Cyngor ar Gynaliadwyedd

Cyfrifyddu Carbon

Os yw eich sefydliad yn cymryd ei gamau cyntaf tuag at leihau allyriadau, neu os oes angen cynllun cynhwysfawr ar gyfer ôl troed a gweithredu, mae gennym yr arbenigedd i’ch helpu i gyrraedd eich nod.

Mae sefydliadau ym mhob man yn cydnabod bod angen brys i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd ac i fesur a chyfleu eu cynnydd hefyd. Mae cyllidwyr, comisiynwyr a’r cyhoedd yn disgwyl ymrwymiadau o ran yr hinsawdd yn ogystal ag adroddiadau rheolaidd a chywir.

Os yw’r broses o gasglu a mesur y data hwn, neu wybod ble i ddechrau, yn teimlo’n llethol – peidiwch â phoeni, bydd ein harbenigwyr cynaliadwyedd yn deall beth sydd ei angen arnoch chi.

Manteision cyfrifo carbon

Mae cyfrifyddu carbon yn rhoi’r canlynol i’ch sefydliad:

 

Gallu dangos yn well beth yw eich ymrwymiadau i leihau'r newid yn yr hinsawdd, yn unol â safonau a thargedau rhyngwladol.

Canlyniadau cadarn a thryloyw ar gyfer eich Bwrdd, gweithwyr, cwsmeriaid a phartneriaid neu gomisiynwyr posibl.

Brand a phroffil gwell.

Mae ein gwasanaethau cyfrifyddu carbon wedi cael eu datblygu’n benodol i gefnogi elusennau bach a busnesau bach a chanolig i leihau allyriadau wedi’u targedu, yn unol â strategaethau cenedlaethol a thargedau byd-eang.

Dysgwch sut gallwn ni eich cefnogi chi ar eich taith

Pam dewis Cynnal Cymru

Rydyn ni'n Sefydliad Hyfforddi Llythrennog Carbon sy’n gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ein dulliau’n adlewyrchu’r arferion gorau a’r wyddoniaeth ddiweddaraf.

Rydyn ni'n gweithio ar draws sectorau ac ar gyflymder sy’n addas i chi.

Sut byddwn ni’n gweithio gyda chi

Rydyn ni’n deall bod yr her yn gallu bod yn fwy na chyfrifyddu data yn unig a bod angen adnabod y data a’i gasglu yn y lle cyntaf.

Felly, bydd cynghorwr penodol yn cael ei neilltuo i’ch helpu i ddeall, mapio a chynllunio eich gwaith casglu data er mwyn gallu cyfrifo ôl troed carbon. Ar ôl gwneud hynny, byddwn ni’n eich helpu i ddefnyddio’r data i gynllunio gostyngiadau ac i osod targedau y gellir eu monitro o un flwyddyn i’r llall.

Os byddwn ni’n gweithredu fel sbardun i ddarparu adnoddau ac arweiniad, neu os byddwn ni’n aros gyda chi fel cynghorwyr dibynadwy ar gyfer y daith gyfan, ein dull gweithredu yw ymgorffori dysgu er mwyn i’ch sefydliad allu symud ymlaen yn gyflymach ac yn fwy clyfar.

FAQs

Beth yw cyfrifyddu carbon, ac ydy hyn yr un fath ag ôl troed carbon?

Mae ôl troed carbon yn mesur faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr y mae sefydliad neu endid arall yn eu cynhyrchu, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Cyfrifyddu carbon (a elwir weithiau’n nodi ôl-troed carbon) yw’r broses sy’n gysylltiedig â chyfrifo’r ôl troed.

Beth bynnag yw’r term a ddefnyddiwch, mae’r broses o gael ôl troed carbon yn galluogi sefydliadau i wneud y canlynol:

  • deall yn well beth yw eu hallyriadau a beth yw’r cyfleoedd i’w lleihau
  • gosod a monitro targedau yn unol â safonau a thargedau rhyngwladol
  • cymharu perfformiad o flwyddyn i flwyddyn

Mae’r gwasanaeth cyfrifyddu carbon sydd gan Cynnal Cymru wedi cael ei ddatblygu’n benodol i gefnogi busnesau a sefydliadau llai o faint, gan gynnwys elusennau a sefydliadau nid-er-elw eraill. Rydyn ni’n deall realiti gweithredol sefydliadau bach a micro sydd heb dimau cynaliadwyedd neu dimau TG pwrpasol.

Felly, mae ein gwasanaeth yn arbennig o addas ar gyfer:

  • Sefydliadau sydd â hyd at 49 o weithwyr
  • Sefydliadau mewn un adeilad neu leoliad – gan gynnwys swyddfeydd ar rent
  • Sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau yn hytrach na gwerthu a gweithgynhyrchu nwyddau
  • Sefydliadau sydd am fynd y tu hwnt i’r dull cyfrifo sy’n seiliedig ar wariant

Bydd y data sydd ei angen i gyfrifo ôl-troed carbon cywir yn amrywio yn ôl pob sefydliad. Fodd bynnag, mae’r data defnydd mwyaf cyffredin ac o ansawdd uchel yn cynnwys:

  • Nifer y staff;
  • Trosiant y cwmni;
  • Defnydd nwy, dŵr a thrydan wedi’i fesur;
  • Pwysau a’r math o wastraff;
  • Mathau, nifer a phwysau’r nwyddau a brynir;
  • Arian sy’n cael ei wario ar wasanaethau;
  • Milltiroedd, math o drafnidiaeth a chyrchfan ar gyfer teithio busnes a staff yn cymudo.

Os nad yw’r data hwn ar gael, gallwn ni weithio gyda chi i’w gasglu a sefydlu systemau ar gyfer y dyfodol. Gallwn ni hefyd roi cyngor ar gasglu data mwy technegol os oes angen hyn ar weithrediadau eich busnes.

Ydy, yn fyr.

Mae cyfrifyddu carbon fel arfer yn cynnwys allyriadau ar draws:

 Cwmpas 1 (Cerbydau nwyddau a cherbydau cwmni)

Cwmpas 2 (trydan)

a Chwmpas 3 (nwyddau a gwasanaethau a brynir, nwyddau cyfalaf, gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thanwydd ac ynni, cludo a dosbarthu, gwastraff a gynhyrchir mewn gweithrediadau, teithiau busnes, gweithwyr yn cymudo, asedau a brydlesir, prosesu cynhyrchion a werthwyd, defnyddio cynhyrchion a werthwyd, trin cynhyrchion a werthwyd ar ddiwedd eu hoes, masnachfreintiau, buddsoddiadau).

Mae’n bosibl na fydd allyriadau o Gwmpas 1 gan y rhan fwyaf o’r sefydliadau rydyn ni’n ceisio eu helpu, er enghraifft os ydyn nhw’n rhentu swyddfa neu fflyd o gerbydau, ond yn sicr bydd ganddyn nhw allyriadau o Gwmpas 2 ac yng Nghwmpas 3 yn gysylltiedig â nwyddau a gwasanaethau a brynwyd, gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu mewn gweithrediadau, teithiau busnes, a gweithwyr yn cymudo neu’n gweithio gartref.

Byddwn ni’n gweithio gyda chi i archwilio’r data sydd gennych neu y mae gennych chi fynediad ato, ac i’ch cynghori sut i wybod ôl troed eich sefydliad.

Byddwn ni’n gweithio gyda chi i gytuno ar amserlen sy’n gallu bodloni unrhyw flaenoriaethau gwaith presennol, mannau cyfyng a therfynau amser. Gellir cwblhau’r gwasanaeth o fewn 3 mis os yw’r holl ddata angenrheidiol ar gael. Rydyn ni’n hyblyg o ran gweithio gyda chleientiaid dros gyfnodau hirach os oes angen, a byddwn ni’n eich cefnogi i osod camau a cherrig milltir realistig.

Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni, byddwn ni’n trafod pa ddata sydd ei angen arnom, beth sydd eisoes ar gael, a beth arall fydd angen i chi ei gasglu. Bydd hyn yn ein helpu i deilwra dyfynbris realistig ar gyfer eich sefydliad.

Os yw’r holl ddata ar gael, mae ein prisiau’n dechrau o £2,250 a TAW. Bydd hyn yn rhoi’r canlynol i chi:

  • asesiad ôl-troed carbon llawn
  • argymhellion ar gyfer lleihau allyriadau
  • adroddiad terfynol y gellir ei rannu â bwrdd, cwsmeriaid a rhanddeiliaid ehangach eich sefydliad

Rydyn ni hefyd yn ceisio rhannu gwybodaeth a’r pethau a ddysgir ar hyd y daith er mwyn i chi allu parhau â’ch taith – gyda neu heb ein cymorth ni – mewn blynyddoedd i ddod.

Gallwch – ac mae llawer o adnoddau ar gael i’ch helpu.

Os ydych chi’n teimlo’n barod i wneud hyn ar eich pen eich hun ond bod angen cyngor cychwynnol arnoch chi, rydyn ni’n fwy na pharod i ddangos y ffordd i chi.  Gallwch chi hefyd ystyried ymaelodi â Cynnal Cymru er mwyn cael gafael ar ein hymgynghorwyr a all eich tywys drwy’r broses am ddim, fel rhan o’r pecyn aelodaeth. Ble bynnag rydych chi arni ar y daith, cysylltwch â ni!

Ydyn. Mae aelodau Cynnal Cymru a’r mudiadau nid-er-elw yn gymwys i gael disgownt o hyd at 10%. Holwch am fanylion.

Cysylltwch

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.

shwmae@cynnalcymru.com

 

Tel. 029 2294 0810

Scroll to Top
Skip to content