Amgylchedd Naturiol

NABOD NATUR – Gweithgareddau ar gyfer pob tymor

Mae’r GWANWYN yn amser da i…

Edrych allan am adar mudol –am syniadau tymhorau ewch i  Adar yn mudo | North Wales Wildlife Trust

Gosod cloch ar goler cath er mwyn rhoi rhybudd i gywion ac anifeiliaid bychan eraill


Mawrth 20 – 31

Bod yn actif yn ystod wythnos Stroliwch a Roliwch Sustrans 2023 

Ebrill 24 – 30

Cymryd rhan yn Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru  (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Mai heb Dorri’r Lawnt

Cefnogi’n peillwyr drwy adael y peiriant torri gwair yn y sied (Plantlife)

Mai 3

Dathlu symffoni natur drwy gymryd rhan yn Diwrnod Rhyngwladol Côr y Bore   (Ymddiriedolaethau Natur)

Mai 1 – 7

Cefnogi ein Draenogod yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Draenogod 

Mawrth – Awst

Edrych ar ôl yr adar sy’n nythu yn eich gardd  (House Beautiful)

Mae’r HAF yn amser braf i…

Sicrhau bod ffynhonell ddŵr ar gael ar gyfer bywyd gwyllt – bath adar, pwll, hyd yn oed hen soser yn yr ardd

Gwneud lle i natur a gwrthdroi colledion byd natur. (Asiantaeth Natur yr Alban)

Bod yn heini ac iach tra’n mwynhau’r heulwen drwy beicio neu cerdded (Sustrans)

Glanhau eich ardal leol trwy eich Hwb Casglu Sbwriel lleol (Cadwch Gymru’n Daclus / Caru Cymru)


Mehefin 19 – 25

Dathlu’r holl bethau bychain sy’n rhedeg y byd yn ystod Wythnos Genedlaethol Pryfed   (Royal Entomological Society)

Gorffennaf 14

Helpu asesu iechyd ein hamgylchedd drwy gymryd rhan yn y Big Butterfly Count (Cadwraeth Ieir Bach yr Haf)

Gorffennaf 22 – 30

Mwynhewch yr awyr agored a chysylltu â natur yn ystod Wythnos Natur Cymru  (Bioamrywiaeth Cymru)

Mae’r HYDREF yn amser da am…

Adael i lysdyfiant farw yn ôl yn naturiol, torri’r gwair yn llai aml a gadael hadau i’r adar i’w bwyta

Casglu dail, brigau, rhisgl, gwair sych a mwswgl i adeiladu gwesty pryfed (Woodland Trust)

Plannu bylbiau  (Gardeners World)

Creu pwll bach   (RSPB)

Cynaeafu hadau blodau gwyllt  yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf (Kew Grow Wild)


Medi 15 – 24

Trefnu neu cymryd rhan ag ymgyrch i lanhau traeth lleol Great British Beach Clean (MSC)

Medi – Hydref

Plannu blodau sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt   (RSPB)

Hydref

Edrychwch am greaduriaid sy’n cysgu’r gaeaf e.e. draenogod, llyffantod ac anifeiliaid eraill cyn tanio coelcerth. (Cymdeithas Gadwraeth Draenogod Prydain)

Tachwedd – Mawrth

Plannu coeden! Dilynwch ganllawiau’r Woodland Trust

Mae’r GAEAF yn amser da i…

Sicrhau eich bod yn rhoi dŵr a bwyd braster-uchel i adar yr ardd  (RSPB)

Gofalu am eich twmpathau compost  – cyn eu troi, gwnewch yn siwr nad oes unrhyw fywyd gwyllt yno yn cysgu’r gaeaf! (Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt)

Tachwedd 25 – Rhagfyr 3

Ymunwch â’r sector cadwraeth a grwpiau gwirfoddol yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed  i blannu miloedd o goed er mwyn dathlu dechrau y tymor plannu coed (The Tree Council/ Cyngor y Coed)

Ionawr – Ebrill

Helpu poblogaeth y llyffantod lleol groesi’r heol drwy wirfoddoli gyda’ch Patrol Llyffantod lleol

Dolenni ychwanegol

Calendr Natur (Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru)

RSPB – Calendr tymhorol gweithredu ar ran natur

Canllaw misol at natur (RSPB)

Ieir Bach yr Haf  (Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru)  

10 Ffordd i Helpu Draenogod  (Gardeners World, BBC)

Gwyddoniaeth Dinasyddion ar gyfer bioamrywaieth | NatureScot

NABOD NATUR – Gweithgareddau ar gyfer pob tymor Read More »

Dathlu mannau gwyrdd anhygoel

Mae 248 parc a man gwyrdd yng Nghymru wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.  Maent yn cynnwys ystod amrywiol o safleoedd, o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd. 

Bellach yn ei thrydydd degawd, mae Gwobr ryngwladol y Faner Werdd yn arwydd bod gan barc neu fan gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw’n rhagorol a bod ganddo gyfleusterau gwych i ymwelwyr. 

Mae gan Gymru dros draean safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU, sydd yn cael eu cynnal a’u cadw a’u rhedeg gan wirfoddolwyr.  Mae amrywiaeth o fannau gwyrdd wedi cyflawni Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf yn cynnwys Ynys Tysilio, Ynys Môn a Golchdy Tŷ Tredegar, Casnewydd.  

Dywedodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru:  

“Mae gan ein mannau gwyrdd lleol yn chwarae rhan hanfodol i gysylltu ni â byd natur. Mae’r gwobrau hyn yn profi bod parciau ac ardaloedd tebyg Cymru yn gwneud gwaith gwych yn darparu lleoedd o safon i ymlacio a mwynhau.  

“Mae’r safon sy’n ofynnol i ennill statws y Faner Werdd yn uchel iawn felly rwyf am longyfarch pob un o’r safleoedd a gydnabyddir am ddarparu cyfleusterau rhagorol trwy gydol y flwyddyn i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.  

“Mae’n wych gweld ein bod ni’n dal i ddal mwy na thraean o safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU yng Nghymru – yn enwedig gan fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi dysgu i ni i gyd pa mor bwysig yw natur a mannau gwyrdd i’n lles meddyliol a chorfforol.” 

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.  Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glanweithdra, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.  

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus

“Dangosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a manau gwyrdd o ansawdd da i’n cymunedau.  Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.” 

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru   

Mae Cadwch Gymru’n Daclus bob amser yn chwilio am fannau newydd i ymuno â Gwobrau’r Faner Werdd.  Os hoffech roi eich parc neu fan gwyrdd chi ar y map, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru am fwy o wybodaeth. 

Dathlu mannau gwyrdd anhygoel Read More »

Rhoi help llaw i natur.  Cannoedd o becynnau gardd newydd am ddim ar gael i gymunedau

Ers 2020, mae bron 800 o erddi eu creu, eu hadfer a’u gwella trwy Leoedd Lleol ar gyfer Natur.  Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint ran – o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.

Mae’r ceisiadau bellach wedi ailagor, ac mae cymunedau yn cael eu hannog i gymryd rhan ac osgoi colli’r cyfle. Mae’r system ymgeisio ar-lein newydd yn ei gwneud hi’n hawdd iawn gwneud cais, yn ogystal â chynnig adnoddau, arweiniad a diweddariadau o’r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Gallwch ddewis o erddi bywyd gwyllt a thyfu bwyd bach neu ar raddfa fwy, neu am y tro cyntaf mae’r cynllun yn cynnig pecyn perllan gymunedol newydd.

Dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James:

“Mae’r pandemig wedi rhoi mwy o werthfawrogiad i ni i gyd o natur a’i phwysigrwydd i’n hiechyd a’n lles meddwl. Rwy’n falch o gefnogi blwyddyn arall o Leoedd Lleol ar gyfer Natur. Mae’r rhaglen yn ei gwneud hi’n hawdd i bobl o bob cefndir a gallu gymryd rhan, fel cymuned, i greu a mwynhau byd natur yn y mannau lle rydyn ni’n byw ac yn treulio’r rhan fwyaf o’n hamser.

“Mae gwerthfawrogi byd natur a chymryd camau bach lleol mor bwysig fel rhan o’r ymdrech ar y cyd sydd ei angen i fynd i’r afael â’r argyfwng natur, a chefnogi’r amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid rydyn ni’n caru eu gweld yng Nghymru.”

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus Louise Tambini:

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pobl wir wedi gwerthfawrogi gwerth byd natur ac rydym yn falch iawn o gynnig pecynnau garddio am ddim eto i gymunedau. Rydyn ni’n gwybod bod garddio a bod allan ym myd natur yn cael effaith gadarnhaol ar les meddwl, ac mae’n ffordd wych o gadw’n heini a chwrdd â phobl newydd. Trwy Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, rydym wedi creu cannoedd o gynefinoedd a mannau newydd ar gyfer natur, sy’n hanfodol yn yr argyfwng hinsawdd bresennol a’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

“Diolch i gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru a’n partneriaid mae ein pecynnau gardd yn cynnwys yr holl ddeunyddiau ac offer sydd eu hangen arnoch i greu gofod newydd ar gyfer natur a bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus wrth law i osod yr ardd.”

Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar eich stepen drws’.

Mae cannoedd o becynnau gardd am ddim ar gael.  I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/nature 

Rhoi help llaw i natur.  Cannoedd o becynnau gardd newydd am ddim ar gael i gymunedau Read More »

Scroll to Top
Skip to content