E-ddysgu Adfer Natur

Cyflwyniad ar-lein i fioamrywiaeth a’r argyfwng natur

Wedi’i ddylunio mewn partneriaeth â

Mae E-ddysgu Adfer Natur Cynnal Cymru yn rhoi cyfle i staff y sector cyhoeddus ledled Cymru i ddeall yr argyfwng natur, meithrin gwybodaeth am eu rôl o ran adfer natur, a chyfrannu at rwymedigaethau statudol.

Strwythur y cwrs

Wedi’i ddatblygu gydag arbenigwyr bioamrywiaeth sydd eisoes wedi’u cyflogi yn y sector cyhoeddus, mae ein modiwlau e-ddysgu Adfer Natur wedi’u rhannu’n saith maes allweddol, pob un â ffocws a chanlyniad dysgu penodol.

  • Modiwl 1: – Pam mae’r cwrs hwn mor bwysig?

    Mae fideo byr o safbwynt person ifanc yn egluro sefyllfa’r argyfwng natur presennol.

  • Modiwl 2: – Bioamrywiaeth

    Mae graffeg wedi’i animeiddio ac esboniadau cryno yn cyflwyno termau a ffeithiau gwyddonol allweddol ynghylch bioamrywiaeth ac ecosystemau, gan dynnu sylw at eu pwysigrwydd, eu rhyng-gysylltiad a’u manteision cysylltiedig.

  • Modiwl 3: - Yr argyfwng natur

    Mae enghreifftiau amlwg o Gymru a thu hwnt yn archwilio’r prif ffactorau sy’n sbarduno colli natur yn fyd-eang a beth mae hynny’n ei olygu i ni yng Nghymru.

  • Modiwl 4: - Sut mae Cymru’n ymateb?

    Mae cyflwyniadau hawdd eu dilyn yn egluro deddfwriaeth Cymru sy’n cefnogi’r broses o adfer natur, gan ganolbwyntio ar weithredu Adran 6 a chyfeirio at ragor o gymorth.

  • Modiwl 5: - Yr ymateb byd-eang

    Mae esboniadau cryno yn dangos sut mae nodau’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a’r targed 30 x 30 yn sail i Gynlluniau Gweithredu Adfer Natur Cenedlaethol a Lleol.

  • Modiwl 6: - Sut beth yw adfer natur?

    Mae astudiaethau achos a delweddau yn dadansoddi strategaethau adfer natur a rôl Partneriaeth Natur Lleol, gan ddangos cydweithio ac integreiddio o fewn dyletswyddau presennol.

  • Modiwl 7: – Camau Gweithredu

    Mae addewidion rhyngweithiol yn annog dysgwyr i gynnal gweithredoedd sy’n gadarnhaol o ran natur a mabwysiadu rhai newydd yn y gweithle ac yn y cartref.

Opsiynau cwrs

Mae pob un o'r opsiynau isod yn cynnwys cynhwysion dysgu hanfodol yn seiliedig ar gynnwys a arweinir gan ymchwil sy'n dod â'r wyddoniaeth ddiweddaraf yn fyw gydag enghreifftiau Cymraeg perthnasol.

Mae pob opsiwn yn cynnwys modiwlau craidd sy’n ymdrin â hanfodion ecosystemau; pwysau allweddol gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a darnio cynefinoedd; dyletswyddau statudol gan gynnwys Adran 6, sut mae’r rhain yn berthnasol ac y gellir eu gweithredu ar draws pob tîm ac adran; astudiaethau achos; gwiriadau gwybodaeth; ac opsiynau i addo cymorth ar gyfer adfer natur a chamau gweithredu 30 x 30.

Mabwysiadu

I sefydliadau sydd eisiau gwybodaeth sylfaenol gryno, mae ein modiwlau e-ddysgu craidd yn darparu dysgu hanfodol i’r tîm cyfan.

O £7,500 + TAW

Beth mae hyn yn ei olygu?

Gan ddadansoddi gwybodaeth sylfaenol, mae’r pecyn craidd hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i ddysgwyr ddeall yr argyfwng natur a chyfrannu at dargedau byd-eang.

Cost

O £7,500 + TAW

Sylwch fod pob opsiwn yn cynnwys prisiau ar gyfer fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r cynnyrch

Yr hyn sydd wedi ei gynnwys
  • Cwrs e-ddysgu trwyddedig, cwbl ddwyieithog ar adfer natur i’w ddefnyddio yn eich sefydliad
  • Cynnwys perthnasol, diddorol, wedi’i brofi ac wedi’i adeiladu gan arbenigwyr ym maes adfer natur a dysgu ar-lein
  • Ffeil SCORM yn barod i’w ddefnyddio y gallwch llwytho i fyny i’ch System Rheoli Dysgu eich hun
  • Tîm dylunio ac adeiladu technegol pwrpasol i’ch tywys drwy’r broses
  • Mynediad at ddiweddariadau yn y dyfodol am brisiau gostyngol

Addasu

Ar gyfer sefydliadau sydd eisiau ymgorffori cyd-destun a blaenoriaethau lleol, mae ein modiwlau e-ddysgu wedi’u haddasu yn ymgorffori cynnwys, brandio a negeseuon wedi’u teilwra i adlewyrchu anghenion a nodau penodol.

O £10,500 + TAW

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae hyn yn ehangu’r pecyn sylfaenol gydag opsiynau i sicrhau bod y cynnwys yn gydnaws ag astudiaethau achos, cyd-destun lleol a negeseuon allweddol eich sefydliad o ran adfer natur.

Cost

O £10,500 + TAW

Sylwch fod pob opsiwn yn cynnwys prisiau ar gyfer fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r cynnyrch

Yr hyn sydd wedi ei gynnwys
  • Cwrs e-ddysgu trwyddedig, cwbl ddwyieithog ar adfer natur i’w ddefnyddio yn eich sefydliad
  • Cynnwys perthnasol, diddorol, wedi’i brofi ac wedi’i adeiladu gan arbenigwyr ym maes adfer natur a dysgu ar-lein
  • Ffeil SCORM yn barod i’w ddefnyddio y gallwch llwytho i fyny i’ch System Rheoli Dysgu eich hun
  • Cynnwys digidol uwch, gan gynnwys fideo cyflwyno personol i ysgogi eich tîm
  • Y gallu i addasu pob modiwl i gynnwys elfennau brand a dysgu ychwanegol neu uwch
  • Templedi manwl ac arweinydd prosiect arbenigol
  • Tîm dylunio ac adeiladu technegol pwrpasol i’ch tywys drwy’r broses
  • Mynediad at ddiweddariadau yn y dyfodol am brisiau gostyngol

Ehangu

Mae’r pecyn hwn yn mynd y tu hwnt i addasu ac yn teilwra ac ehangu’r cynnwys presennol i ddiwallu anghenion sefydliadol neu dîm penodol.

O £18,900 + TAW

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae’r pecyn hwn yn mynd y tu hwnt i addasu ac yn teilwra ac ehangu’r cynnwys presennol i ddiwallu anghenion sefydliadol neu dîm penodol.

Cost

O £18,900 + TAW

Sylwch fod pob opsiwn yn cynnwys prisiau ar gyfer fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r cynnyrch

Yr hyn sydd wedi ei gynnwys
  • Cwrs e-ddysgu trwyddedig, cwbl ddwyieithog ar adfer natur i’w ddefnyddio yn eich sefydliad
  • Cynnwys perthnasol, diddorol, wedi’i deilwra’n llawn ac wedi’i adeiladu gan arbenigwyr ym maes adfer natur a dysgu ar-lein
  • Ffeil SCORM yn barod i’w defnyddio y gallwch llwytho i fyny i’ch system rheoli dysgu eich hun
  • Cynnwys digidol ehangach, gan gynnwys fideo cyflwyno personol a rhagor o opsiynau ar gyfer animeiddiadau a fideos pwrpasol
  • Y gallu i addasu pob modiwl i gynnwys elfennau brand a dysgu ychwanegol neu uwch
  • Gwiriadau gwybodaeth wedi’u teilwra ac addewidion gweithredu sy’n cyd-fynd â strategaethau a chenhadaeth eich sefydliad
  • Tîm dylunio ac adeiladu technegol pwrpasol a rheolwr prosiect profiadol i arwain y broses gyd-gynhyrchu
  • Mynediad at ddiweddariadau yn y dyfodol am brisiau gostyngol

Creu

Os byddai’n well gennych greu eich modiwl e-Ddysgu eich hun sy’n unigryw i’ch sefydliad ac wedi’i deilwra’n benodol i’ch cenhadaeth a’ch cynulleidfa, yna rydym yn hapus i archwilio opsiynau gyda chi.

O £24,250 + TAW

Beth mae hyn yn ei olygu?

Os byddai’n well gennych greu eich modiwl e-ddysgu eich hun sy’n unigryw i’ch sefydliad ac wedi’i deilwra’n benodol i’ch cenhadaeth a’ch cynulleidfa, yna rydym yn hapus i archwilio opsiynau gyda chi. Byddai hyn yn cynnwys gweithio gyda’r timau arwain i lunio cynnwys cwrs, gwiriadau gwybodaeth penodol i adlewyrchu blaenoriaethau lleol, a chyd-gynhyrchu asedau digidol gan gynnwys fideos, trosleisio ac animeiddiadau ac ati.

Cost

O £24,250 + TAW

Darperir dyfynbrisiau yn dilyn trafodaeth fanwl ar gwmpas a manyleb y prosiect.

Yr hyn sydd wedi ei gynnwys
  • Cwrs e-ddysgu trwyddedig, cwbl ddwyieithog ar adfer natur i’w ddefnyddio yn eich sefydliad
  • Cynnwys perthnasol, diddorol, wedi’i brofi ac wedi’i adeiladu gan arbenigwyr ym maes adfer natur a dysgu ar-lein
  • Ffeil SCORM yn barod i’w ddefnyddio y gallwch llwytho i fyny i’ch System Rheoli Dysgu eich hun
  • Tîm dylunio ac adeiladu technegol pwrpasol i’ch tywys drwy’r broses
  • Mynediad at ddiweddariadau yn y dyfodol am brisiau gostyngol

Cysylltwch ar gyfer rhagor o wybodaeth. Gallwn roi rhagolwg i chi o’r cwrs a rhagor o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael.

Rhagor o wybodaeth am sut y gallwn eich cefnogi ar eich taith

Y camau nesaf

  • 1. Ffoniwch i drafod ymhellach

    Os hoffech wybod mwy, trefnwch alwad i drafod opsiynau cwrs a phrisiau, ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

  • 2. Rhagolwg o’r cwrs

    Yn dilyn ein sgwrs, byddwn yn trefnu bod gennych gyfrif eich hun i chi gael mynediad at ddwy fersiwn enghreifftiol o’n cwrs i’ch helpu i benderfynu pa opsiwn sy’n gweithio orau i’ch sefydliad.

  • 3. Amlinelliad cam wrth gam manwl

    Mae cydnabyddiaeth gynyddol ar bob lefel o’r angen i weithredu nawr. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Natur yn 2021, ac mae nifer cynyddol o gyrff o bob sector yn dilyn yr un drefn o ran cadw at dargedau byd-eang, sy’n ceisio diogelu 30% o dir a moroedd y ddaear erbyn 2030. At hynny, maent yn gweithio i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth a sicrhau ecosystemau cynaliadwy.

  • 4. Cynnig

    Ar ôl i ni ddeall eich anghenion, byddwn yn paratoi cynnig manwl yn seiliedig ar y dull rydych chi’n ei ffafrio.

  • 5. Contract

    Pan fyddwch chi’n fodlon bwrw ymlaen, byddwn yn anfon cytundeb gwasanaeth atoch yn cadarnhau’r hyn sydd i’w gyflawni, y gofynion o ran gwybodaeth, y prisiau a’r amserlenni.

  • 6. Gweithredu

    Cyn gynted ag y byddwn yn cael y cytundeb gwasanaeth wedi’i lofnodi gennych chi, byddwn yn dechrau creu eich modiwl e-ddysgu.

Ein partneriaeth

Cwestiynau Cyffredin

Ar gyfer pwy mae’r e-ddysgu hwn?

Nod ein modiwlau e-ddysgu bioamrywiaeth yw cefnogi staff awdurdodau lleol yng Nghymru i ddeall yr argyfwng natur, meithrin gwybodaeth am rolau unigolion o ran adfer natur, a darparu mynediad at wybodaeth a chymorth mewn awdurdodau penodol. Yn ei ffurf bresennol, mae’r e-ddysgu wedi’i anelu at staff a chymdeithion sy’n gweithio mewn lleoliad awdurdod lleol. Ar hyn o bryd mae Cynnal Cymru yn datblygu fersiwn o’r modiwlau e-ddysgu am adfer natur sy’n hygyrch i bob cynulleidfa.

Beth sydd wedi'i gynnwys yn y rhagolwg cwrs?

Yn ystod y rhagolwg byddwch yn profi modiwl 1 o’r cwrs arddangos, sy’n canolbwyntio ar gynnwys digidol a gynhyrchwyd gan ein partneriaid, Cyfryngau Digidol Tantrwm, a modiwl 4, sy’n esbonio deddfwriaeth berthnasol, i ddeall ansawdd a dyluniad ein dull dysgu.

Rydym hefyd yn arddangos modiwl 2 yr e-ddysgu wedi’i ‘Addasu’ a gynhyrchwyd ar gyfer un o’n partneriaid, Cyngor Sir y Fflint, i ddangos sut y gellir teilwra adrannau i gynnwys cyd-destun a gwybodaeth leol benodol.

Sut gallaf weld y cwrs a rhoi prawf arno?

Cysylltwch â ni a byddwn yn trafod y broses gyda chi.

Ydych chi'n cynnig gostyngiadau?

Ydyn, os ydych chi’n aelod o Cynnal Cymru, rydym yn cynnig gostyngiad i aelodau.

Cysylltu â ni

training@cynnalcymru.com

029 2043 1746

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Mae ein cylchlythyr misol yn cynnwys crynodeb o’r newyddion cynaliadwyedd diweddaraf yn ogystal â diweddariadau ar ein cyfleoedd hyfforddi diweddaraf.

Scroll to Top