Cyflog Byw yng Nghymru

Dewch yn Gyflogwr Cyflog Byw Go Iawn!

Mae’r Cyflog Byw Go Iawn yn fudiad annibynnol sy’n cynnwys busnesau, mudiadau a phobl sy’n credu bod diwrnod teg o waith yn haeddu diwrnod teg o dâl. Mae’r Cyflog Byw Go Iawn yn cael ei gyfrifo’n annibynnol yn flynyddol yn ôl yr hyn sydd ei angen ar gweithwyr a’u teuluoedd i fyw. Gall cyflogwyr wneud y dewis, o’u gwirfodd, i dalu Cyflog Byw Go Iawn. 

Mae mudiadau sydd yn talu’r Cyflog Byw Go Iawn wedi cofnodi gwelliannau sylweddol o ran ansawdd gwaith, lleihad yn absenoldeb a throsiant eu staff, a chryfach enw da corfforaethol.

£9.50 yw’r Cyflog Byw Go Iawn ar draws y DU, a £10.85 yr awr yn Llundain. Mae dros 7000 o Gyflogwyr Cyflog Byw Go Iawn ar draws y DU, gyda dros 250 o gyflogwyr Cyflog Byw Go Iawn yng Nghymru.

Ymunwch â charfan o fudiadau mwyaf blaenllaw Cymru, yn cynnwys:

Capital Law, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru CGGC, Prifysgol Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Brecon Carreg, Gyrfaoedd Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru a Chyngor Trydydd Sector Caerdydd. Gallwch weld rhestr gyflawn o’r mudiadau achrededig ar y wefan Living Wage Foundation.

Maen nhw’n ymuno â chyflogwyr ar draws y DU, yn amrywio o gwmnioedd y FTSE 100 megis  HSBC, Unilever a KPMG, i fusnesau bach annibynnol sydd wedi dewis mynd ymhellach na thalu isafswm cyflog y llywodraeth, er mwyn sicrhau bod eu holl staff a chontractwyr safle yn ennill y Cyflog Byw Gwirioneddol, cyflog sy’n diwallu gwir gostau byw.

Achrediad

Mae Achredu yn broses syml ac uniongyrchol. Gallwch gofrestru arlein drwy wefan y Living Wage Foundation.

Y cyfan sydd rhaid ichi wneud yw talu’r Cyflog Byw Go Iawn i’ch staff cyflogedig a gyflogir yn uniongyrchol, a sydd dros 18 oed, ac hefyd i’w dalu i unrhyw weithwyr ac is-gontractir megis, er enghraifft, glanhawyr sy’n gweithio’n reolaidd ar y safle am 2 awr y dydd dros gyfnod o 8 wythnos. Am wybodaeth bellach ynghylch meini prawf achredu darllenwch y FAQs.

Mae cost ynghlwm wrth fod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, ac mae hyn yn amrywio yn ôl maint y mudiad; codir tâl o £50 y flwyddyn ar fudiadau sydd â llai na 10 o gyflogai. Gall mudiadau a leolir yng Nghaerdydd yn gymwys i wneud cais i’r cynllun cefnogi achredu a ddarperir gan Gyngor Caerdydd.

Mae talu’r Cyflog Byw Go Iawn yn hanfodol os ‘rydym am ddatblygu economi gynaliadwy yng Nghymru, a datblygu gweledigaeth Cynnal Cymru i wneud Cymru yn wlad gynaliadwy. Mae Cynnal Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda chyflogai newydd ledled Cymru i weithredu Cyflog Byw yn eu busnesau.


Cyllidwyr Cyflog Byw

Ni hefyd yw corff achredu y Living Wage Funders (Cyllidwyr Cyflog Byw) yng Nghymru.

Yn amrywio o awdurdodau lleol i ymddiriedolaethau elusennol a sylfeini, cyllidwyr corfforaethol, gwyddoniaeth a chyfalaf, mae’n Cyllidwyr Cyflog Byw yn ymrwymo i daclo tâl isel trwy annog y sefydliadau maent yn gefnogi i dalu’r Cyflog Byw gwirioneddol.

Gofynion y cynllun:

1. Dod yn Gyflogwr Cyflog Byw gyda’r Living Wage Foundation

2. Talu’r Cyflog Byw ar swyddi a ariennir gan grant lle bo’n bosibl. Mae Cyllidwyr Cyflog Byw yn ceisio sicrhau fod pob swydd sydd wedi’u hariannu’n llawn neu’n rhannol gan y cyllidwr yn talu’r Cyflog Byw, oni bai fod rhesymau penodol i hyn beidio digwydd.

3. Cefnogi grantÏon i ddod yn Gyflogwyr Cyflog Byw trwy eu cyfeirio at y Living Wage Foundation.

4. Darparu ychydig bach o wybodaeth yn flynyddol am eich cynnydd.

Cynllun yw hwn lle y mae’r cyllidwyr yn defnyddio eu pwerau fel rhoddwyr grant i fynd i’r afael â chyflogau isel yn y sector elusen.

Buddion

Trwy ddod yn Gyllidwr Cyflog byw byddwch yn:

  • Cael mynediad i arweiniad ar wneud cais am y Cyflog Byw i swyddi a ariennir gan grant, gan gynnwys templedi ac astudiaethau achos
  • Dod yn ran o gymuned strategol o gyllidwyr sy’n cefnogi a hyrwyddo’r Cyflog Byw, yn cyfrannu i ddod â thâl isel i ben yn y trydydd sector
  • Â hawl i ddefnyddio’r Marc Cyllidwr Cyflog Byw
  • Ymddangos ar wefan LWF fel bod cefnogwyr a grantÏon yn gallu canfod yn hawdd yr ymrwymiad rydych wedi gwneud
  • Cael y cyfle i weithio gyda’r LWF ar sylw yn y wasg i hybu cydnabod Cyllidwr
  • Derbyn gwahoddiad i ddigwyddiadau yn ystod Wythnos Cyflog Byw a phecyn gyda deunyddiau ac arweiniad ar sut i fod yn ran o’r dathliadau cenedlaethol
  • Cael eich hysbysu o’r ymgyrch Cyflog Byw a chyfleoedd i ddathlu eich cydnabyddiaeth

Fel arall, gallwch gysylltu â Lois neu archwilio’r ddau gyllidwr arall yng Nghymru, sef Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (Building Communities Trust).


Cynnal Cymru yw’r corff achredu Cyflog Byw yng Nghymru

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gyflogwr cyflog byw, cysylltwch â Bethan ar 02920 431746 os gwelwch yn dda.

Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan Living Wage.

Share:

Explore our work

Scroll to Top
Skip to content