swyddi

Rydym yn recriwtio – Pennaeth Economi Deg

Mae Economi decach a gwyrddach i Gymru yn golygu Cyflog Byw Gwirioneddol i bawb a chefnogaeth i’r busnesau lleol sy’n ein helpu i fodloni ein hanghenion bob dydd. Rydym ni eisoes wedi helpu 600 a mwy o sefydliadau yng Nghymru i sicrhau bod 170,000 o weithwyr yn cael Cyflog Byw Gwirioneddol, ac rydym ni wedi cefnogi busnesau lleol sy’n arloesi ym maes bwyd, ynni, tai, trafnidiaeth, natur a gwasanaethau iechyd. Ond rydym ni eisiau gwneud mwy – allwch chi ein helpu ni fel Pennaeth newydd yr Economi Deg?

Bydd angen i chi fod yn frwd dros greu economi sy’n gweithio i bawb, a meddu ar y sgiliau a’r profiad i arwain ac adeiladu rhaglenni a thimau, gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ein meysydd gwaith, a bod yn rhagweithiol wrth fynd ati i ganfod cyfleoedd cyllido ac effaith newydd.

Byddwch yn arwain tîm yr Economi Deg wrth iddynt gyflawni targedau effaith ein cynllun busnes blynyddol. Bydd hyn yn golygu:

  • Arwain Tîm yr Economi Deg (30%)
  • Cefnogi’r Rhaglen Cyflog Byw Gwirioneddol (30%)
  • Cefnogi Rhaglen yr Economi Sylfaenol (40%)

Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu unigolion a sefydliadau i elwa o’n harbenigedd — ar yr un pryd â chynyddu ein cyrhaeddiad, ein hincwm a’n heffaith fel elusen flaengar. Mae hyn yn cynnwys helpu unigolion allan o dlodi mewn gwaith, a chefnogi’r busnesau lleol sy’n bodloni ein hanghenion bob dydd.

Rydym ni’n elusen fywiog a blaengar ac rydym ni mewn cyfnod pwysig yn ein datblygiad ar hyn o bryd. Os yw ein cenhadaeth yn taro tant a’ch bod chi’n rhannu’r un nodau â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Teitl y Swydd:Pennaeth Economi Deg
Diweddarwyd ddiwethaf10.3.26
Cyflog:Band 3. £41,200-£46,350 (2026/27)
Hyd:Parhaol
Oriau:30-37.5 awr yr wythnos, gweithio hyblyg
Lleoliad:Hybrid – Swyddfa Caerdydd / gartref a safleoedd cleientiaid. Mae disgwyl i o leiaf 25% o’r wythnos (1 -2 diwrnod) fod yn ddiwrnodau craidd yn y swyddfa. Trefniant i’w gytuno gyda’r rheolwr llinell.

Three people holding a Living Wage sign

Gair am Cynnal Cymru

Yr ydym yn elusen datblygu cynaliadwy flaenllaw a leolir yng Nghaerdydd, yn gweithio ar draws Cymru a’r DU. Ers 2002 yr ydym wedi bod yn cefnogi sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i droi eu hamcanion cynaliadwyedd yn weithredoedd.

Drwy ddarparu cyngor, hyfforddiant ac hyrwyddo cysylltiadau, mae ein tîm o arbenigwyr cynaliadwyedd yn gweithio i gyflymu’r cynnydd tuag at economi carbon isel, amgylchedd naturiol ffynnianus a chymdeithas deg.

Ni yw partner swyddogol y Carbon Literacy Project yng Nghymru, sylfaenydd hyfforddiant llythrennedd eco Nabod Natur a phartner achrededig y Cyflog Byw go iawn yng Nghymru.


Gwneud Cais

Llenwch eich Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth erbyn hanner nos, nos Sul 26 Ebrill 2026.

We will aim to let applicants know if they have selected for interview by 5pm on Wednesday 29th April.

Os ydych chi, ar ôl darllen y pecyn hwn i ymgeiswyr, yn teimlo eich bod yn bodloni 70-80% o’r meini prawf hanfodol ym manyleb y person, byddem yn eich annog i wneud cais. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau am y swydd, anfonwch e-bost at jobs@cynnalcymru.com i drefnu amser i’w trafod.

Sylwch nad ydym yn derbyn CVs.

Cyfweliadau

Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal ddydd Mercher 6 Mai a dydd Iau 7 Mai yng Nghaerdydd er mwyn rhoi cyfle i ymgeiswyr ymweld â’n swyddfa.

Rydym yn recriwtio – Pennaeth Economi Deg Read More »

Mae Cynnal Cymru yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd

Ni yw’r prif sefydliad ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru, gan gefnogi newid ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Ein bwriad yw sbarduno cynnydd tuag at economi carbon isel, cymdeithas deg a chyfiawn ac amgylchedd naturiol ffyniannus.

Fel elusen nid-er-elw, mae gennym dîm bach, creadigol ac ymroddedig sy’n ehangu, a bwrdd cefnogol o ymddiriedolwyr gwirfoddol.

Wrth i nifer o’n hymddiriedolwyr ddod i ddiwedd eu cyfnod yn y swydd, rydyn ni’n chwilio am ymddiriedolwyr newydd.

Am beth rydyn ni’n chwilio gan ymddiriedolwyr newydd?

Rydyn ni’n chwilio am gymysgedd o ymddiriedolwyr profiadol a newydd o bob math o gefndir, yng Nghymru a thu hwnt. Fel ymddiriedolwr, byddwch yn cefnogi’r tîm drwy ddarparu arweiniad, her ac arweinyddiaeth yn ein cyfarfodydd bwrdd chwarterol yn ogystal â chael eich annog i arwain ar agendâu penodol.

Er mwyn ymestyn ein sgiliau a’n harbenigedd, yn ddelfrydol rydyn ni’n chwilio am gefnogaeth yn unrhyw un o’r meysydd canlynol:

  • Arbenigedd ariannol
  • Adnoddau dynol a rheoli pobl, diwylliant, gwerthoedd
  • Arbenigedd cyfreithiol
  • Marchnata, defnyddio Deallusrwydd Artiffisial neu adnoddau eraill
  • Y Gymraeg a’i Diwylliant
  • Cynhyrchu incwm o weithgareddau masnachol neu sefydliadau ac ymddiriedolaethau
  • Rhwydweithiau daearyddol neu sector – gwella ein cysylltiadau yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, y sector cymorth i fusnesau a’r sector iechyd

Os oes gennych brofiad o fod yn ymddiriedolwr neu os ydych chi’n awyddus i ymgymryd â’ch rôl gyntaf fel ymddiriedolwr a’ch bod eisiau cyfrannu at ein tîm, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Os ydych chi’n meddwl y gallech chi ymuno â ni i hyrwyddo dyfodol mwy cynaliadwy yng Nghymru, ewch i Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr.

Os ydych chi’n cael trafferth cael gafael ar y Pecyn Recriwtio, cysylltwch â Simon@cynnalcymru.com a byddwn yn darparu’r dogfennau perthnasol yn uniongyrchol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, nos Lun 15 Medi 2025

Mae Cynnal Cymru yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd Read More »

Rydym yn Recriwtio – Cynghorwr Cynaliadwyedd

Ydych chi’n frwd dros gynaliadwyedd a chreu effaith go iawn? Ymunwch â’n tîm fel Cynghorydd Cynaliadwyedd a helpu i sbarduno newid drwy gyngor arbenigol a hyfforddiant diddorol.

Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi ein Pennaeth Hyfforddiant a Chyngor i ddatblygu ac i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau hyfforddiant a chyngor cynaliadwyedd yr elusen. Bydd hyn yn golygu:

  • Rheoli cleientiaid a darparu a gwerthuso gwasanaethau hyfforddi a chynghori cynaliadwyedd (40%)
  • Darparu a datblygu gwasanaethau hyfforddi a chynghori mewn cyd-destun dwyieithog (50%)
  • Datblygu busnes a chynnyrch (10%)

Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu unigolion a sefydliadau i elwa o’n harbenigedd—ar yr un pryd â chynyddu ein cyrhaeddiad, ein hincwm a’n heffaith fel elusen flaengar.

Rydym yn elusen fywiog a blaengar ac rydym mewn cyfnod pwysig yn ein datblygiad ar hyn o bryd. Os yw ein cenhadaeth yn taro tant a’ch bod chi’n rhannu’r un nodau â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Teitl y Swydd:Cynghorwr Cynaliadwyedd
Diweddarwyd Ddiwethaf21.07.25
Cyflog:Band 3 – £30,001-35,000 pro rata. (Rydym yn gobeithio penodi ar £31,000)
Hyd:12 mis i ddechrau, gyda chyfnod prawf o 3 mis, a’r posibilrwydd o’i gwneud yn barhaol.
Oriau:30 awr yr wythnos (4 diwrnod) / gweithio’n hyblyg
Lleoliad:Hybrid – Swyddfa Caerdydd / gartref a safleoedd cleientiaid. Disgwylir y bydd o leiaf 25% o’r wythnos (1 diwrnod) yn digwydd yn y swyddfa yn ystod diwrnodau craidd.

Gair am Cynnal Cymru

Yr ydym yn elusen datblygu cynaliadwy flaenllaw a leolir yng Nghaerdydd, yn gweithio ar draws Cymru a’r DU. Ers 2002 yr ydym wedi bod yn cefnogi sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i droi eu hamcanion cynaliadwyedd yn weithredoedd.

Drwy ddarparu cyngor, hyfforddiant ac hyrwyddo cysylltiadau, mae ein tîm o arbenigwyr cynaliadwyedd yn gweithio i gyflymu’r cynnydd tuag at economi carbon isel, amgylchedd naturiol ffynnianus a chymdeithas deg.

Ni yw partner swyddogol y Carbon Literacy Project yng Nghymru, sylfaenydd hyfforddiant llythrennedd eco Nabod Natur a phartner achrededig y Cyflog Byw go iawn yng Nghymru.


Gwneud Cais

Cwblhewch eich Ffurflen Gais a’r ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth wirfoddol erbyn 09:00am ddydd Llun 22 Medi 2025.

Sylwch nad ydym yn derbyn CVs.

Cyfweliadau

Cynhelir y cyfweliadau ddydd Llun 6 Hydref yng Nghaerdydd er mwyn caniatáu i ymgeiswyr ymweld â’n swyddfa.

Rydym yn Recriwtio – Cynghorwr Cynaliadwyedd Read More »

Scroll to Top