Mae Cyfle Building Skills wedi bod wrth galon hyfforddiant a chyflogaeth adeiladu yn Ne-orllewin Cymru. Mae eu Cynllun Rhannu Prentisiaeth wedi bod ar waith ers 2013, y cynllun mwyaf o’i fath yn y DU erbyn hyn. Dyfarnwyd Gwobr y Frenhines am Fenter: Hyrwyddo Cyfleoedd trwy Symudedd Cymdeithasol i’r cynllun yn 2020 ac ym mis Medi 2025, fe wnaethant ddathlu cefnogi eu 1000fed prentis.
Amlinelliad o’r prosiect
Sicrhaodd Cyfle Building Skills gyllid yr Economi Sylfaenol ym mis Medi 2023 ar gyfer prosiect a oedd â’r nod o helpu i greu cyflenwad o dalent yn y dyfodol ym maes sgiliau gwyrdd – gan annog a hyrwyddo cyfleoedd technoleg werdd newydd i gyflogwyr yn y maes trydanol a phlymio i ddarparu gweithgareddau Profiad Gwaith Sero Net/Carbon Isel i bobl ifanc ar draws Rhanbarth De-orllewin Cymru. Roedd y prosiect yn canolbwyntio’n benodol ar ymgysylltu â phobl ifanc a oedd ymhell o’r farchnad gyflogaeth.
Canlyniadau Cadarnhaol
Roedd y diddordeb yng Nghynllun Profiad Gwaith Cyfle yn amlwg o’r cychwyn cyntaf, gyda thros 200 o geisiadau wedi dod i law gan ddarpar ymgeiswyr. Gyda chyllid yr Economi Sylfaenol, roedd Cyfle yn gallu derbyn 120 o ddysgwyr yn y maes trydanol a phlymio gyda lleoliadau hyfforddi ymarferol carbon isel, gyda chymorth 60 o gyflogwyr a oedd yn cymryd rhan.
Cafodd yr hyfforddiant a gefnogwyd gan gyllid yr Economi Sylfaenol ei deilwra i fynd i’r afael â bylchau sgiliau penodol yn y garfan ac roedd hyfforddeion yn gallu cyfrannu’n gyflym at brosiectau byw a meithrin profiad. Cwblhaodd yr holl gyfranogwyr raglen gynhwysfawr gan gynnwys lleoliadau ar y safle, mentora, a gweithdai cyflogadwyedd. Roedd dysgwyr ifanc ar y prosiect yn gallu datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cryfhau’r gweithlu yn y dyfodol ac mae staff profiadol wedi dod yn arweinwyr mwy effeithiol wrth iddynt ymgymryd â rolau mentora, gan greu timau mwy effeithlon yn gyffredinol.
Ar ôl cwblhau’r Cynllun, mae 89% o’r rhai a gymerodd ran wedi mynd ymlaen i sicrhau cyfleoedd prentisiaeth neu gyflogaeth. Roedd Cyfle eu hunain hefyd yn gallu cyflogi dau aelod newydd o staff i gynorthwyo gyda gwaith rheoli’r prosiect ac maent wedi parhau i’w cyflogi ers i’r cyllid ddod i ben.
Roedd y prosiect nid yn unig yn cynyddu capasiti’r gweithlu ac yn gwella’r gwaith o gyflawni prosiectau i gyflogwyr ond hefyd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o sero net a llythrennedd carbon ymysg pobl ifanc. Cafodd un ymgeisydd hyd yn oed ei gydnabod yng Ngwobrau Youthbuild 2024 yn Llundain, lle enillodd wobr yn y categori 14-18 oed am ei gyflawniadau eithriadol.
Edrych ymlaen
Wrth edrych i’r dyfodol, nod Cyfle yw ehangu ei effaith drwy hyfforddi hyd yn oed mwy o brentisiaid, gan gefnogi’r diwydiant adeiladu ymhellach ac uchelgeisiau sero net Cymru.
“Mae grant yr Economi Sylfaenol, a gefnogodd gyfleoedd profiad gwaith i bobl ifanc, wedi galluogi Cyfle i ehangu’r cynllun ar draws y Rhanbarth, gyda chefnogaeth Cleientiaid, Colegau a Chontractwyr Busnesau Bach a Chanolig”





