Carbon Literacy

A allwn ni beiriannu ein ffordd i ddyfodol cynaliadwy

Yn ddiweddar, gwahoddwyd ein Rheolwr Hyfforddi, Rhodri Thomas, i gyflwyno sgwrs i Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Sifil. Fe wnaeth droi’r ddarlith, “A allwn ni beiriannu ein ffordd i ddyfodol cynaliadwy?”, a’i defnyddio i archwilio’r tensiynau rhwng beth sydd ei angen ar gymdeithas, beth mae’n meddwl y mae ei angen, cyfyngiadau amgylcheddol bodloni’r anghenion hyn, a sut mae’r diwydiant, gwyddoniaeth a thechnoleg yn ymateb. Tynnodd ar ei daith ddysgu ei hun, o fod yn fyfyriwr graddedig ac ymchwilydd mewn ecoleg systemau, i’w rôl bresennol yn helpu sefydliadau i wneud synnwyr o egwyddorion datblygu cynaliadwy yn eu cyd-destun penodol. Yn dilyn ei sgwrs, cynhaliwyd trafodaeth fyfyriol, lle wnaeth y gweithwyr peirianneg proffesiynol yn y gynulleidfa, atgofio’r ffordd y mae eu diwydiant wedi cymryd mantais ar gysyniadau ecolegol yn y degawdau diwethaf. Mae cwmnïau peirianneg sifil bellach yn amlddisgyblaethol, ac roedd gan nifer o aelodau’r gynulleidfa gefndir mewn gwyddorau bywyd. Er yr oedd pawb yn derbyn fod gan beirianwyr allu enfawr i ddyfeisio atebion cynaliadwy a defnyddio technoleg mewn cytgord â natur, y realiti yw, caiff cynllunio creadigrwydd ei rwystro’n bennaf gan ddeddfwriaeth a gorchmynion economaidd. Roedd pawb yn derbyn bod y diwydiant wedi newid, ac yn parhau i newid, ac, er gwaethaf yr heriau, mae’n cynnig rhai enghreifftiau ardderchog o gynaliadwyedd ymarferol. Nid oes lle i fod yn hunanfodlon fodd bynnag, a gall cwmnïau peirianneg sifil ddysgu oddi wrth gwmnïau corfforaethol mawr eraill, a dylent gymryd mantais ar y cyfleoedd rhwydweithio a gynigir gan y bartneriaeth newydd rhwng Cynnal Cymru a Sefydliad y Peirianwyr Sifil, a ymunodd yn ddiweddar â Cynnal Cymru fel aelod corfforaethol.

Mae Rhodri wedi’i addysgu i lefel Meistr mewn Rheoli Amgylcheddol ac mae wedi gweithio i Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Fforwm ar gyfer y Dyfodol, ymhlith eraill. Mae ganddo Dystysgrif Addysg i Raddedigion mewn Addysg a Hyfforddiant i Oedolion. 

Mae Cynnal Cymru yn cynnig amrywiaeth i becynnau hyfforddi a phroffesiynol wedi’u teilwra, ar gyfer unigolion a sefydliadau. Os hoffech fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod eich anghenion hyfforddi, cysylltwch â Rhodri Thomas, Rheolwr Hyfforddi, ar training@cynnalcymru.com

A allwn ni beiriannu ein ffordd i ddyfodol cynaliadwy Read More »

Carbon Literacy Cartrefi Cymru

Beth yw CLCC?

CLCC – Carbon Literacy Cartrefi Cymru yw consortiwm o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (LCC). Mae aelodau’r consortiwm yn cronni arian ac adnoddau er mwyn cynyddu Carbon Literacy o fewn eu sefydliadau.

Mae Carbon Literacy yn cael ei diffinio fel diwrnod werth o ddysgu o gwmpas achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd, ffyrdd o weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd a grymuso pobl i weithredu fel unigolion ac fel grŵp yn bersonol ac yn broffesiynol.

Mae’r Carbon Literacy Project wedi diffinio’r safon Carbon Literacy ac yn achredu cyrsiau a dysgwyr.

Mae 27 o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ledled Cymru yn rhan o’r Consortiwm – maen nhw’n dangos cymhelliant y sector i gyd-weithio i greu newid. Bydd y rhaglen yn cynyddu’r rhif o hyfforddwyr Carbon Literacy yng Nghymru o 1 i dros 60.

Hanes CLCC

Ym mis Hydref 2019 daeth cynrychiolwyr o 16 Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ledled Cymru at ei gilydd i ddysgu mwy am y Carbon Literacy Project a chlywed cynnig i greu consortiwm Carbon Literacy o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.

Gwnaeth mynychwyr y cyfarfod golygu’r cynnig a aeth yn ôl allan i bob LCC yng Nghymru. Ym mis Ionawr 2020 cynhaliwyd cyfarfod o gwmpas y cynnig a arweiniwyd i’r consortiwm o 27 LCC Cymreig yn cael ei greu. Cafodd y consortiwm ei enwi Carbon Literacy Cartrefi Cymru.

Rhaglen

  • Chwefror 2020 – Cyfnod I; rowndiau o hyfforddiant Carbon Literacy i aelodau darparwyd gan Cynnal Cymru
  • Mawrth 2020 – Cyfnod Clo. Mae hyfforddiant yn parhau o bell gyda chwrs ar-lein newydd a’r rhaglen CLCC i gyd yn symud ar-lein. Mae 65 o aelodau yn dod yn Carbon Literate.
  • Mai 2020 – Cyfnod II; Mae 5 o arbenigwyr hyfforddi yn dod o fewn y consortiwm i weithio gyda Cynnal Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion i ddatblygu 5 o gyrsiau Carbon Literacy i dai cymdeithasol Cymru. Un cwrs i Fwrdd/ Uwch-dîm Arweinyddiaeth, un i staff sydd yn delio â chwsmeriaid, un i staff technegol ac asedau sydd yn cymryd rhan yn ôl-ffitio ac un i staff cynnal a chadw ac isgontractwyr.
  • Hydref 2020 – Cyfnod III; Pob sefydliad sydd yn aelod i gael o leiaf 2 o aelodau staff hyfforddwyd fel hyfforddwyr Carbon Literacy gan Brifysgol Fetropolitan Manceinion. Bydden nhw’n cael eu hyfforddi i ddarparu cyrsiau datblygwyd yng nghyfnod II.
  • Y dyfodol – Cyfnod IIII; Gall aelodau’n defnyddio eu hyfforddwyr i ddarparu hyfforddiant Carbon Literacy yn fewnol i staff i gyd ac i ymgorffori Carbon Literacy mewn i’r broses sefydlu i staff.

Siwrnai Carbon Literacy

Os hoffech wybod mwy neu gysylltu, plîs e-bostiwch luke@cynnalcymru.com sy’n rheoli ysgrifenyddiaeth CLCC.

Carbon Literacy Cartrefi Cymru Read More »

Scroll to Top
Skip to content