Beth yw'r Economi Sylfaenol?
Mae’r Economi Sylfaenol yn cwmpasu’r agweddau hynny o’r economi sy’n darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n hanfodol i gynnal bywyd bob dydd.
Mae iechyd a gofal cymdeithasol, bwyd, tai, ynni a chyfleustodau, adeiladu, manwerthwyr y stryd fawr a thwristiaeth oll yn agweddau ar [neu ‘barthau’ o], yr economi sylfaenol.
Fel arfer, darperir y nwyddau a’r gwasanaethau hyn gan:
- gyrff cyhoeddus (yn uniongyrchol neu drwy ariannu gweithgareddau a ddarperir gan gyrff allanol)
- Cwmnïau bach a chanolig (SME)
- A chwmnïau llawer yn fwy megis cwmnïau cyfleustod a breifateiddiwyd neu ganghennau o gwmnïau symudol megis yr archfarchnadoedd mawr.
Gall presenoldeb – neu absenoldeb – economi sylfaenol leol ffyniannus gael effaith ddofn ar lefydd a’r cymunedau y maent yn eu cefnogi o ran nwyddau, gwasanaethau, dosraniad incwm a sgiliau a chyfleoedd am gyflogaeth.
Pam mae'r Economi Sylfaenol yn bwysig?
- Yr Economi Sylfaenol yw’r rhan o’r economi sy’n darparu hanfodion bywyd i fodau dynol, heb ystyried daearyddiaeth, incwm neu statws.
- Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod yr economi sylfaenol yn cynnal pedwar o bob deg swydd yng Nghymru, ac yn derbyn £1 o bob tair punt sy’n cael ei wario.
- Mae gan fusnesau a sefydliadau yr Economi Sylfaenol rhan fawr i’w chwarae o ran taclo’r argyfyngau natur a newid hinsawdd drwy’r ffyrdd y maent yn helpu dylanwadu ar gadwyni cyflenwi a chwsmeriaid, yn ogystal a drwy eu gweithgareddau eu hunain.
- Mewn rhai ardaloedd o Gymru yr ‘economi sylfaenol’ yw’r economi.
Mae Economi Sylfaenol seilir ar egwyddorion Gwaith Teg a gweithredu o fewn terfynnau hinsawdd ac amgylcheddol yn allweddol os am weld Cymru Llewyrchus, Gydnerth, Iachach a Mwy Cyfartal
Beth yw rôl Cynnal Cymru?
Cynnal Cymru sy’n hwyluso cymuned ymarfer ar yr Economi Sylfaenol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’n canolbwyntio ar sectorau sylfaenol craidd fel Bwyd, Gofal Cymdeithasol a Sgiliau’r Dyfodol.
Mae Cymuned Ymarfer yr Economi Sylfaenol yn cwrdd yn rheolaidd i gyfnewid gwybodaeth, rhannu gwersi a ddysgwyd ac annog arloesedd. Rhan allweddol o waith Cynnal Cymru yw helpu i frocera cysylltiadau rhwng prosiectau a phartneriaid o bob sector, gan ddatrys problemau’n ymarferol a hybu cydweithio. Yr aelodau sy’n arwain y cyfarfodydd hyn ac mae digon o gyfle i bobl gymryd rhan. Mae’r gymuned ymarfer yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, darparwyr hyfforddiant, mudiadau cymunedol, rhwydweithiau’r trydydd sector a swyddogion Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â sesiwn neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i shwmae@cynnalcymru.com.
Diweddariadau diweddaraf
Adnoddau diweddaraf
Astudiaethau achos diweddaraf
cysylltwch
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.



