Economi Sylfaenol
Y Centre for Local Economic Strategies (CLES)
Mae’r Centre for Local Economic Strategies (CLES) yn elusen, a leolir ym Manceinion, sy’n gweithio i ddatblygu economïau lleol er budd pobl lleol, y lle a’r blaned. Mae CLES yn cydweithio gyda’r mudiadau a’r bobl sy’n cynnwys, a sydd yn gallu dylanwadu ar economïau lleol, gan ddod â nhw at ei gilydd a darparu cefnogaeth er mwyn llunio datrysiadau a chynnig newid positif. Mae gwaith ymchwil CLES, sy’n seiliedig ar ymarfer, yn archwilio’r llwybrau ac ymarfer gorau i wireddu hyn.
Foundational Economy Research Ltd (FERL)
Mae Foundational Economy Research Ltd (FERL) yn asiantaeth ymchwil gweithredu sy’n cynhyrchu dadansoddiadau i wella dealltwriaeth o’r economi sylfaenol, a chynnig ffyrdd ymarferol o wella’i weithrediad ar gyfer cynhyrchwyr a’r cyhoedd. Mae FERL yn gweithio gyda, ac ar ran y llywodraeth, y trydydd sector a chyrff masnachol, gan adeiladu partneriaethau a fydd yn cefnogi gweithrediad hirdymor ei waith ymchwil.