Cenin cement lorry

Cenin Group

Sefydlwyd Grŵp Cenin ar gyfer datblygu technolegau arloesol. Mae ein technoleg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn defnyddio technegau dadansoddol blaengar a pheirianneg gemegol i ganiatáu cynhyrchu sment isel iawn mewn carbon.

Deilliodd egwyddor sylfaenol Grŵp Cenin o daith astudio yn 2007. Mewn gwledydd Ewropeaidd eraill mae llawer mwy o gydweithrediad ac integreiddiad mewn gweithrediadau, sy’n caniatáu i fentrau fod yn llawer mwy effeithlon. Yn Güssing yn Awstria, maent wedi profi y gallant, drwy ddefnyddio’r adnoddau naturiol sydd o’u cwmpas, greu cyflenwadau arwyddocaol o ynni adnewyddadwy, ac yn fwy pwysig weithgaredd a chyflogaeth economaidd. Gwelodd sylfaenydd Grŵp Cenin y cyfle i greu hybrid o’r model hwn yng Nghymru ac fel canlyniad ganwyd  Parc Stormy.

I gyflawni datblygu cynaliadwy mae arnoch angen medru creu swyddi arwyddocaol neu o leiaf ychwanegu at sicrwydd swyddi. O’r cysyniad hwn lluniwyd egwyddorion sylfaenol Grŵp Cenin ym Mharc Stormy: cynhyrchu ynni drwy ddefnyddio adnoddau naturiol, ailgylchu deunyddiau a gwastraff, a chreu swyddi cynaliadwy diogel.

Mae’n rhyfeddol i fedru dweud ein bod wedi gweithredu technegau cynaliadwy ac economi cylchol. Mae siarad am leihad mewn carbon a gwastraff fel elfennau allweddol cynaliadwyedd yn ymddangos fel cyflawniad o bwys, hyd nes eich bod yn sylweddoli bod banciau bwyd a thlodi tanwydd yn dal o’n cwmpas ym  mhob man – materion bywyd bob dydd i bobl sy’n byw ddim ond ychydig filltiroedd i ffwrdd.

Ers ei gysyniad cynnar yn 2007, mae Grŵp Cenin wedi datblygu clwstwr o brosiectau ynni adnewyddadwy cyd-ddibynnol yn cynnwys, gwynt, paneli solar ffotofoltäig, treuliad anaerobig, ac mae cynlluniau ar y gweill i ychwanegu storio batris a chynhyrchu hydrogen ar gyfer gorsaf ail-lenwi â thanwydd hydrogen.

Ymhlith y clwstwr hwn o ynni adnewyddadwy, a fydd cyn hir yn cynhyrchu digon o bŵer dros ben i gwrdd ag anghenion ynni Porthcawl, y dref leol, lleolir cyfleuster ymchwil mwynau arbenigol a sy’n cynhyrchu sment carbon isel iawn.

Dros y 7 blynedd ddiwethaf mae ochr sment y busnes wedi llwyddo i ddod o hyd i ffyrdd o ailddefnyddio cynnyrch gwastraff o’r diwydiannau dur, glo, biomas a phuro olew yng Nghymru. Mae’r gwastraff a’r sgil gynnyrch hyn wedi cael eu defnyddio fel sment yn y diwydiannau dur, insiwleiddio, concrid a diwydiannau  sefydlogi tir.

Mae’r IP, patentau a chymeradwyaeth technegol Ewropeaidd parhaus ar gyfer y dull newydd arloesol hwn o gynhyrchu sment wedi arwain at leihad dramatig yn y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi, a thrwy hynny’n gwneud arbedion economaidd o bwys a chynnydd arwyddocaol mewn swyddi mewn ardaloedd â galw mawr amdanynt. Crëir effaith pelen eira drwy ddarganfod cynnyrch newydd arloesol. Mae hyn yn caniatáu gwell defnydd o adnoddau, gan leihau gwastraff cynhyrchwyr a chostau sgil gynnyrch, ac yn galluogi defnyddio math newydd o gynnyrch sment isel iawn mewn carbon.

Heddiw mae cannoedd o filoedd o dunelli o wastraff na fydd yn mynd i safleoedd tirlenwi, miloedd o gartrefi’n cael eu cyflenwi gan ynni adnewyddadwy a channoedd o swyddi’n cael eu creu neu eu gwella yn unig drwy ddarganfod gwastraff, gwneud defnydd o safle diwydiannol dirywiedig, a thrwy wneud defnydd llwyr o’r adnoddau naturiol sydd ar gael (gwynt a phelydriad solar).

Mae Grŵp Cenin yn dangos bod gan Gymru’r cyfle i harneisio adnoddau naturiol a gwastraff i helpu i wella gweithgaredd economaidd, lleihau allyriadau carbon a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau ar yr un pryd. Gellir cyflawni datblygu economaidd hanfodol drwy ddefnyddio gwastraff ac adnoddau naturiol yn unig, tra hefyd yn mynd i’r afael â her fwyaf dynoliaeth, Newid Hinsawdd.

Scroll to Top
Skip to content