a group of children preparing and eating food

Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol: Grymuso Plant a Theuluoedd drwy’r Cookalong Clwb

Cefndir

Mae’r Cookalong Clwb yn brosiect trawsnewidiol sy’n ceisio mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd a hybu hyder plant yn y gegin. Roedd y prosiect yn canolbwyntio i ddechrau ar ddarparu opsiynau bwyd iach a fforddiadwy i deuluoedd, ac mae bellach yn ymestyn y tu hwnt i dlodi bwyd ac yn cynnwys dysgu sgiliau bywyd hanfodol sy’n grymuso pobl ifanc i goginio’n annibynnol ac yn gynaliadwy.

Mewn partneriaeth â Maint Cymru, mae’r fenter hefyd yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy weithio gyda myfyrwyr i ddylunio bwydlenni lleol nad ydynt yn gysylltiedig â datgoedwigo, ar gyfer ysgolion Sir Fynwy. Drwy gyfuniad o wersi ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae’r prosiect yn helpu plant i ddatblygu sgiliau gydol oes o ran bwyd, coginio a chynaliadwyedd.

Nodau’r Prosiect

Nod y Cookalong Clwb yw:

  • Dysgu sgiliau coginio a chyllidebu hanfodol i blant.
  • Cynyddu gwybodaeth am fwydydd iach o ffynonellau lleol.
  • Grymuso plant i wneud dewisiadau bwyd gwybodus a lleihau gwastraff bwyd.
  • Codi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd ffynonellau cynaliadwy.

“Os bydd plant yn gadael yr ysgol gynradd yn gwybod sut i goginio, cyllidebu a gwneud dewisiadau bwyd iachach, byddan nhw’n barod am oes. Byddan nhw’n gwybod sut mae bwydo eu teuluoedd, a bydd ganddyn nhw’r hyder i wneud penderfyniadau gwell am fwyd, boed hynny’n goginio neu’n siopa.” – Angharad Underwood, y Cookalong Clwb

Mae’r prosiect hefyd yn gweithio gyda thimau anabl, gan eu dysgu sut i siopa a choginio’n annibynnol, a hybu ymreolaeth a hunanddibyniaeth.

Yr Effaith a’r Canlyniadau

Mae’r Cookalong Clwb eisoes wedi cymryd camau breision tuag at feithrin newidiadau cadarnhaol a pharhaol ym mywydau plant. Drwy sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae’r rhaglen wedi meithrin:

  • Hyder yn y Gegin: Mae’r plant wedi dysgu sut i dorri, coginio a rheoli’r gegin gyda chyllyll miniog a sosbenni poeth, gan roi sgiliau ymarferol iddynt a fydd yn para am oes.
  • Lleihau Gwastraff: Mae plant bellach yn ymwybodol o wastraff bwyd, gyda chynghorion am sut i adfywio coesynnau letys neu frocoli drwy eu rhoi mewn dŵr am ddeng munud.
  • Ymgysylltu fel Teulu: Mae’r plant yn rhannu eu sgiliau newydd gydag aelodau o’u teulu, gan newid deinameg y teulu’n gynnil a sbarduno trafodaethau am goginio iachach a lleihau gwastraff bwyd.
  • Eiriol dros Gynaliadwyedd: Mae’r cydweithio â Maint Cymru wedi ysbrydoli plant i eiriol dros brydau ysgol cynaliadwy nad ydynt yn gysylltiedig â datgoedwigo, ac mae Cyngor Sir Fynwy yn ymrwymo i fod y sir gyntaf yn y byd i beidio â darparu bwyd sy’n gysylltiedig â datgoedwigo.

Ar ben hynny, mae’r prosiect wedi ysbrydoli rhai plant i ddilyn cymwysterau galwedigaethol, gan agor drysau i yrfaoedd nad oeddent wedi’u hystyried o’r blaen.

Sylweddoliadau a Mewnwelediadau

Er bod y prosiect wedi canolbwyntio ar dlodi bwyd i ddechrau, gwelwyd nad yw statws economaidd-gymdeithasol o reidrwydd yn cyd-fynd â sgiliau coginio. Fel y dywed un cyfranogwr:

“Po fwyaf cyfoethog ydych chi, y mwyaf tebygol ydych chi o brynu prydau parod. Mae’r rhai llai cyfoethog yn dibynnu ar fanciau bwyd a bwydydd sydd wedi’u prosesu’n helaeth. Beth sylweddolon ni oedd bod plant o bob cefndir heb sgiliau coginio.”– Angharad Underwood, y Cookalong Clwb

Sylweddoliad allweddol arall yw bod ofn mawr am goginio a pharatoi bwyd, yn aml oherwydd diffyg cysylltiad neu hyder gyda hynny. Mae’r prosiect yn gweithio i chwalu’r rhwystrau hyn, yn enwedig o ran rheoli amgylchedd y gegin a deall gwerth gwirioneddol bwyd.

Yr Heriau a Wynebwyd

Y brif her fu cael cyllid cyson i sicrhau cynaliadwyedd ar gyfer y tymor hir. Heb adnoddau dibynadwy, mae ehangu’r prosiect i fwy o ysgolion a chyrraedd mwy o gynulleidfa yn parhau i fod yn rhwystr mawr. Fel y pwysleisiodd:
“Allwch chi ddim codi tâl am hyn. Does dim cyllidebau gan ysgolion, ac mae angen yr arian arnom i barhau i gyflwyno’r gwersi hyn.”

Cynlluniau a Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r prosiect yn bwriadu:

  • Ehangu: Cyrraedd mwy o ysgolion ledled Sir Fynwy a Chymru, gan ddarparu gwersi coginio i gynulleidfa ehangach.
  • Hyfforddi Athrawon: Rhoi’r offer a’r hyder i athrawon allu cyflwyno gwersi coginio o fewn y cwricwlwm.
  • Ceginau Cymunedol: Edrych ar greu ceginau cymunedol lle gall teuluoedd ymgynnull, coginio gyda’i gilydd, a rhannu prydau bwyd.
  • Ffocws ar Gynaliadwyedd: Parhau i eiriol dros fwydlenni ysgol sy’n gynaliadwy ac nad ydynt yn gysylltiedig â datgoedwigo, a chael gafael ar gynnyrch sydd wedi’i dyfu’n lleol ac yn foesegol.
Growing the Foundational Economy, supporting innovation, local businesses and building a resilient economy.
 
Tyfu’r economi sylfaenol, cefnogi arloesedd a busnesau lleol, a datblygu economi gadarn.
Scroll to Top