Economi Sylfaenol
Clare Sain-Ley-Berry
Cyfarwyddwr Dros-dro
Ar hyn o bryd mae Clare yn goruchwylio holl rhaglenni gwaith Cynnal Cymru i gyflymu’r cynnydd tuag at ddyfodol tecach a mwy cynaliadwy. Gyda’i chefndir mewn cyflenwi prosiectau partneriaeth, mae’n mwynhau hyrwyddo cydweithio a gweithio tuag at y deilliannau ymarferol sydd y tu ôl i’w nodau strategol.
Mae Clare wedi cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru ynghylch yr economi sylfaenol ers 2020, gan weithio gyda rhanddeiliaid o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae ein ffocws yn canolbwyntio ar archwilio’r ffordd y mae’r rhan hanfodol hon o’r economi yn cyfrannu at, ac yn cael ei ffurfio gan, bileri cynaliadwyedd, gan gynnwys gwaith teg a therfynau amgylcheddol.
Harry Thompson
Uwch Arweinydd Rhaglen a Pholisi
Harry yw’r Uwch Arweinydd Rhaglen a Pholisi; Gwaith Teg a’r Economi, ac mae’n rheoli’r tîm Gwaith Teg a Chyflog Byw, sy’n gweithio tuag at nod strategol Cynnal Cymru, sef creu cymdeithas deg a chyfiawn.
Cyn hyn roedd yn gweithio fel Arweinydd Polisi Economaidd gyda’r Institute of Welsh Affairs, yn arwain ar bynciau megis grymuso undebau llafur, fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru a grymuso cymunedau. Cyn hynny, buodd yn gyflogedig gan y cwmni materion cyhoeddus Deryn Consulting ac yn gweithio ar ymgyrchoedd gwleidyddol ac ymchwil yn y Senedd, San Steffan ac ar lefel awdurdod lleol.