Mae’r cwrs hyfforddiant Nabod Natur – Nature Wise a ddarperir gan Cynnal Cymru – Sustain Wales, yn eich hyfforddi ynghylch y ffordd y mae’r amgylchedd naturiol yn gweithio, y bygythiadau y mae’n wynebu a sut y gall bawb helpu natur i ffynnu.
Diolch i gyllid oddi wrth Moondance Foundation, yr ydym yn gallu cynnig ein cwrs eco-lythrennedd Nabod Natur trwy yr iaith Gymraeg. Bydd y cwrs yn canolbwytio’n benodol ar y ffordd y gall gweithredu ymarferol fod o fudd i natur.
Rydym yn cynnig llefydd di-dâl i staff, gwirfoddolwyr neu aelodau mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol rhwng mis Mai 2023 a Gorffennaf 2023.
Mwy am y cwrs Nabod Natur – Nature Wise
Mae Nabod Natur yn gwrs sy’n canolbwytio ar weithredu, ac a seilir ar wyddoniaeth, i’ch helpu chi ddeall y berthynas rhwng pobl a systemau naturiol. Mae’n rhannu gwybodaeth, yn adeiladu dealltwriaeth a darparu’r offer i ysgogi a chataleiddio gweithredu.
Beth fydda i’n dysgu?
Bydd eich cwrs eco-llythrennedd Nabod Natur yn eich helpu chi fod yn fwy gwybodus a hyderus ynghylch helpu taclo’r argyfwng natur ar eich stepen drws, a thu hwnt. Mae rhan o’r cwrs yn cynnwys datblygu cynllun gweithredu ar gyfer natur yn seiliedig ar yr hyn y byddwch wedi’i archwilio yn ystod y cwrs. Gall hyn fod ar gyfer eich bywyd personol neu eich grŵp/ mudiad.
Ar gyfer pwy y mae’r cwrs Eco-llythrennedd Nabod Natur?
Bwriedir y cwrs eco-llythrennedd Nabod Natur ar gyfer:
- Grwpiau cymunedol neu fudiadau gwirfoddol ledled Gymru
- Gall unrhyw aelod o staff, gwirfoddolwr neu ymddiriedolwr mudiad gwirfoddol neu grŵp cymunedol gofrestru. Mae cynghorwyr tref a chymuned o’r ardaloedd hyn hefyd yn gymwys.
Dyddiadau’r cwrs
Cwrs | Sesiwn 1 – 2.5 awr | Sesiwn 2 – 2.5 awr |
1 | ||
2 | ||
3 | ||
4 | ||
5 | 13eg o Fehefin 2023 10yb – 12:30yp (Cymraeg) | 15fed o Fehefin 2023 10yb – 12:30yp (Cymraeg) |
6 | 20fed o Fehefin 2023 10yb – 12:30yp (Saesneg) | 22ain o Fehefin 2023 10yb – 12:30yp (Saesneg) |
7 | 4ydd o Orffennaf 2023 10yb – 12:30yp (Cymraeg) | 6ed o Orffennaf 2023 10yb – 12:30yp (Cymraeg) |
8 | 11eg o Orffennaf 2023 10yb – 12:30yp (Saesneg) | 13eg o Orffennaf 2023 10yb – 12:30yp (Saesneg) |
9 | 25ain o Orffennaf 2023 10yb – 12:30yp (Saesneg) | 27ain o Orffennaf 2023 10yb – 12:30yp (Saesneg) |
Ymrwymiad y cwrs
Dim ond pump awr bydd angen arnoch os am gymryd rhan – dwy sesiwn arlein a gynhelir yn ystod yr un wythnos, a hynny fel arfer ar ddydd Mawrth a dydd Iau.
Bydd tystysgrifau yn cael eu dyrannu i’r ymgeiswyr sy’n gorffen y cwrs yn llwyddiannus.
Sut y galla i archebu lle?
Cofrestrwch eich lle yn rhad-ag-am-ddim trwy Ticketsource
Am unrhyw ymholiadau eraill, anfonwch e-bost i training@cynnalcymru.com
Cwestiynau cyffredin
Oes angen arna i unrhyw wybodaeth flaenorol am systemau natur?
Nag oes, mae’r cwrs byr hwn yn agored i bawb. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol.
Beth os na allaf fynychu ar y diwrnodau hynny?
Rhaid ichi fynychu’r ddwy sesiwn i gwblhau’r cwrs. Os nad ydych ar gael ar yr amseroedd a hysbysebir, ond yn dal am wneud y cwrs, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda, a byddwn yn ychwanegu’ch enw at restr am gwrs a gynhelir ar amser arall.
Beth os yw fy ngrŵp cyfan am wneud y cwrs?
Os oes gennych grŵp o ddeg person neu fwy sydd am wneud y cwrs, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda a byddwn yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnal cwrs ar wahân ar adeg sy’n eich siwtio chi.
Pryd bydd y cyrsiau yn cael eu cynnal?
Byddwn yn cynnal cyrsiau rheolaidd rhwng Mai a Gorffennaf 2023.