Yn debyg i siroedd eraill Cymru, mae Sir y Fflint yn wynebu heriau cydgysylltiedig, sef cyni, poblogaeth sy’n heneiddio a sector gofal sy’n cael hi’n anodd cwrdd â’r galw cynyddol am ofal. Gyda chymorth o Gronfa Her yr Economi Sylfaenol, Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn peilota datblygiad ‘meicro-ofal’ a leolir yn y gymuned, er mwyn helpu tyfu’r cyflenwad gofal, creu swyddi cynaliadwy sy’n talu’n dda, ehangu’r dewis a chyflenwi gwasanaethau gofal o safon uchel.
Mae’r pandemig Covid wedi amlygu pwysigrwydd gofal cymdeithasol i bobl sy’n agored i niwed ond, wedi dweud hynny, o’i gymharu â phroffesiynau eraill sy’n gofyn am sgiliau tebyg, mae’r gwaith hwn yn aml yn cynnig tâl isel, mae’r amodau gwaith yn heriol ac mae’r cyfleoedd am hyfforddiant a chamu ymlaen o ran gyrfa yn gyfyngedig. Felly, mae recriwtio a chadw staff gofal, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn her.
Roedd adolygiad strategol y Cyngor o’r sector gofal yn Sir y Fflint yn 2019 wedi amlygu ‘meicro-ofal’ fel datrysiad posibl i rai o’r heriau hyn. Mae meicro-ofal yn cael ei ddiffinio fel gofal a roddir naill ai gan dîm bach neu unigolyn i nifer fach o gleientod, a hynny fel arfer ar lefel leol.
Mae meicro-ofal yn cynnig nifer o fuddion i ofalwyr a’r rhai hynny sy’n derbyn gofal fel ei gilydd. Mae’r llwyth achosion llai yn golygu bod meicro ddarparwyr yn gallu cynnig gwasanaeth mwy personol a hyblyg i’r bobl hynny sydd yn eu gofal. Mae hefyd yn cael gwared ar yr angen am gyfnodau hir o deithio rhwng cleientod lluosog – teithio sydd yn aml yn ddi-dâl – ac felly’n gwneud y gwaith yn llai o straen, a thalu yn well.
Mae meicro ddarpariaeth hefyd yn cynnig cyfle am hunan-gyflogaeth gan, o bosib, ddenu’r rhai hynny sydd am weithio ar eu liwt eu hunain – megis gofalwyr anffuriol neu bobl sy’n gweithio’n rhan amser – pobl na fyddai, efallai, fel arall wedi meddwl am ymuno â’r proffesiwn gofal.
Felly roedd y Cyngor wedi gofyn i’r Gronfa Her gefnogi prosiect peilot 2-flynedd ar ei hyd i dyfu a chefnogi meicro-ofal yn Sir y Fflint, gyda’r nod o gynyddu’r nifer o ofalwyr yn y sir, a darparu swyddi lleol, cynaliadwy sy’n talu’n dda, ac helpu ateb y galw cynyddol am ofal.
Dyfarnwyd arian yn 2019 am brosiect i gefnogi, yn uniongyrchol, meicro-ofalwyr wrth iddynt gychwyn eu gwaith, drwy gynnig cyngor, cyllid sbarduno a marchnata. Roedd y grant hefyd wedi galluogi’r Cyngor i ddatblygu rhwydweithiau o feicro-ddarparwyr a chreu strwythurau i sicrhau bod eu harfer yn ddiogel, yn gyfreithlon ac o answadd, ac yn galluogi’r awdurdod lleol i gomisiynu gwasanaethau oddiwrthynt yn uniongyrchol.
Mae meicro-ofal ar y fath raddfa yn newydd yng Nghymru. Tra bod Cyngor Sir y Fflint wedi’i ddylanwadu gan waith sy’n cael ei wneud yng Ngwlad yr Haf ac mewn mannau eraill yn Lloegr i gefnogi meicro-ofal, oherwydd bod gwahaniaethau yn y ddeddfwriaeth a modelau gofal rhwng Cymru a Lloegr, roedd rhaid adeiladu model gwreiddiol er mwyn bodoli’r amgylchiadau sy’n berthnasol i Sir y Fflint.
Fel y mae Rob Loudon, un o 2 Swyddog Datblygu Meicro-Ofal yng Nghyngor Sir y Fflint yn esbonio: “Yn Lloegr mae canran uwch o’r bobl sydd angen gofal yn derbyn y Taliad Uniongyrchol i brynu eu gofal eu hunain. Yng Nghymru, mae mwy o’r gofal yn cael ei ddarparu gan asiantaethau comisiynu gofal yr awdurdodau lleol. Mae hyn wedi dylanwadu ar ddatblygiad ein model ni”.
Nod allweddol prosiect Sir y Fflint oedd ehangu’r gofal sydd ar gael yn gyffredinol. Roedd yn gwbl hanfodol ein bod yn darganfod ffordd o ddatblygu’r farchnad meicro-ofal heb beryglu’r ddarpariaeth ofal bresennol a roddir gan asiantaethau gofal a Chynorthwywyr Personol (a gyflogir yn uniongyrchol gan bobl sy’n derbyn y Taliad Uniogyrchol).
Roedd y dystiolaeth o Loegr yn awgrymu bod twf sefydliadau meicro-ofal yn arwain at broblemau cyflenwi yn y sectorau asiantaeth gofal a chynorthwyo personol, gan fod niferoedd sylweddol o weithwyr wedi gadael y sectorau hynny i fod yn feicro-ofalwyr. Mae’n bosibl bod nifer o resymau am hyn, gan gynnwys yr awydd i fod “yn fos arnoch eich hun”, ond hefyd oherwydd bod meicro-ofalwyr yn gallu codi cyfradd fesul awr sy’n sylweddol uwch.
I fynd i’r afael â’r her hon, ac i helpu sicrhau’r canlyniad gorau posib i bob rhanddeiliad, penderfynodd y Cyngor chwarae rȏl ragweithiol wrth gomisiynu meicro-ofal, gan osod cyfraddau fesul awr i’r meicro-ofalwyr a oedd yn darparu gofal, naill ai drwy daliad uniongyrchol, neu drefn comisiynu uniongyrchol.
Penderfynwyd ar gyfradd o £12.63 yr awr ar gyfer 2020/21– swm sylweddol uwch na’r isafswm cyflog o £9.50 yr awr a argymhellir gan y Sefydliad Cyflog Byw – digon i ddenu pobl newydd i’r proffesiwn gofal heb i’r swyddi meicro-ofal gael eu cymryd gan y bobl a oedd eisoes yn gweithio mewn rhannau eraill o’r sector gofal. Roedd y ffaith bod gan y Cyngor reolaeth dros y cyfraddau a godir am wasanaethau hefyd wedi atal ‘codi gormod’, o gymharu â’r gwasanaethau traddodiadol. Roedd hi wedi profi’n anodd sicrhau bod meicro-ofalwyr yn derbyn tâl teg am eu gwaith heb greu’r fath wahaniaeth gyda chyflogau mewn rhannau eraill o’r sector gofal, fel bod niferoedd o weithwyr yn ymadael ag un sector am y llall.
Mae cyfuniad o’r holl fesurau hyn wedi cyfrannu at greu 14 busnes meicro-ofal yn Sir y Fflint, 9 yn fwy nag y ragwelwyd ar y dechrau. Yn ychwanegol, ac o ganlyniad uniongyrchol i brosiect y Gronfa Her, mae 6 arall yn y broses o gael eu sefydlu.
Hyd yn hyn, nid yw un o aelodau staff y meicro-ddarparwyr newydd yma wedi dod o asiantaethau gofal eraill ac, er taw megis dechrau mae’r mentrau hyn, mae Rob o’r farn bod y rȏl weithredol y mae’r Cyngor yn cymryd mewn meicro-ofal yn denu mwy o bobl i weithio yn y sector gofal yn gyffredinol.
Yn ei dro, mae hyn yn cael effaith bositif ar y bobl sydd angen y gwasanaethau gofal. Fel mae Rob yn esbonio “y pwynt sylfaenol yw pe na fyddai’r meicro-ofalwyr hyn ar gael yn Sir y Fflint, byddai dal nifer o bobl ar ein rhestr ofal, yn aros am ofal”. Mewn geiriau eraill, mae meicro-ofalwyr wedi gallu llenwi’r bylchau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle nad oedd gan asiantaethau gofal y capasiti i gwrdd â’r gofynion am ofal.
Gall y Cyngor ymfalchïo yn natblygiad y mentrau newydd hyn sydd nid yn unig wedi denu mwy o bobl i’r proffesiwn gofal, ond wedi gwneud hynny mewn ffordd sy’n adeiladu gwytnwch economaidd lleol drwy gynyddu’r opsiynau am gyflogaeth cynaliadwy, a sy’n talu’n dda, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Er bod y prosiect wedi gosod sylfaen gadarn i feicro-ofal yn Sir y Fflint, mae’r Cyngor yn dal i ddygymod â heriau yn y system – gan gynnwys y mater o drefnu bod gofalwr arall ar gael yn absenoldeb y meicro-ofalwr arferol, er enghraifft oherwydd salwch neu wyliau.
Mae’r ddeddfwriaeth gyfredol yn cyfyngu ar y nifer o bobl y gall meicro-ofalwyr ofalu am cyn bod rhaid iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fel asiantaeth gofal cartref. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i feicro-ofalwyr ‘gyflenwi’ ar ran ei gilydd os bydd y nifer o bobl sy’n derbyn eu gwasanaeth yn croesi, hyd yn oed dros-dro, y trothwy cofrestru.
Felly mae helpu busnesau i ddatblygu cynlluniau wrth gefn cadarn yn her, ond yn un y mae tîm Sir y Fflint yn benderfynol o’i ddatrys drwy gydweithio, a thrafod, gyda rhanddeiliaid.
Wrth i’r cynllun peilot nesáu at ei derfyn, mae Rob yn hyderus y bydd y gwaith tyfu meicro-ofal yn Sir y Fflint yn parhau ac, o bosib, yn cynnig model o gyflogaeth gynaliadwy yr economi sylfaenol y gellir ei addasu a’i ailadrodd ar draws Cymru.