Mae Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent yn un o’r cynulliadau hinsawdd gyntaf yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2021, daeth â 50 o bobl ardal Blaenau Gwent at ei gilydd er mwyn fynd i’r afael â’r cwestiwn:
Beth ddylen ni wneud ym Mlaenau Gwent i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd mewn modd sy’n deg ac yn gwella safonau byw i bawb?
Cafodd y cyfranogwyr eu gwahodd i glywed tystiolaeth, trafod y materion a chynhyrchu argymhellion ar beth gall sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus ac unigolion yn gwneud i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Bydd yr argymhellion gwnaethpwyd yn cael eu hystyried gan sefydliadau fel Cyngor Blaenau Gwent fel rhan o’i gynllun datgarboneiddio a bydd yn helpu siapio cynlluniau hinsawdd cymdeithasau tai lleol.
Archwiliodd y Cynulliad Hinsawdd y cwestiwn trosfwaol gan ddysgu amdano a thrafod is-themâu cysylltiedig gan gynnwys tai, natur, mannau gwyrdd a thrafnidiaeth.
Cyflwynodd arbenigwyr arweiniol wybodaeth ar newid yn yr hinsawdd a’r is-themâu er mwyn darparu cyd-destun am y trafodaethau.
Argymhellion
Mae 43 o 47 aelod Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent wedi bwrw eu pleidlais ynghylch yr argymhellion terfynol. Roedd pum argymhelliad wedi derbyn dros 80% o’r bleidlais ac wedi eu pasio gan y Cynulliad yn swyddogol.
Bydd yr argymhellion yn cael eu cyflwyno i’r Cymdeithasau Tai a Grŵp Llywio Lliniaru Newid Hinsawdd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a bydd ymatebion ysgrifenedig ar gael.