Teitl y Swydd: | Swyddog Hyfforddiant a Chyfathrebu |
Cyflog: | Tua £23,000 – 25,000 pro rata |
Hyd y cytundeb: | Cytundeb blwyddyn i ddechrau (cyfnod mamolaeth) |
Oriau: | 30 awr yr wythnos / gweithio’n hyblyg |
Dyddiad cychwyn: | Ionawr 2022 |
Lleoliad: | Gweithio o gartref/ Swyddfa Caerdydd |
Rheolwr Llinell: | Prif Ymgynghorydd |
Gan gydweithio gyda’n aelodau ar draws y sector, a’n rhwydwaith ehangach, ‘rydym yn llunio’r agenda ac yn adnabod cyfleoedd am weithredu ar ddatblygu cynaliadwy, yn cefnogi’n haelodau a’n cymunedau ymarfer gyda’i agendáu cynaliadwyedd, ac yn rhannu gwybodaeth drwy wneud gwaith hyfforddi ac ymgynghori. Ni yw partner swyddogol Prosiect Llythrennedd Carbon yng Nghymru a Chorff Achredu’r Cyflog Byw Go Iawn i Gymru.
Gyda’r cynnydd yn y galw am ein hyfforddiant arlein ac wyneb-yn-wyneb ynghylch newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, hoffen ni gyflogi rhywun sy’n gallu’n helpu ni gydgysylltu a chyflwyno’r gwaith, yn ogystal â chefnogi ei dwf drwy gyfathrebu, marchnata a mesur effaith yn effeithiol.
Sut i ymgeisio:
Anfonwch eich cais at jobs@cynnalcymru.com erbyn Dydd Sul 12 Rhagfyr 2021, gan gynnwys:
- E-bost Clawr
- Ffurflen Gais
- Ffurflen Cyfleoedd Cyfartal
Nodir, os gwelwch yn dda, nad ydyn ni’n derbyn C.V
Rydyn ni’n defnyddio proses recriwtio ddall.
Dadlwythwch y disgrifiad swydd
Dadlwythwch Ffurflen cyfle cyfartal
Am fwy o wybodaeth ar y rôl, cysylltwch â Rhodri Thomas, Prif Ymgynghorydd ar 02922940810
Ar hyn o bryd mae staff Cynnal Cymru yn gweithio hyd at wythnos pedwar diwrnod rhwng dydd Llun a dydd Iau gyda threfniadau gweithio hyblyg yn seiliedig ar anghenion rôl y swydd.
Rydyn ni’n rhagweld y gellir lleoli swydd y Swyddog Hyfforddi a Chyfathrebu yn unrhyw le yng Nghymru ond yn ddelfrydol dylech allu gweithio o leiaf 1-2 ddiwrnod yr wythnos o Swyddfa Caerdydd.