Yn ystod 2020-21, mae Cynnal Cymru wedi cefnogi cymuned ymarfer ar ran y sefydliadau hynny sy’n derbyn cyllid o Gronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru. Ei nod yw rhannu dysgu ac arloesi, adeiladu cysylltiadau ac annog cydweithredu.
Mae’r Gronfa Her wedi’i hanelu at gefnogi prosiectau sydd am arbrofi gyda ffyrdd newydd o fynd i’r afael â’r heriau – rhai ohonynt yn newydd, eraill yn hen iawn – y mae busnesau’r economi sylfaenol, neu’r rhai sy’n dibynnu ar eu gwasanaeth, yn wynebu.
Roedd rhain yn cynnwys:
- recriwtio, cadw a sgiliau’r gweithlu
- y strwythurau cyflenwi a chynllun y gwasanaethau
- ffyrdd o hybu effaith prynu yn lleol
- a ffyrdd o gynnwys dinasyddion yng nghynllun y gwasanaethau.
Y nod oedd archwilio i ystod o ddatrysiadau a fyddai, o bosib, yn cynhyrchu modelau hyfyw addasadwy yr oedd modd eu tyfu a’u lledaenu, er mwyn cryfhau economïau lleol ac adeiladu cyfoeth cymunedol.
Gan ddechrau yn 2019 gyda 52 prosiect cychwynnol, y disgwyl oedd, o’r cychwyn, na fyddai rhai o’r arbrofion yn llwyddiannus, ac roedd effaith y pandemig wedi gwneud yr amodau yn fwy heriol fyth. Serch hynny, gosodwyd cymuned ymarfer yn ei lle er mwyn helpu dal peth o’r dysgu a’r dealltwriaeth cyfoethog a gynhyrchwyd gan yr holl brosiectau a oedd wedi cymryd rhan Mae’r enghreifftiau yn adran Astudiaethau Achos y wefan hon yn cynnig blas o’r prosiectau a gefnogwyd gan y Gronfa – eu llwyddiannau, eu heriau ac, yn bennaf oll, dysgu beth yw’r ffordd orau o gefnogi’r economi sylfaenol yn eu hardal neu sector.