Mae 248 parc a man gwyrdd yng Nghymru wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. Maent yn cynnwys ystod amrywiol o safleoedd, o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd.
Bellach yn ei thrydydd degawd, mae Gwobr ryngwladol y Faner Werdd yn arwydd bod gan barc neu fan gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw’n rhagorol a bod ganddo gyfleusterau gwych i ymwelwyr.
Mae gan Gymru dros draean safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU, sydd yn cael eu cynnal a’u cadw a’u rhedeg gan wirfoddolwyr. Mae amrywiaeth o fannau gwyrdd wedi cyflawni Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf yn cynnwys Ynys Tysilio, Ynys Môn a Golchdy Tŷ Tredegar, Casnewydd.
Dywedodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru:
“Mae gan ein mannau gwyrdd lleol yn chwarae rhan hanfodol i gysylltu ni â byd natur. Mae’r gwobrau hyn yn profi bod parciau ac ardaloedd tebyg Cymru yn gwneud gwaith gwych yn darparu lleoedd o safon i ymlacio a mwynhau.
“Mae’r safon sy’n ofynnol i ennill statws y Faner Werdd yn uchel iawn felly rwyf am longyfarch pob un o’r safleoedd a gydnabyddir am ddarparu cyfleusterau rhagorol trwy gydol y flwyddyn i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
“Mae’n wych gweld ein bod ni’n dal i ddal mwy na thraean o safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU yng Nghymru – yn enwedig gan fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi dysgu i ni i gyd pa mor bwysig yw natur a mannau gwyrdd i’n lles meddyliol a chorfforol.”
Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glanweithdra, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus:
“Dangosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a manau gwyrdd o ansawdd da i’n cymunedau. Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.”
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru
Mae Cadwch Gymru’n Daclus bob amser yn chwilio am fannau newydd i ymuno â Gwobrau’r Faner Werdd. Os hoffech roi eich parc neu fan gwyrdd chi ar y map, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru am fwy o wybodaeth.