Rhowch eich barn i Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent

Beth ddylen ni wneud ym Mlaenau Gwent i daclo’r argyfwng hinsawdd mewn modd sy’n deg ac yn gwella safonau byw i bawb?

Beth yw Polis a pham rydyn ni’n ei ddefnyddio yn ychwanegol i gael y Cynulliad Hinsawdd?

Bydd y 50 cyfranogwr yng Nghynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent yn ffurfio argymhellion i’w hystyried gan y Cyngor, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasau Tai lleol. Er mwyn sicrhau bod yr argymhellion hyn mor wybodus â phosibl, rydym hefyd eisiau deall sut mae cymuned ehangach Blaenau Gwent yn teimlo am y cwestiwn – Beth ddylen ni wneud ym Mlaenau Gwent i daclo’r argyfwng hinsawdd mewn modd sy’n deg ac yn gwella safonau byw i bawb?

I gasglu’r wybodaeth hon rydym yn defnyddio gwefan o’r enw Polis – system amser real ar gyfer casglu, dadansoddi a deall beth mae grwpiau mawr o bobl yn ei feddwl yn eu geiriau eu hunain.
Gall unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Blaenau Gwent gymryd rhan yn arolwg Polis ac mae’r holl ymatebion yn anhysbys. Mae’r arolwg yn agor ar Ddydd Llun 1af Mawrth 2021 ac yn cau ar Ddydd Llun 22ain Mawrth 2021.

Bydd canlyniadau’r arolwg ‘Polis’ yn cael eu cyflwyno i aelodau’r Cynulliad ar Ddydd Sadwrn 27fed Mawrth gan Mutual Gain (y prif hwyluswyr). Felly bydd gan y Cynulliad gyfle i ystyried canlyniadau o’r arolwg ‘Polis’ wrth wneud yr argymhellion. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad o ganlyniadau’r arolwg ar wefan y Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent. Felly mae hwn yn gyfle gwych i unigolion ddweud eich dweud!

I ddarganfod mwy am sut i gymryd rhan yn arolwg Polis ac ychwanegu datganiadau i eraill bleidleisio arnynt, cliciwch yma. (Gwefan trwy gyfrwng Saesneg yn unig).

Updates

Subscribe to our newsletter

Twitter

Join the conversation online using the hastag
#BGClimateAssembly

YouTube

Coming soon...

Scroll to Top