Archwilio ein hastudiaethau achos
Mae’r astudiaethau achos isod yn rhannu mewnwelediad i rai o’r gwahanol ddulliau a ddefnyddiwyd i gefnogi’r economi sylfaenol yng Nghymru ac i ail-lunio neu gryfhau ei sectorau a’i chymunedau.
Astudiaethau achos o ran Bwyd y sector cyhoeddusb
Mae “Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol” Llywodraeth Cymru wedi ariannu amryw o brosiectau yn y sector bwyd i gynyddu faint o fwyd o Gymru sy’n cael ei weini ar blatiau cyhoeddus. Nod y grant yw cefnogi cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol i ddarparu bwyd lleol, cynaliadwy ac iach i ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Drwy hyrwyddo dulliau o gynhyrchu a defnyddio bwyd lleol, gallwn ni gael llai o effaith ar yr amgylchedd ac annog arferion cynaliadwy yng Nghymru.
Mae’r enghreifftiau yn yr astudiaethau achos isod yn cynnig blas o’r prosiectau a gefnogwyd gan y Gronfa – eu llwyddiannau, eu heriau ac, yn bennaf oll, dysgu beth yw’r ffordd orau o gefnogi’r economi sylfaenol yn eu hardal neu sector.












