Cyngor Torfaen: Cefnogi’r sefydliadau

Gyda chymorth grant o Gronfa Her yr Economi Sylfaenol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cymryd agwedd newydd at gefnogi busnesau lleol ym Mhont-y-pŵl.

Yn debyg i ardaloedd ȏl-ddiwydiannol eraill, mae Pont-y-pŵl yn dioddef siopau gwag, prif strydoedd dirywiedig a diweithdra sy’n  uwch na’r cyfartaledd. Mae problemau o’r fath wedi dod yn gyffredin yn dilyn dirywiad y diwydiannau traddodiadol ond mae ffactorau eraill, megis sefydliadau neu bobl nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â’r ardal yn prynu eiddo masnachol fel buddsoddiadau, wedi gwneud y problemau yn waeth ym Mhont-y-pŵl.

Roedd y Cyngor wedi cydnabod bod llawer o bobl yn y dref yn meddu ar fusnesau bach, neu am sefydlu busnes, ac am agor siop yn y dref. Yn aml, roedd eu hymdrechion yn cael eu rhwystro oherwydd diffyg cefnogaeth a’r datgysylltiad rhwng yr hyn a gynigir gan raglenni cenedlaethol a grantiau a’r hyn sydd ei angen gan fusnesau bach, neu fusnesau meicro, ar lawr gwlad.  

Roedd y Cyngor wedi gwneud cais i Gronfa Her yr Economi Sylfaenol, Llywodraeth Cymru, er mwyn ceisio unioni hyn a gosod ynei le cynllun peilot a fyddai’n darparu cefnogaeth seiliedig ar leoedd, lleol iawn i fusnesau bach. Roedd hyn yn cynnwys mentora, cyfleoedd profi masnachu, gofod yn y cyfamser, hyfforddiant, grantiau cychwyn bach a chefnogaeth marchnata. 

Dechreuodd y prosiect peilot, Economi Sylfaenol Torfaen (EST), ym mis Chwefror 2020 gan weithio o ‘hyb waith’ newydd ym Marchnad Dan-do Pont-y-pŵl. Er gwaethaf effaith Covid, mae eisoes wedi cyfrannu at newid gweladwy yn yr ardal. 

Mae Swyddog Prosiect EST, Alyson Jones, o’r farn taw’r unig ffordd o feithrin a chynnig cefnogaeth catalydd i’r mentrau bychain hyn yw drwy geisio gwrando arnynt, a deall eu problemau. Ei cham cyntaf oedd bod yn rhagweithiol, a ffonio busnesau er mwyn cael blas ar y gymuned ac o’r gefnogaeth a oedd ei angen.

Roedd hyn wedi arwain at ystod o fesurau cefnogi, gan amrwyio o’r uchelgeisiol a chymhleth – megis trafod datblygu system gaffael leol – i bethau sylfaenol, ond cwbl hanfodol, megis cyfeirio masnachwyr unigol at wefannau priodol y Cyngor.

Un o’r heriau cynnar a welwyd oedd y rhenti uchel a godir gan landlordiaid nad ydynt yn byw yn y dref, ac nad oes ganddynt y cymhelliad i ostwng eu prisiau neu rannu unedau i ofodau mwy fforddiadwy. Tra bod landlordiaid lleol yn fwy parod i gydweithredu, roedd EST wedi dyfeisio datrysiad arall drwy gynnig lle yn y farchnad dan-do am gost isel (£5/dydd) neu, yn ystod COVID, yn ddi-dâl.  Roedd hyn wedi profi’n allweddol i helpu sawl busnes arloesol, megis Argraffu 3D Woolfall, i ddechrau ar eu gwaith. 

Mae’r prosiect wedi darparu mentora pwrpasol, un-i-un i helpu busnesau ffeindio’u ffordd drwy systemau a phrosesau, a chodi’r hyder a chapasiti i dyfu.

Yn amrywio o gefnogaeth ynghylch cael mynediad at gyllid neu ddod o hyd i gyfrifyddion lleol sy’n cynnig ymgynghoriad am ddim, hyd at help gyda chynlluniau busnes, ffyrlo neu arallgyfeirio oherwydd Covid, mae EST wedi ceisio darparu cymorth pwrpasol i bob buddiolwr. Gan ganolbwyntio ar ‘wneud y gwasanaeth i weithio i’r bobl’ mae hyn wedi cynnwys gwneud galwadau ffȏn i’r rhai sydd wedi’u heithrio yn ddigidol, a mentora o bell y rhai nad ydynt yn gallu fforddio teithio neu sy’n hunan-ynysu.

‘Rydym hefyd wedi trefnu ystod enfawr o ddigwyddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, gan drafod marchnata, caffael lleol a sesiynau Meddyg Busnes.

Un o fuddiolwyr cefnogaeth gan EST yw High Street Fitness, sefydliad buddiant cymunedol yn ymwneud â llesiant a ffitrwydd. Wedi’i sefydlu gan grŵp o hyfforddwyr cymwysedig a meddyg, mae’n darparu campfa cost isel i’r gymuned (gostyngiadau i’r di-waith) yn ogystal â chefnogaeth iechyd meddwl a rhaglen hyfforddiant a chymwysterau.

Roedd EST wedi cefnogi High Street Fitness gyda mentora cychwyn busnes, gan gydweithio gyda Busnes Cymdeithasol Cymru i ddarparu cefnogaeth benodol a dargedir o ran datblygu busnes cymdeithasol. Roedd EST wedi cynnig help pellach drwy ddarparu’r datrysiadau ariannol i gychwyn y busnes, dod o hyd i ofod mewn uned a oedd cwmni New Look wedi’i gadael yn ddiweddar, gorchfygu heriau posibl o ran y Cynllun Datblygu Lleol gan ei fod yn canolbwyntio ar fanwerthu, a chysylltu’r perchnogion gyda’r Awdurdod Addysg Lleol a’r GIG, i’w galluogi i dderbyn presgripsiynau cymdeithasol. Erbyn hyn, mae High Street Fitness yn gallu darparu adnodd cymunedol sydd mawr ei angen yng nghanol y dref, ac yn trafod datblygu cynllun NVQ a allai gynnal mwy o sgiliau a swyddi yr economi sylfaenol yn yr ardal yn y dyfodol. 

Gydag un lygad ar y cynllun ehangach yma, mae EST hefyd wedi cydweithio gyda mudiadau angor lleol i helpu datblygu cadwyni cyflenwi lleol ac archwilio caffael lleol, yn benodol mewn meysydd megis datgarboneiddio, lle y mae sicrwydd ynghylch anghenion y dyfodol. 

Mae cydweithio gyda RSL Bron Afon wedi adnabod bod bylchau sgiliau yn broblem allweddol ac, erbyn hyn, mae EST yn gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i ddatrys hyn er mwyn cynhyrchu paneli solar a phympiau gwres yn lleol.

Ar ȏl 13 mis o’r prosiect mae Alyson – unig aelod staff penodedig EST –  wedi cysylltu â dros 375 o fusnesau lleol ac wedi cydweithio gydag ystod eang o bartneriaid traws-sector. Mae Alyson o’r farn taw dull lleol iawn a dynol y prosiect sydd wrth wraidd ei lwyddiant.

Fel mae hi’n esbonio,“mae’n rhaid ichi adeiladu perthynas gyda, ac ennyn ymddiriedaeth, pobl; rhaid i chi rhoi’r cyngor y mae’r bobl yn ymddiried ynddo. Nid yw darparu cefnogaeth ar lefel genedlaethol yn ddigonol os nad oes gan fusnesau lleol yr hyder neu’r gallu i gael mynediad ato”.

Mae darparu’r fath lefel o gyswllt personol – mae Alyson hefyd yn ffonio busnesau yn reolaidd i holi amdanynt, ac i ofyn hynt y busnes p’un ai bod angen cefnogaeth arnynt neu beidio – yn gofyn ymroddiad mawr ac mae’n gallu golygu cost emosiynol.

Un esiampl oedd clywed oddiwrth masnachwr unigol a oedd wedi sefydlu busnes atgyweirio ceir symudol yn 2019 fel ei bod yn gallu ‘rhoi’r gorau i Gredyd Cynhwysol a gwneud gwell bywyd iddi hi ei hun a’i phlant’. Fel busnes cychwynnol nad oedd wedi cofrestru ar gyfer TAW, ac heb adeilad busnes, roedd hi wedi disgyn drwy’r bylchau o ran cefnogaeth Covid-berthnasol, ac wedi’i gadael gyda’r dewis plaen o ofyn i Alyson ‘ Ydw i’n bwydo’r plant neu talu fy nghyflenwr?’.

Cafodd y profiad hwn ei rannu gyda, a’i gyfeirio gan y Cyngor at Lywodraeth Cymru, gan ychwanegu at y galw i beidio anghofio meicro-fusnesau – calon ac enaid Pont-y-pŵl a llwer o drefi eraill y sir –  wrth ymateb i Covid.  Yn y pen draw, a gyda chefnogaeth EST, tu 3 mis wedi iddi gysylltu roedd y masnachwr hwn wedi derbyn cymorth.

Mae’r esiampl uchod yn amlygu rȏl hanfodol, cyfryngol y mae prosiectau o’r fath yn cyflawni o ran cynnal swyddi lleol, a’r teuluoedd sy’n dibynnu arnynt. I Alyson, dyma’r agwedd orau – yn ogystal â ‘gweld y gwahaniaeth enfawr y mae EST wedi’i wneud’ –  o fod yn rhan o gymuned y Gronfa Her.

“Mae’r adborth oddiwrth busnesau lleol wedi bod yn anhygoel – mae pobl yn gwerthfawrogi yn fawr cael rhywun y gallant siarad â, a dod i’w ‘nabod”  mae Alyson yn esbonio. Mae’n ymddangos taw’r person lleol yw’r allwedd, yr elfen ddynol sy’n rhoi’r hyder, yr hyder sy’n absennol o wefan.

Am ragor o wybodaeth, ewch i sianeli cyfryngau cymdeithasol Economi Sylfaenol Torfaen:

LinkedIn

Trydar

Facebook

The Foundational Economy Challenge Fund supported innovative, experimental approaches to community wealth-building and resilient local economies.

Cefnogodd Cronfa Her Economi Sylfaenol dulliau arloesol ac arbrofol o adeiladu cyfoeth cymunedol ac economïau lleol cadarn.

related resources

Scroll to Top
Skip to content