Economi
Sylfaenol

Mae’r Economi Sylfaenol yn berthnasol i wneuthurwyr polisi, a’r rhai sy’n creu lleoedd, fel ei gilydd. Mae Cynnal Cymru yn cydweithio gyda’r ddau er mwyn archwilio, ac esbonio, paham y mae’r rhan yma o’r economi o bwys o ran cynaliadwyedd.

Economi Sylfaenol

Mae’r Economi Sylfaenol yn cwmpasu’r agweddau hynny o’r economi sy’n darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n hanfodol i gynnal bywyd bob dydd.

Mae iechyd a gofal cymdeithasol, bwyd, tai, ynni a chyfleustodau, adeiladu, manwerthwyr y stryd fawr a thwristiaeth oll yn agweddau ar [neu ‘barthau’ o], yr economi sylfaenol.

Fel arfer, darperir y nwyddau a’r gwasanaethau hyn gan gyrff cyhoeddus; (yn uniongyrchol neu drwy ariannu gweithgareddau a ddarperir gan gyrff allanol); cwmnïau bach a chanolig (SME); a chwmnïau llawer yn fwy megis cwmnïau cyfleustod a breifateiddiwyd neu ganghennau o gwmnïau symudol megis yr archfarchnadoedd mawr.

Gall presenoldeb – neu absenoldeb – economi sylfaenol leol ffyniannus gael effaith ddofn ar lefydd a’r cymunedau y maent yn eu cefnogi o ran nwyddau, gwasanaethau, dosraniad incwm a sgiliau a chyfleoedd am gyflogaeth.

Paham mae’r Economi Sylfaenol yn bwysig?

  • Yr Economi Sylfaenol yw’r rhan o’r economi sy’n darparu hanfodion bywyd i fodau dynol, heb ystyried daearyddiaeth, incwm neu statws.
  • Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod yr economi sylfaenol yn cynnal pedwar o bob deg swydd yng Nghymru, ac yn derbyn £1 o bob tair punt sy’n cael ei wario.
  • Mae gan fusnesau a sefydliadau  yr Economi Sylfaenol rhan fawr i’w chwarae o ran taclo’r argyfyngau natur a newid hinsawdd drwy’r ffyrdd y maent yn helpu dylanwadu ar gadwyni cyflenwi a chwsmeriaid, yn ogystal a drwy eu gweithgareddau eu hunain.
  • Mewn rhai ardaloedd o Gymru yr ‘economi sylfaenol’ yw’r economi.

Mae Economi Sylfaenol a seilir ar egwyddorion Gwaith Teg a gweithredu o fewn terfynnau hinsawdd ac amgylcheddol yn allweddol os am weld Cymru Llewyrchus, Gydnerth, Iachach a Mwy Cyfartal

Adnoddau Cyflym

Diweddariadau Diweddaraf
Mwy o’r economi sylfaenol
Scroll to Top