Wedi’i lansio yn 2023, mae prosiect Larder Cymru – Bwyd Cymreig ar gyfer Ysgolion – yn fenter arloesol o dan arweiniad Menter Môn i gynyddu’r defnydd o gynnyrch Cymreig mewn prydau ysgol y sector cyhoeddus. Gyda phwyslais ar ysgolion cynradd, nod y prosiect yw cryfhau cadwyni cyflenwi lleol, cefnogi a dathlu cynhyrchwyr o Gymru, a thrwy hynny, hybu’r economi sylfaenol wrth wella gwerth maethol a diwylliannol prydau ysgol ledled Cymru.
“Yn wreiddiol, nod rhaglen Larder Cymru – Bwyd Cymreig ar gyfer Ysgolion – oedd cynyddu faint o gynnyrch Cymreig oedd yn cael ei brynu gan y sector cyhoeddus yng Nghymru.” – David Wylie, Menter Môn
Cefndir a gweledigaeth
Cafodd y prosiect ei gynllunio’n wreiddiol i gefnogi pum awdurdod lleol: Caerdydd, Caerffili, Wrecsam, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn, i ymgorffori mwy o gynnyrch Cymreig i fwydlenni ysgolion. Dros amser, cafodd ei ehangu i gynnwys tri awdurdod arall: Powys, Sir Ddinbych a Chonwy. Roedd y weledigaeth yn glir: i greu system fwyd a oedd yn fwy gwydn, cynaliadwy, ac wedi’i gwreiddio’n lleol i ysgolion.
Wedi’i ariannu gan Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, mae Larder Cymru yn amlygu sut mae newid systematig mewn sectorau sylfaen fel bwyd yn helpu i hybu Economi Sylfaenol Cymru. Mae gwneud arferion caffael ar lefel leol yn hyrwyddo datblygiad economaidd i fusnesau Cymru, yn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol drwy leihau allyriadau’r gadwyn gyflenwi, ac yn ymgorffori hunaniaeth ddiwylliannol drwy ddathlu bwyd Cymreig.
“Drwy greu’r dull economi gylchol lle rydych chi’n rhoi arian cyhoeddus yn ôl i’r economi yng Nghymru, rydych chi’n helpu i ehangu busnesau bwyd lleol, sydd yn ei dro, yn creu swyddi da a theg i bobl yn y gymuned leol.” – David Wylie, Menter Môn
Twf a chynnydd
Roedd ffordd y prosiect o weithio wedi’i theilwra ac yn gydweithredol. Derbyniodd bob awdurdod lleol gymorth pwrpasol, gan gynnwys:
- · Adolygiadau o fframweithiau caffaelReviews of procurement frameworks,
- · Dadansoddi bwydlenniMenu analysis
- · Cynnal prosesau ymgysylltu â chyflenwyr Hosting supplier engagement
Un o’r strategaethau amlycaf oedd hwyluso sesiynau caffael yng Ngogledd Cymru, lle archwiliodd awdurdodau lleol gyfleoedd prynu ar y cyd i gyflawni arbedion maint. Arweiniodd hyn at ganlyniadau pendant, fel Wrecsam yn symud o gyflenwr yn Lloegr i gwmni o Harlech yng Nghymru ar gyfer bwydydd wedi’u rhewi.
Roedd ymgysylltu wyneb yn wyneb yn rhan annatod o lwyddiant y prosiect. Tynnodd Larder Cymru sylw at bwysigrwydd cysylltu’r gadwyn gyflenwi gyfan drwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda thimau caffael, cogyddion a chyflenwyr, gan feithrin dealltwriaeth ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr.
Heriau a gwersi a ddysgwyd
Er gwaethaf ei lwyddiannau, roedd y prosiect yn wynebu sawl her. Roedd cyfyngiadau amser ac oedi ym mhrosesau awdurdodau lleol, fel cyflwyno arolygon ac ail-gynllunio bwydlenni, yn aml yn arafu cynnydd. Er enghraifft, wynebodd arolwg i rieni yng Nghaerdydd drafferthion technegol ac fe’i gohiriwyd am bron i flwyddyn, gan effeithio ar amseriad adroddiad terfynol y prosiect.
Her arall oedd gweithio gyda rhanddeiliaid a chyflenwyr allanol, a oedd yn rhwystro’r gallu i adolygu bwydlenni mewn rhai achosion. Fodd bynnag, addasodd y tîm drwy gefnogi ysgolion drwy grantiau ar gyfer offer coginio ac offer garddio, gan ddangos hyblygrwydd y prosiect.
Effaith ac edrych ymlaen
Mae’r prosiect wedi cael effaith fawr ar arferion caffael ac ymgysylltu â’r gymuned yn ogystal ag ar faint o fwyd o Gymru sy’n cael ei gyflenwi. Er enghraifft, roedd Cyngor Caerffili wedi dyblu ei wariant ar gynnyrch o Gymru ar ôl ymgysylltu â Larder Cymru i ganfod cyflenwyr ychwanegol o Gymru. Ar ben hynny, mae ail-ddylunio bwydlen yr ysgol gynradd i dynnu sylw at gyflenwyr lleol, a darparu lluniau wedi cynyddu nifer y disgyblion sy’n manteisio ar hyn ymhellach ac felly’r gwariant gyda chyflenwyr. Mae’r fwydlen newydd ar gyfer ysgolion cynradd yn cynnwys eiconau o’r ddraig goch a lluniau bwyd proffesiynol i ddangos sut olwg sydd ar y prydau bwyd. Ysbrydolodd y model hwn fentrau tebyg yn Wrecsam, lle ychwanegwyd y ddraig goch wrth ymyl y bwyd, a chafodd map o gyflenwyr ei gynnwys ar fwydlenni i ddangos tarddiad y bwyd yn glir.
Fe wnaeth y fenter hefyd ennyn diddordeb ehangach ar draws nifer o awdurdodau lleol, gyda chyflenwyr fel Castle Howell a Harlech yn weledol mewn digwyddiadau cenedlaethol fel LACA. Fe wnaeth dylanwad y prosiect ymestyn y tu hwnt i ysgolion, gyda busnesau annibynnol o Gymru yn rhoi cynnig ar archwilio cyfleoedd caffael newydd.
Wrth edrych ymlaen, mae’r tîm yn bwriadu treialu syniadau arloesol fel bariau salad a ysbrydolwyd gan ysgolion yn Sweden ac ehangu’r gefnogaeth i’r gadwyn gyflenwi ffrwythau a llysiau. Bydd aelod newydd o staff â chefndir mewn marchnata yn helpu i ddatblygu bwydlenni’n fewnol, gan gynyddu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.
Casgliadau
Mae Larder Cymru wedi profi i fod yn brosiect trawsnewidiol, nid yn unig wrth gynyddu presenoldeb cynnyrch Cymreig mewn ysgolion ond hefyd drwy feithrin cydweithio, arloesedd a balchder cymunedol. Mae’r model y gellir ei addasu, sydd wedi’i wreiddio mewn ymgysylltiad lleol a phartneriaethau strategol, yn cynnig glasbrint ar gyfer mentrau systemau bwyd yn y dyfodol yng Nghymru a thu hwnt.
Gyda chefnogaeth barhaus a chyllid hirdymor, mae gan y prosiect y potensial i ehangu ymhellach, gan ymgorffori diwylliant bwyd Cymreig i fywydau bob dydd plant ysgol, ac i gryfhau’r economi sylfaenol ar draws y wlad.


