Economi Deg

Cynnal Cymru yw prif elusen datblygu cynaliadwy Cymru, a’n nod yw galluogi gweithredu tuag at gymdeithas deg a chyfiawn, economi carbon isel ac amgylchedd naturiol ffyniannus.

Mae ein hamcanion elusennol yn cynnwys lliniaru tlodi a gwella amodau bywyd y rhai sydd o dan anfantais gymdeithasol ac economaidd, a hyrwyddo dulliau cynaliadwy o sicrhau twf economaidd ac adfywio.

Mae ein tîm Economi Deg yn gweithio ar brosiectau sy’n cyfrannu at y nodau hyn.

Creu economi sy’n gweithio i bawb

Rydym yn gwneud gwaith i greu cymdeithas ac economi sy’n decach ac yn fwy cyfiawn i Gymru: gan anelu at leihau tlodi a hyrwyddo adfywio economaidd cynaliadwy.

Mae ein blaenoriaethau presennol yn cynnwys lledaenu Gwaith Teg a Chyflog Byw ledled Cymru (sy’n gysylltiedig ag 8fed Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig) a chefnogi Economi Sylfaenol Cymru.

DSCF3006

Cyflog Byw Cymru

Ni yw Partner Achredu’r Sefydliad Cyflog Byw yng Nghymru. 
Mae hynny’n golygu ein bod yn cynnal Cyflog Byw Cymru yn fewnol yn Cynnal Cymru. 
Mae ein staff Cyflog Byw yn dadlau o blaid y Cyflog Byw gwirioneddol ledled Cymru, gan gefnogi cyflogwyr i ennill achrediad Cyflog Byw, Oriau Byw, neu Bensiynau Byw gyda gwasanaeth ‘dal llaw’. 

Mae ein hachrediadau wedi arwain yn uniongyrchol at godiadau cyflog i filoedd o bobl ledled Cymru. 
Mae’r Cyflog Byw yn rhan allweddol o agenda Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, ac rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru yn ein gwaith. 
Rydym hefyd yn gweithio i gefnogi nodau eraill yr agenda Gwaith Teg.

Yr Economi Sylfaenol

Yr Economi Sylfaenol yw’r rhan o’n heconomi sy’n hanfodol i’n bywydau – fel gofal iechyd, gofal plant, trafnidiaeth a chyfleustodau. Mae pwysigrwydd y rhan hon o’r economi yn aml wedi cael ei anwybyddu gan wneuthurwyr polisi ac weithiau mae’n cael ei galw’n ‘economi bob dydd’. 

Mae Cynnal Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i drefnu Rhwydwaith Galluoedd yr Economi Sylfaenol (FECN), ac i ddarparu cymorth i gryfhau Economi Sylfaenol Cymru. 

Gallwch ddysgu mwy am gysyniad yr Economi Sylfaenol a sut mae Cynnal Cymru yn ei gefnogi.

Lady writing on paper during a workshop

Ymgynghoriaeth

Mae Cynnal Cymru yn gweithio ar brosiectau tymor byr eraill sy'n gysylltiedig â'n hamcanion elusennol yn y gofod Economi Deg. 

Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys ymchwil ar sut i fynd i’r afael â chyflogau isel mewn sectorau blaenoriaeth, hyfforddi cynrychiolwyr undebau llafur ar sut i fanteisio ar ddeddfwriaeth newydd i greu canlyniadau gwell i’w haelodau, a phrosiectau eraill sy’n cyfrannu at gymdeithas deg a chyfiawn a gweithredu tuag at leihau tlodi. 

Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn weithio gyda’n gilydd.

Y Newyddion a’r Digwyddiadau Diweddaraf

Cysylltu â ni

training@cynnalcymru.com

029 2043 1746

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Mae ein cylchlythyr misol yn cynnwys crynodeb o’r newyddion cynaliadwyedd diweddaraf yn ogystal â diweddariadau ar ein cyfleoedd hyfforddi diweddaraf.

Scroll to Top
Skip to content