Economi

Halon Mon salt pouches

Halen Môn

Mae Halen Môn, Cwmni Anglesey Sea Salt, yn cynhyrchu creision halen organig o ansawdd da drwy ddefnyddio hen grefft draddodiadol gan gyfuno cynaeafu â llaw a thechnoleg arloesol newydd sbon. Y canlyniad? Cynnyrch a fedr eistedd ymhlith y mawrion yn cynnwys Shampaen, Ham Parma a Phastai Porc Melton Mowbray.

Mae halen môr Halen Môn yn cael ei wneud o ddŵr môr glân, clir Menai sy’n amgylchynu Ynys Môn. Mae’r holl gynnyrch wedi ei ardystio gan y Gymdeithas Bridd.

Yn 2014 enillodd Halen Môn statws ‘Protected Designation of Origin’ (PDO) gan y Comisiwn Ewropeaidd, gan ddiogelu’r cynnyrch o dan yr enw Halen Môn. Halen Môn yw’r PDO Cymreig cyntaf. Mae ei statws, sydd wedi ei ddiogelu, yn cydnabod pwysigrwydd tir Gogledd Cymru ac felly mae’n rhaid i Halen Môn ddangos arferion busnes cyfrifol a chynaliadwy er mwyn cynnal y brand yn y tymor hir i mewn i’r dyfodol.

Yn 2025, newidiodd Halen Mon 2 bwmp dŵr trydan am bympiau gwrth-ddisgyrchiant, gan ddileu’n gyfan gwbl unrhyw angen am ynni. Gosodwyd hefyd 40 panel solar ffotofoltäig ar y safle i wrthbwyso allyriadau carbon a gweithio tuag at nod di-garbon. Mae yna hefyd bolisi ‘dim cemegau’ ar y safle, sy’n sicrhau bod elifiant dŵr yn gyfystyr â’r dŵr Cymreig calibr uchel a ddaeth i mewn i’r ffatri.

Mae gan Halen Môn ymagwedd arloesol tuag at wastraff, gan  edrych yn hytrach ar gynnyrch gwastraff fel ‘cyd-gynnyrch’.  Mae dŵr distyll, a gaiff ei ddefnyddio yn y broses o wneud halen yn cael bywyd o’r newydd drwy gael ei werthu fel glanhawr lens telesgop. Mae’r hydoddiant magnesiwm chwerw a mwynau sydd ar ôl yn dilyn cynaeafu halen yn cael eu gwerthu fel mwynau môr ac yn cael eu defnyddio mewn stablau rasio, a’u datblygu ar hyn o bryd fel elfen sylfaenol yn nhonig ceffylau rasio.

“Mae newid yn digwydd pan fod ymddiriedaeth yn bodoli”

United Welsh, Linc Cymru, Melin Homes a Tai Calon yw’r 4 gymdeithas dai sy’n gyfrifol am yr holl dai cymdeithasol ym Mlaenau Gwent – sef 20% o holl stoc dai y sir. Yn 2019 roeddent wedi dechrau ar brosiect i weld a allai grym cyfanswm eu gwariant fod o fudd i’r cymunedau o’u hamgylch.

Roedd cydweithio blaenorol wedi adnabod bod cadwyni cyflenwi adeiladu, a chynnal a chadw, yn feysydd allweddol lle roedd modd targedu gwariant er mwyn cefnogi’r economi leol, a chynnig cyfleoedd am hyfforddiant a datblygu sgiliau, tyfu busnes a chreu swyddi yn lleol. Serch hynny, er mwyn mapio’r cadwyni cyflenwi hyn, a chreu cysylltiadau rhwng cyllidebau a chynlluniau gwaith y 4 mudiad, roedd angen gwneud gwaith dadansoddi gofalus ac adnoddau pwrpasol, ffactorau a oedd yn anodd dod o hyd iddynt ymysgy y gofynion a’r blaenoriaethau a oedd eisoes yn bodoli.

Roedd y partneriaid wedi cyflwyno cais at Gronfa Her yr Economi Sylfaenol, Llywodraeth Cymru er mwyn helpu cyflymu’r cydweithio yma, a dyfarnwyd grant iddynt i gydnabod yr effaith y gallai hyn gael ar fusnesau economi sylfaenol yr ardal. Byddai’r prosiect a gymeradwywyd yn mapio’r cadwyni cyflenwi ar draws y pedwar mudiad, yn adnabod cyfleoedd allweddol i gryfhau gwariant a chyflenwyr lleol, adeiladu gwell perthynas gyda mentrau cymdeithasol a BBaCh, a’u cysylltu gyda’r rhwydweithiau cefnogi busnes presennol.

Un o’r camau allweddol cyntaf i’w cymryd oedd casglu a choladu data cadwyni cyflenwi y 4 partner. Er mwyn gwneud hyn, rhestrwyd a chyfunwyd cyllidebau cynnal a chadw arfaethedig y 4 gymdeithas dai, gan gynhyrchu blaengynllun gwaith 10 mlynedd o hyd, gwerth £90 miliwn. Yna, defnyddiwyd y data i gychwyn sgyrsiau gyda busnesau lleol ynghylch sut y gallai’r gwaith hyn gael ei gyflenwi’n lleol, a chadw cymaint â phosibl o’r gwariant ym Mlaenau Gwent.

Mae’r math hyn o wybodaeth, sef trafod gwerth a maint y cyfleoedd gwaith a fydd, o bosib, ar gael yn y dyfodol, o fudd enfawr i gynllunio busnes, yn arbennig i gyflenwyr llai neu mwy arbenigol. Gall gwybodaeth am gyfleoedd yn y dyfodol fod yn allweddol wrth, er enghraifft, benderfynu a dylid cyflogi aelod ychwanegol o staff neu fuddsoddi mewn hyfforddiant am fath newydd o osodiad neu gynnyrch.

Budd annusgwyl arall y prosiect yw ei botensial i newid y cylch gwaith ‘ffyniant a methiant’ roedd y partneriaeiaid yn ei greu, yn anfwriadol, o bryd i’w gilydd. Dyma un esiampl – yn hytrach na bod un gymdeithas dai yn gofyn i FBaCh amnewid eu holl ffenestri mewn un tymor (ffyniant), a bod gwaith tebyg yn dod i ben am fisoedd lawer nes bod cymdeithas dai arall yn gwneud yr un peth (methiant), erbyn hyn gall y cymdeithasau tai gyfunu eu rhaglenni gwaith er mwyn sicrhau bod gwaith parhaus ar gael.

Yn ogystal â choladu data y gadwyn cynnal a chadw a chyflenwi, roedd y partneriaid hefyd wedi rhannu syniadau a’u rhaglenni presennol er mwyn cefnogi mudiadau cymunedol. Arweiniodd hyn at gyfuno adnoddau’r partneriaid ymhellach – y tro hyn er mwyn cefnogi mannau a mentrau cymunedol yn well drwy’r trafferth y mae COVID-19 wedi’i achosi. Gan gydweithio gyda CLES, Canolfan Gydweithredol Cymru a’r Ffederasiwn Busnesau Bach, mae’r prosiect hefyd wedi gweithio i sefydlu Rhwydwaith Menter Gymdeithasol ym Mlaenau Gwent, a’r gobaith yw y bydd yn parhau ymhell ar ȏl i’r cyfnod grant ddod i ben.

Yn ogystal â chyflawni nodau gwreiddiol y cais a wnaethpwyd i’r Gronfa Her, mae’r cydweithio agosach a hyrwyddwyd gan y grant hefyd wedi dylanwadu ar y gwaith ehangach.
Yn debyg i lawer o gymdeithasau tai, mae’r cymdeithasau tai ym Mlaenau Gwent yn gweithio ar gynlluniau i ddatgarnboneiddio tai drwy waith ȏl-osod. Er fod hyn yn heriol, ac yn golygu y bydd rhaid newid y cynlluniau cynnal a chadw sydd eisoes yn bodoli, mae hefyd yn cynnig cyfle arwyddocaol i gefnogi swyddi newydd, gwyrdd, sy’n talu’n dda, yn yr ardal.

Mae’r bartneriaeth o’r farn bod y ffyrdd cydweithredol o weithio a sefydlwyd yn ystod prosiect y Gronfa Her yn ei galluogi i gynllunio a chyflenwi ȏl-osod mewn ffyrdd sydd, oherwydd eu maint, yn gallu cyflwyno buddion sy’n fwy na’r rhai a welwyd yn ystod y prosiect gwreiddiol. Byddai’n bosibl i’r broses o gyfuno cyllidebau a rhaglenni gwaith fynd mor bell â helpu sbarduno creu diwydiant ȏl-osod lleol newydd drwy allu gwarantu gwaith cyson, sydd wedi’i anelu at gyflenwyr llai a lleol.

Bydd hyn yn cynnwys defnyddio’r perthnasau a ffurfiwyd yn ystod y prosiect gyda’r colegau lleol, BBaCh a’r byd academaidd i archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â hyfforddiant a’r bylchau sgiliau sy’n berthnasol i’r gwaith arfaethedig, fel bod modd gwneud y gwaith yn lleol. Gallai hyn fod yn gyfraniad pwysig i gronfa sgiliau y sir sydd, fel llawer o ardaoedd ȏl-ddiwydiannol eraill, yn dioddef lefelau o ddiweithdra sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae’r partneriaid yn cychwyn drwy ȏl-osod 200 o gartrefi; bydd y gwaith yn cael ei ariannu gan grant arall o Lywodraeth Cymru, cynllun a fydd yn ffynhonnell ddysgu sut mae ȏl-osod mewn ffordd sy’n gweithio i’r bobl sy’n byw yn y cartrefi hyny, ac yn cyflenwi’r gwaith gan ddefnyddio BBaCh lleol.

Un o sgil-effeithiau pwysig y gwaith hwn yw Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent – y cyntaf o’i fath yg Nghymru. Bydd y cynulliad dinasyddion hwn yn caniatâu i breswylwyr lleol lunio cynlluniau datgarboneddio nid yn unig y bedair gymdeithas dai, ond hefyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a phenderfynwyr lleol eraill, gan sicrhau eu bod yn cydfynd â dyheadau bobl lleol. Mae’n ffurfio un rhan o’r dull ymgysylltu cymunedol newydd y mae’r 4 gymdeithas dai wedi’i ddatblygu yn ystod y prosiect.

Mae Steve Cranston, Arweinydd yr Economi Sylfaenol ar ran United Welsh, o’r farn bod y prosiect cychwynnol felly wedi lledu i fod yn rhywbeth llawer ehangach, a fydd yn cael effaith hirdymor ar y ffordd y mae’r partneriaid yn cydweithio, a’u galluogi i wasanaethu eu preswylwyr a’r cymunedau lleol o’u cwmpas yn well .

Mae gan Steve ddau syniad i eraill sy’n gwneud y math yma o waith. Wrth fynd ati i ddatblygu cydweithrediad rhwng mudiadau, mae’n dweud taw ymddiriedaeth yw’r prif ffactor, ac yn esbonio bod “newid yn digwydd pan fod ymddiriedaeth yn bodoli”. Ym mha ffordd mae datblygu ymddiriedaeth? Trwy fod yn agored, yn dryloyw a gwrando.

Syniad arall yw parhau i ffocysu ar yr hyn sy’n greiddiol i’r economi sylfaenol, sef pobl. Darparu gwasanaethau da i bobl, gwasanaethau a gefnogir gan swyddi da. Mae Steve yn dweud bod cynnal sgyrsiau cyson gyda phobl leol a chymunedau, a chanolbwyntio ar wrando ar eu barn, yn hanfodol er mwy sicrhau bod yr adnoddau yn cyrraedd y mannau hynny lle y mae eu hangen.

Yn ȏl Steve, y peth gorau am fod yn rhan o Grofa Her yr Economi Sylfaenol yw “cael yr amser i ffurfio partneriaethau ymddiriedol gyda sefydliadau partner. Ymddiriedaeth yw’r peth mwyaf pwysig, ac ‘rydym wedi darganfod cyfleoedd i greu manteision cyd-fuddiannol hirdymor”.

Cyngor Torfaen: Cefnogi’r sefydliadau

Yn debyg i ardaloedd ȏl-ddiwydiannol eraill, mae Pont-y-pŵl yn dioddef siopau gwag, prif strydoedd dirywiedig a diweithdra sy’n  uwch na’r cyfartaledd. Mae problemau o’r fath wedi dod yn gyffredin yn dilyn dirywiad y diwydiannau traddodiadol ond mae ffactorau eraill, megis sefydliadau neu bobl nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â’r ardal yn prynu eiddo masnachol fel buddsoddiadau, wedi gwneud y problemau yn waeth ym Mhont-y-pŵl.

Roedd y Cyngor wedi cydnabod bod llawer o bobl yn y dref yn meddu ar fusnesau bach, neu am sefydlu busnes, ac am agor siop yn y dref. Yn aml, roedd eu hymdrechion yn cael eu rhwystro oherwydd diffyg cefnogaeth a’r datgysylltiad rhwng yr hyn a gynigir gan raglenni cenedlaethol a grantiau a’r hyn sydd ei angen gan fusnesau bach, neu fusnesau meicro, ar lawr gwlad.  

Roedd y Cyngor wedi gwneud cais i Gronfa Her yr Economi Sylfaenol, Llywodraeth Cymru, er mwyn ceisio unioni hyn a gosod ynei le cynllun peilot a fyddai’n darparu cefnogaeth seiliedig ar leoedd, lleol iawn i fusnesau bach. Roedd hyn yn cynnwys mentora, cyfleoedd profi masnachu, gofod yn y cyfamser, hyfforddiant, grantiau cychwyn bach a chefnogaeth marchnata. 

Dechreuodd y prosiect peilot, Economi Sylfaenol Torfaen (EST), ym mis Chwefror 2020 gan weithio o ‘hyb waith’ newydd ym Marchnad Dan-do Pont-y-pŵl. Er gwaethaf effaith Covid, mae eisoes wedi cyfrannu at newid gweladwy yn yr ardal. 

Mae Swyddog Prosiect EST, Alyson Jones, o’r farn taw’r unig ffordd o feithrin a chynnig cefnogaeth catalydd i’r mentrau bychain hyn yw drwy geisio gwrando arnynt, a deall eu problemau. Ei cham cyntaf oedd bod yn rhagweithiol, a ffonio busnesau er mwyn cael blas ar y gymuned ac o’r gefnogaeth a oedd ei angen.

Roedd hyn wedi arwain at ystod o fesurau cefnogi, gan amrwyio o’r uchelgeisiol a chymhleth – megis trafod datblygu system gaffael leol – i bethau sylfaenol, ond cwbl hanfodol, megis cyfeirio masnachwyr unigol at wefannau priodol y Cyngor.

Un o’r heriau cynnar a welwyd oedd y rhenti uchel a godir gan landlordiaid nad ydynt yn byw yn y dref, ac nad oes ganddynt y cymhelliad i ostwng eu prisiau neu rannu unedau i ofodau mwy fforddiadwy. Tra bod landlordiaid lleol yn fwy parod i gydweithredu, roedd EST wedi dyfeisio datrysiad arall drwy gynnig lle yn y farchnad dan-do am gost isel (£5/dydd) neu, yn ystod COVID, yn ddi-dâl.  Roedd hyn wedi profi’n allweddol i helpu sawl busnes arloesol, megis Argraffu 3D Woolfall, i ddechrau ar eu gwaith. 

Mae’r prosiect wedi darparu mentora pwrpasol, un-i-un i helpu busnesau ffeindio’u ffordd drwy systemau a phrosesau, a chodi’r hyder a chapasiti i dyfu.

Yn amrywio o gefnogaeth ynghylch cael mynediad at gyllid neu ddod o hyd i gyfrifyddion lleol sy’n cynnig ymgynghoriad am ddim, hyd at help gyda chynlluniau busnes, ffyrlo neu arallgyfeirio oherwydd Covid, mae EST wedi ceisio darparu cymorth pwrpasol i bob buddiolwr. Gan ganolbwyntio ar ‘wneud y gwasanaeth i weithio i’r bobl’ mae hyn wedi cynnwys gwneud galwadau ffȏn i’r rhai sydd wedi’u heithrio yn ddigidol, a mentora o bell y rhai nad ydynt yn gallu fforddio teithio neu sy’n hunan-ynysu.

‘Rydym hefyd wedi trefnu ystod enfawr o ddigwyddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, gan drafod marchnata, caffael lleol a sesiynau Meddyg Busnes.

Un o fuddiolwyr cefnogaeth gan EST yw High Street Fitness, sefydliad buddiant cymunedol yn ymwneud â llesiant a ffitrwydd. Wedi’i sefydlu gan grŵp o hyfforddwyr cymwysedig a meddyg, mae’n darparu campfa cost isel i’r gymuned (gostyngiadau i’r di-waith) yn ogystal â chefnogaeth iechyd meddwl a rhaglen hyfforddiant a chymwysterau.

Roedd EST wedi cefnogi High Street Fitness gyda mentora cychwyn busnes, gan gydweithio gyda Busnes Cymdeithasol Cymru i ddarparu cefnogaeth benodol a dargedir o ran datblygu busnes cymdeithasol. Roedd EST wedi cynnig help pellach drwy ddarparu’r datrysiadau ariannol i gychwyn y busnes, dod o hyd i ofod mewn uned a oedd cwmni New Look wedi’i gadael yn ddiweddar, gorchfygu heriau posibl o ran y Cynllun Datblygu Lleol gan ei fod yn canolbwyntio ar fanwerthu, a chysylltu’r perchnogion gyda’r Awdurdod Addysg Lleol a’r GIG, i’w galluogi i dderbyn presgripsiynau cymdeithasol. Erbyn hyn, mae High Street Fitness yn gallu darparu adnodd cymunedol sydd mawr ei angen yng nghanol y dref, ac yn trafod datblygu cynllun NVQ a allai gynnal mwy o sgiliau a swyddi yr economi sylfaenol yn yr ardal yn y dyfodol. 

Gydag un lygad ar y cynllun ehangach yma, mae EST hefyd wedi cydweithio gyda mudiadau angor lleol i helpu datblygu cadwyni cyflenwi lleol ac archwilio caffael lleol, yn benodol mewn meysydd megis datgarboneiddio, lle y mae sicrwydd ynghylch anghenion y dyfodol. 

Mae cydweithio gyda RSL Bron Afon wedi adnabod bod bylchau sgiliau yn broblem allweddol ac, erbyn hyn, mae EST yn gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i ddatrys hyn er mwyn cynhyrchu paneli solar a phympiau gwres yn lleol.

Ar ȏl 13 mis o’r prosiect mae Alyson – unig aelod staff penodedig EST –  wedi cysylltu â dros 375 o fusnesau lleol ac wedi cydweithio gydag ystod eang o bartneriaid traws-sector. Mae Alyson o’r farn taw dull lleol iawn a dynol y prosiect sydd wrth wraidd ei lwyddiant.

Fel mae hi’n esbonio,“mae’n rhaid ichi adeiladu perthynas gyda, ac ennyn ymddiriedaeth, pobl; rhaid i chi rhoi’r cyngor y mae’r bobl yn ymddiried ynddo. Nid yw darparu cefnogaeth ar lefel genedlaethol yn ddigonol os nad oes gan fusnesau lleol yr hyder neu’r gallu i gael mynediad ato”.

Mae darparu’r fath lefel o gyswllt personol – mae Alyson hefyd yn ffonio busnesau yn reolaidd i holi amdanynt, ac i ofyn hynt y busnes p’un ai bod angen cefnogaeth arnynt neu beidio – yn gofyn ymroddiad mawr ac mae’n gallu golygu cost emosiynol.

Un esiampl oedd clywed oddiwrth masnachwr unigol a oedd wedi sefydlu busnes atgyweirio ceir symudol yn 2019 fel ei bod yn gallu ‘rhoi’r gorau i Gredyd Cynhwysol a gwneud gwell bywyd iddi hi ei hun a’i phlant’. Fel busnes cychwynnol nad oedd wedi cofrestru ar gyfer TAW, ac heb adeilad busnes, roedd hi wedi disgyn drwy’r bylchau o ran cefnogaeth Covid-berthnasol, ac wedi’i gadael gyda’r dewis plaen o ofyn i Alyson ‘ Ydw i’n bwydo’r plant neu talu fy nghyflenwr?’.

Cafodd y profiad hwn ei rannu gyda, a’i gyfeirio gan y Cyngor at Lywodraeth Cymru, gan ychwanegu at y galw i beidio anghofio meicro-fusnesau – calon ac enaid Pont-y-pŵl a llwer o drefi eraill y sir –  wrth ymateb i Covid.  Yn y pen draw, a gyda chefnogaeth EST, tu 3 mis wedi iddi gysylltu roedd y masnachwr hwn wedi derbyn cymorth.

Mae’r esiampl uchod yn amlygu rȏl hanfodol, cyfryngol y mae prosiectau o’r fath yn cyflawni o ran cynnal swyddi lleol, a’r teuluoedd sy’n dibynnu arnynt. I Alyson, dyma’r agwedd orau – yn ogystal â ‘gweld y gwahaniaeth enfawr y mae EST wedi’i wneud’ –  o fod yn rhan o gymuned y Gronfa Her.

“Mae’r adborth oddiwrth busnesau lleol wedi bod yn anhygoel – mae pobl yn gwerthfawrogi yn fawr cael rhywun y gallant siarad â, a dod i’w ‘nabod”  mae Alyson yn esbonio. Mae’n ymddangos taw’r person lleol yw’r allwedd, yr elfen ddynol sy’n rhoi’r hyder, yr hyder sy’n absennol o wefan.

Am ragor o wybodaeth, ewch i sianeli cyfryngau cymdeithasol Economi Sylfaenol Torfaen:

LinkedIn

Trydar

Facebook

Cyngor Sir y Fflint: y ffordd y mae ‘meicro-ofal’ yn helpu cryfhau’r economi sylfaenol

Yn debyg i siroedd eraill Cymru, mae Sir y Fflint yn wynebu heriau cydgysylltiedig, sef cyni, poblogaeth sy’n heneiddio a sector gofal sy’n cael hi’n anodd cwrdd â’r galw cynyddol am ofal. Gyda chymorth o Gronfa Her yr Economi Sylfaenol, Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn peilota datblygiad ‘meicro-ofal’ a leolir yn y gymuned, er mwyn helpu tyfu’r cyflenwad gofal, creu swyddi cynaliadwy sy’n talu’n dda, ehangu’r dewis a chyflenwi gwasanaethau gofal o safon uchel.

Mae’r pandemig Covid wedi amlygu pwysigrwydd gofal cymdeithasol i bobl sy’n agored i niwed ond, wedi dweud hynny, o’i gymharu â phroffesiynau eraill sy’n gofyn am sgiliau tebyg, mae’r gwaith hwn yn aml yn cynnig tâl isel, mae’r amodau gwaith yn heriol ac mae’r cyfleoedd am hyfforddiant a chamu ymlaen o ran gyrfa yn gyfyngedig. Felly, mae recriwtio a chadw staff gofal, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn her.

Roedd adolygiad strategol y Cyngor o’r sector gofal yn Sir y Fflint yn 2019 wedi amlygu ‘meicro-ofal’ fel datrysiad posibl i rai o’r heriau hyn. Mae meicro-ofal yn cael ei ddiffinio fel gofal a roddir naill ai gan dîm bach neu unigolyn i nifer fach o gleientod, a hynny fel arfer ar lefel leol.

Mae meicro-ofal yn cynnig nifer o fuddion i ofalwyr a’r rhai hynny sy’n derbyn gofal fel ei gilydd. Mae’r llwyth achosion llai yn golygu bod meicro ddarparwyr yn gallu cynnig gwasanaeth mwy personol a hyblyg i’r bobl hynny sydd yn eu gofal. Mae hefyd yn cael gwared ar yr angen am gyfnodau hir o deithio rhwng cleientod lluosog – teithio sydd yn aml yn ddi-dâl – ac felly’n gwneud y gwaith yn llai o straen, a thalu yn well.

Mae meicro ddarpariaeth hefyd yn cynnig cyfle am hunan-gyflogaeth gan, o bosib, ddenu’r rhai hynny sydd am weithio ar eu liwt eu hunain – megis gofalwyr anffuriol neu bobl sy’n gweithio’n rhan amser – pobl na fyddai, efallai, fel arall wedi meddwl am ymuno â’r proffesiwn gofal.

Felly roedd y Cyngor wedi gofyn i’r Gronfa Her gefnogi prosiect peilot 2-flynedd ar ei hyd i dyfu a chefnogi meicro-ofal yn Sir y Fflint, gyda’r nod o gynyddu’r nifer o ofalwyr yn y sir, a darparu swyddi lleol, cynaliadwy sy’n talu’n dda, ac helpu ateb y galw cynyddol am ofal.

Dyfarnwyd arian yn 2019 am brosiect i gefnogi, yn uniongyrchol, meicro-ofalwyr wrth iddynt gychwyn eu gwaith, drwy gynnig cyngor, cyllid sbarduno a marchnata. Roedd y grant hefyd wedi galluogi’r Cyngor i ddatblygu rhwydweithiau o feicro-ddarparwyr a chreu strwythurau i sicrhau bod eu harfer yn ddiogel, yn gyfreithlon ac o answadd, ac yn galluogi’r awdurdod lleol i gomisiynu gwasanaethau oddiwrthynt yn uniongyrchol.
Mae meicro-ofal ar y fath raddfa yn newydd yng Nghymru. Tra bod Cyngor Sir y Fflint wedi’i ddylanwadu gan waith sy’n cael ei wneud yng Ngwlad yr Haf ac mewn mannau eraill yn Lloegr i gefnogi meicro-ofal, oherwydd bod gwahaniaethau yn y ddeddfwriaeth a modelau gofal rhwng Cymru a Lloegr, roedd rhaid adeiladu model gwreiddiol er mwyn bodoli’r amgylchiadau sy’n berthnasol i Sir y Fflint.
Fel y mae Rob Loudon, un o 2 Swyddog Datblygu Meicro-Ofal yng Nghyngor Sir y Fflint yn esbonio: “Yn Lloegr mae canran uwch o’r bobl sydd angen gofal yn derbyn y Taliad Uniongyrchol i brynu eu gofal eu hunain. Yng Nghymru, mae mwy o’r gofal yn cael ei ddarparu gan asiantaethau comisiynu gofal yr awdurdodau lleol. Mae hyn wedi dylanwadu ar ddatblygiad ein model ni”.
Nod allweddol prosiect Sir y Fflint oedd ehangu’r gofal sydd ar gael yn gyffredinol. Roedd yn gwbl hanfodol ein bod yn darganfod ffordd o ddatblygu’r farchnad meicro-ofal heb beryglu’r ddarpariaeth ofal bresennol a roddir gan asiantaethau gofal a Chynorthwywyr Personol (a gyflogir yn uniongyrchol gan bobl sy’n derbyn y Taliad Uniogyrchol).
Roedd y dystiolaeth o Loegr yn awgrymu bod twf sefydliadau meicro-ofal yn arwain at broblemau cyflenwi yn y sectorau asiantaeth gofal a chynorthwyo personol, gan fod niferoedd sylweddol o weithwyr wedi gadael y sectorau hynny i fod yn feicro-ofalwyr. Mae’n bosibl bod nifer o resymau am hyn, gan gynnwys yr awydd i fod “yn fos arnoch eich hun”, ond hefyd oherwydd bod meicro-ofalwyr yn gallu codi cyfradd fesul awr sy’n sylweddol uwch.
I fynd i’r afael â’r her hon, ac i helpu sicrhau’r canlyniad gorau posib i bob rhanddeiliad, penderfynodd y Cyngor chwarae rȏl ragweithiol wrth gomisiynu meicro-ofal, gan osod cyfraddau fesul awr i’r meicro-ofalwyr a oedd yn darparu gofal, naill ai drwy daliad uniongyrchol, neu drefn comisiynu uniongyrchol.
Penderfynwyd ar gyfradd o £12.63 yr awr ar gyfer 2020/21– swm sylweddol uwch na’r isafswm cyflog o £9.50 yr awr a argymhellir gan y Sefydliad Cyflog Byw – digon i ddenu pobl newydd i’r proffesiwn gofal heb i’r swyddi meicro-ofal gael eu cymryd gan y bobl a oedd eisoes yn gweithio mewn rhannau eraill o’r sector gofal. Roedd y ffaith bod gan y Cyngor reolaeth dros y cyfraddau a godir am wasanaethau hefyd wedi atal ‘codi gormod’, o gymharu â’r gwasanaethau traddodiadol. Roedd hi wedi profi’n anodd sicrhau bod meicro-ofalwyr yn derbyn tâl teg am eu gwaith heb greu’r fath wahaniaeth gyda chyflogau mewn rhannau eraill o’r sector gofal, fel bod niferoedd o weithwyr yn ymadael ag un sector am y llall.
Mae cyfuniad o’r holl fesurau hyn wedi cyfrannu at greu 14 busnes meicro-ofal yn Sir y Fflint, 9 yn fwy nag y ragwelwyd ar y dechrau. Yn ychwanegol, ac o ganlyniad uniongyrchol i brosiect y Gronfa Her, mae 6 arall yn y broses o gael eu sefydlu.

Hyd yn hyn, nid yw un o aelodau staff y meicro-ddarparwyr newydd yma wedi dod o asiantaethau gofal eraill ac, er taw megis dechrau mae’r mentrau hyn, mae Rob o’r farn bod y rȏl weithredol y mae’r Cyngor yn cymryd mewn meicro-ofal yn denu mwy o bobl i weithio yn y sector gofal yn gyffredinol.

Yn ei dro, mae hyn yn cael effaith bositif ar y bobl sydd angen y gwasanaethau gofal. Fel mae Rob yn esbonio “y pwynt sylfaenol yw pe na fyddai’r meicro-ofalwyr hyn ar gael yn Sir y Fflint, byddai dal nifer o bobl ar ein rhestr ofal, yn aros am ofal”. Mewn geiriau eraill, mae meicro-ofalwyr wedi gallu llenwi’r bylchau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle nad oedd gan asiantaethau gofal y capasiti i gwrdd â’r gofynion am ofal.

Gall y Cyngor ymfalchïo yn natblygiad y mentrau newydd hyn sydd nid yn unig wedi denu mwy o bobl i’r proffesiwn gofal, ond wedi gwneud hynny mewn ffordd sy’n adeiladu gwytnwch economaidd lleol drwy gynyddu’r opsiynau am gyflogaeth cynaliadwy, a sy’n talu’n dda, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Er bod y prosiect wedi gosod sylfaen gadarn i feicro-ofal yn Sir y Fflint, mae’r Cyngor yn dal i ddygymod â heriau yn y system – gan gynnwys y mater o drefnu bod gofalwr arall ar gael yn absenoldeb y meicro-ofalwr arferol, er enghraifft oherwydd salwch neu wyliau.
Mae’r ddeddfwriaeth gyfredol yn cyfyngu ar y nifer o bobl y gall meicro-ofalwyr ofalu am cyn bod rhaid iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fel asiantaeth gofal cartref. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i feicro-ofalwyr ‘gyflenwi’ ar ran ei gilydd os bydd y nifer o bobl sy’n derbyn eu gwasanaeth yn croesi, hyd yn oed dros-dro, y trothwy cofrestru.
Felly mae helpu busnesau i ddatblygu cynlluniau wrth gefn cadarn yn her, ond yn un y mae tîm Sir y Fflint yn benderfynol o’i ddatrys drwy gydweithio, a thrafod, gyda rhanddeiliaid.
Wrth i’r cynllun peilot nesáu at ei derfyn, mae Rob yn hyderus y bydd y gwaith tyfu meicro-ofal yn Sir y Fflint yn parhau ac, o bosib, yn cynnig model o gyflogaeth gynaliadwy yr economi sylfaenol y gellir ei addasu a’i ailadrodd ar draws Cymru.

ELITE Paper Solutions: Adeiladu cysylltiadau rhwng y sector cyhoeddus a menter gymdeithasol

Menter gymdeithasol, wedi’i lleoli ym Merthyr Tudful a sy’n arbenigo mewn rheoli a storio dogfennau a darnio data, yw ELITE Paper Solutions.

Fel mae’r acronym yn esbonio – Equality Linked Into Training and Employment – mae ELITE yn anelu at ddarparu gweithle cwbl gynhwysol i gefnogi’r rhai hynny sydd bellaf o’r farchnad lafur oherwydd, er enghraifft, anabledd, cyflyrau iechyd neu ddiweithdra hirdymor, i ennill sgiliau a swyddi.

Derbyniodd ELITE grant y Gronfa Her i ddatblygu ei fodel ymhellach fel ei fod yn gallu cyflawni contractau ar raddfa fawr, contractau a fyddai, yn eu tro, yn cynnal rhagor o swyddi, sgiliau a chyfleoedd gwirfoddoli. Roedd rhan o’r cynllun hwn yn cynnwys dylanwadu ar randdeiliaid yn y sector cyhoeddus i newid eu harferion caffael fel eu bod yn gallu dyfarnu mwy o gontractau i fentrau cymdeithasol.

Buddsoddwyd yr arian grant mewn eitemau cyfalaf a refeniw er mwyn tyfu’r tîm ac adeiladu capasiti sefydliadol. Roedd hyn yn cynnwys penodi Ymgynghorydd Cyflogaeth i weithio gydag asiantaethau cyfeirio a chyrff cynnal eraill i helpu unigolion i gael mynediad at, a symud ymlaen drwy, gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ELITE.

Roedd y buddsoddiadau hyn nid yn unig wedi helpu ELITE i ennill 3 contract mawr o’r sector cyhoeddus ond hefyd wedi’i alluogi i ymateb yn gyflym i newidiadau yn anghenion ei gwsmeriaid oherwydd pandemig Covid, a chynyddu ei refeniw o £90,000, o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Er enghraifft, roedd un contract a oedd i fod i ddechrau ar ffin y cyfnod clo wedi cynyddu, o draean, ei archeb am gynwysyddion oherwydd newid yn ei ddull gweithio, dull a oedd yn cynhyrchu llawer mwy o bapur nag y ragwelwyd. Gyda’r capsiti ychwanegol hyn, roedd ELITE yn gallu cyflenwi’r biniau casglu ychwanegol angenrheidiol.

Ar ben arall y sbectrwmt, mae’r ffaith bod llawer o sefydliadau yn symud o amgylchedd y swyddfa wedi arwain at ymchwydd yn y galw am sicrhau bod gwybodaeth gorfforol ar gael arlein. Mae’r cynnydd cyflym yn y galw am ei wasanaeth sganio cyfrinachol wedi galluogi ELITE i gyflogi naw aelod newydd o staff i helpu yn yr adran sganio.

Mae ELITE hefyd yn falch ei fod wedi gallu tyfu contractau eraill, gan gynnwys y GIG, trwy ymateb i’r galw cynyddol am y gwasanaeth storio archifau y mae’n darparu, i storio cofnodion pwysig yn ddiogel.

Ochr yn ochr â’i lwyddiant masnachol cynyddol, mae’r grant wedi galluogi ELITE i ddatblygu ymhellach ei weithgaredd craidd o gefnogi’r rhai hynny sydd wedi’u hallgáu o gyfleoedd i ennill sgiliau a gwaith. Ers 2015, mae adran fenter gymdeithasol yr Elusen wedi gweithio gyda dros 250 o bobl sy’n dioddef anabledd neu anfantais; ‘rydym o’r farn bod swydd i gael i bawb, waeth beth yw’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt.

I roi esiampl, mae Prif Swyddog Gweithredol ELITE, Andrea Wayman, yn dweud “Mae ein adran sganio yn lle gwych ar gyfer y bobl hynny sy’n uchel weithredol ar y sbectrwm awtistig oherwydd yr angen am roi sylw i fanylder, ac ‘rydym yn eu cefnogi nhw i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol, ffactor sydd, o bosibl, yn y gorffennol wedi’u rhwystro rhag ennill cyflogaeth. Mae eu datblygiad wedi creu tîm gwych”.

Yn hyn o beth, mae prosiect y Gronfa Her hefyd wedi arddangos y rȏl y gall mentrau cymdeithasol chwarae yn yr economi sylfaenol. Mae Andrea o’r farn bod modd mabwysiadu model ELITE mewn unrhyw weithle, gan gynnwys BBaCh mwy o faint a’r Sector Cyhoeddus, i alluogi gweithluoedd mwy amrywiol, cefnogi economïau lleol a gwella dealltwriaeth o’r cyfraniad y mae pobl, sydd yn aml yn cael eu hesgeuluso, yn gallu gwneud.

Er mwyn cefnogi derbynwyr grant y Gronfa Her, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithredu cymuned ymarfer sy’n dod â phrosiectau at ei gilydd i rannu dysgu ac heriau. Mae Andrea o’r farn bod hyn wedi bod o fudd mawr wrth adeiladu perthynas ac wedi arwain at atgyfeiriadau newydd lluosog, yn ogystal â chleient newydd. Mae hyn hefyd wedi rhoi’r cyfle i ELITE i weithredu fel ‘llais prynu cymdeithasol’, ac i hysbysu, a dylanwadu ar, y rhai sydd yn ymwneud ag ocht bwrcasu y broses caffael.

Wrth sȏn am y Gymuned Ymarfer, roedd Andrea am ddweud, “Ro’n i ddim wedi sylweddoli faint o fonws y byddai’r cymunedau ymarfer yn cynnig i ni. Ro’n i’n meddwl eu bod yn rhyw fath o ȏl-ystyriaeth ond, mewn gwirionedd, mae’n nhw wedi bod yr un mor bwysig i ni ag yr oedd derbyn yr arian grant”.

Wrth i ELITE edrych at y dyfodol, mae ei amcanion yn cynnwys dal i dyfu ac hyrwyddo ei fodel. Bydd hyn yn golygu ennill mwy o gyfleoedd yn y sector cyhoeddus, a pharatoi’r ffordd, fel bod mentrau cymdeithasol eraill yn gallu dilyn yr esiampl.

Practice Solutions: Fordd holistaidd o adeiladu gwytnwch cymunedol yn Rhondda Cynon Taf

Mae Practice Solutions yn sefydliad hyfforddi ac ymgynghori, yn darparu cefnogaeth hyblyg parod i gwmnïoedd yn y sectorau gofal cymdeithasol, iechyd, gwirfoddol a phreifat. Ei nod yw helpu sefydliadau i feithrin llesiant yn eu gweithluoedd a chymunedau drwy weithredu newid ystyrlon a chynaliadwy.

Wedi gweithio gyda llawer o fusnesau gofal cymdeithasol ers 1999, roedd Practice Solutions yn cydnabod bod darparwyr llai o faint yn aml yn cael trafferth delio â materion ‘swyddfa gefn’, gan gynnwys cyllid, Adnoddau Dynol, marchnata neu dendro. Yn ei dro, roedd hyn yn cwtogi ar eu gallu i ennill y contractau mwy o faint roedd angen arnynt er mwyn iddynt dyfu.

Roedd hyn wedi arwain at y syniad o rwydwaith gefnogi leol ar gyfer y busnesau hyn, a allai gynyddu eu capasiti i ddarparu gwasanaethau, ac ennill cytundebau ar raddfa fwy, drwy ddarparu gwasanaethau ‘swyddfa gefn’ ar y cyd, yn ogystal â chyngor, cefnogaeth a broceru perthynas, yn enwedig gyda’r sector cyhoeddus.

Teimlwyd bod hyn o bwys mawr i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gyda BBaCh a busnesau meicro eisoes o dan bwysau cynyddol ac ymgyrch cenedlaethol i recriwtio 20,000 o ofalwyr ychwanegol yng Nghymru erbyn 2030.

Os yn llwyddiannus, yna byddai modd cyflwyno’r model i’r holl fusnesau sylfaenol sy’n cefnogi’r darparwyr gwasanaeth hyn, ynghyd â darparwyr gwasanaeth eraill.

Yn 2019, roedd tîm Practice Solutions wedi derbyn grant y Gronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru i brofi awydd busnesau Rhondda Cynon Taf am fodel o’r fath.

Gan ganolbwyntio ar y cychwyn ar ddarparwyr gofal cymdeithasol, roedd y prosiect Connect4SuccessRCT yn anelu at gyflwyno dull cysawd-eang i sicrhau bod modd diwallu anghenion gofal cynyddol yn y dyfodol drwy hybu’r sector gofal lleol, a’r economi sylfaenol ehangach.

Byddai’r prosiect yn cynnig cefnogaeth ‘swyddfa gefn’ i FBaCh lleol y sector gofal, gan gynnwys recriwtio staff a chyngor ynghylch eu cadw, hyfforddiant i’r rhai sy’n gweithio gyda phobl agored i niwed, help gyda materion cyllid a marchnata a chyngor ynghylch tendro.

Byddai hefyd yn gweithio i gysylltu cwmnïau lleol gyda chyrff cyhoeddus er mwyn ceisio sicrhau bod mwy o gontractau cyhoeddus yn cael eu dyfarnu yn lleol, yn hytrach nag yn mynd i ddarparwyr corfforaethol mawr. Byddai hyn yn cynnwys chwalu’r rhwystrau i dendro llwyddiannus a chodi proffil darparwyr lleol i gynulleidfaoedd y sector cyhoeddus.

Er ei fod wedi dechrau yn dda, gydag allgymorth llwyddiannus gyda phawb, roedd hi’n anochel bod effaith Covid-19 wedi cyfyngu ar allu darparwyr gofal cymdeithasol a chyrff cyhoeddus i ymgysylltu â’r prosiect.

Mewn ymateb, roedd y prosiect wedi cynyddu ei ffocws ar fusnesau eraill yr economi sylfaenol sydd, drwy gyfrannu at wytnwch cymunedol lleol, hefyd yn cefnogi agendáu iechyd a gofal cymdeithasol, a’r gymuned yn gyffredinol.

Arf allweddol oedd gwefan Connect4SuccessRCT, sy’n anelu at alluogi darparwyr lleol i farchnata eu gwasanaethau, ac hefyd i roi cyfle iddynt gydweithio, er mwyn ennill a cyflenwi contractau sector cyhoeddus raddfa-fawr a fyddai, fel arall, y tu hwnt i’w cyrraedd.

Hyd yn hyn mae 54 sefydliad lleol wedi cofrestru, gan gynnwys gorsaf radio, sefydliadau hyfforddiant, adeiladwyr, gweithgynhyrchwyr a dosbarthwyr Cyfarpar Diogelu Personol.

Er bod y pandemig wedi newid prif gynulleidfa’r prosiect, nid yw Connect4SuccessRCT wedi colli golwg o’i nodau gwreiddiol, sef cefnogi’r sectorau iechyd a gofal, neu chwaith ei ymagwedd holistaidd.

Fel mae Dafydd Thomas, arweinydd prosiect Practice Solutions, yn esbonio:

“Mae’r model yn gweithio ar sail darparu cyd-fuddion i bawb. Pan y maen nhw’n ymuno â Connect4SuccessRCT, mae busnesau nid yn unig yn derbyn cyngor ynghylch tendro, marchnata, a chyngor busnes arall, ond hefyd byddwn yn darparu hyfforddiant fel bod eu cyflogai yn gallu adnabod pan fydd rhywun yn agored i niwed, neu’n wynebu risg. Bydd hyn yn ychwanegu at effaith cymdeithasol y busnes ac, yn y pen draw, yn helpu’r gwasanaethau cyhoeddus i ymyrryd cyn bod problemau yn troi’n ddwysach, ac yn fwy costus”

Gall y ‘system rhybudd cynnar’ ychwanegol sydd gan gwmnïau lleol, oherwydd eu bod yn cysylltu’n ddyddiol gyda niferoedd uchel o breswylwyr y sir, nid yn unig helpu lleihau’r angen am roi pobl mewn ysbyty am reswm amrhiodol, a lleihau dioddefaint, ond hefyd olygu bod modd rhannu a thyfu cyfrifoldeb gofal drwy’r gymuned gyfan.

Mae Practice Solutions hefyd yn dal i weithio i bontio’r bwlch rhwng y sector cyhoeddus a darparwyr gwasanaeth er mwyn galluogi mwy o gydweithredu, a sicrhau bod mwy o arian cyhoeddus yn cael ei sianeli drwy’r economi leol.

Mae’r staff wedi bod yn ymgysylltu â swyddogion caffael ac awdurdodau lleol i geisio deall yr hyn sydd ei angen ar fusnesau i’w galluogi i fod yn llwyddiannus wrth ennill contractau. Mae hyn yn cynnwys diweddaru polisïau, cynlluniau ardystio a gwybodaeth am y gwaith sydd ar y gorwel, a’r cyfan yn golygu bod busnesau yn fwy parod i fynd allan i chwilio am gontractau hyd yn oed pan fod peilot cychwynnol Connect4Success yn dod i ben ym Mawrth 2021.

Mae’r gwaith hwn hefyd wedi rhoi cipolwg gwerthfawr o’r broses o wneud tendro yn fwy hygyrch, yn enwedig o ran y rhai hynny sydd yn llai profiadol, neu’n llai deallus pan yn trafod materion digidol.

Mae Practice Solutions hefyd wedi gallu rhoi adborth ynghylch y profiad hwn i GwerthwchiGymru, Cyngor Bwrfeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a gwasanaethau cyhoeddus lleol eraill, i’w helpu i ddeall y rhwystrau yn mae darparwyr lleol yn eu wynebu.

Roedd Dafydd Thomas wedi mynd ymlaen i ddweud

“Un o’r pethau y mae’r pandemig wedi’n dysgu ni yw bod gwasanaethau lleol ond cystal a’u cadwyni cyflenwi – ystyriwch yr heriau gwahanol o ran cyflenwi Cyfarpar Diogelwch Personol. ‘Rydym am weld mwy o fusnesau lleol yn cyflenwi mwy o wasanaethau ar ran y sector cyhoeddus lleol – gan ddarparu mwy o swyddi lleol i bobl yn agosach i’w cartrefi, a sicrhau bod mwy o arian cyhoeddus yn dal i gylchredeg yn lleol”.

Mae’r tîm hefyd wrthi’n creu cyfeiriadur i restru holl fusnesau Rhondda Cynon Taf a fydd, ymhen amser, yn helpu timau caffael y sector cyhoeddus i chwilio am setiausgiliau penodol a chysylltu â busnesau sy’n cwrdd â gofynion contract.

Er bod Practice Solutions o’r farn bod y peilot wedi bod yn llwyddiannus, nid yw wedi bod heb ei heriau. Yn ystod misoedd brig y pandemig roedd hi’n anodd creu cysylltiadau gyda phartneriaid ac, mewn un achos, roedd wedi cymryd dros 9 mis i drefnu cyfarfod gydag un o’r cyrff cyhoeddus targed. Fel yr esboniodd Dafydd “yn syml iawn, nid oedd modd i’n partneriaid ymgysylltu â ni” er gwaethaf yr adnodd ychwanegol y mae prosiectau fel Connect4SuccessRCT yn cynnig.

Yn yr un modd, mae pwysau economaidd yn golygu nad oedd agwedd holistaidd hirdymor y prosiect yn apelio at rai o’r BBaCh a busnesau meicro, gan fod llawer mwy o ddiddordeb gyda busnesau mewn “helpwch fi i gael gafael ar rywbeth nawr”, yn hytrach na’r hyn a fydd, efallai, ar gael yn y “dyfodol euraidd”.

Er gwaetha’r heriau hyn, mae’r prosiect wedi profi’n hyblyg, ac wedi ymateb i anghenion lleol. Yn yr hirdymor hoffai’r sefydliad addasu’r model hwn a’i droi’n fudiad cydweithredol gydag aelodaeth ffurfiol, a gwahodd y gymuned i chwarae ei rhan. Yn ychwanegol at y nodau gwreiddiol o gydweithio yn agosach gyda’r sector cyhoeddus, byddai hefyd yn yn cysylltu pobl lleol gyda busnesau dibynadwy lleol ym meysydd cynnal a chadw eiddo, trafnidiaeth neu wasanaethau cynnal cyffredinol.

Yn ogystal â hybu’r economi leol, credir y byddai hyn, yn arbennig, yn helpu’r pobl mwyaf agored i niwed yn y gymuned i fyw yn annibynnol yn hirach, yn gwella llesiant unigol ac yn lleihau ymhellach y pwysau ar y darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol lleol.

Helpu Cymru Arwain y Ffordd trwy arloesi yn y sector cyhoeddus

Mae Simply Do Ideas yn FBaCh wedi’i leoli yn ne Cymru. Ei bwrpas yw galluogi sefydliadau mawr i gywain syniadau, drwy ddull cyfrannu torfol, er mwyn datrys heriau sefydliadol. Ei blatfform digidol, llif gwaith arloesol o’r dechrau i’r diwedd sydd wedi ennill sawl gwobr, yw un o’i arfau allweddol yn y broses o reoli arloesi yn gyflymach, yn haws ac mewn ffordd mwy effeithiol. Mae’n gwneud hyn drwy alluogi sefydliadau i ffurfio a rhannu briffiau byw, aml-gyfrwng mewn porthol diogel sydd wedi’i gynllunio i gipio datrysiadau penodol oddiwrth gyflogai neu gyflenwyr allanol. Gelwir hyn yn arloesi a ysgogir gan her. 

>> Sut y mae Simply Do yn gweithio << 

Mae’r cwmni yn cydnabod taw’r amser, y gost a’r risg sydd, fel arfer, yn gysylltiedig ag arloesi, yw’r tri rhwystr allweddol sy’n wynebu sefydliadau y sector cyhoeddus pan yn datblygu datrysiadau creadigol ac arloesol i’w problemau. Yn hyderus y byddai ei fodel yn gallu helpu, roedd y cwmni wedi gwneud cynnig i arbrofi gyda’r dull hwn yng nghyd-destun yr heriau cymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu cyrff cyhoeddus a chymunedau yng Nghymoedd De Cymru.

Dyfarnwyd grant y Gronfa Her i adeiladu ar y gwaith cynharach o blismona, uwch-weithgynhyrchu a gwasanaethau ariannol er mwyn cysylltu heriau yr economi sylfaenol gyda datrysiadau entrepreneuraidd cyfrannu torfol o 2 grŵp o randdeiliaid allweddol; y cyntaf, colegau a phrifysgolion lleol, a’r ail, BBaCh lleol.

Cyflwynwyd y prosiect mewn dau gyfnod penodol:

Roedd y cyfnod cyntaf yn anelu at fynd i’r afael â phroblem ar y cyd rhwng diwydiant, addysg a’u myfyrwyr. Mae angen ar gyflogwyr – sydd heb ddigon o amser, ac am osgoi risg – syniadau newydd i oroesi a ffynnu, tra bod angen ar fyfywrwyr fynediad at brofiadau yn y ‘byd go-iawn’ i’w paratoi ar gyfer byd gwaith. Yn y canol, mae darparwyr addysg bellach ac uwch yn wynebu targedau cyflogadwyedd trwm ac ymestyn deilliannau’r cwricwlwm.

Yn ystod y cyfnod hwn derbyniodd myfyrwyr 8 coleg a phrifysgol yn, ac o gwmpas, Cymoedd De Cymru briffiau byw, a chawsant eu cefnogi i gynhyrchu datrysiadau arloesol i heriau allweddol y farchnad. Roedd y briffiau wedi dod o sefyliadau ar draws sectorau yr economi sylfaenol, gan gynnwys lletygarwch, cludiant, tai ac adeiladu.

Roedd dros 400 o fyfyrwyr wedi ymwneud â’r heriau hyn, gan alluogi’r sefydliadau cleient i gipio syniadau cyfnod cynnar ac yna eu profi yn y farchnad. Ar yr un pryd, roedd y myfyrwyr wedi ennill y profiad hanfodol o weithio ar friff busnes amser real, rhywbeth na fyddai, fel arall, yn hawdd iddynt gael mynediad ato.

Wrth i Simply Do Ideas symud i ail gyfnod y peilot, roedd y cwmni wedi troi ei sylw at arloesi a arweinir gan y cyflenwr, dull sy’n annog sefyliadau i gydweithio gyda’r arbenigedd sydd ar gael yn eu rhwydweithiau cyflenwi i ddod â chynhyrchion a gwasanaethau newydd, a’r rhai sydd eisoes yn bodoli, i’r farchnad yn gyflymach. Yng Nghymru mae’r rhwydwaith gyflenwi yn cynnwys, yn bennaf, BBaCh ac roedd y cwmni yn hyderus y byddai modd defnyddio eu harbenigedd i helpu pontio’r bwlch i’r sector cyhoeddus.

Gan ddewis canolbwyntio ar y sector gofal iechyd, roedd y cwmni wedi paru gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n anelu at wneud Cymru y lle o ddewis ar gyfer arloesi ym meysydd iechyd, gofal a llesiant.

Tra’n cydweithio gyda nhw, roedd y galw am Gyfarpar Diogelu Personol wedi cynyddu’n enfawr o ganlyniad i’r pandemig corona feirws, ac roedd y galw ar gynhyrchwyr yn uwch nag erioed. Roedd y broses gaffael drwyadl wedi dodi pwysau ychwanegol ar dîm yr Hwb Gwyddorau Bywyd a oedd yn didoli, â llaw, nifer digynsail o gynigion am gynhyrchion a gwasanaethau oddiwrth y diwydiant er mwyn caffael y cyflenwadau hanfodol.

Hwn oedd y cyfle perffaith i Simply Do ddefnyddio ei gynnyrch, gan ganiatáu iddo gyd-greu llif gwaith wedi’i deilwra a fyddai, drwy broses awtomatiaeth yn cynyddu, yn sylweddol, cyflymdra’r dull o ddod o hyd i, cymhwyso a phrynu cynhyrchion amrywiol o amrywiol ddarparwyr, tra’n cynnal proses gaffael gadarn.

Roedd hyn nid yn unig wedi datrys rhwystr amser anferth i’r Hwb Gwyddorau Bywyd o ran dod o hyd i gynhyrchion priodol, ond wedi arbed amser i’r cyflenwyr posibl a oedd yn gallu cyfathrebu eu cynigion yn gyflymach ac yn haws drwy’r porthol arloesi, a gynlluniwyd at y pwrpas. Yn ychwanegol, roedd cyflenwyr, cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd, na fyddant fel arall wedi ymddangos, wedi dod i’r golwg o ganlyniad i’r broses lyfn hon a ysgogwyd gan her.

Roedd yr allbwn yn drawiadol, ac roedd y GIG wedi caffael gwerth dros £6 miliwn o gynhyrchion Cyfarpar Diogelu Personol oddiwrth gyflenwyr a oedd yn ymwneud â Simply Do, ac roedd hyn wedi cyfrannu tua £34 miliwn o Werth Ychwanegol Gros at economi Cymru. Roedd Cydwasanaethau’r GIG hefyd wedi gwneud cyfraniad net o Gyfarpar Diogelu Personol i’r ymdrech ehangach i gaffael Cyfarpar Diogelu Personol ar draws y DU yn ystod y pandemig.

Mewn cyfanswm, mae’r Gronfa Her wedi galluogi Simply Do Ideas i ymgysylltu â dros 1,600 BBaCh sydd wedi cynhyrchu bron 1,800 o syniadau mewn ymateb i 13 her, a gododd yn allanol, sy’n berthnasol i gyflenwyr a chomisiynwyr yn yr economi sylfaenol. Mae Joseph Murphy, Rheolwr Busnes Hŷn y sefydliad, o’r farn bod hyn yn arddangos bod gan arloesi a ysgogir gan her gyfraniad gwirioneddol i’w wneud, o ran gwella’r ffordd y mae caffael yn cael ei wneud yng Nghymru.

Dyma y mae’n dweud, “Mae yma gyfle i Gymru fod yn arweinydd byd-eang. Gan droi maint i’n mantais ni, gallwn ddefnyddio ein hagosrwydd at ein gilydd, ein hadnoddau a pholisi cyhoeddus i sicrhau ein bod ar flaen y gad pan fyddwn yn ceisio datrys rhai o heriau mwyaf ein cyfnod ni”.

Wedi gorffen ei brosiect Cronfa Her gyda thystiolaeth gref bod y model hwn yn gweithio yn y sector cyhoeddus – yn ogystal â’r sector preifat – mae Simply Do Ideas yn edrych i’r dyfodol, a thuag at gyfnod buddsoddi newydd. Ei nod yw parhau i weithio’n greadigol, rhwng ac ar draws y sectorau, i raeadru ymhellach buddion arolesi a ysgogir gan her.

Cyngor Bro Morgannwg: Newid y fford o gaffael yn y sector cyhoeddus

Gyda chymorth Cronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Bro Morgannwg yn newid ei ddull caffael er lles yr economi sylfaenol.

Caffael yw’r dull a ddefnyddir gan unrhyw fudiad i brynu nwyddau, gwasanaethau neu waith o ffynhonnell allanol. Yn aml, mae’n defnyddio proses o gyflwyno cynigion cystadleuol. Yn syml iawn hwn yw’r siopa y mae mudiad yn gwneud i gyflawni ei nodau ac amcanion.

Y Cyngor yw’r mudiad sy’n gwario’r mwyaf o arian yn y Fro, yn gwario £186 miliwn y flwyddyn. Mae staff y Cyngor o’r farn bod ganddynt gyfrifoldeb i wario’r arian hwnnw i sicrhau gwerth gorau i’r ardal, gan gynnwys sgiliau, iechyd, llesiant, buddion amgylcheddol a chyflogaeth.

Pan gafodd Cronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru ei lansio, roedd y Cyngor wedi gweld cyfle i gryfhau ei arferion caffael er mwyn helpu diwallu’r amcanion hyn, gan gynnwys gwell cefnogaeth i BBaCh (busnesau bach a chanolig) a gydnabyddir eu bod yn ‘anadl einioes yr ardal’.

Dyfarnwyd yr arian am brosiect a anelwyd at dyfu BBaCh lleol, ac i gynyddu’r nifer o’r rheini sy’n darparu contractau ar ran y Cyngor. Roedd Maddy Sims, sy’n arwain gwaith economi sylfaenol y Cyngor, wedi sylweddoli y byddai hyn hefyd yn cynnwys newid y canfyddiadau diwerth hynny sy’n honni bod caffael y Cyngor yn broses caeëdig, yn hytrach nag yn un agored.

Gan gydnabod bod deialog yn gwbl hanfodol, roedd y prosiect wedi canolbwyntio ar wrando ar fusnesau lleol, defnyddio data a cheisio ‘dynoli’r’ broses o gynnig am gontractau’r Cyngor, fel bod mwy o FBaCh yn cael budd.

Yn aml nid oes gan FBaCh incwm cyson ar ddiwedd y mis. Oherwydd hyn, fel mae Maddy yn esbonio, mae’n bwysig dileu rhwystrau i’r broses o wneud cynnig, gan na all fusnesau fforddio cynnig yn barhaus am gontractau nad ydynt yn cael eu gwireddu.

Wrth i’r Cyngor gynnal trafodaethau gyda BBaCh lleol sylweddolwyd bod llawer ohonynt yn wynebu anawsterau rhwystredig – ond anawsterau a oedd yn hawdd i’w datrys – a oedd yn eu hatal rhag ennill contractau’r Cyngor. Roedd llawer ohonynt heb glywed am GwerthwchiGymru (un o fentrau Llywodareath Cymru sy’n helpu BBaCh i weithio’n llwyddiannus gyda’r sector cyhoeddus) tra bod eraill yn dioddef problemau bach a oedd, serch hynny, yn achosi digalondid – megis, er enghraifft, eu bod heb osod eu codau yn gywir.

Mae dull ragweithiol o adeiladu perthynas gyda busnesau lleol a gofyn y cwestiwn ‘ beth allwn ni wneud i’ch helpu chi i weithio gyda ni?’ wedi bod yn ganolog wrth ddatrys y problemau hyn, yn hytrach na chymryd yn ganiatáol y byddai BBaCh yn dod at y Cyngor am wybodaeth neu gyngor.

Mae’r Gronfa wedi galluogi’r Cyngor i ymgysylltu â dros 1,000 o fusnesau ers Mehefin 2020 drwy ddigwyddiadau gyda Busnes Cymru, GwerthwchiGymru ac eraill i helpu pobl ddeall a datrys problemau tendro.

Mae dull newydd y Cyngor o gynnal sgyrsiau hefyd wedi llwyddo i gael gwared ar y ffactor ‘gwastraff amser’ a’r ymdeimlad o gael eu llethu y mae llawer o FBaCh yn wynebu pan yn tendro. Mae Maddy yn esbonio bod y ffactorau hyn nid yn unig yn golygu nad yw rhai BBaCh yn gwneud cynnig, ond hefyd yn rhuthro eu cynigion, gan eu gwneud yn llai tebygol o lwyddo.

Felly, er mwyn helpu annog a thawelu meddyliau BBaCh lleol, mae’r Cyngor yn cynhyrchu ffilmiau astudiaethau achos i arddangos rhai o’r busnesau lleol y mae wedi cydweithio â nhw, gan gynnwys un a oedd, wedi iddo ennill hyder yn y broses dendro drwy ddarparu peiriannau gwerthu i’r Cyngor, wedi mynd yn ei flaen i ennill contract gwerth miliynau o bunnoedd gyda’r GIG.

Mae animeiddiad, sy’n gwneud y broses gaffael ymddangos yn haws ac yn fwy cyffrous, wedi’i gomisiynu ac mae’r Cyngor hefyd wedi cynyddu’r nifer o ymgyrchoedd postio sy’n cael eu hanfon at fusnesau, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r contractau sydd ar gael.

O ganlyniad i’r ymdrechion hyn mae 100 o fusnesau lleol newydd wedi cofrestru gyda GwerthwchiGymru, ac mae’r Cyngor wedi cymryd camau eraill i wneud ei gontractau yn fwy hygyrch i FBaCh, megis rhannu contractau mawr yn ddarnau llai, sef y math o gontract y mae BBaCh yn fwy cymwys i dendro amdanynt.

Roedd sgyrsiau gyda busnesau lleol nid yn unig wedi adnabod rhwystrau i dendro ac ennill contractau, ond hefyd wedi galluogi’r Cyngor ddeall yn well y gadwyn gyflewni leol a’r bylchau yn y farchnad. Mae’r dealltwriaeth hon yn hanfodol os ydy’r Cyngor am gefnogi’r ardal leol gyda’i gwaith caffael; er enghraifft, o bosib, trwy gyfrwng polisi cadwyn gyflenwi neu gaffael rhagweithiol, er mwyn helpu ysgogi gweithgaredd yn y mannau hynny lle mae’r gadwyn gyflenwi’n wag.

Mae’r prosiect hefyd wedi helpu catalyddu ffyrdd newydd eraill o weithredu. Nid yw gwasanaeth caffael y Cyngor wedi’i ganoli, ac mae caffael wedi’i ddatganoli i’r gwahanol gyfarwyddiaethau. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw adrodd yn ȏl canolog ynghylch faint o’r arian sy’n cael ei wario yn lleol, ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd mesur effaith llawn caffael y Cyngor ar FBaCh neu’r economi sylfaenol lleol yn gyffredinol. Yn yr achos hwn, diffyg data yw’r her. Mae prosiect y Gronfa Her wedi amlygu’r bwlch hwn, bwlch y mae’r Cyngor yn cydnabod fel cam cyntaf cadarnhaol yn y broses o’i oresgyn a’i unioni.

Pwynt pwysig yr hoffai Maddy gyfleu i eraill sy’n gwneud gwaith tebyg yw, yn syml, “camwch i’w ‘sgidiau nhw (BBaCh) ac ystyriwch eu profiadau”. Mae hi’n esbonio, “mae’n golygu llawer o wrando, trafod ac yna darganfod os allwch newid eich prosesau er lles ein gilydd. Dylai unrhyw un sydd am gynnal y math yma o brosiect drafod gyda chymaint o bobl â phosib”.

Caffael yw prif wariant y Cyngor, ac mae Maddy o’r farn bod y Gronfa Her wir wedi amlygu grym posibl y gwariant hwnnw i roi budd i’r economi sylfaenol. Mae wedi cynnig cipolwg newydd i’r Cyngor ynghylch ble i fynd nesaf, gan ail-strwythuro ei wasanaeth caffael, ei safoni a mesur faint o’r arian sy’n cael ei wario yn lleol mewn ffordd fwy manwl.

Yn y pen draw, mae’r Cyngor am gefnogi BBaCh i gyflawni sgiliau, swyddi – ac, yn aml, buddion eraill sy’n gysylltiedig ag economi gref. Mae hefyd am roi mwy o hyder ac ymwybyddiaeth i’r comisiynwyr i wario gan gadw’r ardal leol, a gwerth am arian, mewn golwg.

Cafodd yr astudiaeth achos hon ei chrynhoi gan Cynnal Cymru – Sustain Wales er mwyncefnogi cymuned ymarfer o brosiectau’r Gronfa Her sy’n rhannu dysgu a chydweithio.

Community Care Collaborative: Trawsnewid Gofal Sylfaenol yn Wrecsam

Mae’r Community Care Collaborative (CCC) yn Gwmni Buddiannau Cymunedol ac yn darparu gofal iechyd arloesol ac integredig yng Nghymru.

Wedi’i sefydlu gan y Dr. Karen Sankey yn 2018, ac ar ȏl sylweddoli bod y model gyfredol yn ddiffygiol ar sawl lefel, roedd CCC wedi datblygu gweledigaeth glir iawn parthed â gofal sylfaenol.

Drwy ymchwil a phrofi, darganfuwyd bod cleifion, yn aml, yn mynd at y meddyg gyda phroblem sydd wedi codi oherwydd problem gymdeithasol neu iechyd meddwl, problemau nad yw Meddygon Teulu yn gymwys i ddelio â nhw yn y ffordd orau.

Yn ychwanegol at hyn, credir bod y nifer o gleifion y disgwylir i Feddyg Teulu weld mewn diwrnod, yn ychwanegol at eu dyletswyddau eraill megis dosbarthu meddyginiaethau, yn gwneud darparu gwasanaeth digonol i bob unigolyn yn amhosib.

Fel y mae datganiad cenhadaeth y sefydliad yn dweud, yr ateb i’r broblem yw dull sy’n darparu “model iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant amgen ble y mae Meddygon Teulu (meddygon) yn gallu canolbwyntio ar roi gofal meddygol, a ble, drwy gydweithio ar lefel gymunedol gydag asiantaethau eraill a’r cleifion eu hunain, mae anghenion cymdeithasol ac emosiynol cleifion yn derbyn blaenoriaeth sy’n gyfartal â’u anghenion meddygol”.

“I mi roedd y Gronfa Her yn ymwneud â gwneud pethau mewn ffordd wahanol, a chymryd y cyfle i roi tro arni, i weld os y byddai’n gweithio neu beidio”.

Cyn derbyn grant y Gronfa Her, roedd CCC eisoes wedi ennill contractau i dreialu’r model hwn mewn tri phractis yn Wrecsam, ac wedi cael caniatâd i gymryd gofal o’i bractis cyntaf ym mis Medi 2019, gyda’r ail a’r trydydd yn dilyn yn Ionawr ac Ebrill 2020.

Serch hynny, mae derbyn grant y Gronfa Her wedi bod yn hanfodol i alluogi CCC ddatblygu ei syniadau ymhellach ac i sefydlu a recriwtio yn llwyddiannus mewn nifer helaeth o wahanol feysydd ym myd iechyd a gofal cymdeithasol dros y 12 mis diwethaf.

Dywedodd Alison Hil, o Capacity Lab, a oedd wedi helpu dod â’r model yn fyw, “I mi roedd y Gronfa Her yn ymwneud â gwneud pethau mewn ffordd wahanol, a chymryd y cyfle i roi tro arni, i weld os y byddai’n gweithio neu beidio”

Yn y lle cyntaf roedd CCC wedi recriwtio tîm llesiant emosiynol parhaol sydd â phresenoldeb yn y tri phractis, a sy’n anelu at fod yn bwynt cyswllt cyntaf i’r cleifion hynny sydd angen cefnogaeth llesiant arnynt yn syth ar ȏl bwcio apwyntiad.

Yn yr achosion hyn, yr hyn sy’n digwydd, yn gyffredinol, yw bod cleifion yn cael eu hatgyfeirio at sefydliadau iechyd meddwl eraill ac yn gallu bownsio yn ȏl, felly un o brif flaenoriaethau’r tîm yw cwtogi ar atgyfeirio pellach drwy gynnig gwasanaethau mewnol, megis grwpiau cymorth, adolygu meddyginiaethau, asesu’r cof a seicotherapi.

Mae’r mudiad wedi gweld bod defnyddio’r model hwn yn unig wedi cwtogi ar atgyfeirio ymlaen o 57% o’i gymharu â’r cyfnod gwerthuso blaenorol (Ebrill – Medi 2019).

Mae hyn yn golygu bod cleifion nid yn unig yn derbyn ymateb mwy addas, a chyflym, ond bod yr arbedion arian i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill yn debygol o fod yn sylweddol. Roedd gwerthusiad effaith cymdeithasol Tîm Llesiant Emosiynol CCC wedi darganfod ei fod, yn ei 12 mis cyntaf hyd at Dachwedd 2020, wedi darparu gwerth cymdeithasol o fwy nag £1 miliwn, sy’n golygu enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad o 6.42:1.

Yn bwysicach fyth i’r rhai hynny sy’n ymwneud â’r cynllun yw’r ffaith bod 33% o’r bobl a gefnogir gan y model (y gofynnwyd iddynt am adborth) wedi dweud y byddant, o bosibl, wedi gwneud i ffwrdd â’u hunain, gan ddangos unwath eto yr effaith gadarnhaol y mae’r model yn ei gael.

Er mwyn cefnogi’r broses atgyfeirio, mae CCC yn cydnabod bod staff y ddesg flaen yn chwarae rȏl hanfodol ym mhroses y claf, gan taw nhw sy’n ymateb yn gyntaf i alwadau, felly roedd wedi buddsoddi mewn hyfforddiant i’w datblygu i fod yn ‘Llyw-wyr Gofal’. Erbyn hyn, mae gan y bobl sy’n gwneud y gwaith yma yr wybodaeth i ymateb i anghenion claf unigol a’u hatgyfeirio at y tîm priodol, yn hytrach nag eu hatgyfeirio yn syth at y Meddyg Teulu.

Oherwydd y galw mawr yn ystod Covid-19, ac ansefydlogrwydd system sydd wedi bod yn ei le am flynyddoedd, mae’r system bwcio yn faes llafur y mae CCC yn dal i weithio arno er mwyn ei wneud mor effeithiol â phosib drwy brofi ac arbrofi parhaus.

Dywedodd Alison, “Roeddwn wedi dechrau gydag eConsult (Lite), ond nid oedd wedi gweithio i ni, felly roeddwn wedi’i newid a’i addasu… mae’n gwella, ond mae hyn yn un o’r pethau nad ydynt wedi ei gael yn iawn hyd yn hyn, ac mae angen i ni weithio’n ddyfal ar y mater”.

Er gwaethaf y rhwystrau a achosir gan y pandemig, mae CCC yn falch iawn o’i gynnydd yn ystod y flwyddyn, er bod meysydd sydd dal angen gwaith arnynt, yn enwedig o ran recriwtio Meddygon Teulu cyflogedig llawn amser.

Er bod CCC wedi llwyddo i gyflogi ambell feddyg rhan-amser, mae Alison yn esbonio taw’r rhwystr enfawr y mae gofal sylfaenol yn ei wynebu yw bod llawer o Feddygon Teulu yn gweithio fel meddyg dros-dro, neu locwm, sefyllfa y mae’n dweud sydd, “o safbwynt cyllidol yn mynd i ddinistrio gofal sylfaenol”.

Wrth iddynt symud tuag at y nod o recriwtio Meddygon Teulu llawn amser ychwanegol yn 2021, mae’r tîm yn hyderus y bydd y model integredig hwn yn profi’n ddeniadol i Feddygon Teulu, gan ei fod yn rhoi iddynt mwy o gyfle i ganolbwyntio ar anghenion meddygol yn unig, ac hefyd i gleifion, gan y byddant yn gallu cael mynediad at ystod llawer ehangach o gefnogaeth yn fewnol.

Wrth i CCC yn edrych at y dyfodol, bydd yn canolbwyntio ei ymdrechion ar recriwtio Meddygon Teulu llawn amser cyflogedig ac adeiladu partneriaethau y tu mewn i Gymuned Ymarfer FECF Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gyda mudiadau eraill sy’n gallu helpu atgynhyrchu’r model hwn ar draws Cymru.

Cymuned Ymarfer yr Economi Sylfaenol

Yn ystod 2020-21, mae Cynnal Cymru wedi cefnogi cymuned ymarfer ar ran y sefydliadau hynny sy’n derbyn cyllid o Gronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru. Ei nod yw rhannu dysgu ac arloesi, adeiladu cysylltiadau ac annog cydweithredu.

Mae’r Gronfa Her wedi’i hanelu at gefnogi prosiectau sydd am arbrofi gyda ffyrdd newydd o fynd i’r afael â’r heriau – rhai ohonynt yn newydd, eraill yn hen iawn – y mae busnesau’r economi sylfaenol, neu’r rhai sy’n dibynnu ar eu gwasanaeth, yn wynebu.

Roedd rhain yn cynnwys:

  • recriwtio, cadw a sgiliau’r gweithlu
  • y strwythurau cyflenwi a chynllun y gwasanaethau
  • ffyrdd o hybu effaith prynu yn lleol
  • a ffyrdd o gynnwys dinasyddion yng nghynllun y gwasanaethau.

Y nod oedd archwilio i ystod o ddatrysiadau a fyddai, o bosib, yn cynhyrchu modelau hyfyw addasadwy yr oedd modd eu tyfu a’u lledaenu, er mwyn cryfhau economïau lleol ac adeiladu cyfoeth cymunedol.

Gan ddechrau yn 2019 gyda 52 prosiect cychwynnol, y disgwyl oedd, o’r cychwyn, na fyddai rhai o’r arbrofion yn llwyddiannus, ac roedd effaith y pandemig wedi gwneud yr amodau yn fwy heriol fyth. Serch hynny, gosodwyd cymuned ymarfer yn ei lle er mwyn helpu dal peth o’r dysgu a’r dealltwriaeth cyfoethog a gynhyrchwyd gan yr holl brosiectau a oedd wedi cymryd rhan Mae’r enghreifftiau yn adran Astudiaethau Achos y wefan hon yn cynnig blas o’r prosiectau a gefnogwyd gan y Gronfa – eu llwyddiannau, eu heriau ac, yn bennaf oll, dysgu beth yw’r ffordd orau o gefnogi’r economi sylfaenol yn eu hardal neu sector.

Scroll to Top