ochr â’i lwyddiant masnachol cynyddol, mae’r grant wedi galluogi ELITE i ddatblygu ymhellach ei weithgaredd craidd o gefnogi’r rhai hynny sydd wedi’u hallgáu o gyfleoedd i ennill sgiliau a gwaith. Ers 2015, mae adran fenter gymdeithasol yr Elusen wedi gweithio gyda dros 250 o bobl sy’n dioddef anabledd neu anfantais; ‘rydym o’r farn bod swydd i gael i bawb, waeth beth yw’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt.

I roi esiampl, mae Prif Swyddog Gweithredol ELITE, Andrea Wayman, yn dweud “Mae ein adran sganio yn lle gwych ar gyfer y bobl hynny sy’n uchel weithredol ar y sbectrwm awtistig oherwydd yr angen am roi sylw i fanylder, ac ‘rydym yn eu cefnogi nhw i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol, ffactor sydd, o bosibl, yn y gorffennol wedi’u rhwystro rhag ennill cyflogaeth. Mae eu datblygiad wedi creu tîm gwych”.

Yn hyn o beth, mae prosiect y Gronfa Her hefyd wedi arddangos y rȏl y gall mentrau cymdeithasol chwarae yn yr economi sylfaenol. Mae Andrea o’r farn bod modd mabwysiadu model ELITE mewn unrhyw weithle, gan gynnwys BBaCh mwy o faint a’r Sector Cyhoeddus, i alluogi gweithluoedd mwy amrywiol, cefnogi economïau lleol a gwella dealltwriaeth o’r cyfraniad y mae pobl, sydd yn aml yn cael eu hesgeuluso, yn gallu gwneud.

Er mwyn cefnogi derbynwyr grant y Gronfa Her, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithredu cymuned ymarfer sy’n dod â phrosiectau at ei gilydd i rannu dysgu ac heriau. Mae Andrea o’r farn bod hyn wedi bod o fudd mawr wrth adeiladu perthynas ac wedi arwain at atgyfeiriadau newydd lluosog, yn ogystal â chleient newydd. Mae hyn hefyd wedi rhoi’r cyfle i ELITE i weithredu fel ‘llais prynu cymdeithasol’, ac i hysbysu, a dylanwadu ar, y rhai sydd yn ymwneud ag ocht bwrcasu y broses caffael.

Wrth sȏn am y Gymuned Ymarfer, roedd Andrea am ddweud, “Ro’n i ddim wedi sylweddoli faint o fonws y byddai’r cymunedau ymarfer yn cynnig i ni. Ro’n i’n meddwl eu bod yn rhyw fath o ȏl-ystyriaeth ond, mewn gwirionedd, mae’n nhw wedi bod yr un mor bwysig i ni ag yr oedd derbyn yr arian grant”.

Wrth i ELITE edrych at y dyfodol, mae ei amcanion yn cynnwys dal i dyfu ac hyrwyddo ei fodel. Bydd hyn yn golygu ennill mwy o gyfleoedd yn y sector cyhoeddus, a pharatoi’r ffordd, fel bod mentrau cymdeithasol eraill yn gallu dilyn yr esiampl.

The Foundational Economy Challenge Fund supported innovative, experimental approaches to community wealth-building and resilient local economies.

Cefnogodd Cronfa Her Economi Sylfaenol dulliau arloesol ac arbrofol o adeiladu cyfoeth cymunedol ac economïau lleol cadarn.

related resources

Scroll to Top
Skip to content