Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol: Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol
Cefndir
O dan arweiniad Cyngor Sir Gâr, deilliodd prosiect Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol o awydd i fynd i’r afael â goblygiadau economaidd ac amgylcheddol dibynnu ar fwyd wedi’i fewnforio mewn ysgolion yng Nghymru. Gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, aeth y tîm ati i greu fframwaith bwydlenni ffynhonnell agored y gellir ei atgynhyrchu y gallai awdurdodau lleol ei fabwysiadu y tu hwnt i Sir Gâr, ar draws Cymru. Byddai’r fwydlen hon yn cyd-fynd â fframwaith cynaliadwyedd a ddatblygwyd gan y tîm, gan ymgorffori cynnyrch tymhorol o Gymru a chynnyrch sy’n cael ei dyfu ar eu ffermydd eu hunain.
“Ein nod gwreiddiol oedd lleihau effaith economaidd bwydydd sy’n cael eu mewnforio a dod â’r gwerth hwnnw i economi Cymru.” – Alex Cook, Rheolwr Prosiect Datblygu Systemau Bwyd, Cyngor Sir Gâr
Ffordd o weithio
Cymerodd y prosiect ddull cydweithredol ac aml-haenog. I ail-gynllunio’r fwydlen, cafodd cogyddion eu comisiynu i weithio’n uniongyrchol gydag ysgolion, gan ymgysylltu â rhieni, staff arlwyo, ac athrawon mewn proses gynllunio ar y cyd. Drwy ddefnyddio fframwaith cynaliadwyedd, sicrhawyd bod y bwydlenni’n cyd-fynd â chynnyrch tymhorol Cymru a chynnyrch ffermydd lleol. Gosodwyd systemau monitro gwastraff ar waith gyda chaledwedd i gasglu data sylfaenol o’r hyn a oedd yn cael ei wastraffu, er mwyn gallu cymharu yn y dyfodol ar ôl i’r fwydlen newydd gael ei chyflwyno. Addaswyd y fferm ei hun hefyd er mwyn i’r cynllun cnydau gyd-fynd â chalendr yr ysgol, dull newydd a sicrhaodd fod argaeledd cynnyrch yn cyd-fynd ag anghenion addysgol. Chwaraeodd cyfathrebu rôl allweddol, gydag asedau digidol a ffisegol yn cael eu creu i godi ymwybyddiaeth ac i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd o bob rhan o’r sectorau bwyd a ffermio.

Canlyniadau Cynnar ac Effaith
Er bod y broses weithredu wedi’i gohirio, mae dadansoddiad cynnar yn awgrymu y bydd y prosiect yn cael effaith sylweddol. Rhagwelir y bydd y prosiect yn gweld gostyngiad o 80% yn ôl-troed carbon prydau ysgol, yn bennaf oherwydd y bydd bwydydd sy’n cael eu mewnforio yn cael eu disodli gan ddewisiadau eraill o ffynonellau lleol a lleihau cynnwys cig 30%. Disgwylir i’r newid hwn ailgyfeirio gwariant cyhoeddus yn uniongyrchol i gynhyrchwyr lleol Cymru.
Y tu hwnt i’r canlyniadau meintiol, mae timau arlwyo wedi dod yn fwy cysylltiedig ag egwyddorion bwyd cynaliadwy ac wedi dechrau deall eu rôl wrth gyflawni amcanion strategol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r newid diwylliannol hwn wedi bod yn un o’r arwyddion mwyaf calonogol o ran cynnydd.
“Mae’r effaith feddalach yn ymwneud ag ymgysylltu â thimau arlwyo… eu helpu i ddeall pwysigrwydd bwyd cynaliadwy.” – Alex Cook, Rheolwr Prosiect Datblygu Systemau Bwyd, Cyngor Sir Gâr
Gwerthuso
Erbyn hyn, mae’r prosiect ar ddechrau’r cyfnod prawf o gysyniad, gyda’r fwydlen newydd yn cael ei lansio mewn tair ysgol o fis Medi 2025. Bydd yr elfen werthuso’n canolbwyntio ar yr effaith garbon ac economaidd, lleihau gwastraff bwyd, a faint o brydau bwyd sy’n cael eu bwyta, drwy ddefnyddio data o systemau fel ParentPay. Mae’r tîm hefyd yn bwriadu cyhoeddi’r fwydlen a’r cynllun cnydau i gefnogi’r broses o gyfnewid gwybodaeth ac ysbrydoli awdurdodau lleol eraill i brynu wrth eu tyfwyr lleol. Un o’r arwyddion mwyaf addawol yw bod y timau arlwyo yn parhau gyda’r prosiect y tu hwnt i’r cyfnod cyllido cychwynnol.
“Un o’r effeithiau mawr yw bod y tîm arlwyo am fwrw ati a pharhau â’r fenter ar ôl y cyfnod cyllido,” – Alex Cook, Rheolwr Prosiect Datblygu Systemau Bwyd, Cyngor Sir Gâr
Heriau a Gwersi
Un o’r heriau mwyaf arwyddocaol oedd y bwlch gweithredu rhwng delfrydau cynaliadwyedd a’r ddarpariaeth ymarferol. Roedd gan dimau arlwyo ac athrawon ganfyddiadau gwrthgyferbyniol yn aml iawn o ran faint o brydau bwyd oedd yn cael eu bwyta a faint o fwyd oedd yn cael ei wastraffu, a chafwyd diffyg data dibynadwy i gefnogi’r naill farn neu’r llall. Roedd cyfathrebu rhwng rhanddeiliaid hefyd yn rhwystr mawr, gan olygu bod angen cymorth allanol i wella’r broses o ymgysylltu â rhieni a staff.
Roedd materion gweithredol, fel plant yn dewis bwyta rhannau o’u prydau bwyd neu’n dewis pa ddiwrnodau i gymryd rhan, hefyd yn effeithio ar gydbwysedd maeth a gwastraff. Mae’r tîm bellach yn archwilio modelau arlwyo newydd, gan gynnwys gwasanaeth prydau bwyd cyson a chofrestriadau wythnosol, i fynd i’r afael â’r problemau hyn.
Effaith ar Economi Sylfaenol Cymru
Mae prosiect Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol yn cefnogi’r economi sylfaenol yn uniongyrchol drwy gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, cadw swyddi, a chynyddu gwytnwch systemau bwyd Cymru. Drwy sicrhau bod cynhyrchu cnydau ac anghenion ysgolion yn cyd-fynd â’i gilydd, ac annog modelau cydweithredol ymhlith tyfwyr, mae’r prosiect yn creu seilwaith bwyd mwy cynaliadwy a lleol. Mae’r tîm hefyd yn gweithio i ailsefydlu platfform bwyd ar-lein ar gyfer cynhyrchwyr lleol, gyda’r nod o greu menter gymdeithasol, sydd mewn perchnogaeth gydweithredol, sy’n cefnogi dosbarthu a mynediad.
Edrych Ymlaen
Gan adeiladu ar yr holl wybodaeth a gafwyd a’r data a gasglwyd o’r prosiect, mae’r camau nesaf yn dechrau gyda chyflwyno Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol yn llawn o fis Medi 2025. Yna mae’r prosiect yn anelu at barhau i ehangu’n raddol i ysgolion cynradd eraill dros gyfnod o dair blynedd. Ar ôl hynny, bydd datblygu bwydlen ar gyfer ysgolion uwchradd a chyhoeddi Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â chynllun cnydau, yn cael eu dosbarthu ar gyfer defnydd ehangach. Y nod yw rhannu gwybodaeth ac adnoddau’n eang ledled Cymru i wahanol awdurdodau lleol er mwyn annog cydweithio parhaus rhwng adrannau caffael awdurdodau lleol a thyfwyr lleol o Gymru.
Casgliadau
Mae prosiect Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol yn enghraifft bwerus o sut gall cynaliadwyedd, addysg, a datblygu economaidd lleol, gael eu hintegreiddio i ddarpariaeth bwyd y sector cyhoeddus. Gyda chanlyniadau cynnar cryf a map trywydd clir ar gyfer ehangu, mae’n cynnig model y gellir ei efelychu mewn rhanbarthau eraill yng Nghymru a thu hwnt. Daw llwyddiant y prosiect nid yn unig o’r ffordd arloesol o weithio, ond hefyd yn ei allu i feithrin cydweithio, newid normau diwylliannol, a darparu buddion gweladwy i’r economi sylfaenol.
Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol: Bwydlen Cenedlaethau’r Dyfodol Read More »













