Mudiad gwirfoddol yw Cymdeithas Bysgota Prysor, sy’n rheoli’r gweithgarwch pysgota ar Lyn Trawsfynydd yng Ngwynedd. Mae Llyn Traws yn ganolfan pysgota brithyll a phenhwyaid, gyda fflyd o gychod, ac mae’n aml yn cynnal cystadlaethau pysgota rhyngwladol a threialon Cymru ar gyfer physgota â phlu.
Mae gan y Gymdeithas hefyd adeilad clwb ar lan y llyn. Mae’n ei reoli fel lleoliad cymunedol ac yn ei is-osod i gaffi poblogaidd a siop offer pysgota, gyda’r naill a’r llall yn cyflogi gweithwyr lleol.
Ar ôl rhentu’r adeilad yn y gorffennol, prynodd y Gymdeithas yr adeilad yn 2024 er mwyn helpu i ddiogelu ei ddyfodol fel ased cymunedol. Un o’r prif ffactorau oedd wrth wraidd hynny oedd biliau ynni a oedd yn mynd yn fwy ac yn fwy anghynaliadwy, a’r dymuniad i osod system ynni fwy hyfyw a allai hefyd fod o fudd i’r gymuned.
Dull gweithredu’r prosiect
Penderfynwyd gosod paneli solar er mwyn manteisio ar do mawr yr adeilad sy’n wynebu’r de, ynghyd â storfa fatri a mannau gwefru cerbydau trydan i helpu i fynd i’r afael â’r diffyg seilwaith gwefru yn yr ardal.
Llwyddodd y Gymdeithas i osod System Ynni Lleol Glyfar (SLES), sy’n cynnwys system paneli solar ffotofoltäig â phŵer uchaf o 49.02kW, system storio ynni batri 14.4kWh, a phedwar pwynt gwefru cerbydau trydan (dau bwynt gwefru cyflym 60kW, a dau bwynt gwefru araf 22kW). Ariannwyd y gwaith hwn yn rhannol gan Ynni Cymru, ynghyd â Pharc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd a Nuclear Restoration Services, yn ogystal ag £85,000 o arian y Gymdeithas ei hun.
Effaith
Mae’r system ynni adnewyddadwy wedi lleihau biliau adeilad y clwb o tua £2,000 y mis pan oeddent ar eu drutaf, i ddim ond y tâl sefydlog o tua £50 yn ystod yr haf, gan ryddhau adnoddau y mae mawr eu hangen ar gyfer gweithgareddau eraill. Mae hyn yn cynnwys adnewyddu’r adeilad a helpu i barhau i gyflogi tri aelod o’r gymuned i reoli’r gweithgarwch pysgota ar y gronfa ddŵr.
Mae perchnogion y caffi hefyd wedi teimlo manteision y system ynni newydd. Mae’r caffi’n ffynnu ac yn cyflogi tîm craidd yn ogystal â gweithwyr tymhorol, gyda phob un ohonynt yn dod o’r gymuned leol. Mae’n boblogaidd ymysg y rheini sy’n ymweld â’r llyn i bysgota, yn ogystal â thwristiaid a phobl sy’n ymweld â’r gymuned leol. Drwy flaenoriaethu cynnyrch tymhorol lleol, mae’r caffi hefyd yn cefnogi cyflenwyr lleol.
Heriau
Roedd y gwaith o osod y paneli solar yn ddigon syml, ond mae wedi bod yn anoddach cysylltu holl elfennau gwahanol SLES oherwydd bod angen cynnwys nifer o wahanol gyrff yn y broses – ac nid oes gan y Gymdeithas unrhyw berthynas uniongyrchol â rhai ohonynt.
Nid oes gan Gymdeithas Bysgota Prysor ei hun ddim staff cyflogedig. Gwirfoddolwyr sydd wedi cyflawni’r broses gyfan – o wneud cais am grant, i sicrhau bod y gwaith gosod yn cael ei gymeradwyo, a gwneud y gwaith adrodd. Mae hynny’n gofyn am ymrwymiad mawr o ran amser ac egni. Roedd aelodau’r pwyllgor wedi gallu cynnig sgiliau trosglwyddadwy o’u swyddi proffesiynol i helpu’r broses honno.
Y camau nesaf
Dim ond un rhan o weledigaeth ynni’r Gymdeithas yw hyn. Ar hyn o bryd mae’n berchen ar 32 o gychod pysgota sy’n cael eu defnyddio ar y llyn a’u storio mewn sied amaethyddol. Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys gosod injans trydan ar y cychod hyn yn lle’r moduron petrol presennol, a fyddai’n gallu cael eu pweru gan baneli solar ychwanegol ar do’r sied. Bydd hefyd yn ystyried gwefru deugyfeiriol er mwyn i’r injans, pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, allu storio ynni i wefru dyfeisiau eraill neu ddarparu ynni yn ôl i’r grid.
Mae’r Gymdeithas hefyd yn awyddus i ystyried y posibilrwydd o redeg bws mini trydan â chymhorthdal ar gyfer y gymuned, er mwyn helpu grwpiau lleol i oresgyn heriau trafnidiaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd. Fel y mae Rhys Llywelyn, Cadeirydd y Gymdeithas, yn egluro: Er bod lleihau costau ynni yn sbardun allweddol i’r prosiect, mae “cael gweledigaeth” o’r hyn y gallai ased ynni hirdymor, sy’n eiddo i’r gymuned, ei ddarparu i’r ardal leol wedi bod yr un mor bwysig.
I Rhys, cafodd hyn ei atgyfnerthu wrth weld yr effaith ar y gymuned leol pan fu’n rhaid cau’r adeilad yn ystod Covid ac, mewn gwrthgyferbyniad â hynny, gweld yn fwy diweddar cymaint mae’n ei gynnig fel atyniad i ymwelwyr a phobl leol, yn enwedig yn ystod y tymor prysuraf dros fisoedd yr haf.
Cyngor Rhys i eraill sydd eisiau cychwyn ar daith debyg yw cadw’r nod terfynol mewn golwg, ond cymryd un cam ar y tro – gan gofio, er y gallai fod yn anodd sicrhau cyllid cychwynnol, ei fod wedyn yn agor y drws i ffynonellau eraill.
“Creu gweledigaeth, ac yna ei rhannu’n elfennau ymarferol. Ar ôl cael un set o gyllid, mae eraill yn tueddu i ddisgyn i’w lle.” – Rhys Llywelyn, Cadeirydd Cymdeithas Bysgota Prysor I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â…… (e-bost)… neu ewch i…(gwefan)


